Gair hyblyg iawn yw GLAS: gall
olygu glas, gwyrdd, llwyd; cynnar (bore glas), ifanc (glaslanc), llwyr
(gorau glas), lled (glaswenu) a mwy!
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Saturday, 6 July 2013
Pwt bach am y Gymraeg (2): Glas
EinCymraeg
Pwt bach am y Gymraeg (1): Diwylliant
Ystyr "diwyllio" yw gwneud rhywbeth yn ddof neu'n hydrin (< di- +
gwyllt): dyna'r effaith y mae diywlliant yn ei chael arnom ni... i fod! (Ein Cymraeg ar Twitter).
Wednesday, 3 July 2013
Cymraeg Clir: goddefol neu weithredol?
- Cymraeg Clir
@Cymraeg_ClirMae Cymraeg Clir yn argymell ysgrifennu brawddegau gweithredol yn lle rhai goddefol. Pam hynny? -
Beth yw brawddeg weithredol?
Ateb: un lle mae goddrych y frawddeg yn gwneud y weithred. -
Goddefol: Ysgrifennwyd llythyr at y cyngor gan Mrs Jones Gweithredol: Ysgrifennodd Mrs Jones lythyr at y cyngor.
Gân nhw neu gewn nhw?
Iola Wyn
@IolaWen 30 Jun@VaughanRoderick Os yw'n helpu 'gân nhw' yw Bow Street. Mwy na thebyg yn newid rhywle rhwng Aberystwyth ac Aberaeron i 'gewn nhw '
Monday, 17 June 2013
Georgia Ruth - Cantores a Thelynores
Yn y Gadair:
Georgia Ruth yn canu "Adar Man y Mynydd" yn fyw (cliciwch yma).
Georgia Ruth yn canu "Adar Man y Mynydd" yn fyw (cliciwch yma).
Yr eos a'r glân hedydd [y glan hedydd - the spotless lark]
Ac adar mân y mynydd,
A ei di'n gennad at liw'r haf [will you go as a messenger to the colour of summer]
Sy'n glaf o glefyd newydd?
Does gennyf ddim anrhegion
Na jewels drud i'w danfon
I ddwyn i gof yr hwn a'ch câr, [to remind you of him who loves you]
Ond pâr o fenig gwynion.
Yr adar mân fe aethant
I'w siwrnai bell hedasant [hedasant - o hedfan]
Ac yno ar gyfer gwely Gwen
Hwy ar y pren ganasant. [they sang on a tree]
Dywedai Gwen lliw'r ewyn [lliw'r ewyn - the colour of foam, i.e. very pale]
Och fi, pa beth yw'r deryn
Sydd yma'n tiwnio nawr mor braf
A minnau'n glaf ar derfyn?
Cenhadon ym gwnewch goelio [believe us, we are messengers]
Oddi wrth y mwyn a'ch caro,
Gael iddo wybod ffordd yr ych
Ai mendio'n wych a'i peidio.
Dywedwch wrtho'n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedel, [hoedel - life]
Cyn diwedd hyn o haf yn brudd [prudd - doleful, sad]
A'n gymysg bridd a grafel.
Llwyau Caru
Dyma ffilm o gyfres sy'n cyd-fynd a'r prosiect 'Tir Sir Gar':
Sgript
Sgript
Dewisodd yr
artist Marc Rees ddeuddeg gwrthrych o Amgueddfa Sirol Caerfyrddin i gynrychioli
deuddeg thema prosiect theatrig Tir Sir Gar.
Dyma hanes
un o’r gwrthrychau hyn.
Daw’r llwy
yn wreiddiol o fferm Bremenda Uchaf ger Llanarthne. Mae’n debyg mae dyn o’r enw
William Thomos a’i cherfiodd yn 1830. Ynghyd a phatrymau pert yn aml iawn fe
welir symbolau penodol ar lwyau caru traddodiadol. Ymysg rhain mae’r gadwyn sydd yn
cynrychioli’r awydd i fod ynghyd am byth. Y diamont sydd yn cynrychioli cyfoeth
a’r allwedd neu dwll y clo - y ddau ohonynt yn cyfleu’r neges “mae fy nghartref i
yn gartref i tithau hefyd”.
Weithiau
ceir symbol aderyn sydd yn medru cynrychioli nifer o bethau. Adar serch: neges
o ‘gad inni ymadael gyda’n gilydd’, neu’r storc sydd yn symboleiddio
genedigaeth newydd.
Un o’r
symbolau mwyaf amlwg ar lwyau caru yw, wrth gwrs, y galon, yn denodi cariad.
Lle’r gwelir un galon neu rai, ar y llwy hon fel welwn ni bedair galon ar siap
olwyn. Mae’r olwyn hefyd yn symbol, a hynny am gynnal rhywun yr ydych yn eu
caru. Uwchben ac oddi tan yr olwyn fel welwn siapau atalnod. Mae’r rhain yn
cynrychioli’r enaid ac yn cyfleu neges o hoffter neu serch ddwfn at dderbyniwr
y rhodd.
Gallwn
olrhain y grefft o wneud llwyau caru, un o’r traddodiadau enwocaf Cymru, yn ol i’r
ail ganrif ar bymtheg.
Mae’r llwy
garu gynharaf sydd gennym wedi’i dyddio yn ol i 1667. Er fod hanes wir yn tybio
bod llywau yn cael eu creu cyn hyn hefyd. Roedd y grefft yn un dda am ddangos
dychymyg y crefftwr, ac fe fyddai’n defnyddio darnau o goed lleol i greu ei
roddion.
Erbyn hyn
mae llwyau caru neu lwyau serch yn cael eu creu mewn modd mwy masnachol ar
gyfer y farchnad dwristiaid, a hynny o goed estron.
Rhoddwyd y
llwy hon i’r amgueddfa yn 1939, ac mae hi’n un o set o lwyau o’r ardal
Caerfyrddin gyda gwahaniaethau main iawn ymhob un.
Tuesday, 4 June 2013
Tafodiaith y Wês Wês mewn cyfrol newydd
Mae Gwasg y Lolfa newydd gyhoeddi geiriadur ysgafn o
eiriau tafodieithol Sir Benfro.
Gyda'r geiriau wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor ceir enghreifftiau o bob gair mewn brawddeg a hynny yn iaith Sir Benfro a'r iaith Gymraeg safonol, yn ogystal â'r cyfieithiad Saesneg. Felly mae'r gyfrol o gystal ddefnydd i frodor o'r sir ag ydyw i unrhyw Gymro a dysgwr o bob cwr o Gymru.
“Wrth lunio'r casgliad hwn roedd dau nod gen i mewn golwg, sef cyflwyno'r iaith leol i bwy bynnag sydd â diddordeb mewn tafodieithoedd,” eglura'r awdur Wyn Owens. “Ac yn ail, ceisio agor peth o'r drws i'r dysgwyr, fel y caent hwythau flas ar geisio siarad iaith naturiol, bob dydd y rhan hon o'r wlad.
“Mae llawer o gyfoeth geirfaol wedi mynd i ddifancoll mae'n sicr, ond mae'r casgliad hwn yn rhoi ar gof a chadw'r dafodiaith fel y'i clywais ac y'i clywaf hi yn cael ei siarad.”
Mae'r gyfrol yn cynnwys cyflwyniad gan Lyn Lewis Dafis ac ambell lun cartwn gan Huw Aaron. Meddai Lyn Lewis Dafis, “Nid yn unig y mae Wyn wedi dal rhai o rythmau'r iaith yn wych, ond y mae hefyd wedi rhoi blas inni o'r gymdeithas a'r filltir sgwâr a wnaeth gynnal yr iaith ar hyd y blynyddoedd.
“Nid casgliad yn edrych yn ôl yn unig yw hwn. Mae Wyn yn ddigon realistig i weld fod yr iaith yn newid ac yn addasu, ac nid yw'n ymatal rhag cofnodi rhai o'r newidiadau diweddaraf hyn hefyd.”
Mae Wyn Owens yn artist ac yn fardd cyhoeddedig, sy'n cystadlu'n rheolaidd ar Dalwrn y Beirdd
Gellir prynu’r llyfr yma ac yn
eich siop lyfrau leol am £9.95.
Subscribe to:
Posts (Atom)