Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 29 March 2016

Treth ychwanegol i ail dai a thai gwag yn Sir Benfro


Yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Benfro i osod treth cyngor o 50% ar dai gwag ac ail gartrefu, i sefydlu gweithgor i adolygu effaith y penderfyniad a bod yr arian ychwanegol yn mynd at gronfa dai fforddiadwy a gwasanaethau lleol dywedodd Tamsin Davies, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy  o Gymdeithas yr Iaith:

“Ymgyrch gan Gymdeithas yr Iaith oedd un o'r dylanwadau a olygodd bod y Llywodraeth yn galluogi awdurdodau lleol i osod treth o 100% ar ail dai yn y lle cyntaf, felly yn naturiol rydyn ni am weld codi'r dreth i 100%, a bod yr arian hwnnw yn cael ei glustnodi ar gyfer tai fforddiadwy. Mae sawl awdurdod lleol wrthi'n trafod codi’r dreth ar hyn o bryd ac rydyn ni’n croesawu hyn.
Mae'n beth da felly i'r cyngor drafod cynnig i osod treth o 100% er na chafodd ei dderbyn.
“Mae'n addawol fod y cyngor yn mynd i adolygu effaith y penderfyniad yma. Gan fod 73% o drigolion y sir a wnaeth ymateb i ymgynghoriad yn cefnogi cynydd yn y dreth ar ail dai a thai gwag mae'n bwysig fod adolygu, a chynyddu'r dreth mewn amser.
 
“Mae Sir Benfro ymysg y siroedd gyda'r niferoedd uchaf o ail dai erbyn hyn ac mae pris uchel tai yn un o'r ffactorau sy'n golygu bod pobl ifanc yn gadael yr ardal, felly byddai treth ar ail dai a thai gwag yn gallu bod yn newid cadarnhaol.”

Wednesday 16 March 2016

Pleidlais ar wahardd e-sigarets mewn mannau cyhoeddus

Diolch i Golwg360 am y stori hon.

Fe allai e-sigarets gael eu gwahardd o fannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru lle mae plant yn bresennol pe bai Aelodau Cynulliad yn pleidleisio o blaid Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
Dyma’r Bil cyntaf o’i fath yn y DU, a phe byddai’n cael ei gymeradwyo yn y Senedd heddiw byddai’n cyfyngu ar ddyfeisiau mewnanadlu nicotin, fel e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus penodol.
Byddai hefyd yn galw ar ymarferwyr i fod â thrwyddedau ar gyfer tyllu’r corff a thatŵio, gan wneud fferyllfeydd yn fwy atebol i anghenion lleol, a gwella darpariaeth cynllunio toiledau cyhoeddus yn yr awdurdodau lleol.

“Bydd y Bil yn ein helpu i ymateb i nifer o fygythiadau i iechyd y cyhoedd yng Nghymru, gan gynnwys y risg o wneud ysmygu’n beth normal eto i genhedlaeth o blant a phobl ifanc sydd wedi tyfu lan mewn amgylcheddau sydd, i raddau helaeth, yn ddi-fwg,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford.

Dyma fydd y tro olaf i’r Aelodau Cynulliad gwrdd tan ar ôl yr etholiadau ym mis Mai.

‘Gwahaniaeth mawr’

Mae’r Mesur wedi ennyn ymateb chwyrn, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y gallai’r gwaharddiad wneud “mwy o niwed nag o les” a bod arbenigwyr ac elusennau fel Cancer Research yn anghytuno â’r gwaharddiad.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn llai beirniadol ond dywedodd y dylai unrhyw ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno’n “ofalus iawn.”

Er hyn, esboniodd Mark Drakeford, “nid yw’r Bil yn atal pobl rhag defnyddio e-sigaréts i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu os ydynt yn meddwl y byddan nhw’n eu helpu.”

“Mae’n gyfrifoldeb ar y llywodraeth i greu’r amodau a fydd yn galluogi pobl i fyw bywyd iach. Bydd y camau gweithredu yn y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd pobl heb ymyrryd yn ddiangen â hawliau unigolion i ddewis sut maent yn byw eu bywydau.”

 Mannau gwaharddedig

Mae’r mannau cyhoeddus caeedig a fydd yn wynebu’r gwaharddiad yn cynnwys:
  • Ysgolion a cholegau addysg bellach
  • Mannau lle mae bwyd yn cael ei weini
  • Safleoedd sy’n darparu gofal plant
  • Trafnidiaeth gyhoeddus
  • Siopau
  •  Ysbytai a’u meysydd parcio
  • Safleoedd gofal iechyd a meddygfeydd
  • Theatrau, sinemâu, amgueddfeydd a pharciau difyrion
  • Llyfrgelloedd cyhoeddus a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Canolfannau chwaraeon
 Mannau i’w heithrio

Mae’r mannau fyddai’n cael eu heithrio o’r cyfyngiadau yn cynnwys:
  • Gwerthwyr dyfeisiau mewnanadlu nicotin arbenigol
  • Cartrefi (oni bai eu bod yn cael eu defnyddio am ofal plant)
  • Tafarndai lle mae eu trwyddedau yn gwahardd plant rhag cael mynediad ar eu pen eu hunain.
  • Sefydliadau rhyw
  • Safleoedd gamblo
  • Ystafelloedd ymgynghori fferyllol
  • Cartrefi ac ysbytai gofal oedolion

Tuesday 15 March 2016

Donald Trump - ffasgydd?

 Diolch i Dylan Llŷr am y darn hwn o'i flog 'Anffyddiaeth'

Wrth drafod Donald Trump yn ddiweddar, rhestrais rai o'r nodweddion sy'n gyffredin rhyngddo a ffasgwyr hanesyddol, ond fe ymataliais rhag ei alw'n ffasgydd o'r iawn ryw, yn rhannol gan fod y cyhuddiad hwnnw'n gallu bod yn un diog. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r label yn addas. Mae Trump yn ffasgydd o ddifrif.

Y trais cynyddol yn ei ralïau sy'n ei gario dros y trothwy. Mae awyrgylch lled-fygythiol wedi bod yno ers y cychwyn, ac mae taflu protestwyr allan wedi bod yn ran o'r sioe. Ond mae wedi gwaethygu'n arw dros yr wythnosau diwethaf, ac mae bellach yn amlwg bod Trump yn defnyddio trais fel arf wleidyddol. Nid rhywbeth sy'n digwydd ar y cyrion ydyw, bellach, ond elfen ganolog o'r ymgyrch ei hun. Erbyn hyn, mae Trump, o'r podiwm, yn rhoi sêl clir ei fendith i'w gefnogwyr ymosod ar brotestwyr. Nid oes amwysedd, mwyach.

Gohirwyd ei rali yng nghanol Chicago nos Wener. Dywedodd ei ymgyrch eu bod wedi dod i'r penderfyniad hwnnw ar ôl derbyn cyngor gan yr heddlu bod perygl o drais oherwydd protestiadau. Mae'r heddlu, serch hynny, yn gwadu hynny'n llwyr. Penderfyniad ymgyrch Trump yn unig oedd gohirio. Rwy'n cytuno'n llwyr â Rachel Maddow, sy'n dweud mai dyma'n union oedd bwriad Trump o'r dechrau. Roedd cynnal rali yng nghanol Chicago, ardal â llawer iawn o bobl o leiafrifoedd ethnig, yn fwriadol bryfoclyd, a gobaith Trump oedd denu protestwyr (mae'n debyg ei bod wedi bod yn llawer haws cael mynediad i'r digwyddiad hwn o'i gymharu â'i ralïau eraill). Roedd Trump yn gobeithio gweld pobl yn ymladd, a dyna a fu (ac nid mater o 'fai ar y ddwy ochr' mo hynny chwaith; cefnogwyr Trump sydd bennaf ar fai).

Pam y bwriad yma? Un o hoff dechnegau ffasgwyr yw annog trais, ac wedyn honni bod angen person cryf (dyfalwch pwy?) er mwyn adfer cyfraith a threfn, ac i gael gwared ar yr union drais y maent hwy eu hunain yn gyfrifol am ei gorddi. Mae hefyd yn ei alluogi i bortreadu'i hun fel dioddefwr, yn groes i'r dystiolaeth, ac i honni bod protestwyr yn ei sensro a'n ymosod ar ei gefnogwyr. Mae'n hen dric. Mae'n bosibl bod Trump yn ddyn rhy dwp i ddeall ei fod yn efelychu ffasgwyr - mae'n sicr yn rhy dwp i ddeall a thrafod polisi - ond dyna'r union draddodiad y mae'n ei ddilyn, ac mae'n ddigon craff i wneud hynny'n llwyddiannus. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw'r tebygrwydd. Mae hefyd yn mynd yn anos ac anos ei ddychmygu'n troi tua'r canol cymhedrol ar ôl cipio'r enwebiad (y pivot bondigrybwyll). Y ffaith ryfeddol yw bod ffasgydd erbyn hyn yn debygol o gynrychioli un o ddwy brif bleidiau America mewn etholiad arlywyddol. Mae'r jôc drosodd ers talwm.

Y consensws yw y byddai'n sicr o golli ym mis Tachwedd. Dyna, yn wir, sy'n debygol; mewn amgylchiadau cyffredin, ni fyddai ganddo obaith. Ond mae'n hawdd dychmygu amgylchiadau anghyffredin. Beth os yw'r economi'n ffrwydro eto? Neu (yn fwy tebygol yn fy marn i) beth os oes ymosodiad terfysgol yn fuan cyn yr etholiad? Petawn i'n strategydd ar ran y Wladwriaeth Islamaidd, buaswn i'n gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod Trump yn dod yn arlywydd, gan eu bod bron â marw (yn llythrennol) eisiau brwydr fawr apocalyptaidd rhwng y 'gorllewin' a'r byd mwslemaidd. Awn mor bell â mentro y byddai'n syndod pe na bai terfysgwyr mwslemaidd yn ceisio ymosod ar America yn wythnosau olaf mis Hydref. Ni fyddai raid iddynt fod yn llwyddiannus, hyd yn oed; gall y bygythiad fod yn ddigon i ddychryn digon o Americanwyr i gorlan Trump. Rwy'n credu bod Arlywydd Trump yn annhebygol ar y cyfan, ond rwy'n cael trafferth diystyru'r senario yma. Mae'r posibilrwydd yn hollol frawychus.