Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 29 January 2013

Papur Bro Newydd i Aberteifi?

Cyfarfod Agored, nos Iau, 31ain o Ionawr am 7.30y.h. yn Neuadd y Dref, Aberteifi

Neges bwysig gan Carol Evans

Pwnc/Subject: Cyfarfod Agored anffurfuiol i drafod Papur Bro i Aberteifi
Annwyl gyfeillion,
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd a gobeithio cawsoch amser da dros y ‘Dolig a’r flwyddyn newydd!
Fel y mae’r rhan fwyaf ohonoch yn ymwybodol, mae yna drafodaethau wedi cymryd lle yn lleol ynglŷn â phosibilrwydd sefydlu papur bro i Aberteifi. Cynhaliwyd cyfarfod anffurfiol ar y 9fed o Hydref llynedd i ehangu’r drafodaeth ac fel y gwelwch o’r cofnodion, penderfynwyd cynnal cyfarfod arall ar ddechrau’r flwyddyn er mwyn symud y drafodaeth yn ei flaen.

Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr petaech yn gallu rhoi gwybod i mi os ydych am fynychu ai peidio, diolch.
Croeso i chi ledaenu’r neges/gwahoddiad yma i unrhyw un chi’n meddwl byddai â diddordeb yn y datblygiad cyffrous yma.
(Os ydych yn ymwybodol o rywun arall sydd am fynychu a byddech cystal â rhoi gwybod i mi er mwyn sicrhau fod yna ddigon o de a choffi i bawb? Diolch yn fawr)!

Rwy'n gobeithio y bydd rhai ohonoch chi'n gallu mynychu'r cyfarfod i gynrychioli dysgwyr yr ardal.

Sunday 20 January 2013

Galw am strategaeth argyfwng i’r Gymraeg


 (Golwg360)

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod â’r Prif Weinidog Carwyn Jones i fynnu ei fod yn gweithredu strategaeth argyfwng i achub y Gymraeg.
Ac os na fydd yn cytuno, fe fyddan nhw’n cynnal  ymgyrch genedlaethol i alw’n bersonol arno i  ymyrryd.
Dyna’r neges wrth i fwy na 300 o bobol gasglu mewn rali yng Nghaerfyrddin i ddweud eu bod eisiau byw yn Gymraeg ac eisiau i gymunedau Cymraeg fyw hefyd.
Yn un o’r prif areithiau, fe alwodd yr Aelod Seneddol lleol tros Blaid Cymru am sefydlu swydd cabinet o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am‘y Fro Gymraeg’.
Roedd hynny “er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i holl waith y Llywodraeth,” meddai Jonathan Edwards.

Arwyddo adduned

Fe arwyddodd 13 o bobol adnabyddus boster yn addunedu i’r alwad am gael byw yn Gymraeg ac mae’r Gymdeithas yn gobeithio cael 1,000 o enwau yn y pen draw.
Roedd y rali yng Nghaerfyrddin yn un o gyfres yn sgil ffigurau diweddara’r Cyfrifiad – yn Sir Gâr yr oedd y cwymp mwya’ o ran canran.
Wedi’r rali y tu allan i bencadlys y Cyngor Sir, fe orymdeithiodd y dyrfa i gyfeiliant drymiau a siantio “Dw i eisiau byw yn Gymraeg” at adeiladau Llywodraeth Cymru yn y dref.
Fe fydd cynrychiolwyr y Gymdeithas yn cyfarfod gyda Carwyn Jones ar 6 Chwefror eleni, yn gofyn iddo gydnabod ei bod yn argyfwng ar yr iaith  Gymraeg ac yn galw arno i weithredu strategaeth frys.
“Y cam allweddol yw ei gael i gydnabod yna argyfwng,” meddai un o drefnwyr y rali, Ffred Ffransis. “Dyna yr ydyn ni wedi methu â’i gael trwodd hyd yn hyn – cydnabod bod yna argyfwng ac wedyn gweithredu statws argyfwng.”

 

Beirniadu Cyngor Shir Gâr

Roedd nifer o siaradwyr yn feirniadol iawn o Gyngor Sir Gaerfyrddin hefyd, gyda’r ymgynghorydd iaith, Cefin Campbell, yn dweud bod polisi’r sir ym maes addysg “wedi bod yn drychineb llwyr”.
“Mae’n warth ar yr awdurdod yma dros yr ugain mlynedd diwetha’,” meddai. “Ymylol yw’r iaith yn Sir Gaerfyrddin.”
Yn ôl Jonathan Edwards, roedd angen rhoi pwysau ar y Cyngor yn y maes economaidd, maes addysg a maes cynllunio.
“Mae tai’n cael  eu codi heb sylw teg i anghenion lleol ac mae’r datblygiadau’n tanseilio’r iaith,” meddai.

‘Rhaid cipio grym’

Fe alwodd Cadeirydd y Gymdeithas yn Rhanbarth Sir Gaerfyrddin am i’r cyngor sir wynebu ei gyfrifoldeb a dechrau arwain gan ddefnyddio’r Gymraeg yn ei waith o ddydd i ddydd.
Yr unig ateb, meddai arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor, Peter Hughes Griffiths, oedd gweithio tros y pedair blynedd nesa’ i gipio awennau’r Cyngor.
Fe addawodd cynrychiolydd Merched y Wawr yn y sir, Glenys Thomas, y byddai’r mudiad hefyd yn gwneud safiad mwy cadarn ac yn gweithredu’n fwy uniongyrchol o blaid yr iaith.

Wednesday 16 January 2013

Ble aeth Red Rum?

Mae cwmwl dros y diwydiant amaeth yn sgil yr helynt cig ceffyl mewn byrgyrs, yn ôl cadeirydd Hybu Cig Cymru.



Dywedodd Dai Davies wrth Golwg360 na allai cig ceffyl fod wedi cael ei ddarganfod mewn byrgyrs cig eidion mewn dwy archfarchnad “heb fod rhywun yn rhywle wedi torri’r gyfraith”.

Cafodd olion cig ceffyl eu darganfod mewn byrgyrs cig eidion sydd yn cael eu gwerthu yn archfarchnadoedd Tesco ac Iceland.

Mae’r byrgyrs hefyd yn cael eu gwerthu yn Lidl, Aldi a Dunnes Stores.

Roedd olion cig ceffyl mewn 10 allan o 27 sampl a gafodd eu profi, ac un o’r samplau’n cynnwys 29% o gig ceffyl. Roedd nifer o samplau eraill yn cynnwys cig moch.

Mae Tesco ac Iceland wedi dweud eu bod yn tynnu’r cynnyrch oddi ar eu silffoedd, ond dydy’r Asiantaeth Safonau Bwyd ddim yn credu bod yna le i boeni am beryglon i iechyd pobl.

‘Mae hyn wedi digwydd yn fwriadol’

Dywedodd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies: “Heb fod rhywun wedi torri’r gyfraith, allai hyn ddim bod wedi digwydd.

“Cig o dramor yw hwn sydd wedi dod i mewn.
“Mae gormod o gig yn dod o’r tu allan heb gael ei blismona’n iawn.
“Mae hyn wedi rhoi cwmwl dros y diwydiant amaeth yn gyffredinol.
“Does dim byd o’i le ar gael cig moch yn y byrgyrs, gall hynny ddigwydd yn rhwydd, ond fe ddylai fod ar y pecyn beth sydd ynddyn nhw. Mae angen ennill hyder y cwsmer.
“Mae’r bai ar y cynhyrchwyr. Mae hyn wedi digwydd yn bwrpasol – dim ond yn bwrpasol y cewch chi 29% o gig ceffyl mewn byrgyrs cig eidion, ac rwy’n gobeithio y bydd achos llys i ddod.
“Mae’n warthus bod modd cymysgu pecynnau sy’n dod o dramor a’u gwerthu nhw fel cig o’r wlad yma.
“Mae rhywun yn rhywle wedi ffeindio ffordd o ddod â chynnyrch o safon isel i mewn i’r wlad, ac mae hynny’n creu cystadleuaeth i gynhyrchwyr yn, dyweder, Sir Fôn, ac maen nhw wedyn o dan anfantais. Rhaid i bawb ddilyn y rheolau.
“Rhaid plismona’r cig yn fwy agos.
“Profion DNA ddaeth â’r sefyllfa i’r wyneb, ond mae’n gyfrifoldeb ar yr archfarchnadoedd i roi beth sydd yn y pecyn ar label ar y pecyn.”

(Diolcg i Golwg 360)

Ac wedyn, dyma i chi Flog Menai....


Mi fedra i ddeall pam bod Dai Davies o Hybu Cig Cymru yn mynd trwy'i bethau yn sgil darganfod cig ceffyl mewn byrgars a werthir gan Tesco ac Iceland.  Mae'r byrgars yn dod o rhyw wlad dramor neu'i gilydd, ac nid yw Cymru yn cynhyrchu cig ceffyl.

Ond dydi o ddim mor glir i mi pam bod cwsmeriaid Tesco ac Iceland yn poeni am y peth.  Petaech eisiau prynu cig ceffyl yng Nghymru byddai'n ddrytach na chig eidion - er ei fod yn rhad yn y gwledydd sy'n cynhyrchu cig ceffyl.  Mae yna hefyd lai o galoriau, mwy o haearn, llai o fraster a'r un faint o brotin mewn cig ceffyl na sydd mewn cig eidion.

Mewn geiriau eraill mae'r cig ceffyl yn iachach na chig eidion, ac mae byrgars Tesco ac Iceland i'w cael am bris rhesymol iawn.  Mae bwytwyr byrgars y siopau hyn yn cael coblyn o fargen.

Saturday 5 January 2013

Gweithiwr siop yn cythruddo cyn Archdderwydd

[Diolch i'r BBC am y stori hon]

Cafodd yr heddlu eu galw i siop ym Mhwllheli, Gwynedd, ar ôl i gwsmer wrthod talu - ar ôl i aelod o'r staff wrthod rhoi'r bil yn Gymraeg. 

Roedd y cyn Archdderwydd Robyn Lewis, 83 oed, yn mynnu cael y bil yn Gymraeg.

 
Dr Robyn Lewis
Robyn Lewis



Yn ôl Dr Lewis roedd yr aelod staff wedi siarad ag o yn Gymraeg tan ei bod yn amser talu.
Roedd o am iddi ofyn iddo am Bum-deg-wyth punt, chwedegdau."

Ond hyn hytrach meddai: "Fe wnaeth y ddynes ifanc, sy'n siarad Cymraeg yn rhugl ail adrodd y bil yn Saesneg.

"Er i mi ofyn iddi ei ailadrodd yn Gymraeg, fe wnaeth hi ei ddweud unwaith eto yn Saesneg.
"Fe wnes i ddweud y byddwn yn gofyn unwaith eto iddi ei ddweud yn Gymraeg, ond fe wnaeth hi ei ddweud yn Saesneg am y trydydd tro."

Fe alwyd ar reolwr y Spar i ddatrys yr anghydweld.

Pan wrthododd Dr Lewis dalu neu adael y siop fe alwyd am yr heddlu.

Pan ddaeth yr heddlu, doedd yr heddwas ddim yn siarad Cymraeg ac fe alwyd am gymorth heddwas arall.
Dywedodd Dr Lewis: "Cafodd y peth ei ddatrys pan roddwyd aelod arall o'r staff wnaeth gyflawni'r cyfan yn Gymraeg.

"Fe wnes i dalu a gadael," meddai.

"Y cwbl o ni'n ei ofyn oedd ateb yn fy mamiaith yn fy ngwlad fy hunain."

Dywedodd Conrad Davies, rheolwr y siop: "Doedd y cwsmer ddim yn hapus, felly fe wnaethom alw'r heddlu gan ei fod wedi gwrthod talu am ei nwyddau.

"Roedd y digwyddiad wedi achosi ypset mawr i aelod o'n staff."

Rali'r Cyfrif yng Nghaerfyrddin



Yn wyneb canlyniadau'r Cyfrifiad sy'n dangos dirywiad trychinebus yn ein cymunedau Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin...

DEWCH I RALI'R CYFRI - SAFIAD SIR GÂR: 11yb, Dydd Sadwrn Ionawr 19, 2013 - Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Mynnwn fod Cyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru yn cymryd yr argyfwng o ddifri.

Eich cyfle chi i lofnodi'r adduned "Dwi eisiau byw yn Gymraeg!" Anelwn at gael dros fil i Addunedu cyn diwedd Ionawr yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd newyddion bob dydd ar y tudalen Digwyddiad Facebook am bwy sy'n dod ar y 19eg i lofnodi'r adduned.

Mwy o wybodaeth bethan@cymdeithas.org - 01559384378. 

Rwy'n gobeithio y bydd rhai ohonoch chi'n ymuno â ni yng Nghaerfyrddin.
 

Lansio ‘maniffesto byw’ i gryfhau'r Gymraeg


‘Ymateb cadarnhaol i argyfwng yr iaith’ - dyna sut mae ymgyrchwyr wedi disgrifio'r ‘maniffesto byw’ a lansiwyd mewn rali yng Nghaernarfon.

Mae’r maniffesto, a luniwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn gynharach yr wythnos hon. 

Ymysg y syniadau, mae’r Gymdeithas yn galw am: drawsnewid y system gynllunio er mwyn taclo her allfudo a mewnfudo; gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol i weithiwyr y sector cyhoeddus; system addysg ledled Cymru lle mae pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg; datganoli swyddi Cymraeg i gymunedau, a phedryblu buddsoddiad y Llywodraeth yn yr iaith.

Yn ôl y Cyfrifiad, mi oedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru - lawr o 21% ddegawd yn ôl i 19% - ac fe gwympodd canran y siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin a’r gogledd. Targed Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.

Dyma linc i'r ddogfen lawn.