Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams
wedi ymuno â’r galwadau i adael i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio ym
mhob etholiad ym Mhrydain o hyn ymlaen.
Daw hyn ar ôl i dros 100,000 o bobl ifanc gofrestru i
bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban, y tro cyntaf
i’r bleidlais gael ei hestyn i bobl dan 18 oed mewn etholiad mawr ym
Mhrydain.
Mae’r nifer sylweddol yna wedi arwain at alwadau i ganiatau i
bobl ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio ym mhob etholiad o hyn ymlaen –
gan ddechrau mor fuan ag etholiad cyffredinol 2015.
Mae’r arweinydd Llafur Ed Miliband hefyd bellach wedi awgrymu y
byddai’n cefnogi ymestyn y bleidlais, ac mae pleidiau eraill fel Plaid
Cymru wedi cefnogi polisi o’r fath ers sbel.
Ond er bod rhai Ceidwadwyr fel yr AC Russell George wedi awgrymu
y gallai esiampl yr Alban newid ei feddwl yntau ar roi’r bleidlais i
bobl 16 oed, dyw David Cameron ddim wedi datgan cefnogaeth i’r syniad
hyd yn hyn.
O blaid ac yn erbyn
Yn ôl Kirsty Williams ac eraill, mae’r ffaith fod pobl ifanc yr
oed yna eisoes yn medru gadael yr ysgol a thalu trethi yn golygu’u bod
nhw’n ddigon hen i wneud penderfyniadau dros eu hunain.
Fe ddangosodd yr ymgyrch refferendwm yn yr Alban bod modd magu brwdfrydedd ymysg pobl ifanc ynglŷn â gwleidyddiaeth.
Ac wrth gwrs, mae llawer o benderfyniadau’r llywodraeth yn
debygol o effeithio ar bobl o’r oed yma, gan gynnwys polisi addysg a
ffioedd dysgu prifysgolion – pam ddim rhoi’r hawl iddyn nhw bleidleisio
ar y materion yma hefyd?
Ar y llaw arall mae rhai’n dal i ystyried fod 16 oed yn rhy
ifanc i fwrw pleidlais, am nad ydyn nhw wedi aeddfedu’n llawn ac o bosib
yn debygol o wneud penderfyniadau gwleidyddol heb ddeall y materion yn
llawn.
Yn ôl deddfau’r wlad nid yw pobl 16 ac 17 oed yn cael eu
hystyried yn oedolion eto, ac mae llawer o bethau megis gyrru, ac yfed,
nad ydyn nhw’n cael gwneud nes eu bod nhw dros 16.
Mae rhai hefyd yn cyfeirio at ffigyrau sydd yn dangos fod pobl
ifanc dros 18 yn llawer llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn, arwydd
nad ydyn nhw ar y cyfan yn malio [poeni, pryderu am] rhyw lawer am wleidyddiaeth – beth
fyddai’r pwynt felly gadael i bobl hyd yn oed yn ieuengach bleidleisio?
Ac a fyddai pobl ifanc yn rhy debygol o gael eu dylanwadu gan
eraill wrth bleidleisio yn hytrach na phenderfynu dros eu hunain – gan
rieni, ffrindiau, neu hyd yn oed selebs?
Beth yw’ch barn chi? A ydych chi’n credu’i bod hi’n bryd gadael i
bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio? Neu a oes rhesymau da pam bod yn
rhaid i chi fod dros 18 i wneud hynny?
Mae S4C wedi lansio gwasanaeth newydd gyda'r nod o roi mwy o hyder i bobl siarad Cymraeg.
Bydd
gwasanaeth Dal Ati, fydd yn dechrau ar y sianel ar 28 Medi, yn cynnig
dwy awr o raglenni bob bore Sul mewn Cymraeg hawdd i'w ddeall.
Cafodd y gwasanaeth newydd ei lansio yn swyddogol ym Maes D, Maes y Dysgwyr, ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ddydd Iau.
Yn
ôl ymchwil gan y sianel, mae 'na alw mawr am raglenni a fyddai'n rhoi
mwy o hyder i ddysgwyr a siaradwyr sy'n llai hyderus i ddefnyddio'r
Gymraeg.
Fel rhan o'r lansiad, fe fydd 'na ymgyrch hyrwyddo, gyda'r neges "Mae dy Gymraeg di'n ddigon da! Jest Dal Ati".
'Jest Dal Ati'
Yn ogystal â'r rhaglenni bydd ap, gwefan newydd a gwasanaethau digidol pellach yn cael eu lansio yn ddiweddarach.
Meddai
Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Wrth lunio'r strategaeth
newydd ry'n ni wedi bod yn holi'r gynulleidfa, yn ddysgwyr a phobol sy'
eisiau gwella eu sgiliau iaith.
"Mae un peth yn amlwg o'r ymchwil
- mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn poeni nad yw eu Cymraeg nhw'n
ddigon da ac felly mae'n anodd magu hyder i siarad.
"Wrth awgrymu
"Mae dy Gymraeg di'n ddigon da, jest Dal Ati" 'da ni'n annog dysgwyr i
roi cynnig arni, i sgwrsio mwy a magu hyder. Ond mae hefyd yn herio'r
Cymry sy'n rhugl i gefnogi a helpu eraill i groesi'r bont 'na, a dod yn
siaradwyr hyderus."
Y llynedd fe fu S4C yn holi croesdoriad o
ddysgwyr, a phobl nad oedd yn hyderus yn eu Cymraeg, ar hyd a lled
Cymru, i weld beth oedden nhw eisiau ei weld ar y sianel.
'Hwb enfawr'
Roedd yr ymchwil dan ofal yr arbenigwr ac ymgynghorydd iaith, Cefin Campbell.
Meddai
Mr Campbell: "Mae'r gwasanaeth hwn ar fore Sul yn ddatblygiad cyffrous
iawn a fydd yn hwb enfawr i ddysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg
dihyder i wella eu sgiliau iaith.
"Wrth iddynt ymgyfarwyddo â'r
arlwy, y gobaith wedyn yw y cânt ddigon o hyder i wylio mwy o raglenni
Cymraeg ar S4C yn ystod yr oriau brig'.
Un o'r rhaglenni newydd o
fewn y gwasanaeth Dal Ati fydd Bore Da, rhaglen gylchgrawn yn cael ei
chyflwyno gan Elin Llwyd ac Alun Williams. Wedi'i chynhyrchu gan gwmni
Tinopolis, Llanelli, bydd y rhaglen yn cynnwys eitemau coginio, teithio,
hanes, diwylliant a cherddoriaeth.
Ymhlith y rhaglenni eraill
bydd Milltir² (Sgwâr), pan all y gwylwyr ddilyn Nia Parry ar ei thaith o
amgylch Cymru yn y gyfres sy'n gynhyrchiad Fflic, rhan o Boom Pictures
Cymru ar gyfer S4C. Bydd rhaglenni am gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn
hefyd yn cael eu darlledu yn wythnosau cyntaf Dal Ati.