Yn gymuned o awduron ac ysgolheigion Cymraeg, ysgrifennwn atoch i
fynegi ein pryder a'n siom o glywed am y toriadau arfaethedig i gyllideb
Cyngor Llyfrau Cymru. Dyma ostyngiad o 10.6% yn yr arian a roddir i'r
Cyngor Llyfrau, sef lleihad o £374,000. Bydd hyn yn cael effaith
niweidiol ar gyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ond bydd yr
effaith ar gyhoeddi Cymraeg, yn benodol, yn gwbl andwyol. Mae'r
diwydiant llyfrau yng Nghymru yn esiampl o'r gwaith anhygoel y gellir ei
gyflawni ar gyllideb fechan. Dros y degawd diwethaf, er gwaethaf
toriadau blynyddol i'w gyllideb, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llwyddo'n
rhyfeddol i gynnal diwylliant cyhoeddi hyfyw, deniadol ac effeithlon.
Yn sgil y toriadau arfaethedig, ni fydd parhau i wneud hyn yn bosibl.
Mae cynnyrch y diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Chymreig yn apelio at bobl
trwy Gymru a thu hwnt, ac yn fodd i gryfhau ymdeimlad o gymuned
ddiwylliannol ar draws holl amrywiaeth y genedl. Bob blwyddyn, dan ofal y
Cyngor Llyfrau, cyhoeddir ystod eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg,
a'r rheiny'n amrywiol o ran cynnwys ac yn ddeniadol eu diwyg. Mae'r
Cyngor Llyfrau hefyd, ochr yn ochr â'r gweisg, yn chwarae rôl allweddol
wrth hyrwyddo a hybu gwerthiant y llyfrau hynny.
Dyma gynnyrch
diwylliannol sy'n chwarae rhan allweddol yn addysg ac ym mhrofiadau
holl bobl Cymru, yn fabanod a phlant, yn ddisgyblion ysgol a myfyrwyr
coleg, ac yn oedolion o bob oedran a chefndir. Nid sôn am nofelau a barddoniaeth yn unig yr ydym, ond llyfrau mewn meysydd o bob math, o
chwaraeon i ddiwylliant poblogaidd, yn gofiannau enwogion Cymreig ac yn
gyfrolau poblogaidd sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru.
Nid oes angen pwysleisio bod y llyfrau hyn yn adnodd diwylliannol holl bwysig.
Maent yn cadw ein hanes a'n treftadaeth yn fyw, yn gyfrwng inni fynegi
ein hunain yn ddiwylliannol yn y presennol ac yn ffordd i ni agor ein
llygaid tua'r dyfodol. Maent hefyd yn ffenest siop werthfawr i Gymru
gerbron y byd. Erbyn hyn, mae llyfrau Cymraeg a Chymreig yn cael eu
cyfieithu i ieithoedd byd-eang, o'r Sbaeneg i'r Tsineeg, ac mae hyn yn cryfhau proffil Cymru yn rhyngwladol.
Mae i hyn hefyd ei fudd economaidd ei hun. Ni ellir rhoi pris ar
arwyddocâd o'r fath. Eto, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llwyddo i
gyflawni'r gwaith hwn yn effeithlon a llwyddiannus ers blynyddoedd
lawer, a hynny ar gyllideb fechan sydd wedi dioddef toriadau blynyddol
er 2011.
Mae'r Cyngor wedi galluogi gweisg Cymru i ddal eu tir
gerbron gweisg masnachol Prydeinig, a hynny mewn hinsawdd economaidd a
diwylliannol heriol. Mae wedi sicrhau ein bod ni - yn awduron,
darllenwyr ac ysgolheigion - yn gallu gweithio'n effeithiol o fewn
fframwaith cynhaliol a gofalgar, a bod gennym hyder yn y corff sy'n hybu
a hyrwyddo ein diwylliant llenyddol mewn modd adeiladol ac agored.
Unwaith eto: llwyddwyd i wneud hyn oll yn effeithlon a di-wastraff ar
gyllideb dynn. Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi methrin perthynas
agos a ffrwythlon gyda siopau llyfrau lleol ar draws Cymru: mae'r
rheiny yn eu tro yn ganolfannau diwylliannol pwysig yn sydd yn cynnal
digwyddiadau llenyddol poblogaidd, gan gyfrannu at hyfywedd a hunaniaeth ein trefi a'n dinasoedd. Ar ben hynny, trwy ei wefan,
Gwales.com,
mae Cyngor Llyfrau Cymru'n sicrhau bod llyfrau Cymraeg a Chymreig ar
gael i'r cyhoedd, waeth ble y bônt yn y byd, a sicrheir hefyd fod y
llyfrau hyn yn cael eu hadolygu ar y wefan: mae hynny yn ei dro yn
ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i'r cyhoedd. Yn ychwanegol at hyn,
mae'r Cyngor, dros y degawd diwethaf, wedi sicrhau bod y diwydiant
llyfrau yng Nghymru yn ymateb i ofynion y cyfryngau digidol, gyda dros
fil a hanner o e-lyfrau Cymraeg a Chymreig bellach ar gael trwy Gwales.
Effaith y toriadau arfaethedig, yn y lle cyntaf, fydd tanseilio'r holl lwyddiannau hyn.
• Bydd y Cyngor, sydd eisoes dan bwysau enbyd, yn cael ei roi dan bwysau annioddefol a bydd y strwythur cyfan yn gwegian.
• Bydd llai o lyfrau'n cael eu cyhoeddi, a bydd hyn yn ei dro yn rhoi
llai o ddewis - o brofiadau a chyfleon - i holl ddarllenwyr Cymru (yn
blant, yn bobl ifanc ac yn oedolion).
• Bydd yn lleihau siawns
llyfrau Cymraeg a Chymreig o gyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i
Gymru, yn ogystal, ac yn mennu ar broffil diwylliannol Cymru nid yn unig
o fewn y Deyrnas Unedig, ond yn
rhyngwladol. O ganlyniad, bydd yn
tanseilio enw da Cymru fel gwlad sydd, er ei bychander, yn creu
cynnyrch llenyddol grymus ac arwyddocaol.
• Bydd marchnata a hyrwyddo llyfrau yn myndyn llai effeithlon, a bydd y gynulleidfa a gyrhaeddir yn crebachu.
• Bydd holl strwythur ysgrifennu a darllen yn ein gwlad yn dioddef.
Ar ben y cyfan, bydd swyddi yn cael eu colli: mae'r diwydiant cyhoeddi
yng Nghymru yn gwneud mwy na chyflogi awduron a chyhoeddwyr. Mae hefyd
yn cyfrannu'n arwyddocaol at incwm cysodwyr, dylunwyr,
ffotograffwyr, a darlunwyr, heb sôn am y golygyddion sydd yn gwneud
gwaith allweddol yn cynnal safon uchel ein cyhoeddiadau. Mae llawer o'r
bobl hyn yn gweithio ar eu liwt eu hunain, yn aml mewn ardaloedd yng
Nghymru lle mae'r cyfleon gwaith yn fach. Bydd effaith y toriadau hyn ar
eu bywoliaeth hwythau yn andwyol.
Am ganrifoedd, llenyddiaeth oedd
unig sefydliad cenedlaethol y Cymry. Dyma sut y buom yn ein mynegi ein
hunain fel pobl: dyma a gadwodd ein hunaniaeth a'n hiaith yn fyw. Ers
dyfodiad Datganoli a sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol mae'r rôl honno,
a'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, wedi mynd o nerth i nerth, a bu'r
budd i bobl Cymru, a'n hunanhyder fel gwlad, yn anfesuradwy. Gofynnwn i
chi yn awr beidio â thanseilio'r holl waith rhagorol sy'n digwydd ym myd
cyhoeddi llyfrau yng Nghymru heddiw, a'r momentwm rhyfeddol sy'n
nodweddu'r diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Chymreig ar hyn o bryd. Bydd y
toriadau arfaethedig yn niweidio'r diwydiant am ddegawdau, ac, mewn rhai
achosion, yn creu niwed parhaol. Gofynnwn i chi yn ddwys ac yn
ddiffuant i ailystyried y toriadau arfaethedig ac anghytbwys i gyllideb
Cyngor Llyfrau Cymru ac i ystyried gwir faintioli'r niwed a wneir
trwyddynt.
Bydd yn ddinistriol i iechyd diwylliannol y genedl gyfan.
Yr eiddoch yn gywir,