Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 31 October 2012

Sut i sicrhau harddwch y Poinsetia

Gan ein bod ar drothwy y Nadolig, priodol fyddai talu sylw i blanhigyn pot sydd yn ei holl ogoniant ar yr adeg yma. Enw'r planhigyn yw y Poinsetia, a'i enw botanegol Euphorbia pulcherrima, yn golygu "prydferth iawn". Mae'r planhigyn hwn wedi dod yn boblogaidd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel anrheg Nadolig, ac fel rhan o'r addurniadau yn y tŷ gan fod ei liw coch pert yn harddu'r lle.

Cafodd y Poinsetia ei enw ar ôl Joel Robert Poinsettia, llysgennad Yr Unol Daleithiau i wlad Mecsico yn y flwyddyn 1825 pan dderbyniodd y planhigyn yn anrheg Nadolig. Ar y pryd planhigyn gwyllt ydoedd yn tyfu yn anialwch De Mecsico. Gan iddo ddotio'n llwyr ar y planhigyn, penderfynodd ei gyflwyno i'r Unol Daleithiau ym 1826.

 



Mae'r planhigyn yn unigryw,gan mai'r blodeulen sydd yn goch ei liw, ac nid y prif ddeilen. Prin yw oes blodeulen ac fe'i ceir yn ei holl ogoniant adeg Gŵyl y Geni. Yn ei gynefin ble mae'r tywydd yn drofannol, mae'n cael ei gofrestri yn brysgwydden lluosflwydd ac yno gall dyfu i fyny at a thros 3 medr o daldra.
Yn ôl hen chwedl Fecsiciaidd daeth y planhigyn i fodolaeth pan benliniodd gwerinwraig ifanc i weddïo ar Noswyl Nadolig i ofyn am flodau coch i osod oddeutu'r allor. Atebwyd ei gweddi pan ymddangosodd angel gan droi y chwyn a dyfai o amgylch y caban pren a oedd yn gartref iddi, yn Poinsetia coch hardd. Felly cafodd y ferch fwy na digon o flodau i addurno'r allor. Deallodd ar unwaith fod y lliw coch yn addas fel addurn Nadoligaidd. Mae'r Ponsetia a greodd Duw i harddu'r anialwch mewn gwledydd fel Mecsico erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio i harddu cartrefi a'n hadeiladau ni.

Yn y dyddiau cynnar pan sylweddolwyd bod mewnforio'r planhigyn yma i Brydain yn bosibl o safbwynt masnach ond rhaid oedd ei gwtogi i'w gynnwys mewn pot, ar gyfer y tŷ. Fel canlyniad, mae'r planhigyn yn cael ei drin gan gemegyn sydd yn rhwystro tyfiant tal. Mae'r planhigyn yn cael ei gadw dan reolaeth lem mewn meithrinfeydd, er mwyn sicrhau fod y bracts lliwgar yn eu holl ogoniant erbyn y Nadolig. Caiff ei gadw mewn tymheredd addas a chyson am gyfnodau hir o dywyllwch.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn y marchnadoedd, mae yna amryw o liwiau eraill i'w gweld ymysg y Poinsetia, e.e. Lemon Snow sydd â blodeulen o liw hufen, sydd yn edrych yn ddeniadol ymhlith y rhai coch. Un arall a gyflwynwyd yn ddiweddar iawn yw y Sonora White Glitter, ffefryn gan lawer, gan fod y flodeulen yn amryliw. Yn yr Almaen dechreuwyd yr arfer o chwistrelli'r dail gan belydrau o liw arian daeth yn arfer hefyd yng Nghymru er mwyn creu naws Nadoligaidd i'r tŷ.

Er mwyn sicrhau harddwch blynyddol y Poinsetia cynigaf rai syniadau. Y man mwyaf delfrydol i'w osod yn ystod yr Ŵyl yw ar sil y ffenestr, sy'n wynebu'r de, gan ofalu na fydd y dail yn cyffwrdd â gwydr oer y ffenestr, oherwydd gall hyn achosi i'r dail grebachu. Mae tymheredd yr ystafell yn hollol bwysig 10-20 gradd Celsiws yn ystod y dydd ac heb fod o dan 10 gradd Celsiws y nos, i gadw'r gwreiddiau rhag pydru. Ni ddylid peri iddo fod yn agored i ddraft, boed oer neu gynnes rhag achosi'r dail i gwympo cyn pryd.

Dylid cadw llygad rhag i'r pridd yn y pot ddioddef sychder. Mae angen dyfrhau nes fod dŵr yn dod allan o dyllau draeno'r pot gan ofalu na fydd dŵr yn aros yn y soser i bydru'r gwreiddiau. Mewn ystafell a chanddi olau cryf a lleithder isel fe fydd eisiau dyfrhau yn amlach. Gall y dail gwympo oherwydd sychder, felly rhaid dyfrhau yn union ac eto ymhen deng munud. Dylid parhau i ddyfrhau hyd yr wythnos gyntaf ym mis Ebrill, ac yna torri lawr yn raddol, ond peidio a'i adael i sychu allan yn gyfan gwbl.

Canol mis Mai, dylid torri'r coesau yn ôl i tua 10cm, ei ail botio mewn pot sydd yn 2.5cm diamedr yn fwy gan ddefnyddio "soil less compost" ffres o raddfa uchel. Ni ddylid ar un cyfrif ddefnyddio pridd o'r ardd, oherwydd y perygl o bla. Dylid gosod y planhigyn mewn llecyn oddeutu 15-20 gradd Celsiws, gan ddyfrhau yn gyson. Pan fydd arwydd o dyfiant ffres yn datblygu, dylid ychwanegu gwrtaith doddadwy e.e Phostrogen bob pythefnos.

Yn nechrau mis Mehefin, dylid symud allan i awyr agored a'i osod mewn llecyn cysgodol, gan ychwanegu dŵr a gwrtaith yn yr un dull â'r mis blaenorol. Tua dechrau mis Gorffennaf dylid torri pob coes, yna rhwng canol a diwedd mis Awst torri unrhyw goesau ffres a fydd yn dangos, gan ollwng tua tair neu bedair deilen ar bob ysbrigyn. Dechrau mis Medi dylid dod â'r planhigyn yn ôl i'r tŷ a'i osod yn yr un llecyn a chynt gan ddyfrhau ac ychwanegu gwrtaith toddadwy bob pythefnos hyd at wythnos gyntaf mis Rhagfyr.

Rhaid osgoi gostyngiad y dymeredd o dan 10 gradd Celsiuws. Dylid ei ollwng mewn lle tywyll rhwng pump o'r gloch y prynhawn ac wyth o'r gloch y bore o Hydref 1af hyd Tachwedd 30ain, a'i osod ar y silff ffenestr weddill yr amser.

Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.

Wednesday 24 October 2012

Idiomau'r wythnos - hoelio


Idiomau’r Wythnos
Hoelio
Hoel/hoelen (b) hoelion

1.      Hoelio sylw rhywun

Bydd y cynllun yn ceisio hoelio sylw ar fusnes ac arian
Mae'n gyfle gwych i weithio gyda chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr profiadol, a fydd yn gallu'ch helpu i gyfleu eich neges mewn ffordd sy'n hoelio sylw.

2.      Taro’r hoelen ar ei phen

Dwi'n meddwl roedd Damon Albarn a Peter Hitchens wedi taro hoelen ar ei phen yn eu hymateb am Live8.
Mae y dalent o daro'r hoel yu ei phen genych, Mr. Denman," ebe'r Capten,
"Mae'r bachgen wedi taro'r hoel ar ei phen," ebai yntau,
Roedd yn wastad yn bwrw’r hoelen ar ei phen ac roedd ymhlith miloedd a ymladdodd dros ei wlad, er nad oedd yn credu mewn rhyfel.

3.      Hoelion wyth

Mae'r ymadrodd yn cyfeirio at hoelion wyth modfedd sef hoelion mawr ac felly byddent yn hoelion pwysig cryf yn dal darnau pwysig mewn adeilad neu rywbeth arall.
Mae 5 cangen yng nghymdeithas Yr Hoelion Wyth, sef Sion Cwilt, Wes Wes (Gogledd Sir Benfro), Hen-Dy-Gwyn, Beca (Efailwen) ac Aberporth. Cwrdd uwaith y mis am 8 o'r glochish.
Un o hoelion wyth Cymdeithas Tai Clwyd yn dychwelyd i'r tîm.

Cymharu ansoddeiriau

Ydy e mor dda â'i frawd bach, neu ydy e cynddrwg â'i chwaer iau?

Rydym wedi bod yn edrych ar sut i gymharu ansoddeiriau'n ddiweddar.

Dyma linc i gyflwyniad ac ymarferion ar wefan Prifysgol Bangor (cliciwch yma), ac un arall ar ffurf Powerpoint ar safle Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru.

Gardd Tim Thomas yn Nghilgerran

Diolch i'r rhaglen Byw yn yr Ardd am y clip hwn.

Clatshio bant = to carry on, to get on with it


Friday 19 October 2012

Russell a'i sgŵp bach handi

Perlysiau mewn pot - mae tyfu i ben i lawr wedi mynd yn rhywbeth sy'n reit ffasiynol bellach......



Wednesday 17 October 2012

Ife?


Ai ac ife?

In more formal varieties of Welsh, emphatic questions begin with the particle ‘ai’.

Ai dyna i gyd sy’n gwneud ni’r Cymry yn wahanol?
Ai Bangor yw eich dewis cyntaf yn y system UCAS?
Ai Rhodri Morgan sy'n gywir, neu'r Gweinidog dros Gyllid?

In informal Welsh, especially in the south, ‘ai’ can be replaced with ‘ife’
Ife fi yw e neu ody hwn yn symud?
Ife fi yw e - neu ydw i'n mynd yn hen?
Ife Sian a Sean sy'n sgio yn y cefndir?
Gwallt lyfli ganddi, ife Sian yw ei henw hi?

Ai can also be used to introduce an emphatic clause. Here it often corresponds to English ‘whether’:

Fe ofynnais iddo ai yno y byddai rhagor? Cefais ateb da.
Tybed ai string fest wedi'i gwneud o spagetti oedd e'n gwisgo wrth ganu opera?
Tybed ai hynny a wylltiodd y beirniad o Sais a honnodd y gellid bod wedi gwneud y ffilm yn Lloegr neu'r Alban

‘a….ai’  if/whether…..or

Nid oedd hi’n siŵr a oedd wedi ei chlywed ai peidio.
ydy'r Gymraeg yn iaith swyddogol ai peidio?
Ai bod ai peidio a bod?
Sut wyf yn gwybod a ddylwn i fod yn talu treth ai peidio?

Ife – ife is a contraction of ‘ai fe’ and it can also appear at the end of statements as a question:

Jiw, jiw, ‘na beth ŷn nhw, ife?
Dim Sian sy 'na, ife?
Hwnna yw e, ife?
prifswm yw'r gair am y principal yma, ife ?
Wel dyma ni eto ar fin dathlu Dydd Gŵyl Dewi, y diwrnod ryn ni'n dathlu'n ffurfiol ein Cymreictdod, wel ddim yn cyfri diwrnod y gêm ife?

Ife? Can also be used in response to an emphatic statement:

A. Siân wnaeth y cawl.   B. Ife?

A. Dyna i gyd.    B. Ife?

Naill ai.....neu     Either ... or

Os bydd arnoch help gyda llenwi'r ffurflenni neu os bydd arnoch angen rhywbeth naill ai mewn iaith arall neu mewn fformat arall, gallwn ni wneud hynny.

Cynlluniwch yr hysbyseb, naill ai ar bapur neu ar gyfrifiadur, fel ei bod yn barod i'w chyhoeddi  

Naill ai ma @DylanEbz wedi troi'n Gog, neu ma @CylchgrawnGolwg di sbwylio tafodieth rhywun ETO.
 



Tuesday 16 October 2012

Gweithdy canu gyda Lowri Evans

Cynhelir gweithdy canu yn Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach-Felindre, ddydd Sadwrn, 10-12, 3 Tachwedd. Mae'r sesiwn yn rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 029 2057 3070.

Dyma Lowri'n canu Merch y Mynydd.




Monday 15 October 2012

Pice bach!


Garddio - blogiau a dolenni



Does dim dwywaith amdani. Y blog gorau ynglŷn â garddio yw blog Bethan Gwanas (cliciwch yma). 

Dyma rai eraill:

Tonna'r Haul i Bethau Lliwgar a Blasus

Garddiadur

Ac wedyn mae gan y rhaglen Byw yn yr Ardd wefan ardderchog, sy'n llawn tips a syniadau:

Byw yn yr Ardd

Mae rhai pobl yn cadw gwenyn ac ieir yn eu gerddi nhw:

Cadw ieir

Cymdeithas Gwenynwyr Llŷn ac Eifionydd

Gwybodaeth arall - erthyglau  ac ati sy'n ymwneud â garddio:

Tyfu coed brodorol o hadau

Safle Hywel Jones (o Gwmdu ger Llandeilo) ar wefan y BBC gydag erthyglau am arddio a blodau

Garddio'n organig





Garddio - geirfa sylfaenol


Geirfa
Rhaw (pâl) (b) Mae'r rhaw yn y pridd , dyma'r adeg i ddechrau palu.
                           Tŵls llaw trin tir (ffyrch, rhaw, siswrn tocio, tyllwyr, llinynnau).   spade
Siefl (b)
Fforch (b) ffyrch
Trywel (b)
Rhaca (b) hefyd: cribin (b)  rake
Siswrn
Tyllwr – drill
Pigo allan – symud eginblanhigion i botyn mwy.
Tir rhywiog (tilth) – cyflwr haen uchaf y pridd.
Teneuo – lleihau’r nifer o eginblanhigion sydd mewn potyn
Planhigion unflwydd caled (hardy annuals) –
planhigyn sy’n para am flwyddyn yn unig ac sy’n gallu byw drwy dywydd oer y gaeaf
Rhidyllu (to filter/sieve) – ysgafnhau’r pridd a thynnu talpiau mawr allan drwy ei roi drwy ogor.
Dyfrio – rhoi dŵr i blanhigyn
Egino – pan mae’r hadau yn dechrau tyfu, ac yn magu gwreiddiau a choesyn.
Ffrwythlondeb – faint o faeth sydd yn y pridd
Trawsblannu – symud eginblanhigion o focsys hadau i’r man lle maent yn mynd i flodeuo neu
gynhyrchu cnwd
Palu                 palu dom i mewn            
Claddu            claddu dom i mewn
Planhigyn (planhigion)
Plannu
Gwellt, tomwellt - mulch
Taenu ar rywbeth (h.y. rhoi tomwellt ar yr ardd)
Gwrtaith (fertiliser)
Hau                 hau hadau
Hogi (to sharpen) Yr offer angenrheidiol yw fforch gerfio ddwybig sy'n gwarchod bysedd, cyllell gerfio fawr finiog a theclyn i'w hogi'n gyson.
Tocio – prune   Cyngor craff: Mae tocio pennau gwywedig rhosod yn hybu twf blodau newydd ac yn gwella golwg y planhigion.
Mae Mam yn garddio'r mymryn lleia ( ond fi sy'n tocio'r rhosod) a does gan Dad ddim diddordeb o fath yn y byd.
Toriad
Lluosogi planhigion
Chwynnyn chwyn
Chwynnu  Newydd fod yn chwynnu. Euch, casau'r job. Diolch byth ddaeth y glaw!
Roedd fy chwynnu yn ystod y gwanwyn wedi bod yn rhy drwyadl – dim ond dau flodyn oedd gen i!
Epilio - propagate
“Ar gyfer epilio o doriadau, dyma’r prif gyfnodau plannu...”
“Ymhlith y pynciau a astudir mae tyfiant planhigion, gwyddoniaeth garddwriaeth, epilio, coed a llwyni, llysiau, ffrwythau a chynllunio gerddi.”
Pridd
-          Lomog
-          Tywodlyd
-          Caregog/llawn cerrig
-          Clai/tir cleiog
-          Mawn/pridd mawnaidd
-          Pridd asid