Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 30 May 2015

Patagonia

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl wreiddiol.


Mae'n 150 o flynyddoedd ers i griw o Gymry deithio ar fwrdd llong y Mimosa draw i Dde America gan sefydlu gwladfa yn Nyffryn Camwy, Patagonia yn ne'r Ariannin.

I nodi'r digwyddiad hanesyddol yma mae BBC Cymru Fyw yn dilyn y daith ar lif byw arbennig sy'n seiliedig ar waith ymchwil Elvey MacDonald. Ymunwch â'r daith yn ddyddiol, fel pe bai'n digwydd heddiw, fan hyn.

Y sylwebydd celfyddydau Jon Gower sy'n edrych ar realiti'r siwrne o Lerpwl i Dde America:

Roedd prisiau'r tocynnau o Lerpwl i Batagonia'n swnio'n rhesymol - £12 y pen i bob oedolyn, hanner pris i blant dan 12 - a hynny ar long sylweddol, 800 tunnell yr Halton Castle.

Yn fwy na hynny roedd yr hysbysebion yn hanner-addo tir, a hyd yn oed anifeiliaid megis 20 dafad, 10 o wartheg ac aradr am ddim i bob setlwr newydd.

Ond fis cyn y fordaith daeth newyddion bod yr Halton Castle heb ddychwelyd eto o'r môr mawr a bu'n rhaid i'r teithwyr ladd amser ar y cei yn Lerpwl, tra bod trefnwyr y fordaith yn dod o hyd i long newydd at y pwrpas.

Mordaith ar y Mimosa

Fel y gwyddom, enw'r llong oedd y Mimosa a bu'n rhaid ei haddasu ar fyrder, drwy osod planciau ar hyd y gwelydd i roi lle i'r plant a'r menywod i gysgu. Roedd tri thoiled dwbl ar gyfer y 162 o bobl, a deugain casgen o ddŵr, pob un yn cario 300 galwyn, neu ddigon i bara chwe mis - os nad oedd unigolyn yn yfed mwy na thri chwart y diwrnod.

Ac i bob teithiwr roedd cyflenwad bwyd - 11 pwys o flawd yr wythnos, pwys a hanner o reis, heb sôn am datws, porc, pys. Ond er bod 'na sudd leim a lemwn i'r teithwyr, nid oedd digon i osgoi clefri poeth, neu scurvy, oedd yn achosi blinder a doluriau ar y croen ac ar gig y dannedd.

Ac er bod addewid o 10 troedfedd sgwâr o le i bob un ar y bwrdd, roedd hyn wedi ei lyncu'n gyflym gan y nwyddau awgrymodd y trefnwyr y dylai bob un gario, megis pot i ferwi dŵr, llestr [= dysgl] tun 3 galwyn, un arall ar gyfer codi dŵr, cyllyll, ffyrc, tywelion, blanced ac yn y blaen.

  

Y llawen a'r lleddf

Digwyddodd y storm gyntaf ger arfordir Ynys Môn, a'r morwyr yn gweddïo am ei heneidiau, heb sôn am y teithwyr druan, ond roedd y siwrne ar draws tonnau de'r Iwerydd yn gymharol dda o ran y tywydd.

Eto roedd 'na dristwch: bu'n rhaid claddu rhai ar y môr, gan gynnwys merch fach, ei harch yn edrych fel bocs matsis cyn suddo, ac ail blentyn yn marw yn fuan ar ôl hynny.

Ar y ffordd diddanwyd y teithwyr gan Dafydd Williams, bachgen ifanc o Aberystwyth a'i fersiynau dychanol o Weddi'r Arglwydd a'r Deg Gorchymyn.

Rhyddhad

Yn eu tro, croeswyd y cyhydedd [= equator] a theithio ar draws y Doldrums, ble mae'r gwynt wastad yn distewi. Nid oedd digon o le ar y dec i'r teithwyr felly roedd y daith yn boeth ac yn glawstroffobig.

Glaniodd y teithwyr union ddeufis i'r diwrnod ers iddynt gychwyn. 'Sdim rhyfedd fod Lewis Jones, un o benseiri'r prosiect i greu'r Wladfa, yn disgrifio rhyddhad mawr:

"Pan aethum ar fwrdd y Mimosa, chwi ellwch goelio fod yno lawenydd nid bychan, hwre ar ôl hwre yn ddi-baid [= yn ddi-ddiwedd], ysgwyd llaw a chant o ddwylo serchus, hen chwiorydd yn bendithio a neidio, a phlant bach yn cydio yn dynn am fy nghluniau, yr hen frawd Cadfan yn fy nghofleidio, ac yn wylo o lawenydd, y magnelau [= cannons] o'r lan ac ar y bwrdd yn taranu, a'r bechgyn yn gwaeddi hwre nes llwyr dagu."

Cyn hir byddai dathlu troi'n ddigalonni wrth i'r teithwyr dewr wynebu realiti'r sefyllfa - traeth oer yn llymder gaeaf, ar gyfandir estron, yn bell iawn, iawn o gartref. Ar ôl mordaith hir roedd siwrne hirach ac anoddach yn eu hwynebu ar y tir mawr, a'r tir hwnnw'n grin [crin = withered]  a sych, ac yn foel dan y gwynt, oedd yn chwythu fel chwip.

Mae Jon Gower yn cyflwyno Y Camsyniad Mawr ar Radio Cymru - rhaglen sy'n gofyn rhai o'r cwestiynau mwy anghyfforddus ynglŷn â'r fenter i Batagonia, ac yn edrych ar ein hagwedd tuag at y Wladfa heddiw.

Friday 29 May 2015

Enwau plant

Gyda diolch i Fy Mhethau Bychain - blog gwych sy'n trafod gwahanol agweddau ar yr iaith Gymraeg.



Enwi’ch plant – peidiwch â phlygu i ofynion y di-Gymraeg


Mae dewis enwau i’n plant yn rhywbeth cyffrous, ac mae’n debyg bod gan bob cwpl eu rhestr o amodau i’r perwyl hwn, e.e. dewis enw Cymraeg, osgoi enwau sydd yr un peth â phlant eu ffrindiau, osgoi enwau sydd rhy hen ffasiwn, a.y.b. Ond yn ychwanegol i’r rhestr yma, tybiwn fod nifer fawr o bobl fydd yn osgoi enwau sy’n swnio fel rhyw air Saesneg arall, hefyd osgoi enwau y buasai’n rhy anodd i bobl di-Gymraeg ei ynganu. Mae’n debyg bod rhieni yn gwneud hyn er mwyn gwarchod eu plant rhag dirmyg [= gwawd, bychander] gan bobl o du allan i Gymru.

Ond, ydy hyn yn rhywbeth y dylwn ni fod yn poeni amdano? Drwy fy holl fywyd mae Saeson (yn fwy aml na thrigolion gwledydd eraill) wedi bod yn cam-ynganu a cham-sillafu fy enw cyntaf, ond ddaru hynny erioed wneud unrhyw niwed i mi. Ydy o’n iach i’r iaith ein bod ni’n caniatáu ieithoedd allanol i ddylanwadu ar ein hiaith ni?

Pam bod rhaid i’n henwau ni fod yn addas i dafod person di-Gymraeg beth bynnag? Mae hyn yn enghraifft o fod efo cywilydd yn yr iaith ac yn ceisio’i chuddio rhag y rhai sydd tu allan iddi. Er mwyn i’n hiaith barhau, mae’n bwysig ein bod ni’n newid ein hagwedd tuag ati, i un o hyder. Does dim rheswm i ni fod yn plygu ein hiaith i blesio pobl di-Gymraeg. Yn hytrach na hyn, fe ddylem ni fod yn ymbweru’n plant i ddelio efo dirmyg o unrhyw fath, a’u grymuso i ddeall mai problem pobl eraill ydyw os nad ydynt yn medru ynganu’r enwau.

Dim ond anghenion ieithyddol Cymru y dylem ni fod yn gofalu amdanynt. Mae gan Loegr a gwledydd eraill ddigon o bobl i ofalu am eu hanghenion ieithyddol hwy.



Enwau babis Cymru

Gyda diolch i BBC Cymru am yr erthygl wreiddiol.

Gruffydd, Ifan, Owain ac Ela, Efa a Cadi - dyna rai o enwau babis mwyaf poblogaidd gwrandawyr Radio Cymru yn ôl cyfarchion gafodd eu hanfon i'r orsaf dros gyfnod o ddwy flynedd, sef 2011-2013.

Fel ymateb i'r cyfarchion lu oedd yn cyrraedd rhaglen Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones ar Radio Cymru i fabis newydd y gwrandawyr, fe ganodd Caryl gân arbennig yn enwi a chroesawu 11 o fabanod y gwanwyn yn fyw ar y rhaglen ym mis Mai 2011.
Caryl Parry Jones a Dafydd Meredydd 

Bob mis ers hynny, mae Caryl a rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru wedi cyfansoddi a pherfformio caneuon yn dathlu'r holl fabis newydd sydd wedi eu geni i'r gwrandawyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

I ddathlu dwy flynedd o Gân y Babis, rydyn ni wedi cyfri a dadansoddi ychydig o ffeithiau am yr enwau gafodd eu hanfon i raglen Dafydd a Caryl rhwng Mawrth 2011 ac Ebrill 2013.

Daw'r enwau yma gan wrandawyr o bedwar ban Cymru a Phrydain, ond hefyd mor bell a Seland Newydd, yr UDA, Brazil a Barbados!

Yn y cyfnod yma, mae'r caneuon wedi cynnwys enwau 795 o fabis - 381 bachgen a 414 merch - yn cynnwys 17 pâr o efeilliaid.

Isod mae pedwar tabl gyda'r enwau cyntaf a'r ail enwau mwyaf poblogaidd o'r rhai sydd wedi cael eu hanfon mewn at y rhaglen dros y ddwy flynedd ddiwethaf.


Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd 2011-2013
BECHGYN
1 Gruffudd/Gruffydd/Gruff 16
=2 Ifan 13
=2 Owain 13
=2 Twm 13
=3 Jac 12
=3 Osian 12
=3 Tomos 12
4 Elis 8
=5 Celt 7
=5 Deio 7
=5 Steffan 7
MERCHED
1 Ela 18
=2 Cadi 13
=2 Efa 13
3 Mali 11
=4 Erin 9
=4 Martha 9
=4 Megan 9
=4 Nel 9
=5 Gwenno 8
=5 Lili 8
=5 Lleucu 8
=5 Mari 8


Mae 152 enw gwahanol i fachgen, a 170 enw gwahanol i ferch yn y rhestr gyflawn. Mae 84 o enwau'r bechgyn a 104 o'r enwau merched yn ymddangos unwaith yn unig.

Mae rhai cyfuniadau o enwau poblogaidd yn y casgliad hefyd gydag Alaw Fflur, Ela Grug, Mali Haf, Ifan Ellis a Twm Wyn yn gwneud tri ymddangosiad, a ganed dau Owen Morgan Gruffudd Huws o fewn ychydig dros fis i'w gilydd nôl yn haf 2011.


Rydyn ni wedi cyhoeddi rhestr o enwau babis Cymraeg mwya' poblogaidd 2013 - 2014 ar wefan Cylchgrawn BBC Cymru Fyw. Mae na rai enwau wedi aros yn y rhestr ond mae'r enwau ar frig y rhestr wedi newid:

Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd - BECHGYN
  • 1 Tomos (10)
  • =1 Elis / Ellis (10)
  • 2 Jac (9)
  • 3 Osian (8)
  • 4 Gruffudd / Gruffydd (7)
  • 5 Ioan (6)
  • =5 Ifan (6)
  • =5 Guto (6)
  • =5 Caio (6)
  • =5 Efan (6)
  • =5 Hari / Harri (6)
Enwau cyntaf mwyaf poblogaidd - MERCHED
  • 1 Efa (7)
  • =1 Mari (7)
  • 2 Elin (6)
  • 3 Elsi (5)
  • =3 Cadi (5)
  • =3 Lili / Lily (5)
  • 4 Mali (4)
  • =4 Beca / Becca (4)
  • =4 Ela (4)
  • =4 Elen (4)
  • =4 Erin (4)
  • =4 Lois (4)
Mae na gyfanswm o 202 o enwau bechgyn a 191 o enwau merched, gyda rhai unigryw, hyfryd yn sefyll allan. Brython, Ceulan, Dulas a Gwrhyd i fechgyn a'r merched Arria, Blathnaid a Syri.


































































Wednesday 13 May 2015

Twristiaeth: Y Gymraeg "yn y ffordd"

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori hon.

Mae cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru [Wales Tourism Alliance] wedi dweud fod y Gymraeg 'weithiau'n mynd yn y ffordd' pan fod ymwelwyr yn ymweld ag atyniadau twristaidd gydag enwau Cymraeg yng Nghymru.

Wrth siarad ar raglen 'Good Morning Wales' ar BBC Radio Wales fore dydd Mawrth, dywedodd Chris Osborne ei fod yn gwerthfawrogi fod y Gymraeg yn "rhan fawr o'r hyn y gall Gymru ei gynnig", a'i fod yn "falch iawn ohoni".

"Ond os yw hi'n mynd yn y ffordd, fe ddylai fod gwahanol destunau ["there ought to be different passages to enable them to enjoy it"] i alluogi pobl i'w fwynhau'n well," meddai.

Ychwanegodd Mr Osborne: "Rwy'n meddwl ei fod yn rhan o'r profiad, ond er engraifft os ewch chi i'r Iwerddon fe wnewch chi ddarganfod fod dau fersiwn o bob enw ac rydych yn cael eich annog i werthfawrogi'r enw ac ar yr un pryd deall fod 'na ddewis gwahanol, mewn Gaeleg neu beth bynnag, ac rwy'n credu fod hyn yn cyfoethogi'r profiad."

Roedd Mr Osborne yn siarad mewn ymateb i drafodaeth am ddiogelu enwau llefydd Cymraeg, a hynny wrth i ymgyrchwyr sy'n brwydro i achub enwau llefydd Cymraeg gyflwyno deiseb i aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth.

Mae 'na dipyn o drafodaeth wedi bod ar wefan Twitter am sylwadau Mr Osborne, gyda nifer yn feirniadol o'i safbwynt.

Enwau Cymraeg

Mae ymgyrchwyr ar ran mudiad 'Mynyddoedd Pawb' yn pryderu fod enwau llefydd Cymraeg yn cael eu disodli gan enwau llefydd Saesneg dros amser, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i warchod enwau llefydd o dan y drefn gynllunio.

Mae'r mudiad wedi defnyddio Cwm Cneifion a Thwll Du yn Eryri fel enghreifftiau o enwau sydd wedi eu disodli gan y Saesneg. Caiff Cwm Cneifion ei adnabod yn aml fel y 'Nameless Cwm' a Thwll Du fel 'The Devil's Kitchen'.

Wrth ymateb i sylwadau Mr Osborne, dywedodd Ceri Cunnington, o Antur Stiniog, ar yr un rhaglen: "Mae'r byd yn dod yn lle undonog. Ble bynnag yr ydych yn mynd mae 'na McDonalds neu mae pob canol dinas yr un fath.

"Mae pobl eisiau cofleidio diwyllianau newydd, ac mae pobl eisiau cofleidio profiadau newydd, ac eisiau profiad go iawn o iaith a diwylliant.

"Rwy'n credu fod y datganiad fod y Gymraeg yn 'mynd yn y ffordd' yn un rhyfeddol yn yr oes hon."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi ei ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg, ond ychwanegodd llefarydd fod y system gynllunio yn ymwneud â defnydd tir ac nid y lle cywir i fynd i'r afael a'r mater."

Yn y cyfamser, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Ken Skates, ddydd Mawrth mai'r llynedd oedd y "flwyddyn orau erioed" i Gymru o ran twristiaeth, gyda dros 10 miliwn o bobl wedi aros yng Nghymru dros nos - y nifer ucha' ers dechrau cofnodion yn 2006.

Monday 4 May 2015

Gwagedd o wagedd

Diolch i Glyn Adda am y darn hwn.

Digwydd agor rhifyn mis oed o GOLWG a tharo llygad eto ar yr hysbyseb hon:

https://glynadda.files.wordpress.com/2015/04/cymwysterau.jpg


Gan y rhagwelir y bydd y ‘corff newydd uchel ei broffil’ yn weithredol erbyn mis Medi, y tebyg yw fod y saith swydd un ai wedi eu llenwi erbyn hyn neu yn y broses o gael eu llenwi.

Ond beth petai yna anawsterau? Beth petai prinder ymgeiswyr cymwys [=priodol, addas]?  Dywedwch rŵan, beth pe na bai’n bosib penodi Uwch Reoleiddiwr (Monitro a Chydymffurfio), dim ond Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio?  Pwy fyddai’n gwneud y Monitro a’r Cydymffurfio wedyn?  Beth petai raid cyfuno swyddi’r Cyfarwyddwr Cyswllt (Cymwysterau Cyffredinol) a’r Cyfarwyddwr Cyswllt (Cymwysterau Galwedigaethol)?  Sut y byddid yn dod i ben?  A allai un dyn bach ymdopi â’r holl Gymwysterau Cyffredinol a’r holl Gymwysterau Galwedigaethol yna yr un pryd, ynteu a fyddai hynny’n ormod o dreth ar fod meidrol [bod meidrol = mortal]?  A allai’r Uwch Swyddog Polisi weithredu o gwbl heb Bennaeth Polisi Strategol wrth ei benelin?  Neu yn wir, a allai’r Pennaeth Polisi Strategol ddod i’r lan [= cyrraedd y lan yn ddiogel] heb Uwch Swyddog Polisi i roi pwniad [= ergyd â phenelin] iddo bob hyn a hyn?

Neu yn wir, beth petai hi’n dod i’r gwaethaf … ? Beth pe bai – na ato Duw [= heaven forfend] – yn amhosib llenwi mwyafrif y swyddi pwysfawr ac anhepgoradwy  hyn?  Neu ddim un ohonynt?  Beth pe bai Cymru heb ei chorff proffil uchel y mis Medi hwn?  A fyddai olwynion gwareiddiad [= civilization] yn peidio â throi?  A fyddai’n ddiwedd y byd?

Os oes UNRHYW UN yn credu hynny, anfoned air, ac rwy’n addo cyhoeddi ei ateb ar y blog hwn.  Ac os oes, gwahoddaf ef neu hi hefyd i ateb y cwestiwn, be fuom ni’n ei wneud tan rŵan? Sut y llwyddodd gwareiddiad i oroesi hyd yma heb y corff arfaethedig, ‘Cymwysterau Cymru’?

O ran rhyw ddiawlineb [= drygioni direidus], mi edrychais y wefan y cyfeirir ni ati.  Mewn llai na hanner eiliad roedd ‘adborth’ ac ‘asesiad’ wedi fy nharo yn fy nhalcen.  Yn fuan wedyn daeth ‘achredu’, ‘sgiliau hanfodol’, a’r camddefnydd anfad [= drwg, erchyll] o’r gair ‘addysgu’ (‘addysgu pwnc’).  Digon! Diffodd!

Difrifoli [=sobri, troi'n ddifrifol] yn awr.  Pa werth sydd, pa angen fu erioed, pa gyfiawnhad all fod o gwbl, i swyddi di-fudd [= da i ddim], diystyr, dialw-amdanynt, di-bwynt, diwerth a di-ddim fel y rhain, a digon o rai tebyg iddynt mewn cwangoau diffaith [= da i ddim] a dienaid [= difeddwl] ar hyd a lled y wlad?   Pa fath bobl sy’n debyg o ymgeisio amdanynt, a’u cael?  Neu a’i roi fel arall, pa gymelliad a all yrru unrhyw un yn ei iawn bwyll i feddwl fod unrhyw werth mewn llenwi swyddi fel y rhain? Ni allaf feddwl ond am yr hen gymhelliad hwnnw a grynhowyd mor gofiadwy gan Dwm o’r Nant – ‘Pob teiladaeth [= edification] rhag tylodi’.

Arwydd o salwch cymdeithasol a diwylliannol dwfn yw ein bod yn goddef [= dioddef]  y math o nonsens y mae’r hysbyseb hon yn ei gynrychioli a’r math o gyrff sy’n ei bedlera [= peddle].  Mewn byd call a chyfiawn byddid yn creu diweithdra ar raddfa fawr ym myd y cwangoau a chyflogi’r cyn-swyddogion ar ryw waith buddiol ac angenrheidiol megis sgubo’r stryd.  A oes unrhyw ymgeisydd mewn unrhyw blaid yn yr etholiad hwn am addo hynny?   Tra rydym yn mwydro a phaldaruo am ‘gymwysterau’ a ‘sgiliau’ a ‘safonau’ mae’r wlad yn mynd yn dwpach dwpach.

Hoffech chi enghraifft fach o hynny?  Awdurdod Addysg Gwynedd, ie ar ganmlwyddiant a hanner sefydlu’r Wladfa, am roi ysgol newydd 3-19 oed yn y Bala dan reolaeth yr Eglwys Anglicanaidd !  Dyma inni griw o gynghorwyr a swyddogion heb wybod DIM am hanes diweddar Cymru !

Beth well na dyfynnu’r hen Dwm o’r Nant eto?

Gwagedd o wagedd, a llygredd sy’n llym,
Y byd a’i holl dreigliad yn dŵad i’r dim.

Gwagedd = vanity

Twm o'r Nant - bardd o Sir Ddinbych (1739-1810)

Rhiwbob

Rhiwbob
Diolch unwaith yn rhagor i Ar Asgwrn y Graig

Dwi'n falch bod hwnna drosodd! Ar y 6ed o Awst y llynedd bu criw o gwmni teledu Fflic acw, yn ffilmio darn ar gyfer Cegin Bryn.

Ar ôl wyth mis o boeni a hel meddyliau, cafodd y bennod am riwbob ei darlledu wsos d'wytha.
Chwarae teg, trwy ddefnyddio llwyth o close-ups a gwaith camera'n symud yn gyflym o lun i lun, fe lwyddon nhw i wneud i'r ardd a'r rhandir edrych yn well ac yn llawnach nag oedden nhw!

Mi fuodd Bryn y Cogydd; a'r criw ffilmio: Rhodri, Lois a'r dyn camera/sain (#teimlo'n-euog-am-anghofio'r-enw) acw o ddeg y bore tan wedi chwech y nos! Ond er bod y gwaith yn ailadroddus a'r diwrnod yn hir, roedden nhw'n griw hwyliog a difyr. Doedd dim byd yn fawreddog nac ymffrostgar am seren y gyfres; roedd o'n gwmpeini difyr, ac yn ddigon caredig i ganmol y frechdan bacwn gafodd o yma i ginio!

Roedd y saws rhiwbob wnaeth o ar y rhandir i fynd efo selsig yn flasus iawn. Ac mae'r gin rhiwbob yn neis iawn hefyd, diolch yn fawr.

Doedd hi ddim yn hir cyn i'r tynnu coes ddechrau ar y stryd yn Stiniog 'ma. Er i mi beidio deud wrth neb bron, am y ffilmio, mae'n amhosib gwneud dim mewn cymuned gyfeillgar fel hon, heb i bawb wybod amdano! Ac wrth gwrs, efo S4C yn ail-ddangos pob peth, a'r rhaglen ar y we am gyfnod, does yna ddim dianc!

Roedd o'n brofiad difyr, oedd; ond dwi'n rhy swil i wneud hynna'n rhy aml!

 Ryseitiau - ond nid ryseitiau Bryn mohonynt!

Saws Rhiwbob

1/2 pwys rhiwbob wedi ei dorri'n fân
1 /4 peint seidr
ychydig o sudd lemwn
ychydig o nutmeg wedi ei falu
2 llond llwy fwrdd siwgr brown

Rhowch y cynhwysion uchod mewn sosban a'i mudferwi am tua ugain munud - gweiniwch y pysgod gyda'r saws drosto.

Pwdin hyfryd a syml iawn yw Syllabub Rhiwbob. Dyna fydd arnoch angen:

1/2 pwys o rhiwbob wedi ei ferwi nes iddo dorri lawr yn dda
1/4 peint o hufen wedi ei chwipio
1/4 peint cwstard (rwy'n defnyddio tin parod er mwyn hwylustod)
un twb bychan o iogwrt plaen neu iogwrt mêl
2 llond llwy fwrdd o siwgr ychydig o 'stem ginger'

Ar ôl i'r rhiwbob ferwi ychwanegwch y siwgr iddo a'i adael i oeri. Rhowch yr hufen mewn bowlen ac ychwanegwch y cwstard a'r iogwrt iddo, wedyn yr ychydig sinsr wedi ei falu'n fân. Mae'n edrych yn ddeniadol os gweinir mewn gwydrau gwin, gan ddechrau gyda rhiwbob wedyn yr hufen. Addurnwch gyda darn o lemwn neu siocled wedi ei falu.

Aderyn du a’i blufyn sidan



(Diolch i ‘Wilias’ sy’n sgwennu blog o’r enw Ar Asgwrn y Graig)

Fe ddaeth y gwanwyn i Stiniog o’r diwedd, a dwi wedi gorfod gwario eto! Ar ôl clirio’r pys a’r ffa a ballu [= ac ati] ar ddiwedd yr haf llynedd, mi rois y cansenni i hongian mewn dau fwndel  o dan do’r cwt coed-tân. Mi es i  i’w nôl nhw ddydd Gwener, a dyma be ffeindis i. Nyth mwyalchen [= aderyn du]!

Damia: dyna ddiwedd ar y cansenni yna am eleni  felly. Dwi angen codi fframiau i’r pys a’r ffa rŵan... felly roedd yn rhaid prynu mwy.

Tra oeddwn i wrthi yn paratoi gwelyau’r ardd gefn, bu’r iâr yn gori [=eistedd ar wyau] a gwylio’n ofalus bob tro oeddwn yn mynd heibio, neu’n piciad [=picio – ‘pop’] i’r cwt i ystyn [=estyn] rhywbeth. Daeth oddi ar y nyth ddwywaith/dair - i chwilio am fwyd am wn i, ond yn amlwg doedd ganddi ddim llawer o ofn. Yn ystod un o’i theithiau hela ges i dynnu’r llun; ac o ddefnyddio drych, gweld fod pedwar o wyau prydferth yng ngwaelod cwpan perffaith y nyth.  Pris bach iawn i’w dalu ydi methu cael defnyddio’r cansenni mewn gwirionedd; mae’n fraint gwybod fod yr ardd yma yn ddeniadol i adar. Mae nyth titw tomos las a llwyd y gwrych [=hedge sparrow] yma hefyd.

Mi glywais i’r gog ar yr un diwrnod; wythnos yn hwyrach na’r arfer. A damia eilwaith, doedd gen’ i ddim newid mân yn fy mhoced, er mwyn cadw at draddodiad/ofergoel deuluol y daw lwc am y flwyddyn i ddod. Ta waeth, roedd gen’ i ddiwrnod o wyliau ac roedd hynny’n ddigon o lwc i mi!
Roeddwn i wedi esgeuluso’r ardd gefn ers cael y rhandir, felly roedd yn hen bryd imi chwynnu a pharatoi a hau rhywbeth yno.

Dyma’r marchrawn [=rhedyn – horse-tail] ddaeth allan o un gwely, ac mi fydd yn rhaid imi frwydro efo fo trwy’r haf rŵan.

Mae’r brocoli’n dod i’w ddiwedd erbyn hyn, ond dwi wedi gadael tri phlanhigyn yn y gwely uchaf am rŵan, efo’r bresych deiliog a dwy genhinen sydd eto i’w codi. Roedd digon o le i roi rhes fer o bys yn y gwely ucha’. Yn y rhandir dwi’n bwriadu rhoi’r prif gnydau pys a ffa eleni, ond mae’n werth hau ychydig adra, er mwyn i’r plant (a finna’) gael ‘dwyn’ a mwynhau pys yn syth o’r pod. Un o bleserau mawr bywyd.

Tatws sydd yn y gwely canol eleni, heblaw’r rhesiad o ddail suran (sorrel) a garlleg. Mae’r rhandir dal yn rhy wlyb o lawer i’w plannu yno fel oeddwn wedi bwriadu. Dwi wedi llenwi bylchau efo hadau bresych deiliog du (cavalo nero): tydi trefn a thaclusrwydd ddim hanner mor bwysig a chael cymaint â phosib o fwyd allan o bob gwely!

Yn y gwely isaf, mae dwy res o oca (perthynas i’n blodyn suran [=sorrel] y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron [cloronen = tuber] blasus medden’ nhw), moron cwta, betys gwyn, sibols a nionod Cymreig, efo radish piws a radish coch wedi’u gwasgu i mewn fel cnwd cyflym, gyda lwc. Dwi hefyd yn rhoi cynnig eto ar dyfu ffenel. Mi lwyddais i gael bylbiau trwchus o ffenel ar y cynnig cyntaf, bum mynedd yn ôl. Bob blwyddyn ers hynny mae nhw wedi methu tewychu o gwbl, ac yn rhedeg i had yn rhy fuan. Lwc mul oedd y cynnig gynta efallai. Dyfal donc a dyrr y garreg, ond beryg y byddai’n llyncu mul os na chaf fylbiau da eleni.

Roedd yna lond dwrn o datws gwyllt yn tyfu’n braf yn y gwely yma, o’r rhai a fethais wrth gynaeafu y llynedd.  Mae’r gwybodusion a’r snobs yn dweud na ddylid tyfu dim os nad o had glân a phur, ond dwi am fentro i’r diawl, ac wedi eu trawsblannu i sachau tatws sydd wedi bod yn hel llwch tan rŵan.
Yn y tŷ gwydr, mae’r pys a’r ffa melyn bron yn barod i’w plannu allan, felly dwi’n eu rhoi nhw allan bob dydd i’w caledu. Dwi wedi hau brocoli piws a courgettes mewn hen gwpanau papur, i’w trosglwyddo i’r rhandir nes ymlaen, ac wedi hau hadau dail salad, berwr [=cress] tir, claytonia, a hefyd blodau haul.

Mae wedi bod yn rhy oer i’r hadau pwmpen egino, felly mae pedwar pot bach newydd ar sil ffenest y gegin ar hyn o bryd, gan obeithio am well hwyl arni. Tydi’r Pobydd heb ddweud y drefn hyd yma, ond maen nhw’n edrych yn well na bocsys wyau efo tatws ynddyn nhw mae’n siŵr!

Diwrnod cynhyrchiol felly, ac yn sicr yn well na diwrnod yn y gwaith. Mynd yn rhy gyflym wnaeth o braidd, ond roedd un pleser bach ar ôl. Wrth i’r Pobydd a finna’ wylio’r teledu tua unarddeg y nos, clywais sŵn crafu cyfarwydd wrth y drws cefn. Sŵn y mae, fel y gog, croeso iddo bob gwanwyn. Roedd y draenog yn ôl. Da was, da a ffyddlon. Mae’r fwyalchen a’i thylwyth [tylwyth = teulu a pherthnasau] yn bwyta malwod, ydyn, ond mae’r diawled digywilydd hefyd yn bwyta ceirios, cyrins duon, a mafon os nad wyf wedi rhoi rhwyd ar bopeth digon buan! Hyd yma, dwi ddim yn meddwl fod y draenog yn cystadlu efo fi am unrhyw fwyd, ac mi gaiff wledda faint fynnai ar falwod a slygs. Mae lle i bopeth o fyd natur yma, ond bod gwell croeso i ambell beth fel y draenog! Pwy ddywedodd fod angen troi  newid mân mewn poced i gael ychydig o lwc?