Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 20 May 2018

Y briodas

Dyma BBC Cymru Fyw'n dathlu'r briodas frenhinol, ac yma adrodd cryno Golwg360. Nid pawb oedd mor awyddus i ddathlu'r diwrnod mawr, a bu tipyn o ffrae yn Aberystwyth.

Y briodas mewn rhifau:

20 trympedwr                       £90,000
Y gacen                                £50,000
Y ffrog                                 £300,000
Blodau                                  £100,000
Gwasanaethau diogelwch    £30 miliwn

Beth yw'ch barn chi?

Wednesday 16 May 2018

Byw mewn bocsys

Sobin a'r Smaeliaid - Bryn Fôn yn canu am ddigartrefedd.


Dw i'n 'i gofio fo'n iawn yn yr ysgol efo fi,
Fo 'sa'r dwytha siwr iawn - codi pac
a rhedag i ffwrdd lawr i Lunda'n fawr
a rhedag i ffwrdd o ddiflastod Tal'sarn.
Gadal Cymru a bant am y ddinas sydd well,
Gadal teulu a mets i gael action a hefyd y pres,
Lawr yn Llunda'n fawr cei hefyd y pres -
'mond cal rhwla i fyw, siwr Dduw!
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn)
Do's na ddim troi yn ol,
Ma na g'wilydd go iawn dan y bont yn Whitehall
Bocs mawr sgwar a hen flanced fler,
Nol yn Nhalysarn mae mae mam yn ei bedd
'mond oherwydd ei mab -
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
Byw mewn bocsus
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)
(Ma nhw'n byw mewn bocsus)

Sunday 13 May 2018

Lot o bethe....

Cwis BBC Cymru Fyw am enwau torfol.



Adfer gardd â thŷ pîn-afal

BBC Cymru Fyw sy'n adrodd yma.

Mae gardd gaerog hanesyddol yn Sir Benfro yn cael ei hadfer gyda'r gobaith o ailsefydlu gardd lysiau.
Cychwynnodd gwaith yn 2013 i ailgodi muriau ac adeiladau'r hen ardd ym Maenordy Scolton, plasty Fictoraidd rhwng Hwlffordd ac Abergwaun sy'n cael ei reoli gan Gyngor Sir Penfro.
Mae 'na apêl am wirfoddolwyr i helpu'r arbenigwr gerddi caerog, Simon Richards gyda'r gwaith o ail-blannu ardal erw o hyd ar y safle ger Spittal.
Y gobaith yw y bydd modd tyfu pîn-afalau yno maes o law mewn hen dŷ gwydr neilltuol ar eu cyfer - nodwedd prin mewn unrhyw ardd.
Mae gan yr adeilad ffenestri mawr sy'n wynebu'r de ac mae'n rhannol dan ddaear er mwyn cael mwy o wres.

'Cryn dipyn o waith'

"Yn y 1800au, roedd bri ar dyfu pîn-afalau o fewn y byd garddio oherwydd roedd yn cymryd 18 mis iddyn nhw ddwyn ffrwyth," meddai Mr Richards, "ac roedd angen tymheredd cyson o tua 18 gradd, cyn bodolaeth boeleri ffansi.
"Mae 'na le tân bychan gyda chyrn simnai lle mae aer cynnes yn cylchdroi o gan y pîn-afalau.
"Roedd gwrtaith ffres yn llenwi'r bylchau o amgylch potiau terracotta, ac yna roeddech chi'n ei gladdu dan haen o asglodion derwen i gynnal y gwres, felly roedd angen cryn dipyn o waith i gynhyrchu pîn-afalau."
Dywedodd Mr Richards y byddai'r maenordy wedi cyflogi tîm o bedwar neu bump o bobl i ofalu am yr ardd gaerog yn y gorffennol.
"Pwrpas gerddi caerog oedd cynhyrchu bwyd a blodau ar gyfer cartref â nifer fawr o bobl, yn cynnwys gweision.
"Roedd y muriau'n ddigon uchel i gadw'r gwyntoedd mwyaf garw draw, ac i dyfu pethau yn eu herbyn, felly roedden nhw'n aml yn 10, 11, 12 troedfedd o uchder."
Roedd gerddi caerog hefyd yn cadw anifeiliaid fel ceirw a chwningod draw.
Mae'r garddwyr eisoes wedi plannu 60 math o goed afal traddodiadol, ond mi gymrith flynyddoedd i'w trin cyn eu bod yn barod i ddwyn ffrwyth.
Mewn rhan arall o'r ardd, mae Mr Richards yn bwriadu creu labrinth gan blannu 10,000 o flodau haul.
Mae wedi trefnu ffair blanhigion gerddi caerog yno ddydd Sul, lle bydd arbenigwyr yn cynnig cyngor, a'r gobaith yw hybu diddordeb yn y safle ac i ddenu gwirfoddolwyr i helpu gyda'r gwaith adfer.

Mae Abertawe angen "gwyrth" tra bod Caerdydd yn dathlu

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori yma.
Bydd Abertawe'n disgyn i'r Bencampwriaeth oni bai bod gwyrth ar y diwrnod olaf yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.
Mae hynny wedi i Huddersfield sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn Chelsea nos Fercher, gan olygu nad yw'r Elyrch yn gallu gorffen yn uwch na nhw yn y tabl bellach.
I osgoi disgyn o'r gynghrair, byddai'n rhaid i Abertawe drechu Stoke, gobeithio bod Southampton yn colli yn erbyn Manchester City, a bod 10 gôl o wahaniaeth rhwng y ddau dîm.
Er enghraifft, byddai'n rhaid i Abertawe drechu Stoke 5-0 a gobeithio bod Southampton yn colli 5-0 yn erbyn Manchester City.
Cafodd y Cymry eu trechu gan Southampton nos Fawrth.
Mae Stoke, sydd ar waelod y tabl, eisoes yn sicr o ddisgyn i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf, ond dyw Abertawe heb ennill yr un o'u wyth gêm ddiwethaf.
__________
Bydd tîm pêl-droed Caerdydd yn cynnal dathliad yng nghanol y ddinas ddydd Sul i ddathlu eu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe fydd y tîm yn teithio ar fws heb do o Stadiwm Dinas Caerdydd at y castell, ble fydd y rheolwr Neil Warnock a rhai o'r chwaraewyr yn annerch cefnogwyr.
Bydd y daith yn dechrau yn eu stadiwm am 15:00 cyn teithio trwy ardal Treganna tuag at ganol y ddinas, gan orffen o flaen y castell.
Roedd pwynt wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Reading ddydd Sul yn ddigon i sicrhau bod yr Adar Gleision yn gorffen y tymor yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth, ac felly'n cael dyrchafiad otomatig.
Mae arbenigwr busnes wedi darogan y gallai dyrchafiad Caerdydd arwain at hwb gwerth o leiaf £75m i'r economi leol.
Bydd y daith yn dechrau ar yr un pryd â gêm dyngedfennol Abertawe yn erbyn Stoke, wrth i elynion Caerdydd geisio aros yn yr Uwch Gynghrair.


Sunday 6 May 2018

Ap Cwtsh - ap myfyrio newydd

Wedi llwyddiant apiau lleddfu straen megis Headspace a Calm, lansiodd Menter Iaith Abertawe ap lles cwbl Gymraeg newydd ar Ebrill 27, 2018.

Wrth i gymdeithas roi mwy a mwy o sylw i ymwybyddiaeth o les ac iechyd meddwl, mae apiau sy’n cynnig technegau a negeseuon i leddfu’r straen wedi dod yn gynyddol boblogaidd.

Wedi’i gyllido gan Grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, mae’r ap o’r enw ‘Cwtsh’ yn arwain defnyddwyr drwy dair sesiwn myfyrio (bore, yn ystod y dydd a chyda’r hwyr) yn Gymraeg.

Bydd Cwtsh hefyd yn cynnwys cyfeiriadur cenedlaethol ar gyfer sesiynau myfyrdod a dosbarthiadau ioga yn yr iaith Gymraeg o’r enw’r Llyfr Lles.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan. Cewch chi lawrlwytho'r ap yn rhad ac am ddim.
Dyma adolygiad Simon Chandler: 
Mae yn gampwaith. Fe yw fy hoff ap myfyrio erioed mewn unrhyw iaith er gwaethaf y ffaith taw Saesneg yw fy mamiaith. Mae popeth o’r ansawdd uchaf: lleisiau cysurus, testunau clyfar ac effeithiol dros ben a graffeg ragorol. Yn syml, ni ellid ei wella. Llongyfarchiadau!!!



Anrhydeddau Gorsedd Eisteddfod 2018

Ceir stori lawn BBC Cymry Fyw yma.

Fe fydd dros 40 o unigolion yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd yn 2018.
Wrth gyhoeddi'r rhestr fore Iau, dywedodd yr Orsedd ei fod "yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".
Ymhlith y rhai fydd yn cael eu hurddo ym Mae Caerdydd ym mis Awst mae'r canwr Geraint Jarman, Llywydd y Cynulliad Elin Jones a'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Jamie Roberts.

Yn ôl y drefn, mae'r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd - Y Wisg Las am eu gwasanaeth i'r genedl.
Mae'r Orsedd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r Celfyddydau.
Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i'r Wisg Wen.
Ymhlith eraill fydd yn cael eu hurddo eleni mae'r Barnwr Eleri Rees, y sylwebydd gwleidyddol Vaughan Roderick, ac un hanner o un o ddeuawdau comedi enwocaf Cymru, Mici Plwm neu Plwmsan.
Dyma rhai o'r enwau o'r gorllewin a'r canolbarth:
Manon EamesMae Manon Eames, Abertawe, a ddaw'n wreiddiol o Fangor, yn adnabyddus fel dramodydd, sgriptwraig ac actores. Mae ei gwaith sgriptio'n cynnwys cyfieithu Shirley Valentine, ysgrifennu'r ffilm Eldra, a enillodd nifer o wobrau yng Nghymru a thramor, y gyfres deledu epig, Treflan, a nifer o addasiadau ar gyfer y llwyfan. Mae'n parhau i storïo ac ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm a Gwaith Cartref, ac mae newydd gyhoeddi'i nofel gyntaf, Porth y Byddar.
Huw Edwards: Yn wreiddiol o Langennech, mae Huw Edwards, Llundain yn newyddiadurwr a chyflwynydd teledu amlwg. Mae'n gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen pwysig sy'n ymwneud â hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glyndŵr a Chymru'r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y 19eg ganrif ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae'n parhau i gefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar ôl ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi. Mae hefyd yn brif gyflwynydd rhaglen News at Ten i'r BBC ac yn rheolaidd yn llywio'r darlledu o nifer o ddigwyddiadau mawr.
Margarette Hughes: Mae Margarette Hughes, Hendy-gwyn ar Daf wedi gwneud cyfraniad diflino at hybu iaith a diwylliant Cymru yn ei hardal a thu hwnt ers dros 40 mlynedd. Bu'n gweithio'n ddiwyd dros addysg feithrin yn lleol, a phan ddaeth yr Eisteddfod i'r ardal yn 1974 trefnodd bod meithrinfa ar y Maes, gan weithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Ar ôl gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Cymraeg i oedolion, dechreuodd fel tiwtor Cymraeg gyda'r nos, ac mae'n parhau i gynnal tri dosbarth yn wythnosol yn yr ardal hyd heddiw. Bu Merched y Wawr yn rhan annatod o'i bywyd am flynyddoedd, a bu'n Llywydd Cenedlaethol y mudiad rhwng 1988 a 1990.
Rhys Owen Thomas: Er iddo weithio ym mhob rhan o'r byd, mae Dr Rhys Thomas, New Inn, Llandeilo wedi dychwelyd i fro ei febyd, lle mae'n gwneud cyfraniad enfawr yn ei gymuned. Ar ôl graddio mewn Meddygaeth, ymunodd â Chatrawd y Parasiwt a bu'n gweithio yn Sierra Leone, Irac ac Afghanistan cyn dychwelyd i Gymru. Defnyddiodd y sgiliau a ddysgodd ar faes y gad i ddatblygu'r system gofal argyfwng cyn-ysbyty mwyaf datblygedig yn y byd ar y cyd gyda'i gydweithiwr Dr Dindi Gill. Erbyn hyn, mae'n gweithio fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Ifan Gruffydd: Fel un o ddiddanwyr enwocaf Cymru, mae Ifan Gruffydd, Tregaron yn adnabyddus drwy Gymru gyfan am ei waith ar gyfresi fel Ma' Ifan 'Ma!, Noson Lawen a Nyth Cacwn, ynghyd â'i waith ar raglenni radio fel Dros Ben Llestri. Mae hefyd wedi ysgrifennu deg drama fer ynghyd â dwy gyfrol, gyda un arall ar y gweill. Yn ogystal â'i waith cyhoeddus, mae hefyd wedi gwasanaethu bro ei febyd, yn dawel, wirfoddol, heb chwennych unrhyw glod ar hyd y blynyddoedd.
Cynfael Lake: Mae Cynfael Lake, Aberaeron yn un o brif ysgolheigion llenyddiaeth Gymraeg, gan weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Abertawe. Cyhoeddodd lu o astudiaethau pwysig ym maes y Cywyddwyr, ac fe gyfrannodd yn sylweddol i'r golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn arbenigwr ar faes llenyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif, ac ym myd y faled a'r anterliwt. Bu'n gweithredu'n wirfoddol fel Ysgrifennydd Adran Diwylliant y 18fed a'r 19eg Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gan drefnu cynhadledd flynyddol yn y maes.
Ned Thomas: Mae cyfraniad Ned Thomas, Aberystwyth i fywyd cenedlaethol a rhyngwladol Cymru yn unigryw, hirhoedlog a sylweddol. Fe'i cydnabyddir fel un o brif ddeallusion Cymru a'r Gymraeg ac yn un sydd bob amser yn barod i dorchi llewys ac i weithredu'n ymarferol. Yn amlieithog, mae Ned yn rhugl ei Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Rwsieg, ac mae ei waith gyda chyfryngau ieithoedd llai yn Ewrop a thu hwnt yn hynod bwysig. Bu'n gweithredu am flynyddoedd ar fyrddau cenedlaethol Cymreig, bob amser yn barod i wthio'r ffiniau a rhannu'i arbenigedd.
Elin Jones: Mae Elin Jones, Aberaeron yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru er Mai 2016. Mae wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn fwy atebol i bobl Cymru a bod urddas a pharch yn perthyn i weithdrefnau a thrafodaethau'r Cynulliad. Bu'n cynrychioli Ceredigion yn y Cynulliad er 1999, pan agorwyd y sefydliad, ac heb unrhyw amheuaeth, mae'r fraint o gynrychioli'r ardal honno wedi bod yn flaenoriaeth iddi ers dechrau ei gyrfa fel AC. Hyd yn hyn, mae wedi rhoi dros 25 mlynedd o wasanaeth i'w bro, ac mae ei chyfraniad ar draws Ceredigion a Chymru gyfan yn un nodedig.
Ond nid pawb sy'n derbyn yr anrhydedd, yn ôl Garmon Ceiro:





Geirfa tecstiliau

Byddwn yn ymweld â Melfed, siop Carys Hedd yn Aberteifi. "Gwledd a gwisg gwyllt" yw disgrifiad y busnes, a bydd rhai ohonoch chi wedi mynychu ei gweithdai ailwampio dillad.

Dyma restr o eiriau defnyddiol:

Addurn               Adornment/Decoration
Appliqúe            Appliqúe
Brodwaith          Embroidery
Cwiltio               Quilting
Delwedd             Image
Edafedd              Yarn
Edau                   Thread
Ffabrig                Fabric
Ffasneri               Fasteners
Gleiniau              Beads
Gwead                Texture
Gwnio                 Sewing
Nodwydd             Needle
Patrwm                Pattern
Peiriant  Gwnio   Sewing Machine
Pinnau                 Pins
Pwythau              Stitches
Rhuban                Ribbon
Sêm                     Seam
Siswrn                  Scissors

Diolch i Ysgol Penweddig am ei Llyfryn Termau

Hfyd, mae rhywun wedi creu set o gardiau Quizlet i ymarfer geirfa tecstiliau.

 

Pêl-droed a'r Gymraeg

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru am gynyddu'r defnydd o Gymraeg ar y cae. Stori yma.

Atal dŵr o hen fwyngloddiau rhag llygru afonydd Cymru

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori galonogol yma.

Geirfa

llygru - pollute
llaid - sludge, mud
hidlo - filter, strain, sieve
glofa - mine
mwynglawdd - mine
cyfuniad - combination