Sgript
Dewisodd yr
artist Marc Rees ddeuddeg gwrthrych o Amgueddfa Sirol Caerfyrddin i gynrychioli
deuddeg thema prosiect theatrig Tir Sir Gar.
Dyma hanes
un o’r gwrthrychau hyn.
Daw’r llwy
yn wreiddiol o fferm Bremenda Uchaf ger Llanarthne. Mae’n debyg mae dyn o’r enw
William Thomos a’i cherfiodd yn 1830. Ynghyd a phatrymau pert yn aml iawn fe
welir symbolau penodol ar lwyau caru traddodiadol. Ymysg rhain mae’r gadwyn sydd yn
cynrychioli’r awydd i fod ynghyd am byth. Y diamont sydd yn cynrychioli cyfoeth
a’r allwedd neu dwll y clo - y ddau ohonynt yn cyfleu’r neges “mae fy nghartref i
yn gartref i tithau hefyd”.
Weithiau
ceir symbol aderyn sydd yn medru cynrychioli nifer o bethau. Adar serch: neges
o ‘gad inni ymadael gyda’n gilydd’, neu’r storc sydd yn symboleiddio
genedigaeth newydd.
Un o’r
symbolau mwyaf amlwg ar lwyau caru yw, wrth gwrs, y galon, yn denodi cariad.
Lle’r gwelir un galon neu rai, ar y llwy hon fel welwn ni bedair galon ar siap
olwyn. Mae’r olwyn hefyd yn symbol, a hynny am gynnal rhywun yr ydych yn eu
caru. Uwchben ac oddi tan yr olwyn fel welwn siapau atalnod. Mae’r rhain yn
cynrychioli’r enaid ac yn cyfleu neges o hoffter neu serch ddwfn at dderbyniwr
y rhodd.
Gallwn
olrhain y grefft o wneud llwyau caru, un o’r traddodiadau enwocaf Cymru, yn ol i’r
ail ganrif ar bymtheg.
Mae’r llwy
garu gynharaf sydd gennym wedi’i dyddio yn ol i 1667. Er fod hanes wir yn tybio
bod llywau yn cael eu creu cyn hyn hefyd. Roedd y grefft yn un dda am ddangos
dychymyg y crefftwr, ac fe fyddai’n defnyddio darnau o goed lleol i greu ei
roddion.
Erbyn hyn
mae llwyau caru neu lwyau serch yn cael eu creu mewn modd mwy masnachol ar
gyfer y farchnad dwristiaid, a hynny o goed estron.
Rhoddwyd y
llwy hon i’r amgueddfa yn 1939, ac mae hi’n un o set o lwyau o’r ardal
Caerfyrddin gyda gwahaniaethau main iawn ymhob un.
No comments:
Post a Comment