Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 1 March 2015

Gwynt

Darn arall gan Bethan Williams. Diolch Bethan!

Mae'n od shwd mae gwynt rhywbeth yn gallu mynd a chi nôl i ryw gyfnod.
Digwydd cerdded heibio garej 'nes i, fy meddwl ar ble bynnag oeddwn i'n mynd. Nes gwynto'r olew.

Dyna fi, nôl yn garej Dat, ac am ryw reswm at ddiwedd gwyliau Haf pan oeddwn i byti wyth neu naw ac Arwyn, fy mrawd, rhyw ddeg oed. Y ddau ohonon ni yn busnesan lan yn y rhan fach o'r garej uwchben yr offis* ble oedd posibl gweld lawr i weddill y garej. Doedd e ddim lot mwy na tho yr 'offis'. Ta beth, fe ffeindion ni hen seatblets ac am weddill yr wythnos roedden nhw'n ryw ddryllau gofodaidd [= space guns] oedd yn gallu cael eu clymu rownd ysgwyddau, i chwythu dihirod bant ac achub y byd.

Pwy benderfynodd taw dyna beth oedden nhw alla i ddim cofio, fwy nag alla i gofio beth ddigwyddodd iddyn nhw wedyn. Mae'n debyg y byddai sawl peth wnaethon ni ddod ar eu traws yn y garej wedi cael bywyd newydd am gyfnod byr.

Yn y cefn, tu fas, roedd rhannau o hen geir, byddai ambell i sgerbwd weddol gyflawn yn mynd a dod, yn rhwd i gyd neu wedi cael damwain, yn galw ar ei ffordd i'r sgrap. Am flynyddoedd roedd Skoda gwyrdd golau - alla i ddim cofio amser pan nad oedd y Skoda 'na (ac roedd y garej 'da Dat cyn fy ngeni i) - o dan ffenest isel, pob math o bethau yn hanner ei gwato fel bod dim posbl mynd ato fe'n iawn.

Ac addewid Dat mai hwnnw fyddai'n nghar cyntaf i.

Diflanodd y Skoda yn sydyn, a finnau'n dal heb gyrraedd yn agos at oedran meddwl gyrru. Ces i siom, ac roedd y cefn yn edrych yn ddieithr am sbel ar ôl 'nny. Nes i ryw sgrap arall ddod i gymeryd ei le.

Wnaeth dim byd arall aros mor hir â'r Skoda, a wnaeth neb addewid i gadw unrhyw beth arall i fi am sbel! Mae blynyddoedd ers i Dat adael y garej. Fydden i byth wedi dweud fod arogl i'r garej, na meddwl dim bod arogl i olew hyd yn oed - nes pasio'r garej pwy ddiwrnod. Roedd e mor gyfarwydd.

A ches i fy atgoffa o ofyrols. Rhai nefi, plaen - roedd sawl pâr 'da Dat, yn union yr un peth. Bydden nhw'n dod adref i gael eu golchi, ond fel arall yn y garej fydden nhw wastad - am Dat, neu yn hongian yn barod ar gyfer 'fory. Ond roedd yr un arogl iddyn nhw hefyd. A finnau heb sylweddoli mai arogl olew oedd iddyn nhw.

*Offis Dat oedd desg a dwy gadair, cabinet ffeilio gyda braidd dim byd yn ei lenwi a...wel, 'na fe. Rhywle i gadw papurach oedd yr offis. Yr unig brydiau i fi ei weld Dat mewn 'na oedd pan fyddai e'n dod mewn i weld beth oedd 'mlaen 'da fi os oeddwn i digwydd bod mewn yna'n darllen.