Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday, 20 June 2018

Ble mae fy DNA?

https://twitter.com/BBCRadioCymru/status/1008744726890237952

Gruffudd Owen a Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd y rhaglen ei recordio ym mhencadlys Heddlu Dyfed Powys. Eurig Salisbury yw bardd preswyl Dyfed Powys ar hyn o bryd, ac mae teulu mawr gyda Ffred Ffransis.

Friday, 15 June 2018

Hoff dywysogion?

Mae Golwg360 wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau a chyfweliadau am hoff dywysogion beirdd a llenorion Cymru.

Dyma Rhiannon Ifans yn sôn am Branwen ferch Llŷr, tra bod Eurig Salisbury yn trafod Madog Maredudd.

Branwen ferch Llŷr


Mae modd “dysgu llawer iawn” o straeon pobol mewn llenyddiaeth, yn ôl arbenigwraig ar chwedlau a llên gwerin.

Dywed Rhiannon Ifans hyn wrth nodi mai Branwen ferch Llŷr o ail gainc y Mabinogi yw ei hoff dywysoges yn hanes Cymru.

Ond er nad cymeriad o gig a gwaed yw Branwen, meddai, mae’n ychwanegu bod yn well ganddi fynd “am stori dda, yn hytrach nag am hanes”.

“Dw i’n hoffi’r stori yn hytrach na’r hanes, achos mewn gwirionedd cymeriad chwedlonol oedd hi, felly wnaeth hi ddim byd yn hanesyddol,” meddai Rhiannon Ifans wrth golwg360.

“Stori ydy hi, ond rydan ni’n gallu dysgu llawer iawn o straeon pobol mewn llenyddiaeth, ac efallai defnyddio ychydig bach ohonyn nhw yn ein hamgylchiada ni heddiw.”

“annibynnol ei barn”

Er mai gweithredu’n “dawal” y mae Branwen trwy gydol y chwedl, dywed Rhiannon Ifans ymhellach ei bod yn edmygu’r dywysoges oherwydd mai “dynes annibynnol ei barn” yw hi.

“Mae[‘r chwedl] yn dysgu i ni fod Branwen ei hun yn ddynes annibynnol ei barn,” meddai. “Mae’n ddynes ddeallus tu hwnt. Mae’n llawer mwy deallus na’i gŵr [Matholwch].

“Mae hi’n ufudd ac yn hardd ac yn gallu gwneud popeth. Mae’n gallu trin pobol, mae’n gallu bod yn lladmerydd [interpreter], ac mae’n gallu gwneud yr holl bethau yma, ond wrth gwrs mae’n eu gwneud nhw’n dawal, yndê.

“Mae ganddi hi ei chynllun ei hun ar gyfer ei hun, ac mae’n medru rhyddhau ei hun o’i chaethiwed…”

Chwedl Branwen ferch Llŷr

Dyma glip sain o Rhiannon Ifans yn adrodd hanes Branwen ac yn sôn ymhellach am nodweddion ei chymeriad…(linc).

Eurig Salisbury: Madog Maredudd

Mae bardd o Geredigion yn dweud ei bod yn “bosib iawn” ei fod yn ddisgynnydd i un o dywysogion enwocaf yr hen Bowys, Madog ap Maredudd.
Yn ôl Eurig Salisbury, mae nifer o drigolion Dyffryn Ceiriog yng nghanol Powys, sef bro mebyd ei fam, yn gallu olrhain ei hachau i dywysogion Powys.
Mae’n dweud felly fod y cysylltiad teuluol posib wedi dylanwadu ar ei ddewis o Madog ap Maredudd fel ei “hoff dywysog yn hanes Cymru”.
Mae’n ychwanegu hefyd fod y tywysog o’r 12G yn “dipyn o foi”, gyda Phowys ar ei “mwyaf grymus” yn ystod ei deyrnasiad ef.
“Mi roedd ei dir o a’i rym o yn ymestyn yr holl ffordd o gyrion Caer yn y gogledd i lawr i Bumlumon yn y de, ac mi roedd o hefyd yn cynnwys rhannau helaeth o’r hyn cael ei alw’n Lloegr, yn cynnwys tre’ Croesoswallt,” meddai.



4.7 Awr y Dydd

Dyma glip o raglen Siân Cothi. Yn anffodus, does dim sôn am bwy yw'r awdur ar wefan Radio Cymru.


Gallwn fod wedi dysgu iaith.
Llythyru â ffrind newydd a fyddai’n ehangu fy ngorwelion.
Bonjour Marie-Isabelle, comment allez-vous?
Mynd ar fy ngwyliau i bentref gwledig.
Archebu baguette o’r boulangerie heb ymgynghori â llyfr.
Chwerthin gyda’r brodorion
a chanmol eu cŵn â hyder yn eu hiaith.
Ond yn lle hynny derbyniais geisiadau ffrind
gan bobl y gwyddwn na fyddwn yn eu cydnabod yn y stryd
a dilyn ambell gynnen gyhoeddus, gryptig
I really wish people would just say things to my face
a Some people really need to grow up.
Gallwn fod wedi tynnu’r beic o’r sied.
Dilyn fy nhrwyn a theimlo’r gwynt yn fy ngwallt.
Arogli’r tymhorau.
Colli sawl stôn.
Magu cyhyrau
a buddsoddi mewn leicra.
Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
Gallwn fod wedi darllen nofelau
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno â chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno’r ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Gallwn fod wedi dysgu i chwarae offeryn.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Gallwn fod wedi trawsnewid y tŷ cyfan.
Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Ond y broblem yw
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.
 M.
Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
Gallwn fod wedi darllen nofelau
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno â chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno’r ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Gallwn fod wedi dysgu i chwarae offeryn.
Gallwn fod wedi dysgu iaith.
Llythyru â ffrind newydd a fyddai’n ehangu fy ngorwelion.
Bonjour Marie-Isabelle, comment allez-vous?
Mynd ar fy ngwyliau i bentref gwledig.
Archebu baguette o’r boulangerie heb ymgynghori â llyfr.
Chwerthin gyda’r brodorion
a chanmol eu cŵn â hyder yn eu hiaith.
Ond yn lle hynny derbyniais geisiadau ffrind
gan bobl y gwyddwn na fyddwn yn eu cydnabod yn y stryd
a dilyn ambell gynnen gyhoeddus, gryptig
I really wish people would just say things to my face
a Some people really need to grow up.
Gallwn fod wedi tynnu’r beic o’r sied.
Dilyn fy nhrwyn a theimlo’r gwynt yn fy ngwallt.
Arogli’r tymhorau.
Colli sawl stôn.
Magu cyhyrau
a buddsoddi mewn leicra.
Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun,
diodydd diddorol
a smwddis hunangyfiawn.
O ie, ac edrych ar fapiau Strava
pobl sydd wedi beicio neu redeg
yn bellach na cherdda i fyth.
Gallwn fod wedi darllen nofelau
Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos.
Ymuno â chlwb llyfrau,
cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl,
wyneb yn wyneb.
Amsugno’r ymateb
a darllen y llyfrau eto.
Pam lai!
Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd
gadewais sylwadau diddychymyg
a rhannais farn rhywun arall.
Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws.
Gallwn fod wedi dysgu i chwarae offeryn.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Gallwn fod wedi trawsnewid y tŷ cyfan.
Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Ond y broblem yw
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.
Y delyn efallai?
Na, rhy rhwydd.
Y delyn deires.
Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed
a rhyddhau CD erbyn y Nadolig.
Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis,
cath yn gwisgo sbectol haul
a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus.
Gallwn fod wedi trawsnewid y tŷ cyfan.
Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus,
Annie Sloan-io hen ddodrefn
a chreu clustogau i fatsio’r llenni.
Neu o leia hongian y llun
a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl.
Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind
yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd.
A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen
yn cael ei haddurno fel cactws.
Ond y broblem yw
gwn fel ffaith
pe bawn yn dod
yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig
y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny
a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch
dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.

Wednesday, 13 June 2018

Y Carmarthen Journal yn symud i Abertawe

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/521804-swyddfar-carmarthen-journal-nghaerfyrddin

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44440008

Dyfodol newydd disglair i Ogledd Corea?

https://golwg360.cymru/newyddion/rhyngwladol/521915-gobeithio-ddyfodol-newydd-disglair-ogledd-korea

Y troad allan - cofio etholiad 1868

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal ddydd Sul i nodi canrif a hanner ers etholiad cyffredinol hanesyddol 1868, a'i ddylanwad pellgyrhaeddol ar gymuned yn ne Ceredigion.
Yn 1876, cafodd cynulleidfa capel Undodaidd Llwynrhydowen a'u gweinidog William Thomas (Gwilym Marles) eu troi allan o'u capel gan eu tirfeddiannwr.
Roedd hynny'n ganlyniad i raddau helaeth i ymgyrchu rhyddfrydol Gwilym Marles, a gododd wrychyn John Lloyd o Alltyrodyn.
I ddial am hynny, pan ddaeth les y capel i ben, gafodd y gynulleidfa eu cloi allan o'r capel gan y tirfeddiannwr, a bu'n rhaid i'r addolwyr chwilio am gartref newydd.
Cafodd y gwasanaeth yng nghapel Undodaidd Pen-rhiw yn Sain Ffagan ei drefnu er mwyn nodi trobwynt pwysig etholiad 1868 yn y cyd-destun hanesyddol hwnnw.

'Newid hanes'

"Fe newidiodd etholiad cyffredinol 1868 hanes Cymru," medd un o'r trefnwyr, y newyddiadurwr a'r darlledwr Dylan Iorwerth.
"Cafodd ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth gwledydd Prydain, ac ar unigolion a chymdeithas yn ne Ceredigion.
"Mae rhai yn dweud mai dyma'r etholiad ddechreuodd ar y cyfnod gwleidyddol modern.
"Ar y pryd, doedd yna ddim pleidlais gudd, ac am y tro cynta', fe wnaeth rhyddfrydwyr cyffredin guro'r landlordiaid Torïaidd mewn pleidlais agored.
"O ganlyniad, buodd 'na erlid ar denantiaid ac ar gynulleidfa capel Llwynrhydowen."

Roedd y yng Nghapel Pen-rhiw yn "gyfuniad o wasanaeth traddodiadol a chyflwyniad", lle roedd gofyn i'r gynulleidfa "ddychmygu eu bod nhw nôl yn Llwynrhydowen" yn ystod y cyfnod dan sylw.
"Collodd 43 o deuluoedd eu ffermydd yng Ngheredigion yn y cyfnod hwn, a 26 yn Sir Gar," meddai Mr Iorwerth.

Cyflwyno pleidlais gudd

Ychwanegodd fod digwyddiadau fel y Troad Allan wedi dylanwadu ar yr hyn ddigwyddodd nesaf: "Y canlyniad ar lefel Brydeinig oedd bod ymchwiliad wedi bod yn y senedd, ac mi wnaeth y digwyddiadau arwain at gyflwyno'r bleidlais gudd.
"Mae'n ofnadwy o bwysig i atgoffa pobl o'r straeon 'ma, a sut mae pobl wledig yn Nyffryn Cletwr a Dyffryn Teifi wedi cyfrannu at newid pellgyrhaeddol ym myd gwleidyddol Prydain."
Gobaith y trefnwyr yw cynnal rhagor o ddigwyddiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn agosach at adeg etholiad 1868 tuag at ddiwedd y flwyddyn.


Friday, 8 June 2018

Merch o'r ffatri wlân

Cân gan Meic Stevens


Dim ond merch o’r ffatri wlân,
Wrth ei gwaith bob dydd,
Heb sylwi dim ar y byd mawr oddi allan.
Roedd ei gwallt mor ddu a thlws,
Fel ryw freuddwyd rhyfedd yn fy nghwsg,
Ond mae’n gwneud gwaith dyn bob dydd am ei chyflog.

Rhwng y gwreiddiau dwfn a’r brwyn,
Dan y gamlas fach sy’n rhuthro’i swyn,
Mor araf mae’r olwyn hen, yn troi’r peiriannau;
 Ac mae’r dyn yn tanio’r tân,
Lle mae Jac ar bois yn golchi’r gwlân
Ond mae’r gwŷr yn dal i wau ar y glannau.

Dim ond merch o’r ffatri wlan,
Wrth ei gwaith bob dydd,
Hi sy’n creu o’r edau frethyn lliwiog.
Ac mae’r oriau’n hir a llawn,
Ac mae’r oriau’n ddail sy’n cwympo lawr….
…ar y dwr sy’n crwydro draw drwy’r bore niwlog.

Dim ond merch o’r ffatri wlan,
Wrth ei gwaith bob dydd,
Heb sylwi dim ar y byd mawr oddi allan.
Roedd ei gwallt mor ddu a thlws,
Fel ryw freuddwyd rhyfedd yn fy nghwsg,
Ond mae’n gwneud gwaith dyn bob dydd am ei chyflog.