Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 25 November 2018

Sut wyt ti bach?

Siôn Jobbins: Help, fi'n chwilio am gyfarchiad i roi ar ddiwedd brawddeg fel "bach" neu "cariad".
* "boi" yn iawn, ond nid i bawb. Mae * "bach" yn swnio'n nawddoglyd a * * "cariad" yn doji i ddyn ddweud wrth, wel, unrhyw un heblaw ei gariad neu blant.
Unrhyw awgryms?
Dyma rai o'r atebion: "Overthinking Jobbins", meddai Gaynor Jones. SJ: Mae'n wahanol os ti'n ddyn! Chi fenywod ddim yn gwybod ei hanner hi! Ddim am ddweud rhywbeth sy'n gwneud i chi swnio fel pryfyn. Gwenith Owen: "Sa i'n meddwl fod 'bach' yn nawddoglyd. Gwyn Vaughan Jones: "Was.. yng ngwas i..frawd.. gyfaill.. met...rhen ffrind..??" Siôn Lewis: "Neu ‘blodyn’ os ti ddim yn cofio ei henw..." Ac wedyn, "cyw", "ychan" - "(ond mae hwn fel "bach" tydi?) (bychan)" DaiLingual: Blodyn tatws? Pwdin reis? Pwdin Jam? Mab annwyl dy fam? Dyna’r fath o beth dwi’n dueddol o ddweud gyda’r plant...

Ddim yn sicr be ydy’r ateb, ond dwi’n gallu dyfalu be bydde’r ateb petai ti’n byw yn Cofiland ac nid yn Aber...

Ifan a'r cŵn

Stori anhygoel bachgen oedd yn byw gyda deuddeg o gŵn ym Mosgo a chysylltiad annisgwyl rhyngddo fe a Chymru.

Rhaglen Aled Hughes:

https://www.bbc.co.uk/programmes/p06sdxyv

Y stori a'r sgript ar BBC Cymru Fyw:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/46289196

Y fideo:

https://www.youtube.com/watch?v=WF__gzIPTHs

Sunday 11 November 2018

Vaughan Roderick: Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf

"A gwaedd y bechgyn lond y gwynt"
Dyma Vaughan Roderick yn trafod arwyddocâd y Rhyfel Byd Cyntaf i'r Gymru Gymraeg.
Diolch i BBC Cymru Fyw.
______________________________
Ddydd Sul mewn trefi a phentrefi ledled Cymru fe fydd pobol yn ymgasglu i gofio'r rheiny wnaeth farw ar gadfeysydd yn Ewrop a thu hwnt.
Yn fwyaf arbennig byddwn yn cofio'r rheiny wnaeth farw yn y Rhyfel Mawr ar ganmlwyddiant diwedd y gyflafan honno.
Yn yr Almaen ar y llaw arall does 'na ddim un digwyddiad mawr cenedlaethol wedi ei drefnu i nodi'r achlysur. Mae 'na arddangosfa a chyngerdd yn cael eu cynnal yn ogystal â datganiad seneddol. Dyna'r cyfan.
Pam felly?
Mae'n rhy hawdd i ddod i'r casgliad mai'r ffaith bod yr Almaen wedi colli'r rhyfel sy'n gyfrifol am y gwahaniaeth. Mae'n ddyfnach na hynny.
I Almaenwyr y bues i'n siarad â nhw ar ymweliad diweddar mae rhyfel 1914-1918 yn teimlo fel hen hanes - fel mae rhyfeloedd y Crimea a'r Boeriaid, dyweder, yn teimlo i ni.
Digwyddiad hanesyddol yw'r rhyfel mawr yn eu tyb nhw - rhagair gwaedlyd i'r erchyllterau oedd eto i ddod, erchyllterau sy'n cael eu cofio a'u coffáu mewn modd byw iawn.
Mae'n gwestiwn mwy diddorol efallai i ofyn: pam y mae rhyfel does neb byw yn ei chofio yn beth mor fyw i ni ym Mhrydain?
Mae rhan o hynny yn deillio mae'n siŵr o'r ffaith bod cymaint o'r eiconograffi sy'n cael ei defnyddio i goffáu pob rhyfel yn deillio o'r Rhyfel Mawr. Dyna i chi'r pabi, fel enghraifft a'r ffaith mae ar y Sul agosaf i'r cadoediad y cynhelir seremonïau coffau.
Efallai bod cynnyrch llenyddol y rhyfel, yn Gymraeg a Saesneg, hefyd wedi bod yn fodd i gadw'r cof yn fyw.
Ond i Gymry Cymraeg mae 'na rywbeth arall hefyd.
Roedd y ffactorau wnaeth arwain at ddinistr cadarnleoedd Cymraeg y dwyrain, llefydd fel Treorci, Dowlais a Rhymni yn y de neu Ffynnongroyw a Rhos yn y gogledd yn bodoli cyn y Rhyfel ond doedden nhw ddim yn amlwg iawn.
Roedd 'na oddeutu miliwn o siaradwyr Cymraeg wedi'r cyfan a'r gred oedd y byddai "iaith yn fyw tra i ni'n ei siarad hi" gan anwybyddu'r ffaith bod angen ei dysgu i'ch plant hefyd.
Rhywsut, mae'r Rhyfel Mawr yn teimlo fel yr eiliad y dechreuodd y gwareiddiad anghydffurfiol Cymraeg gwympo'n ddarnau. Yn wir mae'n ddigon posib bod agwedd y Capeli tuag at y gyflafan wedi cyfrannu at ei dranc.
Os am brawf o hynny ystyriwch deitlau'r ddwy gyfrol yng nghyfres Hanes Cymdeithasol y Gymraeg sy'n delio â'r cyfnodau cyn ac ar ôl y rhyfel. Iaith Carreg fy Aelwyd yw'r gyntaf. Eu hiaith a gadwant? yw'r ail. Sylwer ar y marc cwestiwn.
Efallai felly yn 2018 ein bod ni'n cofio nid yn unig y rhwyg o golli'r hogiau ond hefyd y rhwyg o golli Cymru.

Sul y Cofio: Ifor ap Glyn yn nodi canmlwyddiant y cadoediad

https://twitter.com/BBCCymruFyw/status/1061521781536755713

Mae 'gwahanol' yn beth da

Diolch i Golwg360 am adrodd neges rymus Arwel Gruffydd wrth iddo annerch yr Ŵyl Cerdd Dant ym Mlaenau Ffestiniog.
__________________

Mae llywydd yr Wyl Cerdd Dant wedi croesawu pobol Cymru gyfan i’r digwyddiad yn Ysgol y Moelwyn heno… gan eu holi yn gellweirus, “Be cadwodd chi?”
Dyma’r tro cyntaf i’r wyl ymweld â thref Blaenau Ffestiniog ers ei sefydlu ganol y 1940au, ac roedd Arwel Gruffydd yn rhyfeddu at hynny.
Yn ei araith rymus o dawel, fe gyfeiriodd yr actor a’r cerddor sydd bellach yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, at yr angen i amddiffyn pob un o’r celfyddydau er mwyn, yn y pen draw, gadw’r iaith Gymraeg.
“Dw i’n falch iawn o fy ardal,” meddai Arwel Gruffydd, “a dw i’n falch iawn o’r traddodiad cerddorol yma. Cerddoriaeth werin, cerddoriaeth boblogaidd, a cherdd dant.
“Ond yn fwy na hynny, rydan ni hefyd yn gallu ymfalchïo yn rhai o gewri’r iaith, fel y diweddar Athro Gwyn Thomas, un o feirdd gorau erioed yr iaith, a’r Dr Meredydd Evans…
“Ges i fy hyfforddi gan Gwenllian Dwyryd,” meddai Arwel Gruffydd wedyn, “ac o fynd i’w chartref am wersi, roedd ei hantîcs yn ogystal â ‘rhywbeth’ arall yn gwneud i mi deimlo ei bod hi’n arbennig.
“Tydi pobol fel y rhai dw i wedi’u henwi ddim yn glanio yma o nunlle… maen nhw’n rhan o draddodiad a llinach o berthyn, ac mae hynny’n bwysig.”
Iaith heb ddiwylliant yn dda i ddim
Mae’n bwysicach nag erioed, mewn cyfnod o dlodi economaidd ac o ansicrwydd gwleidyddol, fod y celfyddydau ar gael i bawb, meddai Arwel Gruffydd.
“Dim ond yr wythnos ddiwetha, roedd gweinidog yn llywodraeth Prydain Fawr yn dweud y dylai’r celfyddydau fod ar gael ar brescripsiwn…
“Eto, mae llai o gyfleoedd i blant a phobol ifanc ddysgu chwarae offerynnau, ac mae llai o fyfyrwyr yn dewis cyrsiau cerddoriaeth… dw i’n gwybod mai nid penderfyniadau ysgolion nac athrawon ydi hynny…
“Mi ddaw yna amser eto pan fydd hi’n bwysig i ninnau afael yn ein diwylliant, achos does yna ddim pwrpas cadw iaith fel rhywbeth mewn amgueddfa, heb fedru gwneud dim byd efo hi.”
Mae ‘gwahanol’ yn beth da
Mewn byd sy’n ceisio annog pawb i ymddwyn a bod yn debyg i’w gilydd, mae Arwel Gruffydd yn dweud bod angen dathlu yr hyn sy’n wahanol mewn byd unffurf.
“Mae bod yr un fath, a chymhathu, yn bethau sy’n cael eu hannog,” meddai, “ond mae yna bethau y dylen ni fod yn falch ohonyn nhw.
“Mae ganddon ni ein traddodiad a’n hanes, sydd ddim yn well na neb arall yn y byd, ond sy’n bwysig i’w cadw.
“Nid rhywbeth i’w switshio on ac off ydi traddodiad.”