Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 20 April 2020

"Mae" gan Mererid Hopwood

 
Mae dail y coed
Mae border bach
Mae murmur yn yr awel
Mae un friallen fach ar lawr
Mae cân am Benrhyn Tawel
Mae parabl plant
Mae munud fach
Mae llun y gallwn glywed
Mae ifanc ffôl, mae Elen fwyn
Mae aros, ac mae myned
Mae dau gi bach
Mae tiwn Sam Tân
Mae môr â phadell ffrio
Mae Mistar Duw, mae gwely gwag
Mae…’O na bawn i yno’
Mae ger y drws y blodau tlws
Mae eiddil heb eiddilwch
Mae pishyn, pishyn, Fenws fain
A thacsi i Gwm Tawelwch
Mae dawns y glaw,
Mae’r nos yn hir
Mae’r cloc yn tipio’n araf
Mae pen y lôn
Mae cael yn ôl
Ac wedi awr dywyllaf
Dros gymoedd cul a moelni maith
Dros greigiau pen y mynydd
Drwy niwl y wawr
Mae haul ar fryn.
Daw dydd,
Daw bore newydd.
A thrwy’r holl ymynysu hwn
Mae calon Cymru’n curo
Mae ei phobl, fel y tir dan draed
Drwy’r saib yn ailegino.
Ac os o hyd mae llinell bell diderfyn
Gwn fod darfod
Mae dyddiau blin yn dod i ben
Mae amser gwell yn dyfod