Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 4 June 2013

Tafodiaith y Wês Wês mewn cyfrol newydd


Mae Gwasg y Lolfa newydd gyhoeddi geiriadur ysgafn o eiriau tafodieithol Sir Benfro.

Gyda'r geiriau wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor ceir enghreifftiau o bob gair mewn brawddeg a hynny yn iaith Sir Benfro a'r iaith Gymraeg safonol, yn ogystal â'r cyfieithiad Saesneg. Felly mae'r gyfrol o gystal ddefnydd i frodor o'r sir ag ydyw i unrhyw Gymro a dysgwr o bob cwr o Gymru.

“Wrth lunio'r casgliad hwn roedd dau nod gen i mewn golwg, sef cyflwyno'r iaith leol i bwy bynnag sydd â diddordeb mewn tafodieithoedd,” eglura'r awdur Wyn Owens. “Ac yn ail, ceisio agor peth o'r drws i'r dysgwyr, fel y caent hwythau flas ar geisio siarad iaith naturiol, bob dydd y rhan hon o'r wlad.

“Mae llawer o gyfoeth geirfaol wedi mynd i ddifancoll mae'n sicr, ond mae'r casgliad hwn yn rhoi ar gof a chadw'r dafodiaith fel y'i clywais ac y'i clywaf hi yn cael ei siarad.”

Mae'r gyfrol yn cynnwys cyflwyniad gan Lyn Lewis Dafis ac ambell lun cartwn gan Huw Aaron. Meddai Lyn Lewis Dafis, “Nid yn unig y mae Wyn wedi dal rhai o rythmau'r iaith yn wych, ond y mae hefyd wedi rhoi blas inni o'r gymdeithas a'r filltir sgwâr a wnaeth gynnal yr iaith ar hyd y blynyddoedd.

“Nid casgliad yn edrych yn ôl yn unig yw hwn. Mae Wyn yn ddigon realistig i weld fod yr iaith yn newid ac yn addasu, ac nid yw'n ymatal rhag cofnodi rhai o'r newidiadau diweddaraf hyn hefyd.”

Mae Wyn Owens yn artist ac yn fardd cyhoeddedig, sy'n cystadlu'n rheolaidd ar Dalwrn y Beirdd
 
Gellir prynu’r llyfr yma ac yn eich siop lyfrau leol am £9.95.

No comments:

Post a Comment