Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 28 January 2019

Shwmae gan Catrin Dafydd

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/amp/46912075?__twitter_impression=true

O ble daeth enwau'n capeli?


BBC Cymru Fyw sy'n esbonio.

Rhwystredigaeth Sorod gan Morgan Owen

Cerdd am Merthyr.

Sorod = gwehilion, sothach, gwaelodion
diffeithwch - anialwch, difrodiad,
brennig - limpet(s)
mwgwd - mask
celanedd - slaughter
carnedd - pentwr, tomen
stragl o ddefaid ffo - straggling escaped sheep
dulwydni - du+llwyd - black greyness
llercio - oedi, loetran
camre - (yma) footsteps
breuo - fall apart, crumble
gwadn - sole of foot
erthyl - abortion, miscarriage
di-fwydod - wormless


Sai'n priodi dim un boi 'eighty-six', ond brioda i ti nawr yn 85 os ti mo'yn...

Llongyfarchiadau mawr i Winne a Dai.


Wednesday 23 January 2019

Shwmae gan Catrin Dafydd

https://www.youtube.com/watch?v=uRPi634gcRM

Gwerthu Emporiwm Talybont

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/537875-trueni-cymdeithas-gwerthu-emporiwm-bont

Gwylio Adar yn yr Ardd

Mae RSPB Cymru wedi lansio pecyn Cymraeg i gyd-fynd â'i arolwg blynyddol, Gwylio Adar yn yr Ardd.

Dyma linc i'r pecyn.

Sut mae gwylio adar yn yr ardd?

1.Dewiswch awr yn ystod y dyddiau rhwng 26 a 28 Ionawr. Gwyliwch yr adar yn eich gardd neu’ch parc lleol am awr.
2.Ewch ati i gyfrif yr adar sy’n glanio yn eich gardd neu’r parc, heb    gynnwys y rheini sy’n hedfan uwchben.
3.Efallai y bydd yr un adar yn glanio fwy nag unwaith. I osgoi cyfri’r    rheini ddwywaith, cofnodwch y nifer mwyaf o bob rhywogaeth o    aderyn rydych chi’n ei weld ar yr un pryd – nid y cyfanswm rydych    chi’n ei gyfrif yn ystod yr awr.
4.Dywedwch wrthym ni beth welsoch chi –  hyd yn oed os welsoch chi ddim byd! Cyflwynwch eich canlyniadau yn rspb.org.uk/birdwatch

Ifor ap Glyn: Y Gadair Wag

Sioe farddoniaeth amlgyfrwng sy’n edrych ar hanes Hedd Wyn o’r newydd, gan archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth.
Yn dilyn taith hynod lwyddiannus yn 2017, mae Y Gadair Wag yn dychwelyd i theatrau a neuaddau ledled Cymru fis Chwefror a Mawrth eleni.
Yn 2017 roedd hi’n 100 mlynedd union ers Trydedd Brwydr Ypres (Passchendaele), lle bu farw miloedd o filwyr ac yr anafwyd oddeutu 3,000 o’r 38ain Adran (Gymreig).
Un o’r rhai a laddwyd yn y frwydr honno oedd Hedd Wyn, y bardd o Feirionnydd a fu farw cyn clywed ei fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Gorchuddiwyd cadair wag yr Eisteddfod â chynfas ddu a chofir Hedd Wyn hyd heddiw, yn Fflandrys fel yng Nghymru, fel symbol grymus o’r tywallt gwaed a’r gwastraff a fu.
Mae Y Gadair Wag, a grëwyd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru ac a gyfarwyddwyd gan Ian Rowlands gyda chelf ddigidol gan Jason Lye-Phillips, yn archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth. Mae’n defnyddio ffilm a thechnegau arbrofol i edrych ar hanes Bardd y Gadair Ddu o’r newydd.
“Gwledd i’r llygad a’r glust!” Lowri Roberts (Athro)
Comisiynwyd y sioe fel rhan o brosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss a gyflwynwyd gan Llenyddiaeth Cymru yn 2017. Ariannwyd y prosiect gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Teithiodd y sioe i bum lleoliad yng Nghymru a dau yn Iwerddon yn ystod Medi 2017.
Noddir taith 2019 gan Yr Ysgwrn, Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i gyflwynir mewn partneriaeth â Chanolfan S4C Yr Egin.

DYDDIADAU’R DAITH:
  • 13 Chwefror, 7.30 pm, Yr Egin, Caerfyrddin
  • 14 Chwefror, 10.30 am a 7.30 pm, Yr Egin, Caerfyrddin
  • 15 Chwefror, 10.30 am**, Yr Egin, Caerfyrddin
    Tocynnau: helo@yregin.cymru / 01267 611600
  • 18 Chwefror, 1.00 pm**, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe
    Tocynnau: 01792 602060 / www.taliesinartscentre.co.uk
  • 19 Chwefror, 7.00 pm**, Canolfan yr Urdd, Bae Caerdydd
  • 20 Chwefror, 10.30 am a 7.00 pm, Canolfan yr Urdd, Bae Caerdydd
    Tocynnau: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266
  • 21 Chwefror, 7.30 pm, Canolfan Garth Olwg, Pontypridd
    Tocynnau: 01443 570075 / www.garth-olwg.cymru / llcreception@garth-olwg.cymru
  • 13 Mawrth, 1.00 pm a 7.30 pm, Galeri, Caernarfon
    Tocynnau: 01286 685222 / www.galericaernarfon.com
  • 14 Mawrth, 10.30 am a 12.30 pm, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
  • 15 Mawrth, 12.30 pm a 7.00 pm**, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
    Tocynnau: yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru / 01766 772508
** Sioe amlieithog

Sunday 6 January 2019

Huw Marshall: "Cwestiynau sydd angen eu gofyn am agwedd y BBC at y Gymraeg"

Diolch i Golwg360 am yr adroddiad yma:

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/536686-cwestiynau-sydd-angen-gofyn-agwedd-gymraeg

Mae yna “gwestiynau sydd angen eu gofyn” o hyd am agwedd y BBC at y Gymraeg, yn ôl ymgynghorydd digidol a sefydlodd ddeiseb yn 2017 yn galw am ‘adolygiad annibynnol i sut mae’r BBC yn portreadu’r Gymraeg’.
Cafodd y ddeiseb ei sefydlu ar-lein yn dilyn rhifyn o’r rhaglen Newsnight, lle bu panel yn trafod a ydi’r Gymraeg yn “help neu’n hindrans” i’r genedl.
Ym mis Medi 2017 mi anfonodd Huw Marshall y ddeiseb – gyda thros 8,000 o lofnodion arni – at y BBC; y rheoleiddiwr, Ofcom; ac Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) San Steffan.
Bellach mae wedi derbyn ymatebion i’w geisiadau, ond dyw e ddim yn “hapus”.
Problem
“Wnes i ofyn i’r BBC i holi eu hunain ‘Oes yna broblem mewn agwedd tuag at yr iaith Gymraeg yn sefydliadol o fewn y BBC?’,” meddai Huw Marshall wrth golwg360.
“Wrth gwrs mi wnaeth y BBC ateb yn dweud ‘Na, does yna ddim’. Wnaethon nhw ddim cynnig tystiolaeth o sut yr oedden nhw wedi profi hynny… a ddoe (dydd Mercher, Ionawr 2) mi wnaeth Ofcom ymateb i’r gŵyn wreiddiol am raglen Newsnight yn dweud nad oedd yr eitem yn torri unrhyw reolau.
“Problem fi efo hynny oedd [eu honiad bod yr eitem] yn ddiduedd – bod dau berson o’r ddwy ochr wedi siarad.”
Y ddau gyfrannwr at yr eitem oedd yr awdur, Julian Ruck, – “troll proffesiynol”, ym marn Huw Marshall – a Ruth Dawson, golygydd sydd methu siarad Cymraeg.
Jeremy Vine
Mae Huw Marshall yn bwriadu dal ati i bwyso ar y BBC am atebion, ac mae wedi gofyn am gofnodion y cyfarfod lle cafodd eu hymateb ato ei lunio – gan gymryd y bu yna gyfarfod.
Bydd e hefyd yn gyrru ei ohebiaeth â’r BBC, Ofcom, a DCMS at Bethan Sayed, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a’r Iaith Gymraeg; a gofyn iddi edrych i mewn i’r mater.
Yn dilyn ffrae iaith ddiweddar yn gysylltiedig â’r cyflwynydd radio BBC, Jeremy Vine, mae’n pwysleisio bod cwestiynau i’w holi o hyd.
“Nid gyda Ofcom a’r BBC yn unig, mae’r broblem,” meddai.
“Mae’r agwedd Brydeinig yma. Os does dim problem fewnol, mi fyddai ymchwiliad yn darganfod hynny. Ond nes bod nhw’n gwneud hynny does dim ffordd o ddarganfod.
“Mae’n amserol bod y busnes Jeremy Vine yma wedi dod fyny. Mae’n grêt bod Jeremy Vine wedi ymateb yn y ffordd mae o wedi, ond beth yw’r prosesau sy’n arwain i’r pethau yma ddigwydd tro ar ôl tro?”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC ac i Ofcom am ymateb.


Y pum cwsmer mwya' annoying

Ydych chi wedi gweithio mewn caffi neu siop erioed? Oedd rhai o'ch cwsmeriaid yn dân ar eich croen?

Guto Wynne sy'n ymhelaethu (rhybudd: iaith gref):

https://twitter.com/hanshs4c/status/1072899215687385089

Beth yw tarddiad enwau'r misoedd?

https://twitter.com/BBCCymruFyw/status/1081576078995570689

"Ymddeoliad" Ffred Ffransis

Mae Ffred a Meinir wedi penderfynu ildio'r awenau a pasio eu busnes crefftau ymlaen yn raddol at eu mab Hedd Gwynfor a Sioned Elin.

Dyma adroddiad BBC Cymru Fyw a rhan o fideo Newyddion9:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/46739706


https://twitter.com/cadwyncyf/status/1081302395789950982