Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 17 August 2013

Yr ig


I drin rhywun â'r ig (= hicyps): cymer win a rhudd a phupur, a chymysga hwynt ynghyd â chwrw, a dyro iddo i'w hyfed! Meddygon Myddfai, 1375

Thursday 15 August 2013

Priodas ceiliog ac iâr

EinCymraeg@EinCymraeg
 
Cywelyfu (o cywely) a geir yng Nhyfraith Hywel Dda am gyd-fyw heb briodi; priodas ceiliog ac iâr yn sir Benfro, byw tali yn y Gog. Rhagor?

Buzz Boncath@BuzzBoncath
@EinCymraeg byw dros y brwsh, o'r hen draddodiad Sir Benfro lle oedd cwpl yn neidio dros un gyda'u gilydd cyn byw gyda'u gilydd cyn priodi.

Geraint Jones@geraintojones Ydi "byw ar ben brwsh" yn golygu yr un peth? Pen Llŷn efallai.

Sunday 11 August 2013

Hwnco manco, dacw, dyma....

EinCymraeg
Defnyddiol yw'r geiriau bach dyma, dyna (o "gwêl di yma/yna"), ac erstalwm, llyma, llyna (< syll yma/yna): tebyg i'r Ffr. voilà (< vois là).

Gareth Glyn
"Dacw" sy'n air bach da hefyd! Dim byd union gyfatebol yn Saesneg nac ychwaith (dwi'n meddwl) yn Ffr., Eid. ayyb.

EinCymraeg
Hefyd llacw (o "syll acw") erstalwm! A cheir lyco / lychgo yn y de-orllewin yn ôl GPC (o gwêl / gwelwch acw).

Geraint Lovgreen 
Neu "nene ene" yn Rhos [Rhosllanerchrugog]

Gareth Glyn ‏ 
 A "hwnco-manco" yn y De am "hwnna draw fanna".

Saturday 10 August 2013

Pethe da

EinCymraeg@EinCymraeg

Da-da (bons-bons), fferins/fferan (fairings), losin (o lozenge), melysion, pethau da/melys, swîts(en), minciag (o mintcake), jou - rhagor?

1.  Kate@Cadijos 
 Cyflath?-rhyw fath o daffi os wy'n cofio'n iawn.

2.  EinCymraeg@EinCymraeg
Ie, a cyflath i finnau, yn enwedig y taffi roedd y teulu'n ei wneud adeg Dolig. Piti mod i ddim yn cofio'r rysáit!

3.  Meleri Thomas@MeleriT 
Tyffish oedd air fy hen fodryb amdanyn nhw #cwmtawe

4.  graham hughes@grahamhughes20 
"Losin" ym Mhort Talbot yn y 1930au. Roedd cymeriad enwog cartwn papur newydd o'r enw Dai Losin.

5.  Dr. Bethan Jenkins@dyddgu 
Losin i mi (rhieni o'r Cymoedd) Wedi drysu'n lân wrth symud i Rydypennau a darllen fferins mewn llyfr Sion a Sian!

6.  Robin Huw Roberts@robinhuw 
 "candis" yn ardal Caergybi

7.  Andy Enchilada@andyenchilada 
 Losin yn Sir Gâr.

Sgwrs Fawr Radio Cymru – “negeseuon clir” meddai Golygydd newydd

Mae yna negeseuon clir wedi dod allan o  Sgwrs Fawr Radio Cymru yr wythnos hon, yn ôl Golygydd newydd yr orsaf.

Yn siarad ar raglen Taro’r Post ar Faes yr Eisteddfod y prynhawn yma, dywedodd Betsan Powys hefyd bod ganddi benderfyniadau anodd i’w gwneud ac na fydd y rheiny’n plesio pawb.

Yn ôl y newyddiadurwraig a ddechreuodd ar ei gwaith y mis diwetha’, fe fydd hi’n cyhoeddi “cyfeiriad clir” o ran ei gweledigaeth ar gyfer Radio Cymru erbyn mis Hydref.

Fe fydd yna elfennau o ganlyniadau’r Sgwrs Fawr yn cael ei chyhoeddi bryd hynny, ond nid y cyfan gan eu bod rhai ohonynt yn “gymhleth”, meddai wedyn.

Mynegodd hefyd ei syniad o gael rhaglen a fyddai’n cael ei chwarae yn ystod cyfnod y mae plant yn mynd adref ar ddiwedd diwrnod ysgol.

“Mae yna ryw bwynt yn y dydd lle r’yn ni angen apelio at y gynulleidfa iau,” meddai Betsan Powys. “Mi fyswn i wrth fy modd yn cael rhaglen sy’n apelio at blant ar y ffordd o’r ysgol yn y prynhawn.”

[Diolch i Golwg360]