Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 21 October 2013

Undodiaeth

Athrawiaeth Gristnogol Brotestannaidd yw Undodiaeth neu Sosiniaeth: gelwir y rhai sy'n ei harddel yn Undodiaid. Ceir sawl enwad neu eglwys Undodaidd, yn bennaf yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau, ond roedd llawer o'r Undodiaid cynnar heb berthyn i enwad Undodaidd ond yn hytrach yn arddel y ddysgeidiaeth, neu rannau ohoni. Gelwir Undodiaeth yn Sosiniaeth weithiau am fod y diwinydd Sosin (Socinus, 1525-1562) wedi gosod sylfeini Undodiaeth.

[athrawiaeth - doctrine, teaching - hefyd, dysgeidiaeth]
[arddel - yma: profess]
[enwad - denomination]
[diwinydd - theologian]

Nid yw'r Undodiaid yn credu yn y Drindod sanctaidd sef y Tad, Y Mab a'r Ysbryd Glân (athrawiaeth a geir yn Ariaeth hefyd). Yn hytrach credant mai dyn da oedd Iesu Grist, gan wrthod credu yn ei dduwdod. Credant yn ogystal nad oes pechod gwreiddiol ac mae rheswm dyn yn unig sydd i esbonio'r Beibl.
Credoau ynghylch Crist newid o amser John Biddle, at amser Joseph Priestley.

[Ariaeth - Arianism]
[duwdod - divinity]
[credo - creed, belief]

 

Cymru

Yng Nghymru, roedd yr Undodiaid yn gryf yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Llandysul yn ardal Dyffryn Teifi yng Ngheredigion ac o ganlyniad fe alwyd yr ardal yn 'Sbotyn Du'. Er bychaned eu nifer, cawsant ddylanwad sylweddol ar wleidyddiaeth a diwylliant y wlad ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif.
Mae Christadelphianiaid heddiw dal i ddilyn syniadau o Socinus ynglyn â Christ.

[Er bychaned eu nifer - although small in number]

Undodiaid Enwog

  •   EVANS , THOMAS (‘ Tomos Glyn Cothi ’; 1764 - 1833 ), gweinidog Undodaidd ; g. yn Capel Sant Silyn , Gwernogle , sir Gaerfyrddin , 20 Mehefin 1764 . Ychydig o fanteision addysg a gafodd ym more oes [in early life]; bu'n was fferm am dymor byr, ac yna dilyn ei alwedigaeth fel gwehydd [weaver] . Arferai fynychu ffeiriau Morgannwg i werthu brethyn , a daeth i gyfathrach [intercourse] â beirdd Morgannwg . Yr oedd yng Ngorsedd Mynydd y Garth , Alban Hefin, 1797 . Newynai [newynu - hunger, starve] am wybodaeth er yn ieuanc, ac fe'i diwylliodd [yma educated] ei hun i fod yn llenor a bardd . Derbyniai roddion o lyfrau Saesneg oddi wrth Theophilus Lindsey yn 1792-6 . Cofleidiodd [embraced]  Undodiaeth mewn ardal lle yr oedd Calfiniaeth yn ei bri. Dechreuodd bregethu ar aelwyd ei hen gartref yn 1786 . Cymaint oedd ei sêl [zeal] dros athrawiaethau Dr. Priestley fel y llysenwid ef yn ‘ Priestley bach .’ Symudodd yn 1811 i ofalu am yr Hen Dŷ Cwrdd , Aberdâr . Yr oedd yn werinwr [gweriniaethwr? republican] a diwygiwr [reformer] eirias [white hot]. Cydymdeimlai â'r chwyldro yn Ffrainc , a hyn, yn ddiau [undoubtedly], a'i dug [led him into] i wrthdrawiad [conflict] ag awdurdodau'r Llywodraeth . Yr oedd yng ngharchar Caerfyrddin ar 19 Ionawr 1803 . Ymhlith y pamffledau, y cyfieithiadau, a'r prif lyfrau a gyhoeddwyd ganddo y mae tri rhifyn o The Miscellaneous Repository neu Y Drysorfa Gymysgedig ; An English-Welsh Dictionary neu Eir-Lyfr Saesneg a Chymraeg ; Cyfansoddiad o Hymnau, etc. ;‘ Y Gell Gymysg ’ mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol . Yr oedd yn wir apostol rhyddid gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol , ac yn arloeswr [pioneer] mudiadau diwygiadol [reforming] yn hanes a meddwl Cymru . Bu f. 29 Ionawr 1833 .
  • Gwilym Marles - Bardd, ysgolhaig a gweinidog Undodaidd oedd Gwilym Marles, neu Gwilym Marlais, enw barddol y Parch. William Thomas (1834 - 11 Rhagfyr 1878). Ewythr tad y bardd Dylan Thomas oedd ef: credir y tynnodd Dylan ar gof ei dad am Wilym Marles yn ei bortread o'r Parchedig Eli Jenkins yn y ddrama Under Milk Wood.
    Roedd yn frodor o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg brifysgol yn Rhydychen. Ef oedd y gweinidog ar eglwys Llwyn Rhydowen adeg y troad allan yn 1876. Roedd yn athro preifat i'r bardd William Thomas (Islwyn) (1832-1878).
    Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol dan y teitl Prydyddiaeth yn 1859. Pruddglwyfus yw ei awen, ond mae ei gydymdeimlad â'r werin a'i athroniaeth Radicalaidd yn amlwg.
  • Iolo Morganwg
[troad allan - eviction][pruddglwyfus - digalon, trist]
[awen - muse]

*Gwybodaeth o Wicipedia a'r Bywgraffiadur Ar-lein

Brwydr Llangyndeyrn

Rhaglen am y frwydr i achub Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin ym 1963. Cewch weld y rhaglen ar S4C yn fan hyn: http://www.s4c.co.uk/clic/e_level2.shtml?programme_id=512469914

Hefyd mae'r gymuned wedi creu gwefan ardderchog fel rhan o'r dathliadau (yma).

__________________________________




Mae hanner canrif wedi mynd heibio ers i gymuned fach amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin ennill y frwydr i stopio cynlluniau i foddi eu tiroedd er mwyn cyflenwi dŵr i Abertawe.

[amaethyddol - agricultural, farming]

Fe fydd y rhaglen Brwydr Llangyndeyrn ar S4C nos Sul, 20 Hydref yn adrodd hanes achub Cwm Gwendraeth Fach ym 1963 trwy gwrdd â theuluoedd y bobl a oedd wrth galon y frwydr.

Cafodd yr actores Sharon Morgan ei magu yn Llandyfaelog, ychydig o filltiroedd o'r ardal amaethyddol rhwng Llangyndeyrn a Phorthyrhyd yr oedd Corfforaeth Dŵr Abertawe am ei meddiannu o dan bryniant gorfodol ym 1963. Y bwriad oedd ei boddi i greu argae i gyflenwi dŵr i ardal Cyngor Tref Abertawe.
Hi sy'n cyflwyno'r rhaglen am hanes y frwydr ac mae'n credu bod ymgyrch y gymuned hon yn un arwrol sydd mewn perygl o gael ei hanghofio.

[meddiannu - take possession]
[pryniant gorfodol - compulsory purchase]
[argae - dam]
[arwol - heroic]

Meddai Sharon Morgan, "Dyma hanes am gymuned fach Gymraeg yn herio holl bwerau'r Llywodraeth. Mae'n llenwi fi gyda hyder am beth y gall ein cymunedau ni gyflawni. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gwybod yr hanes o hyn ymlaen ac yn deall y negeseuon ofnadwy o bwysig sydd yn y stori - sef y gallwn sefyll lan yn erbyn pob math o bwerau sy'n ymddangos yn hollol anorchfygol a bod unrhyw beth yn bosibl."
Ar ei siwrnai emosiynol mae Sharon Morgan yn cwrdd â theuluoedd rhai o brif ymgyrchwyr y frwydr, gan gynnwys teulu diweddar Gadeirydd y Pwyllgor Amddiffyn, y Cynghorydd William Thomas a theulu'r diweddar ysgrifennydd, y Parch W M Rees.

[anorchfygol - invincible]

Bydd yn ymweld â fferm Pant-teg i gwrdd ag un o'r ymgyrchwyr gwreiddiol Huw Williams, yn siarad ag Arwyn Richards o fferm y Llandre ac yn troi at gyfoeth o archif ffilm a phrint o'r cyfnod. Cawn atgofion R J Lillicrap, a oedd yn aelod o Gorfforaeth Dŵr Abertawe, a'r darlledwr Sulwyn Thomas, a oedd yn ohebydd ifanc gyda phapur lleol y South Wales Evening Post ar y pryd.


Mae'r ymgyrchydd Emyr Llewelyn, a oedd yn ganolog yn y frwydr ofer i achub Cwm Celyn rhag cael ei foddi i godi Llyn Tryweryn, yn disgrifio brwydr Llangyndeyrn fel un a oedd "yn safiad pwysicach nag un Tryweryn… gan iddi lwyddo a deillio o'r gymuned."

[deillio - derive, originate]

Cawn weld pam wrth ail-fyw sut y gwnaeth y bobl leol atal swyddogion Cyngor Abertawe rhag mynd ar eu tiroedd i'w mesur a'u hasesu er bod ganddynt orchymyn llys i wneud hynny.

Mae agweddau o'r stori yn debycach i nofel antur. Cawn hanes am ysbïwr ar bwyllgorau cyngor Abertawe a oedd yn rhoi gwybod i ymgyrchwyr pryd yr oedd swyddogion y cyngor yn cyrraedd. Cawn glywed sut yr oedd Jack Smith, clochydd eglwys y plwyf, yn canu'r clychau i rybuddio'r ffermwyr bod y swyddogion ar eu ffordd.

[ysbïwr - spy]

Bu'r ymgyrch mor effeithiol fel y penderfynodd y cyngor chwilio am safle llawer mwy addas a thenau ei phoblogaeth yng ngogledd y sir ger Llanymddyfri a chodi cronfa ddŵr Llyn Brianne.

Meddai'r ffermwr Huw Williams o fferm Pant-teg, "Fe fyddwn i wedi colli fy mywoliaeth i gyd - doedd 'da fi ddim byd i golli o frwydro. Yn bersonol, buaswn i wedi colli hanner can mlynedd o fywyd hapus a'r pleser o basio fe mlaen i'r genhedlaeth nesaf."

Cerddwyr Cylch Teifi - Corsydd Teifi



Corsydd Teifi: 9 Tachwedd 2013: 10:30-12:30

Crynodeb


Man Cychwyn: lefel uchaf y prif faes parcio, Gwarchodfa Fywyd Gwyllt, Cilgerran SN 185 448 (dilynwch yr arwyddion brown o Aberteifi); dim angen talu.  Taith o 2.75 milltir (gyda dewis o’i chwtogi) heb adael y Warchodfa (rhyw 250 erw) ar dir gwastad a llwybrau cadarn. Doedd y Warchodfa ddim yn dir gwyllt erioed; roedd chwareli llechi arni am gyfnod hir, bu rheilffordd ‘y Cardi Bach’ yn rhedeg ar ei thraws rhwng 1885 a 1962, wrth gysylltu Aberteifi â Hendy Gwyn, ac yn ddiweddar fe fu sŵ yma.

 O amgylch Canolfan y Warchodfa


Rydyn ni’n dechrau wrth ddringo’r bryn bach y tu ôl i’r adeilad (sy wedi ennill gwobr bensaernïol) lle cawn olygfa arbennig o’r Warchodfa, Aberteifi a Banc y Warren ( a aeth Pwyll i Annwn oddi yno?).  Dyma’r lle mae perfformiadau o ddramâu yn yr awyr agored yn cael eu cynnal yn yr haf a lle’r oedd dwrgi anferth a blethwyd o goed helyg yn arfer sefyll.

Wrth yr Afon


Dyma safle’r hen chwareli llechi Fforest a gaewyd yn y 1880au cyn i’r rheilfffordd ddod. Fe awn i mewn i fynedfa un ohonynt, ‘Carnarvon’. Roedd y llechi yn cael eu cludo i lawr i’r afon ar gychod i Aberteifi. Oherwydd nad oedd y llechfaen o’r ansawdd gorau, doedd y diwydiant ddim yn llwyddiannus iawn hyd yn oed pan oedd ar ei anterth.  Ac i waelod yr afon roedd gwastraff sylweddol y chwareli yn arfer mynd gan rwystro llif yr afon. O ganlyniad nid yw’r llanw, a oedd yn arfer cyrraedd Llechryd, yn mynd y tu hwnt i Gilgerran bellach, ac mae sianel yr aber yn gallu cael ei thagu gan dywod
yn hawdd iawn gan greu problemau i longau. Awn ni wedyn ar y llwybr tuag at Gilgerran am sbel – dyna oedd yr unig ffordd o gyrraedd y chwareli dros y tir cyn y rheiffordd am ei fod mor gorsiog.
Cors Pentŵd 
Cerddwn ar fyrddau pren trwy’r rhan wylltaf o’r Warchodfa, heibio’r cuddfan a godwyd yn yr un modd â thai ‘eco’ yn yr ardal, megis sawl un ym Mhrithdir Mawr lle roedden ni yn y gwanwyn.  Gwelwn ni dŵr a sylfeini nyth enfawr arni; y syniad yw denu gwalch y pysgod ar eu ffordd i’r gogledd iddi i fagu cywion; y mae’r fath gynllun wedi llwydo ger Afon Dyfi ond cafwyd ddim hwyl arni eleni. Fe fu byfflos y dŵr yma trwy’r haf yn pori’r gors gan greu mwy o ddŵr agored i adar fel yr hwyaid; mae’r byfflos yn greaduriaid didaro er gwaethaf yr olwg ffyrnig arnynt. Rydyn ni ar hen gwrs yr Afon Teifi cyn iddi newid ei chwrs ar ddiwedd Oes yr Iâ a chreu Ceunant Cilgerran. 
 
Rheilffordd y Cardi Bach

Fe gawn ni olygfa dda o’r afon a’i bywyd gwyllt, megis gwylanod, corhwyaid, y crychydd, y bilidowcar a’r gylfinir. Y mae siawns bach (ond gwell nag mewn misoedd eraill y blwyddyn) o weld dwrgi.  Er i’r rheiliau gael eu tynnu yn fuan ar ôl i’r rheiffordd gael ei chau yn 1963, y mae eu sylfeini yma o hyd.  Mae planhigion diddorol yn tyfu wrth y llwybr yn yr haf; ar hyn o bryd gellir gweld (a chasglu!) ffrwyth y ddraenen ddu, eirin du bach sur (a elwir yn ‘eirin tagu’ yn y gogledd).  


Geirfa i Ddysgwyr

cors(ydd)
marsh(es)
rhwystro
hinder
man cychwyn
starting point
llif
flow
[gwarchod]
to look after
llanw
tide
[-fa /fan]
...place
atal
block, prevent
gwarchodfa
a reserve
tywod
sand
cwtogi
to shorten
cuddfan
a hide
erw
acre
sylfaen (sylfeini)
foundation(s)
cadarn
firm
nyth
nest
chwarel(i)
quarry (ies)
enfawr
huge
llechen (llechi)
slate(s)
gwalch y pysgod
osprey
o amgylch
around
cynllun
plan, scheme
golygfa
a view
cael hwyl arni
to do well
[saer]
craftsman
pori
to graze
[pensaer]
lit. head craftsman and so architect
hwyaid (un: hwyaden)
ducks
pensaernïol
architectural
didaro
placid
Annwn
the Celtic underworld
ffyrnig
fierce
cynnal
to hold, maintain
ice
dwrgi (dwrgwn)
otter(s)
ceunant
a gorge
anferth
enormous
crychydd, (creyr, crechi)
heron
plethu
to weave
corhwyaid
teal
helyg
willow
gwylan(od)
gull(s)
mynedfa
entrance (place)
bilidowcar (mulfran)
a cormorant
cludo
to carry, transport
gylfinir
a curlew
cwch (cychod)
boat(s)
tynnu
to remove
ansawdd
quality
planhigyn (planhigion)
plant(s)
diwydiant
industry
draenen ddu
a blackthorn
llwyddiannus
successful
eirin
berries
ar ei anterth
at its peak
sur
sour
gwaelod
bottom
tagu
to choke