Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 26 June 2017

Meinir Gwilym yn gwneud Cordial Blodau'r Ysgaw

https://twitter.com/garddioamwy/status/878252034188873728

Radio Cymru 2

Mae'r BBC yn bwriadu sefydlu ail orsaf radio genedlaethol yn Gymraeg. 

Fe fydd Radio Cymru 2 yn darlledu o 7:00 tan 10:00 bob bore'r wythnos ar radio digidol, teledu digidol a BBC iPlayer Radio. 

Cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant fydd ar y gwasanaeth newydd, tra bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu'r Post Cyntaf. 

Dywedodd golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, ei bod yn ddatblygiad "hanesyddol".

'Cynnig dewis'

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r BBC arbrofi gyda gorsaf dros dro, Radio Cymru Mwy y llynedd . 

Dywedodd Betsan Powys: "Does dim dwywaith fod hwn yn un o'r datblygiadau mwyaf hanesyddol a phwysig yn natblygiad yr orsaf ers ei sefydlu yn 1977. 

"Mae gwrandawyr Radio Cymru gyda'r gwrandawyr radio mwya' ffyddlon yng Nghymru ac mae gallu cynnig dewis iddyn nhw ac i wrandawyr newydd yn hynod gyffrous."
Mae tîm golygyddol Radio Cymru yn bwriadu lansio'r gwasanaeth newydd cyn diwedd y flwyddyn. 

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Carl Morris, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith: "Ry'n ni'n croesawu'r newyddion yma - mae'n ddatblygiad addawol iawn gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg. 

"Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth."

Radio Wales yn ehangu

Mewn cyhoeddiad arall, fe ddywedodd y BBC y bydd gorsaf Radio Wales yn ehangu ar FM i gyrraedd 330,000 o bobl ychwanegol. 

O ganlyniad bydd yr orsaf yn cyrraedd hyd at 91% o'r boblogaeth ar FM, o'i gymharu â 79% ar hyn o bryd. 

Gwrandawyr yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth yn benodol fydd yn elwa ar y cynnydd yn argaeledd Radio Wales ar FM. 

Bydd yr orsaf yn defnyddio tonfeddi FM sydd yn darlledu BBC Radio 3.

Thursday 22 June 2017

Sir Benfro: Gwlad y Chwedlau

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi creu adran arbennig i ddathlu hanes a chwedlau Sir Benfro gyda llwyth o ffilmiau a chlipiau sain, disgrifiadau o deithiau cerdded ac adnoddau eraill. Ewch i http://www.pembrokeshirecoast.org.uk/default.asp?pid=792&LangID=2 i ddarganfod mwy.

Sunday 18 June 2017

Blasu: Adolygiad Gwales

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Yn ail nofel Manon Steffan Ros i oedolion cawn lu o gymeriadau difyr, stori afaelgar, lleoliad hudolus Bro Dysynni a sensitifrwydd sgwennu’r awdures ifanc, ddawnus hon. A phetai hynny ddim yn ddigon, cyfres o rysetiau diddorol a'r cyfan am £8.95 – bargen!

Ar ei phen blwydd yn bedwar ugain oed, mae Jonathan, mab ieuengaf Pegi, yn rhoi llyfr arbennig i'w fam ac yn gofyn iddi hi gofnodi ei hatgofion ynddo. Ond nid atgofion gaiff eu hysgrifennu yn y llyfr ond cyfres o rysetiau gwahanol fwydydd a phrydau a fu'n bwysig iawn i Pegi, ynghyd ag enwau’r rhai fu’n gysylltiedig â hwy. Y bobl hynny gaiff eu henwi sy’n adrodd stori Pegi fesul pennod, a phob un hanes wedi'i saernïo'n grefftus. Bron nad ydi pob pennod yn stori fer, er bod llinyn storïol gref yn plethu drwy'r cyfan yn hynod o rwydd a chelfydd.

Mae hanes plentyndod cynnar Pegi yn ingol o drist, yn arbennig hanes ei pherthynas â'i mam, ac mae'r disgrifiadau o broblemau seicolegol a salwch meddwl ei mam yn ein cyffwrdd i'r byw. Caiff Pegi flynyddoedd dedwydd ar aelwyd ei nain a’i thaid, cyn priodi Frances, grosar lleol, magu dau o blant a threulio blynyddoedd yng nghanol bwrlwm synau ac arogleuon amrywiol y siop.

Cronicl moel o fywyd llawn Pegi yw'r uchod ond mae yna bris i’w dalu am y dedwyddwch ymddangosiadol, ac mae hwnnw yn gysgod cyson ar ei bywyd. Mae’r cysgod ar ei fwyaf amlwg yn ei pherthynas â bwyd. Mae hi’n byw yn ei ganol, wrth gwrs, ac yn cael blas ar fwydo’i theulu, cyfeillion agos a chwsmeriaid ei chaffi yn Nhywyn am un tymor. Ond mae perthynas Pegi â bwyd yn llawer mwy cymhleth na hynny a gwelwn yn fuan fod y 'pleser' ymddangosiadol a gaiff hi wrth fwyta yn ymylu ar salwch meddwl neu fwlimia ar adegau anodd. Ceisia Pegi ddigoni'i hun yn gorfforol ac yn emosiynol, ond methu a wna'n aml.

Yn gefndir i’r nofel hon mae cariad amlwg yr awdures at fro ei chyndeidiau, ac mae ei disgrifiadau o’r ardal yn codi awydd go iawn ar y darllenydd i fynd yno i weld drosto’i hun. Bron nad ydy rhywun yn disgwyl cyrraedd Llanegryn a throi i mewn i gaffi Jonathan am espresso a darn o gacen sinsir neu affogato. Bron na ellid dweud mai molawd o gariad awdur, nid yn unig at ardal sydd yma, ond at ffordd o fyw. Mae pobl yn adnabod ei gilydd ac yn cefnogi’i gilydd yn y fro hon. Un ffordd o ddangos y gefnogaeth ydy coginio a rhannu bwyd, ac edrychir ymlaen yn Blasu at ddyfodiad caffi Jonathan ond mae yna hiraeth hefyd am hen ffordd o fyw yr ardal hyfryd hon.

Rysáit bara ydy’r olaf yn y nofel ac fe gymer oes gyfan i Pegi feistroli’r grefft o wneud torth dda. Ond mae hi’n llwyddo yn y diwedd, a'r gamp fach honno'n adlewyrchu ei llwyddiant hi i fod yn hi’i hun, ar waethaf y tebygrwydd i’w mam, a'r arwyddion o salwch meddwl a fu'n gysgod dros y ddwy ohonynt.


Roedd y profiad o ddarllen Blasu yn un chwerw-felys. Mae i'r gyfrol ei themâu tywyll ac ysgytwol yn ogystal â llawenydd a phrofiadau melys. Mae arddull gryno ac iaith liwgar a chyfoethog yr awdur wedi sicrhau fod hon yn stori fydd yn aros yn hir yng nghof y darllenydd. Cefais flas anghyffredin ar ddarllen hon – mwyhewch!

Janet Roberts

Blasu: Adolygiad gan Marta Klonowska

Diolch i Golwg360 am yr adolygiad hwn.


“Roedd y blas yn dal yn fyw ar fy nhafod a daeth atgofion eraill yn ôl ata i’n sydyn, pob un yn gysylltiedig â blas (…)”

Un peth am lenyddiaeth na fydd unrhyw ffilm 3D yn gallu rhagori arno byth yw y modd y gall drawsgludo pob math o ymdeimladau trwy ddefnydd dim ond geiriau. Nid yn unig delweddau ac emosiynau, ond hefyd synau, aroglau … a blasau, fel mae nofel ddiweddaraf Manon Steffan Ros yn profi.

Blas yr atgofion 

Bwyd a’i harchwaeth sy’n chwarae rôl hanfodol ym mywyd prif gymeriad Blasu, Pegi Glanrafon. Rydym yn dod i’w nabod wrth iddi ddathlu ei phedwar ugeinfed pen-blwydd gyda’i theulu cariadus a chylch o ffrindiau. Ond er gwaethaf yr holl gariad a pharch sy’n ei hamgylchu, ni all Pegi anghofio am y gorffennol a digwyddiadau dramatig ei hieuenctid …

Er bod dechreuad y nofel yn awgrymu mai Pegi ei hun a fydd yn siarad am hanes ei bywyd, mae’r awdures yn defnyddio techneg fwy diddorol: caiff pob pennod ei hadrodd gan berson gwahanol  o blith y rhai a groesodd lwybr bywyd Pegi. Byddai ambell un o’r penodau yn llwyddiannus fel stori fer annibynnol –  oherwydd bod gan bob un ei naws arbennig, yn ymwneud â rhyw flas sy’n aros yn atgofion y prif gymeriad.

A gwell fyth, mae’n bosib i ddarllenwyr cael blas go iawn o’r prydau hyn diolch i ryseitiau sy’n agor pob stori (ac mae rhai yn tynnu dŵr o ddannedd, wir!).

Bwyd a bywyd 

Ar wahân i reoli strwythur y nofel, mae bwyd yn elfen bwysig ym mhlot Blasu.  Yn yr ail bennod, er enghraifft, cyflwyna’r awdures un o brif bynciau’r nofel –  gwallgofrwydd mam Pegi –  trwy episod  eithaf dychrynllyd, pan wêl y ferch lygoden fawr yn y cawl a ddarparwyd gan ei mam.

Yn y storïau i ddod, mae darnau tywyll sy’n ymwneud â bwyd hefyd –  fel cyfnodau pan mae Pegi yn ddioddef o fwlimia, wrth iddi geisio ymdopi â gwaddod salwch ei fam.

Ond, yn gyffredinol, mae’n amlwg bod yn nofelydd am ganolbwyntio am rôl gadarnhaol bwyd.  Ac felly gall darllenwyr ddisgwyl i fwyd wneud ei waith yn holl uchafbwyntiau emosiynol y nofel: yn  cysuro, torri iâ rhwng pobol neu fynegi pob math o deimladau.

Ar yr un pryd, mae’r nofel hon yn cael effaith debyg ar y darllenwyr, wrth godi math o nostalgia am y gorffennol a’r bywyd teulol traddodiadol. Tybed faint o ddarllenwyr a fydd yn rhoi cynnig ar un o ryseitiau o’r nofel ar ôl ei darllen, yn lle prynu pizza arall i’w plant?

Diifyg amrywiaeth 

Mae iaith Blasu yn gweddu i naws cyffredinol y nofel –  mae’n llyfn, yn gynnes a dymunol i’w darllen. Ar y llaw arall, dyma darddiad gwendid mwyaf y nofel hefyd.

Gwnaeth yr awdures ymdrech uchelgeisiol i gyflwyno’r stori trwy ddefnydd lleisiau nifer o gymeriadau o wahanol ryw, oedran, cefndir a chenedl . Ond, yn anffodus, nid yw’r amrywiaeth hon yn cael ei chyfleu rhwng un stori a llall o ran iaith a steil. Pob tro gellir clywed llais unigryw’r awdures a’i  safbwynt mwyn a chall. Ac oherwydd hynny mae rhai cymeriadau yn ymddangos braidd yn annaturiol.

Ond nid ydy’r diffyg hwn yn ymyrryd â mwynhau Blasu –  llyfr ysgafn a gafaelgar yw hwn ac, er bod y plot yn datblygu’n weddol araf, mae datblygiadau annisgwyl tan y diweddglo.

Ar y cyfan, roedd darllen y nofel yn brofiad tebyg i gael cinio da gan nain, gyda blasau ardderchog ac awyrgylch hwylus a theuluol. Weithiau, efallai, cawn ni ormod o bethau melys  …  ond yn y diwedd codwn oddi wrth y bwrdd yn fodlon iawn.

Teithio

Roedd Grug Muse yn chwilio am flogiau teithio Cymraeg yn ddiweddar, a gofynnodd i'r trydarfyd am awgrymiadau. Dyma rai ohonyn nhw:

Blog Steff a Daf (Steffan Griffiths sy'n cyflwyno rhagolygon tywydd ar S4C) am eu taith i Nepal:

https://www.youtube.com/watch?v=6TT3S0ivX9Q

Asturias yn Gymraeg

Teithlyfr - blog am deithio'r byd

Taith Gruff a Dan

Awê Awen

Patagonia Haf 2017

Mae pob un ohonyn nhw'n wahanol, ond dyma fy ffefryn i:

http://teithio.blogspot.co.uk/2007/05/and-ny-nedgu-gynbu.html?m=1

Sunday 11 June 2017

Irfon Williams - Hawl i fyw

Diolch unwaith yn rhagor i BBC Cymru Fyw am erthygl wych.


Hawl i fyw.

Tecwyn Ifan

Diolch i BBC Cymru am yr erthygl fywgraffyddol hon.

Ganwyd Tecwyn Ifan yng Nglanaman ym 1952 pan oedd ei dad yn weinidog yn Ystalyfera, Cwm Tawe. Symudodd y teulu i fyw yn Login, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf.

Bu'n aelod o'r grŵp Y Perlau Taf rhwng 1969 ac 1972 a recordiodd pum record fer i Welsh Teldisc a Cambrian. Mae'n ddiddorol nodi iddo chwarae'r gitâr drydanol ar ei recordiad olaf ond un i'r Perlau Taf, offeryn na chwaraeodd byth wedyn.

Astudiodd i fod yn weinidog yr efengyl yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, ac ym 1972 ffurfiodd Ac Eraill gyda Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards. Rhyddhawyd tair record fer i Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.

Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel Nia Ben Aur, Tua'r Gorllewin a Cwm Nant Gwrtheyrn yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o fudiad Adfer erbyn hyn, ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.

Fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio ar ben ei hun am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975. Sgrifennwyd caneuon newydd ar gyfer y sioeau cerdd Heledd ac Anwariad a gynhaliwyd ym 1975 ac 1976.

Campwaith Tecwyn Ifan yw Y Dref Wen (Sain, 1977) - yr albwm cyntaf a'r un gorau. Mae cysgod Waldo a thristwch diwedd bro yn gorwedd yn drwm dros y caneuon yma. Fe'i gynhyrchwyd - fel bron pob albwm arall - gan Hefin Elis.

Mae Dof Yn Ôl (Sain, 1978) yn cynnwys un ochr o ganeuon sydd yn ymwneud ag Amos y proffwyd. Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd Goleuni Yn Yr Hwyr, gyda chlawr hyfryd gan Jac Jones, braidd yn siomedig. Ond mae 'na uchafbwyntiau fel y ddwy gân Cŵn Annwn a Rwy'n Dy Weld.

Erbyn Edrych I'r Gorwel (Sain, 1981) roedd e'n amlwg bod Tecwyn Ifan wedi colli ei ffordd yn gerddorol, ac roedd y caneuon yn dechrau swnio'n flinedig. Serch hynny, yr albwm dilynol, Herio'r Oriau Du (Sain, 1983), oedd ei record orau ers Y Dref Wen. Fe'i recordiwyd yn dilyn Rhyfel Y Malfinas, ac mae'n cynnwys sawl cân brotest fel John Bull, Hiroshima a Marina.

Roedd rhaid aros saith mlynedd cyn Stesion Strata (Sain, 1990) a oedd yn gasgliad amrywiol o ganeuon newydd a chaneuon wedi eu cyfiethu fel The Streets Of London gan Ralph McTell.
Recordiwyd Sarita saith mlynedd yn ddiweddarach, ond y tro yma, gyda Tudur Morgan wrth y lliw, a gyda band oedd yn cynnwys dau cyn aelod o'r grŵp Dom.

Ar ôl seibiant o wyth mlynedd ymddangosodd Wybren Las, ac unwaith eto gyda chynhyrchydd newydd, sef Dyl Mei. Newidiodd y band unwaith eto, a chwaraewyd y drymiau gan ei fab Gruffudd o'r Texas Radio Band.

Trydar mewn trawiadau

Diolch i Llion Jones a BBC Cymru Fyw am y stori hon.





llesg - gwan, eiddil

Ben Lake: Cyngor Jonathan Edwards i'r aelod newydd

Dewi Llwyd sy'n cyfweld â Ben Lake a Jonathan Edwards.

Tuesday 6 June 2017

Ham Caerfyrddin a bara lawr yn cael statws gwarchodedig Ewropeaidd

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori hon.

Mae un o brydau traddodiadol Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am statws gwarchodedig.

Bydd bara lawr Cymreig wedi ennill dynodiad arbennig o dan gyfraith Ewropeaidd, sy'n golygu na all gynhyrchwr o unrhyw wlad arall ddefnyddio'r enw.

Mae'r saig yn cael ei wneud o wymon Nori, sy'n cael ei gasglu ar arfordir Cymru.

Bydd y bwyd yn ymuno a chynnyrch fel halen môr o Ynys Môn, tatws newydd o Sir Benfro a chig oen Cymreig, sydd eisoes wedi derbyn y statws.

Mae'r statws yn cydnabod bwydydd sy'n cael eu cynhyrchu, eu prosesu a'u paratoi mewn ardal benodol gan ddefnyddio arbenigedd cydnabyddedig.

Mae 80 o gynhyrchion wedi eu diogelu yn y DU, sy'n cynnwys bwydydd, gwinoedd, cwrw, seidr, gwirodydd a gwlân ar hyn o bryd.

Ham Caerfyrddin 

Diolch i lleol.cymru am y stori hon.

Mae cigydd o Gaerfyrddin wedi derbyn plac yn hysbysebu statws gwarchodedig ei rysáit teuluol traddodiadol ar gyfer ham enwog Caerfyrddin. 
 
Cafodd y Cigydd Albert Rees o Farchnad Dan Do Caerfyrddin statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gan yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar am ei Ham Caerfyrddin.

Ymwelodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, â Marchnad Caerfyrddin ddydd Gwener diwethaf yng nghwmni'r Cynghorydd David Jenkins, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am farchnadoedd, i gyflwyno'r plac.

Mae PGI yn un o dri dynodiad Ewropeaidd a grëwyd i ddiogelu bwydydd rhanbarthol sy'n cynnwys safon, enw da neu nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â'r ardal honno. Mae'n fath o Nod Masnach ac mae'n atal gweithgynhyrchwyr o'r tu allan i'r rhanbarth rhag efelychu cynnyrch rhanbarthol a'i werthu fel y cynnyrch rhanbarthol hwnnw.

Sefydlwyd busnes Albert Rees ym 1962 gan Albert a Brenda Rees. Ym 1989, cymerwyd yr awenau gan Chris ac Ann Rees ar ymddeoliad rhieni Chris ym Marchnadoedd Caerfyrddin a Doc Penfro wrth i'w frawd Jonathan a'r teulu gymryd gofal o'r busnesau yn Abergwaun ac Aberhonddu.

Cyfrinach

Mae'r rysáit teuluol ar gyfer yr ham, sy'n blasu'n debyg i ham Parma, yn gyfrinach fawr, ond mae'r broses sylfaenol yn cynnwys halltu'r ham a'i sychu am gyfnod o rhwng naw mis a blwyddyn. Ei dad Albert wnaeth berffeithio'r rysáit ar gyfer ham Caerfyrddin yn y 1960au, mewn ymateb i gais gan gwsmer.

Mae'r halltu'n cael ei wneud mewn adeilad pwrpasol sydd wedi'i addasu yn eu cartref, ac mae Chris yn amcangyfrif bod ganddo tua 300 o hamiau ar wahanol gyfnodau o'r broses halltu.

O ganlyniad mae'r ham bellach yn ddanteithfwyd Cymreig, ac wedi cipio amrywiol wobrau ac ymddangos mewn bwytai ar ffurf salad, wedi'i lapio o gwmpas asbaragws, yn cael ei weini gyda melon ac mewn nifer o fwydydd eraill.   Gellir olrhain pob darn i gartref Chris ac Ann, lle mae'r ham yn cael y gofal gorau bob dydd.

Nid Ham Caerfyrddin yw'r unig gynnyrch cartref sy'n cael ei werthu gan Chris ac Ann. Maent hefyd yn gwerthu bacwn, ffagots, brôn, brisged ac amrywiaeth o gigoedd wedi'u coginio gartref.

Dywedodd Chris Rees: "Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y statws hwn i'r teulu cyfan ac rydym hefyd am roi Marchnad Caerfyrddin yn ei chyfanrwydd ar y map."

"Mae wedi cymryd chwe blynedd i ennill y statws hwn. Dechreuodd yr ymgyrch pan brynodd un o swyddogion Safonau Masnach y Cyngor ham rhad a werthwyd fel Ham Caerfyrddin. Gwyddai fod Ham Caerfyrddin yn gynnyrch o safon ond nid oedd dim byd y gallai ei wneud. Awgrymodd ein bod yn ceisio cael y statws hwn i warchod ein cynnyrch."

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Amgylcheddol:  "Rwy'n falch iawn dros y teulu Rees ac mae'r wobr yn brawf i'r gwaith caled y mae’r teulu wedi'i wneud yn cynhyrchu cynnyrch o safon.

"Rwyf hefyd yn falch bod y Safonau Masnach wedi gallu helpu drwy awgrymu gwneud cais am statws gwarchodedig."

Rhannu llwyddiant

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor sy'n gyfrifol am farchnadoedd: "Mae'n gyflawniad gwych i Chris ac Ann. Rwy'n gobeithio y bydd eu llwyddiant a safon y cig y maen nhw'n ei werthu yn denu mwy o bobl i Farchnad Caerfyrddin ac y bydd masnachwyr eraill yn rhannu eu llwyddiant."

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: "Roeddwn wrth fy modd o gael ymweld â busnes Albert Rees ym Marchnad Caerfyrddin a chyflwyno plac haeddiannol iawn i Chris ac Ann sy'n nodi eu llwyddiant i gael statws PGI ar gyfer Ham Caerfyrddin.

“Mae hyn yn newyddion gwych i'r cynnyrch ac i Gymru. Mae hefyd yn arwydd o'n hymrwymiad ni, yn Llywodraeth Cymru, i gefnogi cynnyrch Cymreig o'r radd flaenaf a chydnabod ei ansawdd unigryw."


Yr Ysgwrn yn ail agor i'r cyhoedd

Diolch i Golwg360

Bydd Yr Ysgwrn ger Trawsfynydd, cartref y bardd Hedd Wyn, yn ail agor i’r cyhoedd heddiw wedi gwaith adnewyddu ar y tŷ ac adeiladau’r fferm.
Daw’r agoriad union 100 mlynedd ers seremoni’r Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw 1917 – Hedd Wyn oedd wedi ennill y Gadair ond cafodd ei ladd ychydig ddyddiau cyn yr eisteddfod.

Am flynyddoedd bu nai’r bardd, Gerald Williams, yn croesawu ymwelwyr i’r Ysgwrn yn anffurfiol ond bellach mae’r cartref yn amgueddfa a chanolfan treftadaeth swyddogol.

Dan ofal cadwraethwyr a staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac wedi ei ariannu gan grant £3,081,000 Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae hen gartref y bardd wedi’i weddnewid.

Gwedd newid

Yn yr Ysgwrn ei hun, mae creiriau’r gegin a’r cadeiriau wedi cael eu glanhau ac mae wal y parlwr wedi cael ei hail-bapuro.

Hefyd mae Cadair Ddu Penbedw wedi cael stafell ar ei phen ei hun lawr staer ar ôl cael ei hadfer yn fanwl gan grefftwr o Sir Gâr.

Cost mynediad fydd £5.75 i oedolion, £4.50 i’r rheiny sydd wedi ymddeol, a £3 i blant, ac yn ôl rheolwyr y safle mae’n rhaid trefnu o flaen llaw os ydych am ymweld ym mis Mehefin (oherwydd prysurdeb cychwynnol.)

Llygredd yn Afon Teifi

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i achos o lygredd mewn afon yn ardal Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.
Dydy effaith y llygredd ddim yn amlwg eto, ond mae lle i gredu ei fod wedi’i ryddhau o safle treulio anaerobig gan lifo i afon Dulas sy’n ymuno ag afon Teifi yn Llanbed.

Yn ogystal mae llif yr afon yn uchel ar hyn o bryd sy’n golygu nad oes modd dal llawer o’r llygredd, ond fe allai hyn fod yn help i leihau effaith y llygredd a’i wanhau.

‘Lleihau llygredd pellach’

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydweithio â rheolwr y safle i atal unrhyw lygredd pellach.

Maen nhw wedi cadarnhau nad oes cysylltiad rhwng y digwyddiad hwn â’r llygredd ar afon Teifi ym mis Rhagfyr 2016 pan gafodd o leiaf 1,000 o bysgod eu lladd yn agos at Dregaron.

“Rydym wedi cadarnhau bod y llygredd wedi’i atal yn ei darddiad, ond mae symiau mawr o’r deunydd eisoes wedi mynd i’r afon,” meddai Ben Wilson, Rheolwr Gweithrediadau Ceredigion CNC.

“Mae ein swyddogion yn parhau ar y safle ac yn gweithredu i leihau risg o lygredd pellach.”

Diolch i Golwg360.

Saturday 3 June 2017

Beth yw Llên Meicro?

Darnau byr, bychan bach o lenyddiaeth ydy Llên Micro. Storis bachog, sydyn sy'n aml yn gorffen gyda datgeliad doniol neu syfrdanol.

Daw hyfryd fis Mehefin