Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 31 October 2019

Pleser o'r Mwyaf: Idris Reynolds

Digwyddiad arbennig i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 yw Pleser o'r Mwyaf, yng nghwmni gwestai adnabyddus gwahanol bob tro.

Yr her yw dewis, cyflwyno a siarad am bum darn o lenyddiaeth Gymraeg neu wrthrych sydd â rhyw arwyddocâd personol; nid o reidrwydd detholiad o hoff gerddi neu ryddiaith y siaradwr, ond darnau sydd yn bwysig iddi hi neu iddo ef.

Byddwn yn cynnal cyfres o wyth cyfarfod rhwng Hydref 2019 a Mehefin 2020 yn Y Man a'r Lle, sef y ganolfan Gymraeg newydd ar gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi, gydag amrywiaeth o westeion o wahanol gefndiroedd.

Y gwestai nesaf ar ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd (11am, tocynnau £5 wrth y drws) fydd y Priflenor Rhiannon Ifans.

Bydd copïau caled o'r testunau ar gael bob tro, ynghyd â chyflenwad o daflenni geirfa ar gyfer dysgwyr.


Ein siaradwr cyntaf ar y 19eg o Hydref oedd y Prifardd Idris Reynolds sy'n byw ym Mrynhoffnant. Dyma wyneb a llais cyfarwydd iawn i lawer sy'n byw ar waelod y Sir a thu hwnt, a chawsom gyfle i ddod i'w adnabod yn well a darganfod ambell berlyn newydd wrth iddo gyflwyno ei ddewisiadau a rhannu sawl hanesyn difyr am T Llew Jones, Aneirin Jones, Tony Bianchi ac eraill.



Cariad dwys at ei filltir sgwâr a'i chymeriadau oedd edefyn aur amlwg detholiad Idris, ac roedd wir yn bleser cael treulio awr a hanner yn ei gwmni. 




Darnau Idris

Albwm Lluniau, Tony Bianchi


‘A phwy yw hwn...?’ holai’n ffôl – wrth rythu

   ar rith ei orffennol,

   a’r wyneb ystrydebol

   ugain oed, yn gwenu’n ôl.


Geirfa 
 

rhythu – syllu
rhith – spectre, apparition, mirage


Cwm Alltcafan, T. Llew Jones



Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan

Lle mae’r haf yn oedi’n hir?

Lle mae’r sane gwcw glasaf?

Naddo? Naddo wir?



Welsoch chi mo afon Teifi’n

Llifo’n araf drwy y cwm?

Welsoch chi mo flodau’r eithin

Ar y llethrau’n garped trwm?



A fum i’n y Swisdir? Naddo.

Na, nac yn yr Eidal chwaith

Ond mi fûm yng Nghwm Alltcafan

Ym Mehefin lawer gwaith.



Gweled llynoedd mwyn Kilarney

Yn Iwerddon? Naddo fi;

Tra bu rhai yn crwydro’r gwledydd

Aros gartref a wnes i.



Ewch i’r Swisdir ac i’r Eidal,

Neu Iwerddon yn eich tro,

Ewch i’r Alban, y mae yno

Olygfeydd godidog, sbo.



Ond i mi rhowch Gwm Alltcafan

Pan fo’r haf yn glasu’r byd,

Yno mae’r olygfa orau,

A chewch gadw’r lleill i gyd.



Welsoch chi mo Gwm Alltcafan,

Lle mae’r coed a’r afon ddofn?

Ewch ‘da chi i Gwm Alltcafan,

Peidiwch oedi’n hwy...rhag ofn!






Geirfa
 


sane gwcw – ‘violets’                                      ddofn – ffurf fenywaidd ar ‘dwfn’

eithin – ‘gorse’                                                hwy – ‘hirach’



You're not from these parts?   Iwan Llwyd 




Na, dydw i ddim, dwi’n dod o dalaith

ymhell i’r gogledd, a fu’n deyrnas unwaith,

‘dwi’m yn medru’r acen na’r dafodiaith,

ond pan ddo’i’n ôl i’r fro ‘ma eilwaith

yn deithiwr diarth, yn dderyn drycin

a sgubwyd gan y storm, neu fel pererin

yn dilyn y llwybrau o Bonterwyd i Bontrhydfendigaid

fe gerddaf yn hyderus, a golwg hynafiaid

yn cyfeirio fy nhaith, yn llewyrch i’m llygaid;

achos mae pob taith eilwaith yn gwlwm

â’r ddoe sy’n ddechreuad, â fory ers talwm,

ac yn y distawrwydd rhwng dau hen gymeriad

ar gornel y bar, ma ‘na filoedd yn siarad

am ffeiriau a chyrddau a chweryl a chariad,

am fyd fel, yr oedd hi, am y gweddill sy’n dwad;

na, dydw i ddim o’r ardal, ond fe fedra i glywed

clec sodlau y beirdd wrth iddyn nhw gerdded

o noddwr i noddwr, o gwmwd i gantref

cyn dianc rhag Eiddig ar hyd ffordd arall adref;

bûm foda, bûm farcud, yn brin ond yn beryg,

bûm dlws, bûm Daliesin, bûm yn crwydro Rhos Helyg,

bûm garw, bûm gorrach, bûm yma yn niwyg

pregethwr, tafarnwr, breuddwydiwr a bardd,

na, dydw i ddim yn lleol, ond y dyfodol a dardd

yn ddwfn yn hen ddaear Pumlumon, ac wrth fynd,

meddai’r henwr o’r gornel, ‘Siwrne dda i ti, ffrind’.



 Geirfa



talaith – ‘province’

deryn drycin – ‘storm bird’ (shearwater)
pererin - pilgrim

hynafiaid – ‘forebears, ancestors’

llewyrch –‘light’

clec sodlau – ‘the sound of heels’

o gwmwd i gantref – “uned neu ran o diriogaeth gwlad yng Nghymru gynt y cynhelid llys barn ynddi i weinyddu cyfraith, a dau (neu weithiau ychwaneg) ohonynt yn ffurfio cantref” (GPC)

Eiddig – “Cymeriad dychmygol cyffredin yng nghywyddau serch yr Oesoedd Canol (a’i debyg hefyd yn llên gyfoes gwledydd eraill), sef gŵr priod diarhebol o eiddigus (=jealous) sydd fyth a hefyd yn gwarchod ei wraig rhag ystrywiau’r bard (= the poet’s ruses), a chaiff yntau hwyl wrth ei watwar (=mock) a’i ddychanu (=satirise); person eiddigus neu genfigennus.” (GPC)

boda – bwncath

carw – ‘deer, stag’

corrach – ‘dwarf’

yn niwyg – ‘in disguise’

y dyfodol a dardd – ‘the future that emanates’


John Cilrhue, Ceri Wyn Jones



(sef John Davies, y ffarmwr o Foncath a phrop pen tyn Sgarlets Llanelli a Chymru )



Mae cefen gwlad a’r Strade
fel un yn ei afael e’;
yn ei ddwrn mae pridd y ddau,
erw’r cwysi a’r ceisiau;
milltir sgwâr gwaith a chwarae,
man du a gwyn mewn dau gae.

Mae’n brop balch, mae’n bwêr pur
fel haul oer ar Foel Eryr,
neu fel dreigiau Foel Drigarn,
neu’r gwreichionyn hŷn na harn.
Myn diawl, mae’n gromlech mewn dyn,
a’i war fel Foel Cwm Cerwyn.


Mae sgarmes gwynt a cheser
y Frenni Fawr yn ei fêr;
y grug a’r graig ar ei gro’n,
a’r cleisiau’n gerrig gleision.
Halen daear Preseli
bob asgwrn yw’n harwr ni.

Er hyn, mae un clos o raid
fan hyn yn nwfn ei enaid;
un man yng nghysgod mynydd
i’w ddal yn dynn derfyn dydd;
fan hyn mae’i gynefin e’
haf neu aeaf – Cilrhue.

Ar barc y bêl fe welwn
mai caeau’r ffarm yw corff hwn:
coesau gwaith fel caseg wedd,
a sŵn feis yn ei fysedd;
bodiau fel byllt y beudy
a chefen fel talcen tŷ.

Yn y gêm mae gan y gŵr
raw onest y gwerinwr;
gwybodus ei gaib ydyw,
hen law o brop, labrwr yw
a dry y rhai o dan dra’d
yn falurion, fel arad.

Ac wedi’r ryc draw yr â
a mynwesu’r sgrym nesa’
lle caiff chwe gwar ddynwared
sŵn crynu sinc rhyw hen sied,
neu eto ‘Clatsh’ iet y clos
nes gweld sêr, eger, agos.

Mwynhau clymu’r sgrym a wna
a’i gwthio i’r plyg eitha;
gwyro mewn yn grymanus,
sgiwera’i hun wysg ei grys;
gwthio’i ên rhwng gwên a gwg,
diodde’ rhwng dau wddwg.

Mae’n boen bogel i’w elyn,
yn bennau tost o ben tyn.
Mae dyrnau’n ei bryd a’i wedd
a hen hanes dan winedd
grymuswr y sgrym osod,
y gŵr a’r fraich gryfa’ ‘rio’d’.

I’r un heb ofn, i’r hen ben,
mae man gwyn mewn hen gynnen
ond pan gilia ‘rôl chwarae
yn ôl i gôl ei ail gae,
nid yw’n meddwl ei fod e’
yn rhywun – mae’n Gilrhue.



Geirfa


cwysi – ‘furrows’

gwreichionyn – spark

harn – haearn

sgarmes – ‘skirmish’ ond hefyd ‘maul’(mewn rygbi)

a’i war – ‘and the back of his neck’

mêr – marrow

ei gro’n – ei groen

er hyn – and yet

un clos o raid – ‘tight of necessity’

caseg wedd – ‘a team horse’

feis – ‘vice’

byllt (lluosog bollt) –‘fetters, shackles’

rhaw – ‘shovel’

labrwr – ‘labourer’

a dry – ‘who turns’

malurion – ‘smithereens

draw yr â – ‘over he goes’

mynwesu – ‘embrace’

lle caiff chew gwar….”where six necks get to imitate’

eger – (yma) ‘stormy’

gwyro mewn yn grymanus – ‘stooping like sickles’

sgiwera ei hun – ‘he skewers himself shirt first’

mae’n boen bogel – ‘he’s a gut wrenching pain’

ei bryd a’i wedd – ‘his form and appearance’

dan winedd grymuswr y sgrym osod – ‘under the nails of the bulwark of the set scrum’

mae man gwyn mewn hen gynnen – (roughly) ‘there’s no better place than in the thick of it’

pan gilia ‘rôl – ‘when he retreats after’