Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 8 August 2018

Mae pobol ifanc mor finicky dyddie 'ma!

Sut mae gwneud cawl pen dafad.

Diolch i BBC Cymru Fyw.

Lico neu hoffi, dwli neu lyfio?

Dylan Foster Evans sy'n esbonio hanes y geiriau yma (@diferionDFE ar Twitter):

The current use of 'hoffi' prob derives from purist reaction to 'licio' ('hoffi' used to mean 'praise, admire', etc). 'Licio' was borrowed from English and tended to displace constructions like 'mae'n dda gen i', 'rwy wrth fy modd â' etc'. Without 'licio' there'd be no 'hoffi'! 'Lico' yn gyffredin iawn yn y de-orllewin ond efallai fod 'hoffi' yn fwy cyffredin yn y de-ddwyrain. A dyma ateb "CapS":








A mae pobol sy'n licio pethe hefyd yn tueddu i lyfio pethe hefyd. Tra bod pobol sy'n lico pethe yn fwy tebygol o ddwli ar bethe.

Cymraeg busnes

Diolch i Gomisiynydd y Gymraeg am y cyfweliadau hyn sy'n dangos y manteision o allu siarad Cymraeg ym myd gwaith.

1. Gwili Jones

2. Welsh Lady Jams

3. Llaeth y Llan




Tuesday 7 August 2018

Twristiaeth Cymru 'yn sefyll yn ei hunfan"

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Mae Cymru wedi "sefyll yn ei hunfan" wrth geisio denu ymwelwyr o dramor, medd arbenigwr.
Ychwanegodd Simon Calder ei fod yn achos pryder fod gwariant ymwelwyr wedi gostwng 17% mewn cyfnod pan fo'r bunt yn wan.
Daeth 39.2m o dwristiaid i'r DU yn 2017, sy'n record, ond i Lundain a'r Alban yr aeth cyfran helaeth ohonyn nhw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu tystiolaeth nhw'n awgrymu fod cyflwr y diwydiant twristiaeth yn bositif iawn ar y cyfan.

Miliwn o ymwelwyr

Daeth dros filiwn o ymwelwyr o dramor i Gymru y llynedd - cynnydd o 0.5% o'i gymharu a'r flwyddyn flaenorol.
Y pryder ydy fod y bobl yn gwario llai o arian. £369m yn 2017, gostyngiad o 17% ar y ffigwr yn 2016.
Dywedodd Mr Calder fod diffyg hediadau o'r prif wledydd i Gymru yn golygu fod pobl yn tueddi i ddod yma fel ychwanegiad i ymweliad â Lloegr, yn hytrach na'i gwneud hi'n gyrchfan uniongyrchol.
"Mae'r ffigyrau hyn yn achos pryder mawr i ddiwydiant twristiaeth Cymru," dywedodd.
"Mae'r Alban yn enwedig wedi gwneud yn dda iawn, tra bo Cymru i bob pwrpas wedi sefyll yn ei hunfan."

Mae'r dadansoddiad twristiaeth gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r DU o Ogledd America a gwledydd y tu hwnt i Ewrop.
At ei gilydd, fe aeth 20m i Lundain (i fyny 4% o 2016) a 3.2 i'r Alban (cynnydd o 17%).
Mewn cymhariaeth, daeth 1.1m i Gymru (cynnydd o 0.5%).
Fodd bynnag, tra bo gwariant ymwelwyr â Llundain wedi codi 14% i £13,546m, a'r Alban wedi codi 23% i £2,276m, gostwng 17% wnaeth y ffigwr yng Nghymru i £369m.
Ychwanegodd Mr Calder: "Mae'r gwariant yn achos pryder mawr achos mae'r bunt yn eitha pathetig ac fe fyddech chi'n disgwyl iddo fynd i fyny.
"Fe allai hyn fod oherwydd pa mor hir mae pobl yn cael eu perswadio i aros, os ydyn ni'n dod i Gymru fel ychwanegiad i'w taith i Loegr."
"Mae cynnydd enfawr wedi bod mewn hediadau rhwng Caeredig a Gogledd America, sy'n esbonio llawer," medd Mr Calder.
"Mae Cymru'n gobeithio y bydd y cyswllt newydd gyda Qatar yn gwneud yr un fath."
Tra'n cydnabod ei bod hi'n rhy gynnar i wybod a yw'r fenter honno'n llwyddiant, dywedodd bod y gwasanaeth hwnnw'n dod â Chymru'n agosach i ddinasoedd fel Shanghai.
Disgrifiodd Cyngrhair Twristiaeth Cymru'r ffigyrau fel rhai "siomedig".
Gwelodd Llundain a'r Alban gynnydd sylweddol yn yr arian gafodd ei wario yno.
Bu gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â Chymru o rannau eraill o'r DU yn 2017.

'Sector cystadleuol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu harolwg twristiaeth yn dangos fod 80% o fusnesau wedi gweld cynnydd neu fusnes tebyg o'i gymharu a 2016.
"Mae'n amlwg fod twristiaeth yn sector cystadleuol iawn yn fyd-eang a byddwn yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i wella ymhellach ar yr hyn sy gan Gymru i'w gynnig, a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu cynulleidfaoedd newydd, a chynyddu nifer yr ymwelwyr cartref ac o dramor, fel y gallwn anelu i adeiladu ar y 10m o ymwelwyr dros nos a gafodd eu croesawu ganddon ni yn 2018."
Dywedodd llefarydd fod y blynyddoedd themâu diweddar wedi cael "derbyniad da iawn" a bod y £5m a gafodd ei fuddsoddi ar ymgyrch farchnata Blwyddyn y Chwedlau wedi cyfrannu £365m yn ychwanegol at economi Cymru.
Hyd yma yn 2018, mae 100 o longau pleser wedi ymweld â Chymru, gan ddod â 51,000 o ymwelwyr o wledydd fel Unol Daleithiau America, Canada a Ffrainc.
Mae hyn yn gynnydd o 15% ar 2017.