Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 26 January 2020

Lleuwen yn dod i Aberteifi

Bar y Seler. Nos Sadwrn, 1af o Chwefror am 8pm. Tocynnau'n £7 wrth y drws.

Trefnir y digwyddiad gan Gymdeithas yr Iaith.

https://www.youtube.com/watch?v=zqqmggIpJtI&list=RDEMqA_RMQePEf3fSVSQiv392g&index=3

Pleser o'r Mwyaf: Emyr LLew



Croesawyd Emyr Llew o Ffostrasol i siarad am y pethau sy’n arwyddocaol yn ei fywyd a rhoi’r byd yn ei le, yn Y Man a’r Lle, Aberteifi, fore Sadwrn, Ionawr y 25ain. Agorodd ei anerchiad drwy sôn am ei gyfnod fel athro ysgol a pha mor naturiol yw plant bach, ac y dylsem ni fel oedolion fod yn fwy tebyg iddynt wrth dyfu’n hŷn, ac am ein gwreiddiau ni’r Cymry, (down o ardal Siberia yn wreiddiol!) 

Yn ail, croesawodd Emyr y dysgwyr, gan ddiolch iddynt am gamu mewn i’w fyd e, drwy ffenest wahanol. Wrth inni fel Cymry Cymraeg ymladd dros ein hiaith, “iaith sy’n atseinio o gariad,” a’n gwerthoedd, rhaid cadw’r ffenest ar agor. Wedyn soniodd am Batagonia, ac am y berthynas glos a ddatblygodd rhwng y Cymry a ymfudodd yno â’r Indiaid Cochion brodorol. Dangosodd wedyn lyfr ‘Fietnam’ y ffotograffydd o Ddinbych, sef Phillip Jones Griffiths, gan ddweud fod y Fietnam yn debyg iawn i Gymru, am eu bod yn ddwy wlad sy’n cael eu llygru gan gymydog cryfach. Mae’r llyfr yn llawn lluniau o wlad arall, ond drwy lygad Cymro. Cyn cloi, siaradodd am berygl, oferedd a chanlyniadau trist rhyfel, a sgriniau tywyll technoleg (ffonau symudol a theledu). 

Oherwydd y Pared Gwyl Ddewi yn Aberteifi ar y 29ain o Chwefror, ni fydd darlith, ond cynhelir dwy sesiwn fis Mawrth. Ar y 7fed o Fawrth, bydd Alun Lenny yn dod i ddiddanu, a Hedd Ladd-Lewis ar y 28ain o Fawrth. £5 wrth y drws a £1 am de/coffi a chacen cartref. Cewch groeso cynnes. Dewch i fwynhau bore diwylliedig a chefnogi Eisteddfod Genedlaethol 2020. 

Os nad ydych yn gyfarwydd â’r Man a’r Lle, mae’r adeilad ar y chwith wrth i chi droi i fyny at y Ganolfan Hamdden a Choleg Ceredigion yn Aberteifi, (ger Tacsis Robin). Mae digon o le parcio gerllaw. 



Iaith hynaf Ewrop?

Chwalu mythau am y Gymraeg.


Dwynwen - ffilm newydd!

https://www.youtube.com/watch?v=eTH-SwXOW64&feature=youtu.be

Cyfieithu a throsi

Iestyn Tyne ar Twitter: Hunllef cyfieithydd - dogfen Saesneg sy'n gofyn am wahaniaethu rhwng 'incident', 'event', ac 'occurence'.

Y ddau gam sylfaenol yw eich bod yn gyntaf yn deall y gwreiddiol yn iawn ac yn drylwyr ac yn ail eich bod yn gallu mynd ati i'w gyfleu yn gywir ac yn gyflawn yn yr iaith darged. Wrth   weithio arno dylid cadw un llygad ar drosglwyddo'r ystyr a'r llall ar Gymreigio neu Gymreigeiddio'r ymadrodd fel bod y testun gorffenedig yn darllen fel Cymraeg, yn darllen fel darn o destun sydd wedi'i lunio yn Gymraeg yn y lle cyntaf. Bydd angen deall y testun Saesneg gwreiddiol cyn ei ddatod a'i dynnu oddi wrth ei gilydd a'i ail-bwytho'n ôl yn destun Cymraeg gan anelu at fod mor llwyddiannus fel nad yw'r pwythau yn dangos. Felly cofiwch bob amser mai'r prif nod bob gafael yw rhoi'r argraff fod y testun gorffenedig yn ddarn gwreiddiol Cymraeg ac nid yn gyfieithiad o'r Saesneg.
 
 
 
 
 

Sunday 19 January 2020

Aled Hughes: Cymru yng ngherddi'r Llychlynwyr a Mared Gwyn am amlieithrwydd

Mared Gwyn: 40'22" i mewn

Llychlynwyr: 46'45" i mewn

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000d7rt


Elis James - Cymraeg Cocni

https://www.youtube.com/watch?v=acInhmR5eKE&feature=youtu.be

Niwroleg dysgu iaith a llythrennedd - Emyr Llew

https://www.youtube.com/watch?v=kBxuJlJPVQA&feature=youtu.be

Waliau'n siarad gan Dylan Wyn

https://shitclic.blogspot.com/2020/01/stordai-straeon.html 


Ydych chi wedi sticio efo’r adduned flwyddyn newydd? Mae gen i un dwi’n bendant am lynu ati eleni. Gwylio llai o deledu. Ie, fi, Mr Llygaid Sgwâr a rantiwr-adolygydd teledu achlysurol. Wel, nid yn hollol. Gwylio llai o deledu gwael, dramâu netfflicsaidd true crimes Americanaidd neu EwroNoir symol sy’n dechrau’n ddigon addawol cyn hen golli plwc erbyn pennod tri. A gwylio mwy o genres eraill, yn enwedig dogfennau difyr, hanesion go iawn, croniclau’r gorffennol. Gorffennol ni’r Cymry, hynny yw, nid “Britain” bondibethma. Cyfresi wedi’u llywio gan ein pobl ni'n hunain nid rhai dŵad fel Kate Humble, Griff Rhys Jones a Will Millards y byd sy'n gymaint o ffefryn gan BBC Wales. Diolch byth am S4C. Go brin y caiff cenhedlaeth newydd o Gymry fawr o ysbrydoliaeth gan ein Cwricwlwm newydd.

symol - gweddol, go lew 
colli plwc - 'run out of steam' 

A dyma ddechrau’r adduned go iawn trwy droi at gyfres newydd nos Sul sy’n codi cwr y llen ar drysorau’r gorffennol a champweithiau’r presennol, yng nghwmni DJ radio “pawen lawen” poblogaidd a hanesydd pensaernïol sefydlodd amgueddfa menywod East End Llundain. Ie, Aled Hughes a Sara Huws (dim perthynas hyd y gwn i) megis Mulder a Scully Cymru yn tyrchu i hanes y genedl, drwy “ei hadeiladau... capeli, ffatrïoedd, tafarndai, bythynnod, ffermdai, cestyll, plastai, swyddfeydd... pob un yn stordy straeon” meddai’r broliant. CSI Ceredigion, os leiciwch chi, wrth i’r ddau ychwanegu nodiadau a ffotograffau ar hysbysfwrdd clir. Roedd y twitteratis wedi mopio. Dwi’n rhywfaint o sinig pan ddaw hi’n fater o heip a chanu mawl y cyfryngis cymdeithasol. Beiwch felan mis Ionawr. Ond y tro hwn, mae’r ganmoliaeth i Waliau’n Siarad (Unigryw) yn gwbl gwbl haeddiannol.
 
mopio (yma) - bod wrth eu boddau
melan - 'the blues'

Aeth y rhaglen gyntaf â ni i fro’r Eisteddfod eleni - Ffermdy Mynachlog Fawr, drws nesaf i Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid a Thregaron. Bues i yno sawl haf yn ôl cyn crwydro moelni mawr Soar y Mynydd, yn bennaf i weld ywen Dafydd ap Gwilym (1315/20-1350/70). Prin y sylwais ar yr hen ffermdy carreg cyfagos. Rhag fy nghywilydd i. Achos, trwy ymchwiliadau Aled a Sara a’u sgyrsiau difyr â haneswyr ac ysgolheigion lleol - heb sôn am aelodau o deulu’r Arches fu’n ffarmio yno am 150 mlynedd - y daeth gogoniant y lle’n fyw. Serch y llestri llychlyd a’r cyrtens o we pry cop heddiw, clywsom am drysorau’r aelwyd ers talwm a ddenai pobl o bell ac agos. Fel y llun olew o’r diafol a godai ofn ar bawb uwch y pentan (gan gynnwys y Lyn Ebenezer ifanc), i gwpan chwedlonol Nanteos - y greal sanctaidd yr honnir i Grist a’i ddisgyblion yfed ohoni adeg y Swper Olaf - ac oedd â grym iachaol goruwchnaturiol i ymwelwyr y 19g ganrif ymlaen. Gan Charles Arch, cyflëwyd tristwch a hiraeth am ffordd o fyw sydd wedi diflannu am byth, wrth i blanhigfeydd y Comisiwn Coedwigaeth chwalu cymdogaeth y ffermydd mynydd wedi gaeaf gerwin 1947.  Gwefr Athro David Austin o brifysgol Llambed wedyn, wrth gyfeirio at garreg wreiddiol o’r ddeuddegfed ganrif ar lawr y gegin a droediwyd, mwy na thebyg, gan neb llai na Gerallt Gymro. Balchder llwyr wedyn o gyfeirio at Ystrad Fflur fel ‘Abaty Westminster Cymru’ yr Arglwydd Rhys, canolbwynt crefyddol a gweinyddol Cymru annibynnol y ddeuddegfed ganrif. Falle mai yno ddylai gorymdaith nesaf Yes Cymru fod. A gan y prifardd lleol Cyril Jones, clywsom am stamp yr Abaty ar enwau lleoedd cyfoethog y cylch. Swyddffynnon. Dolebolion. Dol yr ychain. Bron Berllan. Y cyfan yn dyst i'r anifeiliaid a'r cnydau a ffarmiwyd gan y Brodyr Gwynion. Gwae ni o'u colli i Dunroamin' y byd modern.
 
gogoniant - mawredd, ysblander, harddwch
iachaol - yn dwyn iachawdwriaeth, achub
gerwin - garw 

 Dwi am biciad yno o’r Maes fis Awst. Go brin mai fi fydd yr unig un.

Ymlaen yn awchus i Goleg Harlech nos Sul nesa!

Sunday 12 January 2020

Tynged y Genedl

Cymru? Gwir ynteu gau? Dyna’r cwestiwn mae’r dramodydd Ian Rowlands yn ei ofyn wrth iddo edrych ar berthynas y Cymry Cymraeg a di-Gymraeg yn y Gymru gyfoes.

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000c98f

Yn y rhaglen hon mae Ian Rowlands yn cymharu'r gwahaniaethau rhwng Cymru a'r Alban ac yn trafod pam mae'r teimlad o arwahanrwydd yn gryfach yn yr Alban.

Pos!

Mae gan Mari yr un nifer o chwiorydd â brodyr. Mae gan pob brawd ddwywaith yn fwy o chwiorydd na brodyr. Sawl plentyn sydd yn y teulu i gyd?

Diolch i Gareth Ffowc Roberts.

Waliau'n siarad

Cyfres newydd ar S4C "Cymru, a'i hanes, drwy ei hadeiladau. Capeli, ffatrioedd, tafarndai, bythynod, ffermdai, cestyll, plasdai, swyddfeydd. Pob un yn stordy straeon."

Yn y bennod gyntaf ar 12 Ionawr am 8pm bydd Aled Hughes a Sara Huws yn dadlennu stori hynod ffermdy Mynachlog Fawr yn Ystrad Fflur, Tregaron.

Sunday 5 January 2020

Elis James - oes hawl 'da fi gael dŵr?

https://twitter.com/S4C/status/1209202464790122502

Facebook: https://www.facebook.com/S4C/videos/vb.166909008436/1529882600495486/?type=2&theater

Crwydro Ewrop mewn fan

Ydych chi erioed wedi meddwl gwneud rhywbeth fel hyn? Fyddech chi'n hoffi teithio heb amserlen na chynllun? I ble byddech chi'n mynd?

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/amp/50749160?__twitter_impression=true

Mwynhau mynwenta

Marwolaeth, mynwentydd a galar: Lleoliadau morbid Cymru

Dyma erthygl wych gan yr haneydd Louvain Rees. 

 

Cymdeithas Ceredigion - Gwasanaeth Plygain

Dewch i ganu'r hen garolau Cymraeg yng ngwasanaeth Plygain yr Hen Galan yn Hen Gapel, Llwynrhydowen - 7.00 o'r gloch, nos Sul, 12 Ionawr 2020 (yn ôl y calendr Gregoraidd). Croeso i gantorion bach a mawr.

Eurig Salisbury: Llythyr at Siôn Corn

Image

Plygain: Myn Mair

https://www.youtube.com/watch?v=jR1-YCnNRQk

Daw'r disgrifiad isod o'r blog Caneuon Gwerin gan Ffion Mair. Diolch iddi am y darn hwn.

Mae Myn Mair yn gân mewnblyg, trist a theimladwy sy’n cael ei ganu o safbwynt galarwr. Mae’r alarwr yn cynnig popeth gallai – arian, canwyllion a gweddion – er mwyn achub enaid ei ffrind / cariad felly mae pwrpas y gân yn wahanol i’r ganeuon Plygain arferol. Am ryw reswm dwi wastad yn dychmygu taw merch ifanc sy’n canu’r gân a bod ei gŵr wedi cael ei ladd mewn rhyfel a bod y merch ddim yn mynd i gael ei gorff yn ôl i’w gladdu. Mae’r nodiadau yng nghefn Canu’r Cymry II gan Phyllis Kinney a Meredydd Evans yn awgrymu rhywbeth ychydig llai rhamantus…

Gwreiddiau

Yn ôl Canu’r Cymry II cafodd Myn Mair ei gasglu gan Myra Evans o Geinewydd, Ceredigion. Roedd hi wedi dysgu’r gân oddi wrth ei hendaid Daniel Williams, hefyd o Geinewydd, a dwedodd o bod y gân arfer cael ei ganu mewn achlysuron ‘gwylnos’, sef y noson cyn angladd. Mae hwn yn awgrymu bod y cân yn cael ei ganu gan frindiau, nid partneriad torcalonus yn unig. 

Mae’r geiriau yn gwneud hi’n amlwg taw gân Babyddol yw hi ac mae hi felly yn dyddio nôl i’r adegau cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16fed ganrif. Rydym hefyd yn gwybod bod hyn yn gân Babyddol gan fod Daniel Williams wedi dweud wrth mam Myra i beidio canu’r gân neu bydd y ddau ohonynt yn cael eu taflu allan o’r capel roeddent yn mynychu!


Fy hatling offrymaf dros enaid dan glo, 
Fy nghanwyll offrymaf yn eglwys y fro, 
'R offeren weddïaf saith seithwaith yn daer 
Er cadw ei enaid anfarwol. Myn Mair. 

Sant Pawl a Sant Peder, holl seintiau y nef, 
A Mair, Mam y Duwdod, eiriolwch yn gref 
Dros iddo gael heddwch a gwerthfawr ryddhad, 
Paradwys agored, a breichiau ei Dad. 

Mam Iesu'r brydferthaf o ferched y byd,
Morwynig Frenhines y nefoedd i gyd,
Dlos lili y dyffryn, gwiw rosyn y nef, 
Eiriola dros enaid fy nghyfaill yn gref. 
Myn Mair, Myn Mair.


My penn'orth I'll offer for a soul in prison,
My candle I'll offer in the church in the vale, 
The Mass I'll pray earnestly, seven times seven, 
To save his immortal soul. O Mary.

St. Paul and St. Peter, all the saints of heaven, 
And Mary, God's Mother, plead strongly, 
That he may have peace and dear liberty, 
Paradise open, and the arms of his Father. 

Mother of Jesus, the fairest of earth's women, 
Maidenly Queen of all of the heavens, 
Lovely lily of the valley, worthy rose of heaven, 
Intercede in fervour for the soul of my friend. 
O Mary, O Mary.