Diolch i Fflur Arwel am
y darn hwn.
Votarem! Votarem!
Roedd bloeddio’r dorf o ‘nghwmpas i yn fyddarol yn don ar ôl ton o gyffro a hyder.
Am ddeg o’r gloch pob nos byddai trigolion Barcelona yn bloeddio nerth esgyrn eu pennau ‘Votarem, Votarem!’ (‘fe wnawn ni bleidleisio! fe wnawn ni bleidleisio!’) gan wneud sŵn mawr o’u cartrefi gyda allweddi, potiau a llestri cegin.
Ac yno, ar y noson honno, yr oeddwn i. Yn
sefyll ar strydoedd Barcelona ar noswyl refferendwm annibynniaeth
Catalwnia. Roedd rhywbeth yno yn corddi yn awel gynnes y ddinas.
Rhywbeth oedd yn sibrwd yn dawel ond yn ddigon siwr fod yma rhywbeth
newydd, rhywbeth cyffrous, rhywbeth chwyldroadol.
‘Hawl democrataidd’
Roedd mwyafrif helaeth dinasyddion
Catalwnia yn cefnogi cynnal refferendwm annibyniaeth er mwyn penderfynu
dyfodol Catalwnia yn ddemocrataidd. Ond, roedd llywodraeth Sbaen wedi
gwrthod dod i gytundeb na chynnal trafodaeth o unrhyw fath gyda
llywodraeth Catalwnia ar y mater o gynnal refferendwm.
Roedd gwladwriaeth Sbaen yn mynnu bod y
refferendwm hon ar annibynniaeth Catalwnia yn ‘anghyfreithlon’ ac yn
‘anghyfansoddiadol’ ac yn benderfynol o’i atal. Drwy unrhyw fodd.
Yn y diwrnodau a’r wythnosau yn arwain at
y refferendwm bu llywodraeth Sbaen yn bygwth y cyfryngau, anfon yr
heddlu i atafaelu [confiscate] miliynau o bapurau pleidleisio, cau tudalen gwefan
swyddogol y refferendwm a chynnal cyrch [assault] ar bencadlys llywodraeth
Catalwnia, gan arestio o leiaf 14 o swyddogion Catalanaidd, gan gynnwys
Josep Maria Jové, ysgrifennydd cyffredinol is-arlywyddiaeth Catalwnia.
Ond er gwaethaf tactegau gormesol Sbaen,
roedd Catalwnia a’i phobl yn benderfynol o wireddu eu hawl democrataidd
ac i weld y refferendwm yn mynd yn ei blaen.
‘Cydsefyll’
Pan gyhoeddwyd y refferendwm yn swyddogol
gan Senedd Catalwnia fe wyddwn yn syth y byddwn yno yn cefnogi. Yn
ymgyrchydd eisoes gyda yr European Free Alliance Youth – sef
grwp Ewropeaidd ifanc sydd yn ymgyrchu dros hawliau lleiafrifoedd yn
Ewrop, roeddwn yn adnabod nifer o Gatalanwyr ifanc yn barod ac yn ysu i
fynd draw i’w cefnogi. Dyma oedd fy nyletswydd i, fel Cymraes, fel
dinesydd Ewropeaidd ac fel dinesydd rhyngwladol, i deithio draw a
chydsefyll ochr yn ochr i amddiffyn hawliau democrataidd fy nghyfoedion.
Teithiodd grwp enfawr ohonom i Gatalwnia – dros ugain o Gymry ifanc o Blaid Ifanc (adain ieuenctid Plaid Cymru) a dros bump ar hugain o bobl ifanc o’n chwaer bleidiau ar draws Ewrop.
‘Hyder ac urddas cyn trais’
Wrth gyraedd y ddinas ar noswyl y
refferendwm daeth yn amlwg yn syth fod Barcelona yn ferw o egni a lliw.
Ar bob stryd, ar bob wal ac ar ben bron bob adeilad, ac ym mhob twll a
chornel roedd baneri serennog Catalwnia yn pefrio gyferbyn a’r sloganau ‘Sí!’, ‘Votarem!’ a ‘Democracia!’ – pob un yn gweiddi neges o hyder a balchder.
Gan fod Sbaen wedi datgan fod y refferendwm yn ‘anghyfreithlon’ ac wedi anfon cannoedd ar gannoedd o heddlu y Guardia Civil
draw i’r wlad, roedd rhaid bod yn ofalus wrth drafod lleoliadau y
gorsafoedd pleidleisio. Gorweddai cysgod dwrn gwladwriaeth Sbaen yn
fygythiol uwchben y ddinas ond eto ni lwyddodd yr ansicrwydd i leddfu
[lleddfu - soften, weaken] unrhyw bendantrwydd.
Reodd Catalwnia am bleidleisio.
Ysgolion oedd rhan fwyaf o’r gorsafoedd
pleidleisio. Cysgodd sawl rhiant yn y gorsafoedd hynny dros y penwythnos
a’u gwarchod rhag cyrch arall gan yr heddlu. Ar fore’r refferendwm
daeth degau ar ddegau i bob gorsaf bleidleisio ar draws y wlad drwy
dywyllwch y bore bach er mwyn diogelu y gorsafoedd hynny rhag yr heddlu
ac, i bob pwrpas, amddiffyn democratiaeth yn gorfforol.
Gorsaf bleidleisio yn ardal
Horta-Guinardó oedd y cyntaf i ni ymweld ag ef y diwrnod hwnnw. Teimlais
rhyw obaith cynhyrfus wrth nesau at yr orsaf gan weld bron i gant o
bobl wedi ymgynnull [gather] tu allan gan warchod yr adeilad rhag fygythiad gan
yr heddlu.
Toc wedi i’r pleidleisio agor am naw o’r
gloch dechreuodd y lluniau cyntaf o drais ciaidd [brutal] heddlu Sbaen ddod i’r
wyneb. Ar donfeddi’r cyfryngau cymdeithasol gwelais luniau o
bleidleiswyr yn cael eu curo, eu llusgo, eu taflu, a’u camdrin. Yn geg
agored a chyfog yn codi yn fy stumog gwelais luniau o’r Guardia Civil yn
sathru [trample] eu ffordd drwy rhengoedd o bleidleiswyr heddychlon gan ymosod
arnynt yn ffiaidd – a hynny dim ond am i’r bobl fynnu eu hawl i
bleidleisio.
Roedd teithio o amgylch y ddinas y
diwrnod hwnnw yn brofiad swreal. O orsaf pleidleisio i orsaf pleidleisio
fe gerddom ni fel llygad dystion rhyngwladol ar draws y ddinas – dinas
mewn gwlad oedd yn benderfynol o bleidleisio.
Gwelais orsaf pleidleisio ysgol Jaume Balmes wedi ei distrywio gan y Guardia Civil
– ei democratiaeth wedi ei rhwygo oddi wrthi yn ddidrugaredd. Gwelais
geir tywyll heddlu Sbaen yn gwibio’n fygythiol o amgylch y ddinas – eu
presenoldeb a’u grym yn gorwedd fel esgid drom ar draws y ddinas.
Gwelais orsafoedd pleidleisio yn brwydro i
aros ar agor er gwaethaf ymosodiadau seibr [cyber] gwladwriaeth Sbaen. Gwelais
giwiau anferthol o bobl – pobl fel ni, yn aros oriau am eu tro i
bleidleisio yn y glaw yn un res hir yn ymestyn yn herfeiddiol [defiant] ar hyd y
strydoedd – er gwaethaf y trais a’r bygythiadau. Meddyliais am y tro
diwethaf i mi bleidleisio nol gartref a pha mor ddibryder a ddi-hid oedd
y broses a gymaint yr oeddwn yn cymryd fy hawl i bleidlais yn ganiatol.
Bum yno yn lygaid dyst i barch eithriadol
wrth i’r ifanc gamu i’r ochr er mwyn caniatau i’r oedrannus bleidleisio
yn gyntaf. Gwrandawais ac ymunais yn y clapio, y bloeddio o lawenydd,
a’r llongyfarchiadau wrth i un pleidleiswr arall adael gorsaf
wedi bwrw eu pleidlais yn llwyddiannus.
Roedd hyder a gwydnwch [toughness] y
Catalanwyr yn anhygoel ac yn heintus [infectious].
Roedd Catalwnia yn pleidleisio.
Safais mewn undod ac mewn nerth law yn llaw gyda’m ffrindiau a gyda Catalanwyr i amddiffyn gorsaf pleidleisio Escola Cervantes rhag fygythiad y Guardia Civil dan floeddio ‘No pasaran!’.
Roedd fy nghorff yn crynu a ‘nghalon yn curo ond roedd fy osgo [demeanour, posture] yn
gadarn ac yn benderfynol. Mae’n rhyfedd y pethau rydych yn ei ddysgu am
eich hunain pan ddaw yr awr.
Clywais dorf yn canu yn ddigymell [spontaneous] ar hyd strydoedd cul ardal Gracia hen ganeuon Catalaneg. Clywais ‘Votarem’ yn troi yn ‘Hem votat’ – ‘rydym ni wedi pleidleisio’. Adleisiodd ‘Els carrers seran sempre nosters’ drwy’r dorf – ‘bydd y strydoedd hyn yn fythol eiddo i ni.’
Safais yno ar sgwar Plaça de Catalunya
ysgwydd wrth ysgwydd a fy nghyfoedion Ewropeaidd a’r nos i gyd yn fyw
dan dân undod a chydsefyll. Hyd yn oed wedi diwrnod o drais a dwrn gan
law wladwriaeth Sbaen, roedd yma gan y Catalanwyr hyder a herfeiddiwch,
gwydnwch, dathlu a dawnsio.
Breuddwyd Ewrop
Fel y disgwyl, fe wadodd Prif Weindiog Sbaen, Mariano Rajoy, fod
unrhyw refferendwm wedi digwydd yng Nghatalwnia yn yr araith a roddodd y
noson honno. Yn ei dyb ef, roedd ymateb yr heddlu wedi bod yn
“gyfiawn”. Anafwyd dros 800 o ddinasyddion Catalwnia gan y
Guardia Civil y diwrnod hwnnw, rhai yn ddifrifol.
Roedd tawelwch Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd i drais ac ymddygiad
gwladwriaeth Sbaen y diwrnod hwnnw ac yn y diwrnodau a ddaeth wedyn yn
llethol. Nid oes gan y gormes [
repression] a’r ymosodiadau hyn ar ddemocratiaeth a
weithredodd Sbaen unrhyw le mewn Ewrop fodern, heddychlon,
ddemocrataidd.
Ond ble oedd cefnogaeth Ewrop i Gatalwnia?
Nid “dim ond mater i Sbaen” yw achos Catalwnia – fe aiff i graidd
hanfod Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd ei hunan. Fe adeiladwyd yr Undeb
Ewropeaidd ar egwyddorion o gyd-weithio a chyd-fyw gyda’n gilydd ar y
cyfandir hwn a hynny drwy ddefnyddio deialog a chyfaddawd, democratiaeth
a heddychiaeth – nid trais a gormes.
Ni all Juncker, Tusk a gweddill y
Comisiwn Ewropeaidd eistedd ar y ffens. Os yw’n fater i Sbaen, mae hefyd
yn fater sy’n berthnasol i’r Undeb Ewropeaidd.
Mae rhaid ni fod yn barod fel dinasyddion
Ewrop i godi cwestiynnau anodd a heriol am natur Ewrop a’r undeb
Ewropeaidd. Mae rhaid i ni fod yn barod i newid a siapio y prosiect
Ewropeaidd o’i natur aneffeithiol bresennol i’r ddelfryd sydd yn deilwng
[teilwng - worthy] ohonom ni.
Ymlaen
Beth nawr i Gatalwnia? Gwn na fydd y wlad hon yr un fath eto.
Newidiodd Catalwnia am byth wedi
refferendwm Hydref y 1af. Pleidleisiodd dros ddau filiwn o bobl yn y
refferendwm, sef hanner y gofrestr etholiadol – ffigwr anhygoel o
ystyried y rhwystrau gormesol yr oedd Sbaen wedi ei gweithredu yn ystod y
dydd. O’r pleidleisiau a fwriwyd, pleidleisiodd 2,044,038 (92%) dros
annibynniaeth.
Amddiffynnwyd y wlad a’i hawliau dynol,
gwleidyddol, cymdeithasol, a dinesig gan drigolion Catalwnia a hynny
drwy gryfder, urddas a phendantrwydd. Yn un boblogaeth unedig, fe
amddiffynwyd y referendwm fesul tref, fesul ardal, fesul gorsaf, fesul
pleidlais a hynny yn wyneb creulondeb gwyllt ac anghyfreithlon heddlu
gwladwriaeth Sbaen.
Heb os, mae pobl Catalwnia a mudiad
torfol y wlad yn ysbrydoledig, yn gwbl ganmoladwy ac yn wers i ni yng
Nghymru ac i’r byd i gyd. Dyma ddemocratiaeth a hwnnw yn ddemocratiaeth
dorfol a llawen.
Fel dywedodd yr Arlywydd Pudigemont yn fuan wedi’r refferendwm: ‘La
pau, el civisme i la dignitat ens han dut fins aquí. L’èxit definitiu
depèn que ens hi mantinguem compromesos com mai. Seguim!’ – ‘Mae
heddwch, dinesigrwydd ac urddas wedi ein harwain ni yma. Mae llwyddiant
yn y pen draw yn dibynnu arnom ni i barhau fel hyn. Ymlaen!’
Ond mae’n anodd gwybod beth fydd y ffordd ymlaen yn awr.
Ar y 10fed o Hydref fe cyhoeddodd
Puidgemont ei fod yn derbyn mandad pobl Catalwnia dros ddod yn
wladwriaeth annibynnol ar ffurf gweriniaeth. Cynigodd fod ei lywodraeth
yn atal y datganiad swyddogol o annibynniaeth am ychydig o wythnosau er
mwyn agor cyfnod o ddeialog gyda llywodraeth Sbaen. Gwrthododd Rajoy yr
alwad am ddeialog gan fynnu bod Puidgemont yn cadarnhau iddo ddatgan
annibynniaeth a’u peidio gan fygwth diddymu awtonomi Catalwnia yn gyfan
gwbl.
Ar 16 o Hydref fe garcharwyd dau o
arweinwyr dau brif sefydliad cymdeithas sifil Catalwnia o blaid
annibynnieth a hynny heb fechnïaeth ar gyhuddiadau o annog brad a
gwrthryfel yn erbyn y wladwriaeth (sedition). Carcharwyd Jordi
Sànchez, llywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalaneg (ANC), a Jordi
Cuixart, llywydd Omnium Cultural, am eu rhan yn refferendwm Hydref y
1af. Rhyddhawyd hefyd heb basbort y prif heddwas Mossos (heddlu
Catalwnia), Josep-Lluís Trapero, a gyhuddwyd o beidio â gwneud digon i
atal pleidleiswyr rhag cymryd rhan yn y refferendwm dros annibyniaeth.
Mae gan Gatalwnia bellach garcharorion
gwleidyddol ac mae’n debyg fod dwrn haearnaidd Sbaen yn benderfynol o
gwympo ar y wlad ifanc hon.
Beth bynnag ddaw dros y diwrnodau, yr
wythnosau a’r misoedd nesaf fe wn i mi weld gwawrio gwlad newydd sbon – a
honno yn wlad hyderus, gref, fywiog, ddidwyll [sincere] . Mi wn y gwnaf barhau i
ymgyrchu ac amddiffyn democratiaeth a hawliau dynol. Ac mi wn yn
bwysicach na dim y byddaf yn parhau i gydsefyll gyda’r Catalanwyr tan
bod Catalwnia yn cael ei chydnabod a’i sefydlu fel gwladwriaeth
weriniaethol annibynnol.
Visca Catalunya lliure!