Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 20 November 2013

Monday 18 November 2013

Dynion od

Erthyglau am dri dyn rhyfedd o'r Bywgraffiadur ar-lein.


JONES , RICHARD ROBERT (‘ Dic Aberdaron ’; 1780 - 1843 ) ; brodor o blwyf Aberdaron , ac o bosibl o bentref Aberdaron . Saer coed a saer cychod oedd ei dad, ond ni fu llawer o lwyddiant ar ymdrech y mab i fwrw'i brentisiaeth gydag ef. Daeth yn adnabyddus oherwydd dwy nodwedd arbennig yn ei gymeriad, sef ei fedr eithriadol i ddysgu ieithoedd , a'i aflerwch [annibendod, untidiness] yn ei wisg a'i arferion. 


 Oherwydd ei ddiffyg diddordeb yng ngalwedigaeth ei dad, gorfodwyd ef yn gymharol gynnar ar ei oes i adael ei gartref, pa un ai o'i wirfodd [yn fodlon, willingly] ai o raid nid oes sicrwydd. Dechreuodd ddysgu Lladin pan oedd tua 12 oed, a chyn bod yn 20 yr oedd wedi dechrau dysgu Groeg . Ond naill ai am fod ysfa [craving, itch] crwydro yn ei waed, neu am fod gorfodaeth amgylchiadau yn peri iddo symud yn aml, ansicr a bratiog [heb drefn, shoddy] ydyw ei hanes ar hyd ei oes. Gwyddys iddo fod yn Lerpwl yn 1804 , ac yn Llundain yn 1807 , ac iddo aros am gyfnodau byr ym Mangor , yng Nghaernarfon , ac yn sir Fôn , ac iddo yn ystod ei grwydradau gael cyfle i ddysgu Hebraeg yn ogystal â rhai ieithoedd diweddar fel Sbaeneg ac Eidaleg .


Cariai nifer helaeth [mawr, eang, extensive] o lyfrau o'i gwmpas ym mhlygion ei ddillad, a bu rhaid arno droeon, o brinder bwyd a dillad, werthu rhai ohonynt a'u prynu yn ôl drachefn [eto] . Nid oedd ganddo unrhyw dro at lenyddiaeth, a gallai ddarllen llyfrau cyfain [cyfan - lluosog] heb wybod odid [go brin, mae'n annhebyg, scarcely] ddim am eu cynnwys. Bu o 1831 hyd 1832 yn gweithio ar ei eiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg , ac wedyn yn ceisio casglu enwau tanysgrifwyr er mwyn ei gyhoeddi, ond methiant fu. Bu f. yn Llanelwy 18 Rhagfyr 1843 a chladdwyd ef yno; y mae englyn ar garreg ei fedd gan Ellis Owen , Cefnymeysydd .

_______________________________________


PRICE , WILLIAM ( 1800 - 1893 ), ‘dyn od’ a hyrwyddwr [rhywun sy'n hyrwyddo rhywbeth] corff-losgiad ; g. 4 Mawrth 1800 yn Ty'nycoedcae , plwyf Rhydri , sir Fynwy , trydydd mab y Parch. William Price a Mary ei wraig. Bu mewn ysgol ym Machen ac wedyn yn ddisgybl i Evan Edwards , meddyg , Caerffili . Aeth i'r Royal College of Surgeons yn 1820 a phasio'n feddyg y flwyddyn ddilynol. Bu'n dilyn yr alwedigaeth honno yn Nantgarw , Trefforest , a Pontypridd , gan ddyfod [dod] yn bur [yn weddol] enwog fel meddyg ac fel llawfeddyg . Ystyriai ei hun yn archdderwydd ac arferai ddefodau [rites, ceremonies]  hynafol ar y Garreg Siglo ar gomin Pontypridd . Gwisgai yn od — hugan [cloak] wen, a than honno wasgod ysgarlad a llodrau [breeches, trousers] gwyrdd; am ei ben gwisgai glamp [giant, whopper] o groen llwynog. Dywedir ei fod yn credu mewn ‘cariad rhydd’ ac yn gweithredu yn ôl y gred honno; yr oedd yn credu y dylid llosgi ac nid claddu'r meirw ; bwytâi lysiau — nid cig; yr oedd yn gwbl wrthwynebus i fuchfrechiad [vaccination] a bywdrychiad [vivisection] ; yr oedd yn diystyru crefydd uniongred [orthodox] ; dirmygai [despise, spurn] gyfraith y wlad a'r rhai a weinyddai'r gyfraith honno ; yr oedd hefyd yn un o arweinwyr y Siartwyr . Wedi i Siartwyr fyned [myned - mynd] yn llu i Gasnewydd-ar-Wysg yn 1839 ffoes [ffoi Price i Ffrainc wedi ei wisgo fel benyw, ac yno daeth i adnabod Heine [bardd almaeneg] . Bu'n cymryd rhan mewn llawer o ymgyfreithio [litigation]; yn y llysoedd arferai gyfeirio at ei ferch, a alwai yn ‘ Iarlles Morgannwg ,’ [Iarlles - Countess]  fel ‘my learned counsel.’ Cyhuddwyd ef ym mrawdlys [assizes] Caerdydd , 1884 , gerbron y barnwr Stephens , o geisio llosgi corff marw ei fab , ‘ Iesu Grist .’ Canlyniad y prawf nodedig hwn oedd dyfarnu bod corff-losgiad yn gyfreithiol. Pan oedd yn 83 mlwydd oed cymerth [cymerodd]  ferch o'r enw Gwenllian Llewelyn yn ‘gydymaith’ [companion] iddo'i hun — daeth hi yn fam ‘ Iesu Grist yr Ail ’ a Penelope . Bu f. 23 Ionawr 1893 yn Llantrisant a llosgwyd ei gorff yn unol â chyfarwyddiadau manwl a phendant a adawsai [gadael].


 __________________________________

  DAVIES , RHYS (‘ Y Glun Bren ’; 1772 - 1847 ), pregethwr hynod ; g. 1772 yng nghymdogaeth Castellnewydd Emlyn . Dechreuodd bregethu yn ifanc gyda'r Annibynwyr ; addysgwyd ef gyda J. Griffiths , Glandŵr , Penfro . I Ogledd Cymru yr aeth i ddechrau a bu'n cadw ysgol ym Mhennal , Dinas Mawddwy , a lleoedd eraill ym Maldwyn a Dinbych . Yn 1796 yr oedd mewn cymanfa ym Mhenarth , aeth yn orfoleddus [gorfoleddus - triumphant, ecstatic] yno a sangwyd [sangu - tread] ar ei droed gan ŵr corffol o'r enw John Rogers ; o ddiffyg ymgeleddu'r [yma - gofal] anaf a gafodd, gorfu [gorfod] torri ei goes i ffwrdd a bu raid iddo wrth glun bren. Ychwanegodd hyn at ei hynodrwydd. Gŵr sarrug [blin, cas] a blaenllym [pigfain, miniog, sharp] ei dafod, meddai ddawn ymadrodd hylithr [he had a remarkable fluency], yn enwedig fel gweddïwr. Gwnâi ystumiau [gestures] afrywiog [yma - strange] wrth bregethu a gweddïo, a hynny er difyrrwch [amusement] mawr i bobl ieuainc. Adroddir am ddau amgylchiad diddorol iawn yn ei hanes. Yn 1803 , ar gais Mrs. Anwyl , Llugwy , aeth o Bennal i Dalybont , sir Aberteifi , i bregethu . Ef oedd yr Annibynnwr cyntaf i fyned yno ac oddi ar garreg-farch [mounting block] gwesty y ’ Black Lion ’ y traddododd [traddodi - deliver] ei bregeth. Hyn a fu'r achlysur i gychwyn yr achos Annibynnol yn y lle. Dro arall, pregethai yn ffermdy Bedd y Coediwr , Trawsfynydd , nes cael dylanwad rhyfedd ar lanc ifanc iawn a ddaeth wedi hynny yn un o bregethwyr mwyaf Cymru a adnabyddid fel ‘ Williams o'r Wern .’ 

  Arferai ar ei deithiau werthu ‘ Llythyrau Cymanfa ,’ ['Association Letters'] a diau [yn sicr, certainly] iddo drwy hynny wneuthur llawer o les [lles - benefit] i ardaloedd gwledig. Ymsefydlodd yn niwedd ei oes yn ardal Saron , Llangeler , ac yno y bu f. 6 Ionawr 1847 .


 

    Saturday 16 November 2013

    Lluniau Iestyn

    Diolch i Iestyn Hughes am sgwrs ddifyr iawn. Cliciwch yma ac yma i weld y lluniau. Cewch weld rhagor o waith Iestyn ar ei wefan yn fan hyn.

    Friday 8 November 2013

    Y Swagman o Lanfihangel Ystrad

    Yn dilyn ein sesiwn gyda Cen Llwyd, dyma i chi erthygl ddiddorol (Saesneg) am Joseph Jenkins:

    http://www.imagesandmeanings.com/2012/08/once-not-so-jolly-welsh-swagman-story.html#axzz2k4pbzGEF

    Joseph Jenkins

    Undodiaeth - geirfa o'r sesiwn diwethaf

    Rwy'n gobeithio i bawb fwynhau cyflwyniad Cen Llwyd am Undodiaeth. Nodais i nifer o eiriau yn ystod y sesiwn, gan gynnwys:

    enwad - grŵp crefyddol sy'n arddel yr un credoau neu ddaliadau, er enghraifft y Methodistiaid, y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. [denomination]

    addoli - to worship
    codi pac - mynd i ffwrdd  [pack up and go]
    cefnog - cyfoethog, ariannog [wealthy, well-to-do]
    cefnlen - backdrop, backcloth
    dehongli - interpret
    cyfyngu - culhau, crebachu, tynhau [restrict, limit, contract]
    gornest - cystadleuaeth [bout, contest]
    etholedig - elect [in theology]
    goddefgarwch - tolerance
    anghyfreithlon - illegal

    Tuesday 5 November 2013

    Guto Ffowc

    Yr oedd Guido "Guy" Fawkes, neu Guto Ffowc yn Gymraeg, (13 Ebrill 1570 – 31 Ionawr 1606), yn aelod o grŵp o Gatholigion Rhufeinig Seisnig a geisiodd gyflawni Cynllwyn y Powdr Gwn (neu'r 'Cynllwyn Pabaidd'), ymgais i chwythu i fyny Senedd Lloegr a lladd y brenin Iago I o Loegr, a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth Brotestannaidd trwy ladd y pendefigion Protestannaidd, ar 5 Tachwedd 1605, digwyddiad a goffeir ar Noson Guto Ffowc. Aflwyddiannus fu'r cynllwyn.

    Ganed Guto yn Efrog, a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin Sbaen. Cyflwynwyd ef i Robert Catesby, arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro Hugh Owen. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei arteithio, ei gael yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddienyddio tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf Eidaleg Guido, sy'n rhoi Guto yn Gymraeg.

    Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda Guto - dymi wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowc. Ar y noson honno rhoddid y Guto ar ben y goelcerth a'i losgi.

    [Erthgyl o Wicipedia]

    cynllwyn - plot, conspiracy
    pendefigion - aristocracy
    arteithio - torture
    teyrnfradwriaeth - high treason
    dienyddio - execute
    coelcerth - bonfire

    Tachwedd

    Tywydd S4C
    Oeddech chi'n gwybod mai tarddiad Tachwedd yw ''Tawch-wedd''...sy'n dweud y cyfan.

    Tawch - ffurf weladwy hylif pan fydd yn troi'n nwy

    Gwedd - y ffordd mae rhywun neu rywbeth yn edrych yn allanol, golwg

    Niwlog, felly!