Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 4 July 2017

Dyfodol Addysg Ieithoedd Tramor

Diolch i BBC Cymru Fyw am y ddwy erthygl yma ac yma

2 Gorffennaf 2017

Mae athrawon yng Nghymru'n "poeni'n fawr" am ddyfodol ieithoedd tramor, yn ôl arolwg gan y Cyngor Prydeinig. 

Mae'r arolwg yn dod i'r casgliad fod llai na 10% o ddisgyblion blwyddyn 10 yn astudio iaith dramor yn nhraean ysgolion Cymru. 

Dywedodd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru fod hyn yn gosod "her aruthrol".
Mae cynllun ar y gweill yn barod i geisio gwella'r sefyllfa, medd Llywodraeth Cymru.
Line break
Casgliadau eraill
  • 44% o ysgolion â llai na phump disgybl yn astudio iaith dramor ar gyfer lefel AS
  • 61% o ysgolion â llai na phump disgybl iaith dramor ar gyfer Safon Uwch
  • 63% o adrannau ieithoedd tramor ag un neu ddau athro llawn amser, gyda thraean yn dibynnu ar athrawon o wledydd eraill yr Undeb Ewropeiadd
Line break
Rhwng 2002 a 2016, bu gostyngiad o 48% yn nifer y disgyblion oedd yn astudio iaith dramor ar gyfer TGAU, i 6,891 y llynedd. 

O ran Safon Uwch, mae'r canran wedi gostwng 44% ers 2001. 

Mae'r adroddiad yn dweud fod y rhagolygon ar gyfer ieithoedd tramor "yn edrych hyd yn oed yn fwy bregus o ystyried y pwysau ariannol sydd ar ysgolion ac effaith posib gadael yr Undeb Ewropeaidd". 

Ychwanegodd fod diffyg athrawon yn fygythiad pellach i ddarpariaeth ieithoedd tramor. 

Dywedodd fod y sefyllfa'n debygol o fod yn "ddifrifol" os na fydd athrawon o wledydd eraill y UE ar gael yn dilyn Brexit, gan fod 34% o ysgolion yn dibynnu ar yr athrawon hynny. 

Daw'r arolwg 18 mis wedi i Lwyodraeth Cymru ddechrau ar gynllun Dyfodol Byd-eang i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor yng Nghymru. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ystod y misoedd diwethaf yn unig, mae'r llywodraeth wedi sicrhau nawdd pellach ar gyfer prosiectau mentora ysgolion cenedlaethol, wedi ei arwain gan academyddion a myfyrwyr iaith, ac mae wedi arwyddo cytundeb ar ddysgu ieithoedd gyda Llywodraeth Sbaen. 

"Rydym yn credu fod ieithoedd yn chwarae rôl bwysig wrth roi addysg gyflawn i berson ifanc, i'w cefnogi i ddod yn ddinasyddion sy'n gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn ieithoedd eraill a gwerthfawrogi diwylliannau eraill." 

Arolwg 2016-17 yw'r trydydd adroddiad blynyddol ar sefyllfa dysgu ieithoedd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. 

Annog mwy i astudio ieithoedd tramor

3 Rhagfyr 2015

Bydd pedair o brifysgolion Cymru'n cyhoeddi cynllun newydd i geisio mynd i'r afael â'r "gostyngiad difrifol" yn nifer y disgyblion ysgol sy'n astudio ieithoedd tramor modern.

Fel rhan o'r cynllun, bydd myfyrwyr ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth yn cael eu recriwtio a'u hyfforddi fel mentoriaid i fyfyrwyr ac fe fyddan nhw'n gweithio gyda disgyblion ysgol yn eu hardaloedd nhw.

Mae'r cynllun peilot yn cael nawdd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i strategaeth Dyfodol Byd-eang.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Pennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ac arweinydd academaidd y prosiect: "Er bod Cymru'n genedl ddwyieithog, mae nifer y disgyblion ysgol sy'n dewis astudio o leiaf un iaith fodern ar lefel TGAU wedi gostwng o 55% ym 1995 i tua 22% yn 2013.

"Rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yn llesteirio [llesteirio - rhwystro, atal, dal yn ôl] cyfleoedd addysgol, hyfforddiant a gyrfaol i bobl ifanc o Gymru."

Nid yng Nghymru'n unig y mae hyn yn broblem, ychwaith. Mae gostyngiad tebyg i'w weld yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan Loegr a'r Alban eu dulliau polisi eu hunain o wneud cynnydd.

Mae'r cynllun newydd yn ddilyniant o waith sy'n digwydd yn barod rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru, pan fo prifysgolion yn cynnal gwaith allanol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd.



Sunday 2 July 2017

Philippa ar Newyddion 9

Na, doedd hi ddim wedi cyflawni trosedd y tro hwn, ond sôn am gymathu dysgwyr i'r gymuned a wnaeth hi:

https://www.facebook.com/Newyddion9/videos/322375004884325/