Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 5 August 2014

Enwi'r bysedd: Bys yr Uwd a Wibwd Nobwd

EinCymraeg
Modryb y Fawd, Bys yr Uwd, Pen y Gogor, Jac y Peipar a Robin Ewin Bach. Dyna ddull fy nain o enwi'r bysedd; a oes fersiwn tebyg gennych chi?


Llinos Dafydd 
Bys bwtsyn, Twm Sgwlyn, Long Harris, Jac Dafis, Wil Bach :)

Dafydd Tanner
Bys bwtyn, Twm swglyn, Long Harris, Jac Dafis ac Ianto bach. O ardal cwm Cothi fi'n credu.

Aled Owen-Thomas
 Dyma beth odd Dadcu yn galw nhw (Sir Gâr): bys bodfys, bys misis, jon davis, [dim yn cofio], a wili bach.


Marged Haycock 
  Bys Bwstyn, Twm Swglyn, Dai Harri, Dic Mori, Jo Bac

Elinor Patchell
Bys bawd, bys bwstyn,long harris ,dai losin,wil bach.Mam o Aberaeron yn dysgu plentyn aned yng Nghaerdydd.

Catrin Beard
Modryb dy Fawd, Bys yr Uwd, Hirfys, Cwtshfys a Ningw Ningw Bach ar y nail law, ac ar y llaw arall... (1/2)

Catrin Beard 
 Yr hen Fawden, Gwas y Fawden, Ibn Abl, Gwasg y Stabl a Sioni Bach yn colli’i ben yn nôl dŵr o’r ffynnon (2/2)

 Awel Deg 
 Bys Bwtsyn, Twm Twrlyn, Tal Harris, Jac Dafis a Wil Bac


Ann Hopcyn
 Beni Beni, brawd Beni Beni, Beni Dabwd, Wibwd Nobwd, Bys Bach druan ŵr, dal ei ben o dan y dŵr, codi fyny fel y gŵr (Mr H Borth)


Esther Elias 
 Bys Mwstyn, Twm Siwgryn, John Dafi, Lloyd Harri a Wili Bach.

Atgofion o'r Ysgol Gynradd

Diolch i Lois Gwenllian a Ffrwti am roi sbardun i sgwrs ddifyr arall.

A hithau' ddiwedd tymor ar gynifer ohonom, yn blant, myfyrwyr ac athrawon - dw i'n teimlo mai dyma'r amser i edrych yn ôl dros ddyddiau difyr yr ysgol Gynradd. Wrth reswm, er bod cannoedd o atgofion melys - mae 'na lond llaw o rai crinji ac o edrych yn ôl, rhai reit ddoniol.

 1. Camgymeriad sylfaenol. Hollol anfwriadol. Ond mi wnaeth pob un ohonon ni hyn, dw i'n siŵr. Galw eich athrawes yn 'mam'. O! Mi barodd yr embaras am o leiaf tri amser chwarae.

2. Bob bore dydd Llun, mi fyddai rhaid ysgrifennu am yr hyn a wnaethoch dros y penwythnos. Roedd hyn yn dasg 'llun a stori' i ddosbarthiadau ieuengaf yr ysgol a thasg 'ysgrifennu dyddiadur' i'r dosbarthiadau hŷn. Heb os, mi wnaeth pawb, rhywben, ysgrifennu am rywbaeth na ddylen nhw. Dw i'n cofio sgwennu am Charli a Jini Mê (ein cŵn ar y pryd) yn mynd yn 'sownd' yn ei gilydd. Nesh i lun a phopeth!

3. Bob hyn a hyn, roedd un athro eisiau mynd a neges i un o'r athrawon eraill. Yn y dyddiau cyn rhwydweithiau a chyfrifon e-bost gwaith, byddai'r dasg o gario'r neges yn cael ei rhoi i un disgybl da. Os mai chi oedd hwnnw - O MAM BACH - braint! Yr unig beth drwg am hyn oedd bod cenfigen eich cyd-ddisgyblion yn golygu eich bod hci'n cael eich galw'n 'teacher's pet' am weddill y dydd.



4. Erbyn blwyddyn 4, roeddech chi'n ddigon hen a chyfrifol i gael cario bwyd i blant ieuengaf yr ysgol ac felly yn cael eistedd ar ben y bwrdd. Sgôr!

5. Tua'r un pryd, roeddech chi'n cael uwchraddio o ddefnyddio pensil i wneud eich gwaith i ddefnyddio beiro! Inc du neu inc glas? O'r cyffro! Roedd beiro Bic yn un o'r pethau gorau erioed... am tua wythnos.

6. Roedd gweld un o'r rhain yn cael eu rhowlio mewn i'r dosbarth yn achosi cyffro heb ei ail!

7. Rhwng mis Mawrth a mis Mai roedd 'na un peth hynod annheg yn digwydd i griw bach y parti unsain. Roedd rhaid gwisgo gwisg ysgol ar benwythnosau ac yn ystod hanner tymor Sulgwyn. DAMIA CHDI STEDDFOD YR URDD!!!

 

8. Ar ôl cambihafio, neu chwarae British Bulldog (a chitha'n gwybod ei fod o wedi'i wahardd) roeddech chi'n cael eich cosbi drwy orfod rhoi eich trwyn ar y wal.

9.  Dyma sut gyfrifiadur oedd yn yr ysgol. (Dim ond un cofiwch.)

 

Roedd cael defnyddio cyfrifiadur yn fraint ac anrhydedd brin. Roeddech yn derbyn slot amser a oedd yn ddigon hir i ddylunio clawr ar gyfer llyfr thema'r tymor hwnnw.

10. Ym mlwyddyn 6, ar ôl cael diwrnod yn yr ysgol uwchradd roeddech chi'n dychwelyd yn llawer iawn doethach a deallus. Hefyd, roeddech gennych chi chwe wythnos o wyliau haf i argyhoeddi eich rhieni bod rhain yn rhan anhepgor o wisg ysgol POB ysgol uwrchadd.