Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 31 May 2014

Maya Angelou - Fe goda' i

Postiodd Arwel Rocet Jones hwn ar Facebook gynne ar ôl clywed am farwolaeth y bardd ac ymgyrchydd Maya Angelou.

Cyfieithiad llac o `And still I rise' gan Maya Angelou.

Ystumia fy hanes fel mynni        [ystumio - yma 'distort']
Â'th gelwydd ac â'th dwyll         
Sathra fi i'm pridd fy hun            [sathru - trample]
Ac fel llwch fe goda' i.
Wyt ti'n poeni 'mod i'n hy'?            [hy' - bold, presumptious]
Pam wyt ti i weld mor drist
Mod i'n swagro ac yn sgwario
Fel tae trysor yn fy nghist?!              [fel tae - fel petai]
Fel mae dydd yn dilyn nos
Fel llanw'n hyderus ei li'
Fel llam yng ngham fy ngobaith                [llam - leap, bound, jump]
Fe goda' i.
Oeddet ti am fy nhorri
A'm llygaid a'm pen ymhlyg?                       [ymhlyg - yma 'bowed']
Fy 'sgwyddau fel dagrau yn disgyn
A'm cri mor egwan a chryg?                     [egwan - gair barddonllyd: gwan] [cryg - hoarse]
Ydi fy hyder yn bryder i ti?
Paid a phoeni amdano fo,
Mod i'n chwerthin fel tae gen i
Domen aur yn fy nghwt glo!
Trywana fi â'th lygaid                         [trywanu - stab, pierce]
Saetha fi â geiriau bach
Lladd fi â'th gasineb
Ac fe goda i fel awyr iach!
Paid poeni mod i'n secsi!
Ydio'n dy synnu di
Mod i'n dawnsio fel pe tae 'na
Berlau mân rhwng fy nghluniau i?
O gysgodion cywilydd hanes
Fe goda' i
O wreiddiau fy nhaeogrwydd                   [taeogrwydd - servility]
Fe goda' i
Rwy'n gefnfor mawr yn llamu                  [llamu - neidio]
Yn corddi â llanw cry'.                             [corddi - churn, seethe]
O genhedlaeth goll a dwyllwyd
Fe goda' i
I wawrddydd sy'n rhyfedd a chlir
Fe goda' i
Gan ddod a'n hetifeddiaeth gyda mi
Y freuddwyd a'r gobaith a'r gri
Fe goda' i
Fe godi di
Fe godwn ni.

Sunday 18 May 2014

Iselder - Malan Wilkinson yn rhannu ei phrofiad…

(Erthygl wreiddiol ar safle Golwg360)


Dydd Iau, i gyd-fynd ag wythnos Iechyd Meddwl S4C fe fydda i’n cyfrannu at raglen Iselder: Un Cam ar y Tro.

Roedd siarad ar y rhaglen yn gyfle i mi geisio chwalu stigma a rhannu fy mhrofiad. Bwgan hyll yw iselder. Mae’n effeithio un ym mhob pedwar o’r boblogaeth. Ac eto, mae yna ddirgelwch mawr amdano a’i effeithiau ar fywydau unigolion. Mae’r tawelwch sy’n amgylchynu [surround] iechyd meddwl yn dawelwch byddarol [deafening].

Fis Medi diwethaf, fe wnes i ddioddef episod dwys o iselder. Fe wyddwn i wrth fynd i’r gwaith un bore ddechrau Hydref bod rhaid i mi weld meddyg y diwrnod hwnnw neu golli’r frwydr i oroesi fyddwn i.

Y diwrnod hwnnw, yn dilyn sgwrs gyda fy therapydd gwybyddol [cognitive] yn y feddygfa leol, fe ges i’r gwely olaf yn uned iechyd meddwl Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor. Roeddwn i yno yn derbyn gofal dwys am dri mis gan staff oedd yn ceisio f’atal rhag terfynu fy mywyd fy hun. Peth erchyll yw iselder pan fo’i grafangau yn gafael.

Deimlais i erioed ofn fel teimlais i’r noson gyntaf honno yn Hergest pan oeddwn i’n eistedd ar wely fy ystafell sengl. Roedd gen i lwyth o gwestiynau a dim atebion. Be’ oeddwn i’n dda yno? [=why was I there?]  Pwy oedd fy nghyd-gleifion? Pa mor hir fyddwn i yno? Oedd y bennod hon yn nodi dechrau’r diwedd i mi ynteu ddechrau’r broses wella?

‘Brwydr’

Roedd fy nghyfnod i yn Hergest yn gyfnod tu hwnt o anodd. Roedd yr awydd dwys oedd gen i derfynu fy mywyd fy hun yn gwneud pob diwrnod yn frwydr heb ei hail. Roeddwn i hefyd yn wynebu heriau ar ôl torri lawr yn emosiynol a seicolegol. Roeddwn i wedi dod i gredu pethau ddigon rhyfedd, fel bod sebon yr uned yn adweithio [react] gyda meddyginiaethau gwahanol gleifion i gadw rhai yn gaeth i’r uned am gyfnodau hirach. Roedd meddyliau cyffredin wedi colli eu siâp a’r cyfan yn fy ngorfodi i gwffio [cwffio - gair y gogledd = ymladd] brwydrau dyddiol dwys.

Fe dreuliais i dri mis gyda chleifion oedd yn dioddef pob math o anhwylderau meddyliol fel anhwylder meddwl y ddau begwn [bipolar], iselder a Schizophrenia. Roeddwn i’n gweld yr unig seicolegydd Cymraeg i oedolion yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio gyda seiciatrydd hefyd.

Chwalu’r stigma 

Un o’r sialensiau mwyaf am anhwylderau [disorders] meddyliol yw eu bod yn gallu effeithio ar fywydau cleifion am gyfnodau eithaf hir. Gall effeithio ar allu person i fyw bywyd cyffredin a gweithio. Roedd ambell glaf yn gleifion tymhorol oedd yn derbyn gofal am episodau o anhwylderau oedd yn eu heffeithio yn eithaf cyson. Roedd cleifion eraill, fel fi, yn newydd i’r system a heb brofiad blaenorol o iselder. Ond, sut oedd mynd ati i geisio dechrau chwalu’r stigma ynghylch iechyd meddwl?

Fe ddechreuais i geisio chwalu’r tawelwch drwy drydar pytiau achlysurol am fy mhrofiad yn yr uned a’r hyn yr oeddwn i yn ei wneud yn ddyddiol. Roedd yr ymateb a’r gefnogaeth gan y cyhoedd yn anhygoel. Cefais lawer un yn gyrru negeseuon o gefnogaeth ataf ac yn son ei bod yn braf darllen yn agored am brofiadau iechyd meddwl. Cefais negeseuon gan unigolion oedd wedi dioddef eu hunain hefyd, ond oedd wedi methu siarad am y peth yn agored. Roedd derbyn y fath  ymateb ar gyfnod mor dywyll yn fy mywyd yn hynod galonnog.

Drwy gydol fy amser yn uned Hergest dysgais mor bwysig oedd siarad a rhannu straeon, nid yn unig drwy drydar – ond siarad gyda ffrindiau, teulu,  cyd-gleifion a staff hefyd. Mae gan bobl a’u geiriau allu arbennig, i godi pobl eraill pan fo’r tywyllwch mawr yn eu trechu [overpower]. Ond i hynny ddigwydd, mae’n rhaid i unigolion fod yn agored. Yn barod i siarad. Mae siarad yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl mewn ffordd sydd nid yn unig yn llesol i gymdeithas ond i fywydau unigolion.

Braf gweld S4C yr wythnos hon yn mynd ati i chwalu’r tawelwch byddarol hwnnw.

Bydd Iselder: Un Cam ar y Tro yn cael ei darlledu nos Iau am 9.30yh ar S4C.

Sunday 11 May 2014

Y Wisg Gymreig

Erthygl wreiddiol ar wefan Amgueddfa Cymru yn fan hyn.

Mae'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg 'genedlaethol' Gymreig, sef gwraig mewn clogyn coch a het ddu uchel, yn deillio [tarddu - derive] o wahanol ddylanwadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhan ydoedd o ymgais i roi hwb i ddiwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad [bygythiad - bygythio - bygwth].
 

Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried yn wisg genedlaethol wedi'i seilio ar y dillad a wisgid gan wragedd cefn gwlad Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef pais [pais - dilledyn y mae merch neu wraig yn ei  wisgo o dan sgert neu ffrog] wlanen resog [ac arno streipiau] a wisgid o dan goban [coban - mantell] neu wn [gŵn - gwisg hir] agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap. Roedd steil y gwn yn amrywio - gellid cael gwn llac [llac - llaes - loose] fel côt, gwn gyda bodis wedi'i ffitio a sgert hir a hefyd gwn byr, a oedd yn debyg iawn i wisg farchogaeth.

Cerdyn post yn dangos merched o Solfach, de-orllewin Cymru, 1880-1900

Roedd yr hetiau a wisgid yn gyffredinol yn y cyfnod hwn yr un fath â hetiau'r dynion. Nid ymddangosodd yr het uchel math 'simnai' tan ddiwedd y 1840au ac ymddengys iddi gael ei seilio ar gyfuniad o'r hetiau uchel a wisgid gan ddynion, sef y 'top hat' a math o het uchel a wisgid mewn ardaloedd cefn gwlad yn ystod y cyfnod 1790-1820.

Bu'r Arglwyddes Llanofer, gwraig i un o feistri haearn Gwent, yn frwd dros wisg 'genedlaethol' a byddai'n annog pobl i'w gwisgo yn ei chartref ac mewn eisteddfodau. Credai ei bod yn bwysig annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac i wisgo dillad nodweddiadol Gymreig. Llwyddodd yn hyn o beth, a hynny'n bennaf oherwydd fod pobl yn teimlo bod eu hunaniaeth genedlaethol o dan fygythiad. Roedd gwisgo gwisg genedlaethol yn un ffordd o hyrwyddo'r hunaniaeth honno.

Llun a dynnwyd yn Nolgellau, 1929, gan ffotograffydd y GWR

Dylanwad pellach oedd gwaith yr arlunwyr a gynhyrchai brintiau i'r fasnach ymwelwyr a oedd yn prysur dyfu, ac a arweiniodd at boblogeiddio'r syniad o wisg Gymreig draddodiadol, ac yn ddiweddarach waith y ffotograffwyr a gynhyrchai filoedd o gardiau post. Arweiniodd hyn at greu un math o wisg, yn hytrach na'r steiliau amrywiol a geid yn gynharach yn y ganrif.

A oes yna'r fath beth â chilt Cymreig?

 

Telynor llys Llanofer, 19eg ganrif


Er i Arglwyddes Llanofer greu gwisg unigryw i'w thelynor llys (gweler y ffotograff), nid oedd ganddi lawer o ddiddordeb mewn creu gwisg genedlaethol ar gyfer dynion. O achos hynny, nid oes gan ddynion Cymru wisg genedlaethol, er i rai yn ddiweddar geisio 'adfer' cilt Cymreig na fu mewn bodolaeth erioed!

Hyd yn oed yn yr Alban, mae tystiolaeth mai datblygiad cymharol ddiweddar yw'r cilt sy'n gyfarwydd inni heddiw. Byddai'r dynion yn draddodiadol yn gwisgo plad, wedi'i glymu â belt a'i daflu dros yr ysgwydd.

Siolau

Rhwng 1840 a 1870 y siôl oedd y gyfwisg [accessory] fwyaf ffasiynol. Y sioliau mwyaf poblogaidd oedd y sioliau Paisley, y daeth y patrwm gwreiddiol ar eu cyfer o Kashmir yn India.

Siol Paisley

Y sioliau mwyaf cyffredin ar y cychwyn oedd sioliau plaen ag ymyl patrymog wedi'i gysylltu wrthynt. Yn ddiweddarch, cafodd llawer math o sioliau cain [cain - prydferth, hardd] gyda phatrymau ar yr ymyl neu dros y cyfan eu gwehyddu [gweu - weave] yn Norfolk, yr Alban a Pharis. Erbyn canol y ganrif ceid sioliau mawr iawn i gyd fynd â sgertiau llawn y cyfnod. Câi sioliau eu gwneud mewn ffabrigau a phatrymau eraill, gan gynnwys sidan Canton a les [sider - darn o ddefnydd sy'n debyg i rwyd fain a chywrain] cain a wnaed â pheiriant, er mai'r patrwm Paisley a sioliau gwlân cartref gyda phatrymau sgwarog a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru.

Yn ddiweddarach, er nad oedd gwragedd ffasiynol bellach yn gwisgo sioliau, byddai gwragedd cefn gwlad a gweithwragedd y trefi'n dal i wneud a gwisgo sioliau llai o faint. Erbyn y 1870au cynhyrchid sioliau rhatach drwy brintio'r patrymau ar wlanoedd [gwlan - lluosog] main neu gotwm. Roedd sioliau gwlân, gwau a Paisley'n gyffredin yn ardaloedd cefn gwlad Cymru hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cafodd y siôl Paisley ei derbyn yn rhan o'r wisg 'Gymreig', er nad oes dim yn draddodiadol Gymreig yn ei chylch.

Cario babi mewn siol - "Welsh fashion"

Un traddodiad sy'n wirioneddol Gymreig yw'r arfer o gario babanod mewn siôl. Ceir darluniau yn portreadu
hyn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan arferai gwragedd Cymru wisgo darn syml o ddefnydd wedi'i glymu am eu cyrff. Pan ddaeth sioliau'n boblogaidd gwnaed yr un defnydd ohonynt ac mae rhai gwragedd hyd heddiw yn dal i lynu at y traddodiad hwn.

Saturday 10 May 2014

Geraint Rhys - Ble mae'r haul?



Ble Mae'r Haul?
Ble Mae'r Haul?
Ble Mae'r Haul?
Mae fy esgyrn yn oer.

Clywch mae'r lleuad yn lliwio'r llyn
Y gwacter o'n cwmpas, natur yw hyn.
Y nos yn neilltuo i'r nendod hwy
I gofio'r cysgod a'r fagddu mwy.

Ble Mae'r Haul?
Ble Mae'r Haul?
Ble Mae'r Haul?
Mae fy esgyrn yn oer

Daw'r dydd trwy'r tywyllwch
Ystyr trueni yw ystyr tristwch
Cynhesu'r mêr a chynhesu'r galon
Gadewch i fi nofio yn eich afon.

Wythnos Iechyd Meddwl ar S4C

Mae Amser i Newid Cymru ac S4C yn falch o gyhoeddi partneriaeth, fydd yn arwain at wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Mai 12 – 18. Pwrpas yr wythnos yw i annog pobl i siarad ynghylch iechyd meddwl, a chodi ymwybyddiaeth o’r salwch, pwnc sydd yn dal i fod yn dabŵ yng Nghymru.

 

Mi fydd S4C yn darlledu nifer o raglenni sy’n trafod iechyd meddwl dros yr wythnos, gan gynnwys rhaglen ddogfen Cysgod Rhyfel sy’n sôn am brofiadau cyn-filwyr sydd wedi dioddef o straen yn dilyn eu profiadau mewn rhyfeloedd (PTSD). Darlledir rhaglen hefyd sy’n olrhain stori Owain Gwynedd, sy’n adnabyddus fel un o gyflwynwyr Stwnsh a chyflwynydd chwaraeon yn Iselder: Un Cam ar y Tro, wrth iddo drafod iselder ac hunan-laddiad ei dad yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:

“Mae’r bartneriaeth yma gyda S4C yn gyfle cyffrous i herio’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl. Maen gyfle i ni ddangos i bobl Cymru fod gwneud pethau bach fel mynd am baned neu ofyn ‘sut wyt ti’n teimlo?’ yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n delio â phroblem iechyd meddwl - does dim rhaid bod yn arbenigwr i fod yn ffrind. “

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C

“Dyma gyfres o raglenni sy'n galluogi’r gynulleidfa i rannu profiadau nifer o bobl sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl, ac i wybod am yr effeithiau ar eu teuluoedd hefyd. Yn aml mae hyn yn digwydd tu nôl i ddrysau, ac mae rhannu profiadau yn gymorth i rai sy’n dioddef ac yn fodd i ni’r gynulleidfa i ddysgu a gwerthfawrogi'r hyn y maent yn ei wynebu hefyd. Fel darlledwr rydym yn falch fod y rhaglenni hyn yn medru cyfrannu tuag at weithgareddau wythnos iechyd meddwl.”

Gall pawb wneud rhywbeth i fod yn rhan o’r wythnos drwy ddechrau siarad am iechyd meddwl o fewn eu teuluoedd neu yn y gweithle. Mae yna awgrymiadau defnyddiol ar wefan Amser i Newid Cymru i’ch helpu i ddechrau sgwrs. Mi allwch hefyd ddangos eich cefnogaeth drwy chwilio am Amser i Newid Cymru ar y we ac ar Facebook a Twitter i ymuno â’r sgwrs ar-lein.”

Bydd Amser i Newid Cymru yn gweithio gyda S4C i hyrwyddo’r wythnos ac yn hysbysebu ar y sianel, yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth, rhannu straeon pobl sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl ac i ddechrau sgwrs.

1 o bob 4
Nos Fercher 14 Mai 9.30, S4C

Iselder : Un Cam ar y Tro
Nos Iau 15 Mai 9.30, S4C

Cysgod Rhyfel
Nos Sul 18 Mai 9:00, S4C

Newyddion 9
Nos Lun i Nos Wener 12-16 Mai, S4C
Lois
Nos Sul, 18 Mai 10:00, S4C

Friday 9 May 2014

Gan bwyll

Ara deg a bob yn dipyn mae stwffio bys i dîn gwybedyn! [gwybedyn - gnat]