Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 23 July 2019

Yr hen ffordd o fyw...

Diolch i EinCymraeg am hyn:

"Llysieuyn y mae gwragedd yn ei roi wrth eu llygaid er mwyn cymell wylo pan fydd eu gwŷr wedi marw". Diffiniad William Salesbury (cyfieithydd y Beibl) o nionyn (winiwn), yn ei Eiriadur (1547)

Fi mewn tri!

https://twitter.com/PrynhawnDaS4C/status/1143548829368803328

Pa dri pheth sy'n bwysig i ti?

Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru - diogelu enwau lleoedd

Diolch i Nation.Cymru am y darn isod.

https://nation.cymru/opinion/how-you-can-help-protect-the-future-of-welsh-place-names/

Sara Wheeler

Enwau – maent o’m hamgylch ymhobman, pob dydd, ac ym mhob rhan o’n bywydau.

Ein henwau personol, enwau clefydau, enwau bandiau, enwau mudiadau (e.e. gwleidyddol), enwau adar a bywyd natur, enwau ffilmiau ac enwau nwyddau a brandio; pob math o enwau, a phob un yn dylanwadu ar ein profiadau personol a chymunedol, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Haf diwethaf, cawsom gryn dipyn o drafod yma yng Nghymru, am ailenwi’r ‘Ail Groesfan Hafren’. Os ydy hynny’n swndio braidd yn llond ceg ddryslyd, mae hynny oherwydd ei bod hi – gan mai disgrifiad, yn hytrach nag enw, oedd gan yr ail bont ar y pryd.

Felly roedd angen ailenwi, neu enwi yn y lle cyntaf, yr ail bont; y drafferth oedd, y diffyg ymgynghoriad hefo’r cyhoedd, gyda phroses tryloyw o unrhyw fath, ynghyd a’r enw dadleuol a ddewiswyd, sef ‘Pont Tywysog Cymru’.

O ran hanes a gwleidyddiaeth Cymru a Lloegr, mi roedd hwn yn enw profoclyd, ond ar ben hyn mi roedd hefyd yn dangos diffyg dychymyg, gan ychwanegu at y rhestr o bethau topograffigol hefo’r un enw.

 
Mi ellir dweud ei fod yn ychwanegu at y broblem o ‘anhysbysrwydd parhaol’ yng Nghymru, megis yr hyn a chwynir amdano gan George Graham (Cofrestrydd cyffredinol) ynglŷn ag enwau personol Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ceir hefyd yma diffyg cysylltiad perthnasol i’r cyd-destun lleol, lle byddai wedi bod yn bosib gwneud o ran llenyddiaeth berthnasol i’r Afon Hafren.

Bregus

Ar adeg y ffrae dros ail(enwi’r) ail bont, esboniodd yr Athro David Thorne, Cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, y byddai’r ffwdan yma wedi ei hosgoi pe bai deddf wedi cael ei phasio gan Gynulliad Cymru i ddiogelu enwau hanesyddol Cymru.

Y broblem oedd, fod Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddim yn rhoi amddiffyniad o gwbl i enwau lleoedd yng Nghymru. Fuodd ymdrech gan yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dai Lloyd, i gynnig mesur i ddiwygio hyn, ond mi fethodd, gan adael enwau lleoedd Cymru’n fregus.

Mae’r sefyllfa yma yn parhau, ac rydym wedi gweld enghreifftiau diweddar o ddisodli enwau lleoedd a thai yng Nghymru, wrth iddynt gael ei chyfieithu neu ei diystyru.

Mae hyn yn drist, gan fod enwau lleol, a’r storïau cysylltiedig, yn rhoi mewnwelediad pwysig i hanes ardaloedd ac maent yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth a’n hunaniaeth.

Ymwybyddiaeth

Sefydlwyd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn 2011, hefo’r nod i hybu ymwybyddiaeth, astudiaeth a dealltwriaeth o enwau lleoedd a’u perthynas ag ieithoedd, amgylchedd, hanes a diwylliant Cymru. Fuont yn llwyddiannus mewn bachu grant Loteri, yn ôl yn 2013, at y prosiect ‘Gwarchod’, a dan y cyllid yma maent wedi cyflawni gwaith onomasteg bwysig trwy gynnal gweithdai, ysgolion undydd a chynadleddau rhanbarthol, darlithoedd a theithiau tywys, a thrafod wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd i gasglu gwybodaeth a storïau.

Felly, er gwaethaf y siom ynglŷn â’r ddeddf a’r mesur perthnasol, mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn parhau i weithredu i warchod enwau lleoedd, ac ym mis Mehefin, fuont yn llwyddiannus unwaith yn rhagor mewn bachu grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, at brosiect treftadaeth newydd o’r enw ‘Llwybrau’.

Bydd y grant newydd, werth £38,000, yn galluogi’r gymdeithas is barhau, dros y ddwy flynedd nesaf, i godi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd fel rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol ac annog cofnodi enwau er mwyn eu diogelu i’r dyfodol, a hynny gan ddefnyddio llwybrau ar hyd a lled Cymru yn thema ar gyfer y gwaith.

Bydd y gwaith yn cynnwys trafod hefo pobl leol i gasglu a chofnodi mân enwau lleol – yn enwedig y rheini sydd wedi eu cadw a’u trosglwyddo hyd yma ar lafar yn unig; bydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru hefyd yn cynnig cymorth i ddadansoddi a dehongli’r enwau hyn.

Trawiadol

Os oes gennych ddiddordeb ym mhrosiect ‘llwybrau’ ac/ neu mewn enwau lleoedd Cymru yn gyffredinol, beth am gefnogi Cymdeithas Enwau Lleol Cymru trwy ddod yn aelod?

Mae’r wybodaeth o sut i wneud hyn ar gael ar y tudalen cysylltu/ ymuno. Hefyd ar y wefan, ceir cyn-gopïau o gylchlythyr y gymdeithas, ynghyd a llenyddiaeth berthnasol, megis erthyglau yn y maes. Dyma hefyd lle gewch wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau a newyddion y gymdeithas.

Mae’r gymdeithas hefyd yn weithgar iawn trwy’r cyfryngau cymdeithasol – mae ganddynt dudalen Facebook ac maent yn trydari ar @EnwauLleoedd

Wrth baratoi’r erthygl yma, cofiais am yr olygfa fwyaf trawiadol yn addasiad ddiweddar Opera Cymru o’r llyfr ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ gan Islwyn Ffowc Elis, lle mae Ifan Powell wedi teithio mewn amser i Gymru dystopaidd:

Ifan:                                        Ble mae Llanwrda?
Yr Athro Richards:            Murddun, fy ffrind.
Ifan:                                        A Thal y Llyn?
Seeward:                              Ruin 16
Ifan:                                        A Bryncrug?
Seeward:                              Ruin 15
Ifan:                                        A Llanegryn?
Yr Athro Richards:             Mae wedi mynd.
(Libreto, Tudalen 42-43)

Mae Ifan yn gweiddi “Na! Dim mwy! No More” gan dal ei ben, wrth ddod wyneb yn wyneb a’r hunllef “Western England”, fel y mae Cymru yn y dyfodol paralel hwn, gyda’r enwau lleoedd annwyl i gyd wedi ei disodli a’r pentrefi wedi ei difethaf.

Er mai ffuglen yw hyn, nid yw’n naid enfawr y dychymyg i weld goblygiadau peidio gweithredu nawr i warchod enwau lleoedd Cymru – a gyda chyllid Loteri yn gefnogaeth, nid oes wedi bod amser gwell i ddod yn rhan o’r ymgyrch.

Nid yw Sara Wheeler yn ysgrifennu ar ran Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Friday 5 July 2019

Ben Lake yn cwrdd â dysgwyr Aberteifi





Cafodd Ben Lake ei ethol yn Aelod Seneddol dros Geredigion o drwch blewyn ar noswaith ddramatig iawn ddwy flynedd yn ôl. Fel aelod ieuengaf ond un Tŷ’r Cyffredin mewn cyfnod hynod gythryblus ac mewn senedd grog, mae Ben wedi gweld chwalfa disgyblaeth y pleidiau mawr traddodiadol.


O gael cwtsh annisgwyl gan Boris Johnson ar ei ddiwrnod cyntaf, i helbulon  y cynteddau pleidleisio ac agweddau llwythol llawer o aelodau’r pleidiau mawr, mae Ben yn dyst i un o gyfnodau mwyaf diddorol ac ansicr yn hanes y wladwriaeth Brydeinig.


Ar ôl clywed am brofiadau’r Aelod Seneddol newydd ers cael ei ethol, cafodd y dosbarth gyfle i holi ystod eang o gwestiynau am Brexit,  manteision ac anfanteision o fod yn aelod o blaid fach, annibyniaeth i Gymru, pa wleidyddion San Steffan mae Ben yn eu hedmygu fwyaf, a’r hyn all ddigwydd ar ôl yr haf.


Mae Ben yn credu ei bod yn ddigon posibl y cawn ni dri phrif weinidog ac etholiad cyffredinol arall eleni. Er bod popeth mor ansicr, roedd Ben yn gallu dweud â sicrwydd y bydden ni’n trafod Brexit a’i oblygiadau cyfansoddiadol am flynyddoedd i ddod.