Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 26 July 2013

Pwt bach am y Gymraeg (4) - Llugoer

Daw llugoer o llug + oer (llug o'r Saes. luke, hen air am "gweddol gynnes"). Lukecold yw llugoer felly, ond lukewarm a geir yn y Saesneg.

Diolch i Ein Cymraeg

Monday 22 July 2013

Cymraeg i Oedolion - Ioan Talfryn a Heini Gruffudd

Ioan Talfryn: y pres yn cael ei gamgyfeirio

Mae arian tuag at ddysgu Cymraeg i oedolion wedi cael ei gamgyfeirio yn y gorffennol yn ôl tiwtor sydd yn gweithio yn y maes.

Mae Ioan Talfryn sydd yn brif Weithredwr Popeth yn Gymraeg yn dweud bod y pres sydd wedi ei rhoi i hybu mwy i ddysgu'r iaith wedi ei wario 'ar "haenau o fiwrocratiaeth" a ddim ar lawr gwlad.

Ond mae'n croesawu un o brif argymhellion adroddiad newydd oedd yn dweud y dylid sefydlu un corff cenedlaethol i geisio cynyddu'r niferoedd sydd yn dysgu Cymraeg.

Cafodd y grŵp ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru gyda'r bwriad i edrych ar y maes dysgu'r iaith.

Dywedodd Ioan Talfryn ar y Post Cyntaf fore Sadwrn:

"Yr hyn mae llawer ohonom ni yn y maes yn teimlo a dweud y gwir ac mae'r adroddiad yn tanlinellu hynny, ydy bod llawer iawn o arian wedi cael ei wario ar haenau o fiwrocratiaeth ac yn y blaen oedd ddim wir yn mynd i'r rheng flaen sef y darparwyr."

Ffigyrau yn gostwng
 
Roedd yr adroddiad yn nodi bod ryw 18,000 o oedolion yn dewis cofrestru i gymryd rhan mewn dosbarthiadau Cymraeg i oedolion bob blwyddyn a bod dim llawer o gynnydd wedi bod yn y ffigwr hynny yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Ond mae ef yn honni bod y ffigwr mewn gwirionedd ychydig filoedd yn llai, ryw 16,000 a hynny am fod rhai dysgwyr yn cael eu cyfri dwywaith.

O dan y system bresennol mae modd gwneud cwrs craidd sydd yn gwrs cyson wythnosol neu gyrsiau eraill megis rhai undydd neu ysgolion haf: "Yr hyn sydd yn amlwg o'r ffigyrau yw bod y niferoedd y dysgwyr craidd wedi gostwng ac mae'n rhaid cofio hefyd bod llawer o'r dysgwyr ar y cyrsiau atodol yma wedi eu cofnodi yn barod ar y cyrsiau craidd."

'Rhwng dwy stôl'
 
Ar y Post Cyntaf dywedodd y tiwtor Cymraeg hefyd bod y canolfanau Cymraeg a gafodd ei sefydlu ar draws Cymru yn 2006 wedi 'syrthio rhwng dwy stôl':

"Dydyn nhw ddim yn naill beth neu'r llall. Dydyn nhw ddim yn gorff cenedlaethol. Dydyn nhw ddim yn ddarparwyr lleol ymhob rhan o Gymru, efallai eu bod nhw mewn ambell ran o Gymru...

"Felly tacluso'r peth sydd angen ei wneud. Mae angen cryfhau'r pen a'r gwreiddiau ar yr un pryd. Mae'r arian wedi mynd i'r canol sydd ddim yn gallu gwneud naill beth neu'r llall."

Dywed ei fod yn croesawu'r syniad o gael un corff cenedlaethol ond bod hi yn bwysig bod digon o arian ar gael:

"Dw i'n cytuno gyda Heini (Gruffudd) bod angen dyblu'r arian Cymraeg i oedolion ac ar yr un pryd yn cytuno gyda y bobl hynny sydd yn dweud bod eisiau cryfhau y darparwyr ar y gwaelod. Felly dydyn ni ddim eisiau colli'r ddau beth."

[Diolch i BBC Cymru]


Heini Gruffudd: Angen dyblu’r gwario ar wersi Cymraeg i Oedolion


Mae angen i Lywodraeth Cymru ddyblu’r £13 miliwn sy’n cael ei wario ar ddysgu Cymraeg i oedolion, yn ôl enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn neithiwr.

Yr Erlid gan Heini Gruffudd ddaeth i’r brig, a’r wythnos hon hefyd bu’r awdur yn trafod dyfodol dysgu Cymraeg i Oedolion yng nghylchgrawn Golwg.

Ddechrau’r wythnos roedd y chwech o ganolfannau Cymraeg i Oedolion dan y lach mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru, gyda galw i’w dileu er mwyn cael gwared ar ‘haen o reoli a gweinyddu’ er mwyn ‘creu cyfundrefn fwy cydweithredol… sy’n gost-effeithiol ac yn sicrhau bod ansawdd yn gwella’.

Dim digon yn llwyddo i ddysgu

O’r 18,000 sy’n dechrau ar gyrsiau dysgu Cymraeg bob blwyddyn, tua 900 sy’n dod yn rhugl, ac yn ôl y Grŵp Adolygu nid yw hynny’n ddigon er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu gwlad ddwyieithog.

Er mwyn gwella’r sefyllfa go-iawn, yn ôl Heini Gruffudd, mae angen rhoi mwy o bres ar y bwrdd.

“Efallai ei bod hi ychydig bach yn siomedig nad oes llawer o gyfeiriad [yn yr adroddiad] at y cyllid newydd angenrheidiol i ymestyn y maes,” meddai.

“Bydde rhywun wedi gobeithio y bydde arian ychwanegol ar gael i roi amser i fod ffwrdd o’r gwaith am flwyddyn… cynlluniau fel yna, fel bod miloedd newydd sydd eisiau dysgu yn cael yr amser o’r gwaith i wneud hynny.

“I broffesiynoleiddio’r holl beth, yn hytrach na’n bod ni’n dal i drin y peth fel trefnu blodau.”

Y stori’n llawn, gydag ymateb Canolfan Cymraeg i Oedolion y gogledd, yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.

[Diolch i Golwg 360]

Pwt bach am y Gymraeg (3) - Bratiaith

Bratiaith, clytiaith, briwiaith, bastardiaith, Cymraeg pot jam, Cymraeg cerrig calch, siprys (<gibberish), siarad cyllyll a ffyrcs.

[Diolch i Ein Cymraeg]

Wednesday 17 July 2013

Llenyddiaeth Gymraeg yn taro'r gwaelod

Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Dewi Prysor, Manon Rhys - maent i gyd yn euog o lygru eu darllenwyr yn ôl Emlyn Evans, golygydd cyntaf Barn sy’n dweud ei ddweud am safon a ieithwedd ffuglen Gymraeg ddiweddar.

[Erthygl o'r cylchgrawn Barn]

Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth sydd yn wirioneddol gas gennyf, sef collfarnu llenyddiaeth fy ngwlad a’m iaith fy hun. Ond dyna sydd raid.

Ers rhai blynyddoedd, cedwais lygaid ar ffuglen Gymraeg, a’r gwir yw fy mod yn wastad yn mynd yn fwy pryderus – a thrist – yn ei chylch, o ran y cyfrwng a’r cynnwys. Cwbl atgas gennyf yw rhegi, ar lafar ac mewn print – yn neilltuol gan ferched. A merched yw awduron y rhan fwyaf o nofelau Cymraeg y cyfnod hwn. Dywedaf yn blaen fod amryw byd o’r cyfrolau a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd diweddar yn dwyn mawr warth ar ein cenedl. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o ‘straeon erotig’, Tinboeth a Tinboethach, y naill o ddeg stori a’r llall o ddwsin, a 21 o awduron rhyngddynt – un gwryw (sylwer) ac ugain o fenywod, ac y mae’r ieithwedd, yn gyffredinol, yn ddirmygus. Cafodd y ddau lyfr gefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Y mae gwaeth i ddod, ac enwaf rai o’r cyfrolau y bûm yn pori ynddynt. Clywyd ar Radio Cymru mai Caryl Lewis yw ‘Hoff Awdur y Cymry’. Hawyr bach! Ei chyfrol gyntaf hi oedd Dal Hi, gwaith sydd yn llawn o regfeydd o bob math, gan ddechrau yn llinell gyntaf un y stori. Yna’r ddwy nofel gan Menna Medi, Hogan Horni a Hogan Horni isio mwy: rhegfeydd yn y naill a’r llall, a’r ddwy wedi derbyn cymhorthdal gan y Cyngor Llyfrau. Rhaid enwi tair o gyfrolau Bethan Gwanas: Hi yw fy Ffrind, Llinyn Trôns a Gwrach y Gwyllt – iaith salw a gwrthun fel a geir mewn nifer o’r llyfrau a ddarllenais. Ar gefn amryw ohonynt cawn eiriau o rybudd, fel ‘Anaddas i blant’ a ‘Llawn o ryw a thipyn o regi’.

Yna’r gyfrol Neb ond Ni gan Manon Rhys, gwraig i weinidog (neu gyn-weinidog); dyma’r ‘nofel’ a ddyfarnwyd yn deilwng o Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 2011 ac a dderbyniodd gymorth y Cyngor Llyfrau. A’r iaith? Llu o eiriau Saesneg (mewn sillafiad Cymraeg) a nifer o regfeydd anllad. Ni cheir cyfeiriad o gwbl at y ddeubeth hyn yn y beirniadaethau yng nghyfrol y Cyfansoddiadau. Paham tybed?

Deuwn yn awr at y prif droseddwr yn y mater dan sylw, Dewi Prysor. A minnau’n dilyn hynt ein llenyddiaeth ers dros drigain mlynedd, ni thybiais erioed y gwelwn fyth lyfrau yn cynnwys iaith mor gywilyddus – yn wir, aflan – â phum nofel (hyd yma) y gwr hwn. Y maent yn orlawn o regfeydd anllad, o eiriau anweddus, ac o gryn gabledd hefyd o dro i dro. Fe gyflwynodd un o’i lyfrau, Madarch, i’w fab ieuanc. Beth tybed oedd barn y bychan o weld tudalen 277 lle y ceir cryn ugain o eiriau anllad? Cefnogwyd y gwaith gan y Cyngor Llyfrau.

Dywedir am rai o leiaf o’r awduron y cyfeiriwyd atynt eu bod yn ysgrifennu er mwyn denu mwy a mwy o bobl i ddarllen Cymraeg ac ehangu eu diddordeb yn ein diwylliant llenyddol. Beth? Ymddiddori yn y math o iaith fras a chomon y soniwyd amdani? Os felly, rhag eu cywilydd. Difetha’n traddodiad diwylliannol a wnânt, nid ei hybu; llofruddio yn hytrach na hyrwyddo’r iaith. A dwyn melltith ddigamsyniol ar ddyfodol ein cenedligrwydd.
* * *
Fe â’r meddwl yn ôl i fis Hydref 1960, yn dilyn cyhuddo cwmni Llyfrau Penguin o dorri’r ddeddf ‘Cyhoeddiadau Anllad’ (1959) trwy gyhoeddi argraffiad diymyrraeth o’r nofel rywiol Lady Chatterley’s Lover, llyfr ac ynddo 63 o eiriau anllad yn ymwneud â pherthynas rhwng gwraig aristocrataidd a’r garddwr (a’r ddau’n briod). Ar y rheithgor yn y llys yr oedd naw o ddynion a thair o ferched, a rhoddwyd copi o’r llyfr i bob un ohonynt, gan ofyn iddynt benderfynu a oedd y cynnwys yn debygol o’u llygru (‘deprave and corrupt’ yw’r geiriau). Galwyd ar nifer o awduron, academyddion a phersonau adnabyddus i gefnogi Llyfrau Penguin, gan gynnwys y nofelydd E.M. Forster a’r bardd a’r llenor Cecil Day-Lewis, a rhoi tystiolaeth dros ragoriaethau llenyddol y llyfr. Llwyddodd eu hachos, rhyddfarnwyd y cyhoeddwyr, a gwerthwyd tair miliwn o gopïau o’r nofel mewn tri mis – y gwerthiant uchaf, mi gredaf, nes i’r gyfrol Fifty Shades of Grey ddod o’r wasg a gwerthu 5.3 miliwn o gopïau mewn ychydig fisoedd. Ai gwir felly yw honiad un ysgolhaig mai gwneud arian yw’r unig reswm dros gyhoeddi gweithiau pornograffig ?

Nid oedd dyfarniad y llys yn syndod, fel yr oedd rhan un gwr arbennig felly. Y gwr hwnnw oedd John Robinson, Esgob Woolwich, awdur y gyfrol adnabyddus Honest to God. Galwai ef yn ei lyfr am ddileu y gair ‘Duw’ o’n geirfa am genhedlaeth gyfan, gan ddadlau mai myth oedd llawer o gynnwys y Beibl, a herio sylfaen moesoldeb Cristnogol a chonfensiynol. Llyfr oedd Lady Chatterley’s Lover, meddai, y dylai pob Cristion ei ddarllen. Wel!

Rhaid cydnabod bod y gyfrol Honest to God wedi dod yn ddatganiad sylfaenol o’r hyn a elwir yn ddiwinyddiaeth y South Bank. Fe gydymffurfiai â’r newidiadau mawr yn yr hinsawdd cymdeithasol a diwylliannol yn chwedegau’r ganrif, fel, er enghraifft, yr alwad am foesoldeb newydd. Daeth oes aur (meddid) i grefydd ym Mhrydain, ac yn ei lyfr The Roots of a Radical (1980) plediodd y dylid rhoi blaenoriaeth i ddidwylledd dros uniongrededd, i gariad dros gyfraith, i gyfiawnder dros drefn ac i bersonau dros egwyddorion. A oedd hyn yn ymgais i chwalu’r hen ddelweddau? Oedd. Ond pan fu farw’r awdur yn 1983, yr oedd y llanw ym myd diwinyddiaeth wedi dechrau troi yn ei erbyn, a cheidwadaeth gul yn bygwth bwrw allan y rhyddfrydiaeth lac a phen-agored.

Ychydig wythnosau cyn ei farw yn Ebrill 1985, mewn trafodaeth radio â John Roberts Williams, gresynai Syr Thomas Parry at gyflwr difrifol Cymraeg llafar ac argraffedig yr oes. Ni welai ef bwrpas o gwbl yn yr ymdrechion dros yr iaith os mai dyna’r safon a gynhelid.
* * *
Yn fy marn i, colled anaele i’r bywyd cymdeithasol ym Mhrydain oedd dileu sensoriaeth yn y byd celfyddydol. Dyna a ddigwyddodd ar ddechrau chwedegau’r ganrif ddiwethaf, a chanlyniad hynny oedd cwymp catastroffaidd yn y safonau moesol. (Gwn fy mod yn y lleiafrif wrth gefnogi sensoriaeth, ond hynny ni’m dawr.) Ai dyna’r rheswm gwaelodol dros y pennawd (mewn teip mawr) uwchben erthygl yn y Daily Telegraph ar 2 Ionawr eleni? TAXPAYER FUNDS WELSH AUTHORS TO WRITE BOOKS NO ONE WANTS, meddai’r pennawd.

Sonnir yn yr erthygl am drethdalwyr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynorthwyo i godi miliynau o bunnau i roi grantiau i awduron Cymru, a’u llyfrau yn aml ond yn gwerthu dyrnaid o gopïau. (Y mae gwybodaeth yn yr erthygl sydd yn aflonyddu cydwybod dyn.)

Yn nrama Ibsen, An Enemy of the People, y mae un dyn, Dr Stockmann, y meddyg lleol, am weld chwalu’r ganolfan hamdden am fod gwenwyn yn y cyflenwad dwr, ac y mae’r ardal i gyd yn ei erbyn. Yn ei anerchiad yn y cyfarfod cyhoeddus, dywaid: ‘The majority never has right on its side. Never, I say. That is one of the social lies that a free, thinking man is bound to rebel against.’

Ac dyma ymateb gan Dylan Llŷr sy'n ysgrifennu blog Anffyddiaeth

Ynghylch ymateb i ddeinosoriaid

Mae'n gallu bod yn anodd penderfynu sut i ymateb i erthyglau fel hyn. Yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barn, mae Emlyn Evans wedi rhoi cynnig ar ail-agor dadl a roddwyd yn y gwely ddegawdau lawer yn ôl. I arbed y drafferth i chi, dyma grynodeb: "blah blah llenyddiaeth a moesoldeb yn dirywio, iaith aflan, merched sydd ar fai, CABLEDD, blah blah blah dylid sensro pob llyfr nad wyf i'n eu hoffi (sef y mwyafrif) blah blah". Cyn i chi feddwl fy mod yn bod yn annheg, mae Mr Evans wir yn chwerw o hyd ynghylch cyhoeddi Lady Chatterley's Lover yn 1960. Mae darllen yr ysgrif fel cerdded ym mherfeddion y jyngl yn rhywle a dod ar draws deinosor: roedd rhywun yn tybio bod y fath greaduriaid wedi hen farw allan.

Rwy'n siwr bod Barn yn deall hyn yn iawn ac mai ennyn ymatebion syn oedd yr amcan wrth ei chyhoeddi. Mae'n debyg bod hynny wedi gweithio, oherwydd dyma fi. Y broblem yw y byddai cael trafodaeth fawr gall a difrifol am y pethau yma'n gwneud i ni gyd edrych yn ddwl fel Cymry Cymraeg. Nid yw safbwyntiau mor druenus o hen-ffasiwn yn haeddu'r fath ymdriniaeth barchus. Ar y llaw arall, rwy'n ei chael yn anodd anwybyddu'r fath sylwadau: byddai gadael i ysgrif fel hon eistedd yn gyfforddus a di-her yn nhudalennau cylchgrawn mor barchus hefyd yn gwneud i ni edrych yn od yn yr un modd. Yr ymateb callaf felly yw pwyntio a chwerthin.

Mae'r ffaith bod rhywun fel Mr Evans yn casáu llyfr yn reswm ardderchog i'w ddarllen. Mae gan Dewi Prysor baragraff ardderchog i'w roi ar gefn ei gyfrol nesaf, o leiaf.

Saturday 6 July 2013

Pwt bach am y Gymraeg (2): Glas

EinCymraeg

Gair hyblyg iawn yw GLAS: gall olygu glas, gwyrdd, llwyd; cynnar (bore glas), ifanc (glaslanc), llwyr (gorau glas), lled (glaswenu) a mwy!

Pwt bach am y Gymraeg (1): Diwylliant

Ystyr "diwyllio" yw gwneud rhywbeth yn ddof neu'n hydrin (< di- + gwyllt): dyna'r effaith y mae diywlliant yn ei chael arnom ni... i fod! (Ein Cymraeg ar Twitter).

Wednesday 3 July 2013

Cymraeg Clir: goddefol neu weithredol?

  1. Cymraeg Clir@Cymraeg_Clir  
    Mae Cymraeg Clir yn argymell ysgrifennu brawddegau gweithredol yn lle rhai goddefol. Pam hynny?
  2. Cymraeg Clir Beth yw brawddeg weithredol? Ateb: un lle mae goddrych y frawddeg yn gwneud y weithred.

  3. Ond beth yw goddrych y frawddeg? Ateb: y peth neu’r person sy’n gwneud y weithred mae’r ferf yn cyfeirio ati.

  4. Cymraeg Clir
    Enghreifftiau: Agorodd Alun y bocs. Bydd Ffion yn ateb y ffôn. Mae’r ceffyl wedi dianc. Y goddrychau yw Alun, Ffion a’r ceffyl

  5. Cymraeg Clir
    Beth yw brawddeg oddefol? Ateb: un lle mae goddrych y frawddeg yn ‘dioddef’ y weithred.

  6. Cymraeg Clir
    Goddefol: lle mae rhywun arall yn gwneud rhywbeth i oddrych y frawddeg.


  7. Enghraifft o frawddeg oddefol: Dechreuwyd 50 o brojectau gan y cyngor. Nid yw goddrych y frawddeg yn gwneud rhywbeth.

  8. Cymraeg Clir Tair brawddeg oddefol: Cafodd y bocs ei agor gan Alun. Atebir y ffôn gan Ffion. Agorwyd drws y stabl er mwyn i’r ceffyl ddianc.

  9. Goddefol: Dechreuwyd 50 o brojectau gan y cyngor. Gweithredol: Dechreuodd y cyngor 50 o brojectau.
     
  10. Cymraeg Clir
    Tair brawddeg weithredol: Agorodd Alun y bocs. Bydd Ffion yn ateb y ffôn. Mae’r ceffyl wedi dianc.

  11. Goddefol: Trefnir y digwyddiad gan y pwyllgor.

  12. Gweithredol: Mae’r pwyllgor yn trefnu’r digwyddiad.

  13. Gweithredol: Ysgrifennais lythyr at y cyngor.

  14. Goddefol: Ysgrifennwyd llythyr at y cyngor gan Mrs Jones Gweithredol: Ysgrifennodd Mrs Jones lythyr at y cyngor.

  15. Brawddegau goddefol: yn gallu swnio’n ffurfiol a stiff.

  16. Cymraeg Clir
    Brawddegau gweithredol: yn fwy bywiog ac uniongyrchol.

Gân nhw neu gewn nhw?

  1. Vaughan Roderick@VaughanRoderick 30 Jun
     "Gewn nhw" yn llawer fwy cyffredin na "gân nhw" hyd y gwn i. Efallai fy mod yn anghywir!
  2. Iola Wyn Iola Wyn@IolaWen 30 Jun
    @VaughanRoderick Os yw'n helpu 'gân nhw' yw Bow Street. Mwy na thebyg yn newid rhywle rhwng Aberystwyth ac Aberaeron i 'gewn nhw '