Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 22 January 2014

Tuesday 21 January 2014

Plygu glin i'r Cwîn?

1.MBE Efa'r Urdd

Ni ddylai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru fod wedi derbyn anrhydedd gan y Frenhines Lloegr, yn ôl pôl piniwn o ddarllenwyr golwg360.





Roedd 81% o bleidleiswyr o’r farn na ddylai Efa Gruffudd Jones fod wedi derbyn yr MBE a gafodd hi yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, tra bod 13% o blaid ei phenderfyniad, a 6% ddim yn siŵr.
Fe gafodd y pôl piniwn ei sefydlu yn dilyn ymateb cryf i’r stori ar golwg360 ar ddechrau’r wythnos a oedd yn sôn am y Cymry gafodd eu hanrhydeddu, gan gynnwys y gantores Katherine Jenkins, yr actores Ruth Jones a Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler.

anrhydedd - urddas, bri, "honour"

2. O "Blog Menai"

Mi geisiwn ni wneud hyn mewn ffordd - ahem - mor addfwyn â phosibl.  Roedd Efa Gruffudd Jones yn anghywir i dderbyn MBE gan y sefydliad Prydeinig.  Wna i ddim dadlau nad oedd ganddi hi hawl i dderbyn yr 'anhrydedd' na bod rhywbeth yn anfoesol am ei dderbyn, na'i bod yn bradychu unrhyw beth - materion goddrychol ydi'r rheini - efallai bod agweddau gwleidyddol gwaelodol Ms Jones yn wahanol i fy rhai fi, ac mae ganddi cymaint o hawl i'w barn wleidyddol a sydd gen i.  Mi wna i ddadlau serch hynny bod yr hyn a wnaeth - ag ystyried ei gwaith a'r rhesymau pam y cafodd yr 'anhrydedd' - yn rhyfeddol o ansensitif.

addfwyn - tyner a mwyn
sefydliad - establishment
goddrychol - ymateb y synhwyrau a'r teimladau i rywbeth (subjective)
gwaelodol - basic


Mae'r llwyth yma o mymbo jymbo cyntefig yn cael ei ystyried yn normalrwydd gwrthrychol gan y cyfryngau torfol a dyna pam bod y BBC Cymru, y Western Mail ac ati yn ffrwydro mewn llawenydd ecstatig pan mae yna benblwydd neu enedigaeth brenhinol.  Maen nhw'n credu eu straeon tylwyth teg eu hunain, ac yn cymryd yn ganiataol bod pawb arall yn eu credu nhw hefyd.  Neu o leiaf does ganddyn nhw ddim mymryn o ots am ddaliadau y sawl nad ydynt yn eu credu - caiff rheiny eu hanwybyddu yn llwyr.

cyntefig - yn perthyn i gyfnod cynnar (primitive)
gwrthrychol - objective
cyfryngau torfol - mass media
daliad - barn

Mae yna draddodiad Chwith gwrth sefydliadol yng Nghymru. Ond mae yna draddodiad rhyddfrydig Gymreig gwrth sefydliadol yn bodoli hefyd - a'r Mudiad Cenedlaethol ydi etifedd y traddodiad hwnnw y dwthwn hwn.

rhyddfrydig - liberal
dwthwn - amser neu gyfnod arbennig

Dydi'r Bib a'r cyfryngau yn ehangach ddim yn trafferthu cydnabod bodolaeth y traddodiad amgen hwn wrth gwrs - mae digwyddiadau Prydeinig / Brenhinol yn cael eu trin fel pe na bai unrhyw anghytundeb o gwbl ynglyn a'u priodoldeb.  Mi'r ydan ni'n disgwyl hynny - sefydiadau Prydeinig ydyn nhw wedi'r cwbl.  Ond dydan ni ddim yn disgwyl i'r Urdd geisio ein sgubo ni o dan y carped.  Mae penderfyniad Ms Jones yn creu'r argraff nad ydi'r Urdd yn deall bod yna draddodiad gwleidyddol ac ideolegol gwahanol yng Nghymru, neu o leiaf bod yr Urdd yn derbyn ei fod yn draddodiad y gellir ei anwybyddu - yn union fel y BBC.  Mae'n rhoi'r argraff ei bod yn gweld yr ideoleg sy'n rhoi bodolaeth iddi hi ei hun yn israddol.

priodoldeb - propriety
israddol - inferior


3. Blog Ifan Morgan Jones


Rhaid cyfaddef fy mod i wedi fy siomi braidd gan barodrwydd ambell un o hoelion wyth ein diwylliant i fynd i Loegr i gwrdd â’r Frenhines. O fewn y pythefnos diwethaf cafwyd wybod bod yr Archdderwydd Christine James wedi bod draw i Balas Buckingham, a heddiw clywyd bod Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones wedi derbyn MBE.

hoelion wyth - pobl bwysig 
Does gen i ddim unrhyw fath o gasineb personol tuag at unrhyw aelod o’r Teulu Brenhinol. Maen nhw’n gwneud swyddogaeth digon diflas yn fy marn i, yn enwedig y Frenhines a ddylai fod wedi cael ymddeol degawdau yn ôl. 
Serch hynny rydw i’r credu bod Teulu Brenhinol bellach yn anacroniaeth ac wedi ei ddarostwng yn ddim mwy nag arf PR er mwyn hybu buddiannau’r rheini sydd am reoli ein cymdeithas. Mae gan 'bennaeth ein gwladwriaeth' lai o rym na bron i bawb arall yn y wlad - mae'n cael ei thywys o le i le i ysgwyd llaw â hwn a'r llall. Nid yw ei Hymerodraeth Prydaeinig bellach yn bodoli, ac roedd yn beth digon atgas tra’r oedd yn bod, felly wela i ddim pam y byddai unrhyw un yn teimlo bod cael bod yn aelod ohono yn anrhydedd.

darostwng - tynnu i lawr
buddiannau - interests
tywys - arwain
atgas - detestable, disgusting 
Roedd trydariad gan Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, yn crynhoi teimladau nifer ar y pwnc:
“Methu credu fod menyw ddawnus, ifanc Gymreig yn meddwl fod yna werth bod yn Member of the British Empire yn 2014.”

 Mae Christine James wedi ceisio wfftio’r feirniadaeth am ei hymweliad hithau â Phalas Buckingham drwy ddweud:

wfftio - dismiss, pooh-pooh

“Yn bersonol doeddwn i ddim yn gweld problem gyda’r peth. Hynny yw, roeddwn i’n gweld e’n wahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth – tasen ni wedi cael gwahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth Ffrainc, neu beth bynnag, bydden ni wedi bod yn falch iawn o fynd â’r gore o farddoniaeth Gymraeg yno.”

Alla i ddim credu ei bod hi wir wedi meddwl bod derbyn gwahoddiad gan Frenhines Lloegr yr un fath a mynd i weld Arlywydd Ffrainc. Mae’r ddwy yma yn nabod Cymru yn ddigon da i wybod y byddai plygu glin i’r Cwîn yn ennyn y fath ymateb, ond wedi penderfynu gwneud hynny beth bynnag. Pam felly?

ennyn - cynnau, cychwyn tân 
Ond dydw i ddim yn gweld ryw lawer o gyfiawnhad o gwbl am ymweliad yr Archdderwydd â Phalas Buckingham. Dywedodd Christine James mai’r bwriad oedd “dathlu’r ffaith bod barddoniaeth fel cyfrwng yn ffynnu ym Mhrydain ar hyn o bryd”. Wrth gwrs fe ddigwyddodd y dathliad hwn ar 19 Tachwedd ac ni chafodd y byd wybod nes 20 Rhagfyr. Os mai tynnu sylw at gryfder barddoniaeth Brydeinig oedd y nod, pam cadw’r peth dan eich het archdderwyddol am fis cyfan?

cyfiawnhad - justification

Yr unig esboniad alla i feddwl amdano yw eu bod nhw ill dwy wedi gwirioni at gael eu gwahodd i gwrdd â’r Frenhines, ac wedi derbyn er gwaethaf yr ymateb anochel! Ond hoffwn i gael gwybod os oes esboniad arall am y peth - wedi'r cwbl dydyn ni heb glywed ochr Efa Gruffudd Jones o'r stori o gwbl.

gwirioni - syrthio mewn cariad â rhywun neu rywbeth nes colli pob synnwyr cyffredin
syrthio mewn cariad â rhywun neu rywbeth nes colli pob synnwyr cyffredin

Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.
anochel - heb fod modd ei osgoi

Monday 13 January 2014

Cathod

Blingo'r gath at ei chynffon (= gorwario); digon oer i rewi cath; rhegi fel cath; pawb a'i gath yn y cwpwrdd (cath= sgerbwd y Sais)

Diolch i Ein Cymraeg

Thursday 2 January 2014

Cerdd dant - Ryan Davies yn esbonio


Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain - Gerallt Lloyd Owen

Gwenan Gibbard - Cenedl gan Gerallt Lloyd Owen

'Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain' *

Roedd yma genedl cyn i genhedloedd
Wthio'u rhifedi ar ddieithr fydoedd;
Roedd yma nodded y myrdd mynyddoedd,
Galar hen hil yn y glaw a'r niwloedd;
Hen iaith cyn geni ieithoedd i ddynion,
Deuai'r acenion gyda'r drycinoedd.

Hon oedd ein cenedl drwy bob cenhedlaeth
A hon fu'n arwain ein cof a'n hiraeth;
Hon wybu hanes ein hannibyniaeth
A hon wybu gynnal bob gwahaniaeth;
Rhoi arwyr ac arwriaeth i'w coffáu,
Mynych delynau a mwyn chwedloniaeth.

Bydd yma genedl pan fydd cenhedloedd
Yn anghofiedig a'u heang fydoedd;
Bydd yma nodded tra bydd mynyddoedd,
Bydd eco'r glewion tra bydd creigleoedd,
A bydd iaith tra bydd ieithoedd, a'i geiriau
Yn rhoi oeriasau i lawr yr oesoedd.



* Dyfyniad o gerdd Waldo Williams

rhifedi - number
nodded - gair henffasiwn am nawdd: lloches, diogelwch [refuge]
myrdd - rhif diderfyn (infinity, myriad)
wybu - gwybu [amser gorffennol ffurfiol o 'gwybod']
arwriaeth - heroism
coffáu - cofio, gwneud rhywbeth er cof am rywun neu rywbeth [commemmorate]
mynych - aml, cyson
mwyn - caredig, tyner
glewion - glew: dewr, di-ofn
creigleoedd - rocky places
oeriasau - oer+ias: chill, shiver [?]
drycin - storm o wynt a glaw

Hanes Cerdd Dant


Mae’r grefft o ddatgan barddoniaeth i gyfeiliant [cyfeiliant - accompaniment] telyn, ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn mynd yn ôl yn bell iawn yn hanes y diwylliant Cymraeg. Yn anffodus, mae’r union ffurf honno wedi hen fynd ar goll yn niwloedd y gorffennol, ac ni allwn ond dyfalu sut yn union yr oedd canu gyda’r tannau [tant - string] yn swnio ganrifoedd lawer yn ôl. Gwahanol iawn i heddiw, bid siwr. O ddechrau’r ugeinfed ganrif y daw’r recordiadau sain cynharaf o ganu cerdd dant, ac mae hyd yn oed y recordiadau hynny yn swnio’n wahanol iawn i gerdd dant yr unfed ganrif ar hugain.

Ar bapur, nid oes cofnod cerddorol o osodiad [setting] cerdd dant hyd at 1839, yn llyfr John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper – ond nid oes sicrwydd fod y gosodiad hwnnw `chwaith yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a glywid ar lafar gwlad.

Mae’r delyn wedi chwarae rhan amlwg yn nhraddodiad cerddorol pob un o’r cenhedloedd Celtaidd. Yr hyn sy’n arbennig ynglyn â’r traddodiad Cymreig efallai yw’r berthynas glòs a ddatblygodd rhwng ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Mewn cerdd dant, mae’r ddwy elfen yn gwbl annatod [integral]. Ar y geiriau y mae’r pwyslais, fodd bynnag: cyfrwng i gyflwyno barddoniaeth yw cerdd dant, a datgan y geiriau yn glir ac effeithiol yw’r nod bob amser.

Credir mai’r un person oedd y telynor a’r datgeiniad [singer] ar un adeg – a cheir awgrym fod y person hwnnw, yn aml iawn, hefyd yn fardd. Roedd hi felly yn grefft arbenigol iawn, yn gyfyngedig i lysoedd y tywysogion a’r uchelwyr. Ond wedi i oes aur y tywysogion a’r uchelwyr [aristocrats]  Cymreig ddod i ben, fe gymerwyd yr awenau o dipyn i beth [gradually] gan y werin bobl.

Yr Ugeinfed Ganrif

Pan gyhoeddodd Telynor Mawddwy ei werslyfr cerdd dant Y Tant Aur ym 1911, fe werthwyd y copïau i gyd o fewn dim o dro. Mae’n amlwg felly fod yna ddiddordeb yn yr hen grefft ym mhob rhan o’r wlad.
Ond ar yr un pryd, mae’n ymddangos fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â gwahanol ddulliau o osod, pa geinciau [cainc - tune] oedd yn addas, ac yn y blaen.

Roedd diffyg cyfarwyddiadau a rheolau pendant yn creu ansicrwydd, a’r diffyg hwn a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934.

Ar y pryd, roedd statws cerdd dant yn bur isel. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933, er enghraifft, fe wthiwyd y cystadlaethau cerdd dant i gyd i un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu.

Sefydlu’r Gymdeithas Gerdd Dant ym 1934 oedd y digwyddiad mwyaf tyngedfennol a fu yn hanes y grefft erioed, oherwydd fe arweiniodd at dwf a datblygiadau mawr. Aethpwyd ati i dynnu rhestr o reolau unwaith ac am byth.

Nid mater bach oedd hynny, a bu llawer o drafod a dadlau. Yn wir, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at y chwedegau. Cwynai rhai ar y pryd fod rheolau fel hyn yn fwy tebyg o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond yr effaith bwysicaf yn y pen draw oedd dileu unrhyw ansicrwydd, a chreu trefn allan o anhrefn.

Ail Hanner yr Ugeinfed Ganrif

Un o gewri’r byd cerdd dant yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a phrif hanesydd y gymdeithas, yw Aled Lloyd Davies. Yn ei lyfr Hud a Hanes Cerdd Dannau mae’n nodi 1947 fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol.

Bu newid mawr mewn cerdd dant yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd hi. Yna dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau, ac yna, o’r 70au ymlaen, fe ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf.

Tyfodd cystadleuaeth y corau i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai dyma’r cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Yn y pumdegau, roedd hi’n dal yn bosibl cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant mewn neuaddau pentref bychain fel un Penybontfawr, ond bu raid chwilio am lefydd mwy yn fuan iawn. Dechreuodd yr ŵyl gael sylw gan y cyfryngau radio a theledu, ac o’r nawdegau ymlaen bu S4C yn ei darlledu’n flynyddol.

Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain, mae’n anodd rhagweld i ba gyfeiriad y bydd cerdd dant yn mynd. Teimla rhai fod yr arbrofi wedi cyrraedd ei ben draw ac na ellir mynd lawer pellach; teimla eraill fod angen ail-ymweld yn amlach â’r gwreiddiau a gwneud lle hefyd i’r math mwy ysgafn ac anffurfiol o ganu penillion.


Mae’r grefft o reidrwydd ynghlwm wrth yr iaith Gymraeg ei hun, ac felly mae tynged un yn dibynnu ar y llall.
Mae’n dibynnu hefyd ar awydd y Cymry eu hunain i warchod eu treftadaeth ac i sefyll yn erbyn llif dylanwadau estron yr oes fodern.


 Y NEWID A FU
Y prif wahaniaethau rhwng cerdd dant heddiw a cherdd dant yr oes a fu (sef hyd at flynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif):

1. Dim ond unigolion oedd yn canu cerdd dant ers talwm – doedd dim deuawdau, triawdau, partion na chorau.
2. Crefft fyrfyfyr oedd hi: doedd fawr neb yn cyfansoddi gosodiad ymlaen llaw a’i ddysgu.
3. Ar y geiriau yr oedd y pwyslais bron yn gyfangwbl. Bellach rhoddir llawer mwy o bwyslais ar y gerddoriaeth.
4. Ychydig iawn o ferched oedd yn canu cerdd dant. Erbyn heddiw, merched yw’r mwyafrif.
5. Roedd hi’n grefft tipyn llai parchus nag ydyw erbyn heddiw, mewn rhai cylchoedd o leiaf!
6. Nid oedd corff o reolau ar gael a oedd wedi cael sêl bendith unrhyw fudiad neu gynhadledd.
7. Roedd nifer y ceinciau oedd ar gael i osod arnynt yn llawer llai: dim mwy na tua 50 mewn gwirionedd. Erbyn heddiw mae’r dewis wedi cynyddu i bron i 600.



(O wefan Cymdeithas Cerdd Dant Gymru)