Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 26 February 2013

Angharad Tomos

Addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes a Cholegau Aberystwyth, Bangor a’r Coleg Normal. Bu’n Ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith, yn ddylunydd graffig, yn ymchwilydd ac yn awdur preswyl. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd ddwywaith, a Gwobr Cyngor y Celfyddydau a’r Academi Gymreig am Yma o Hyd. Mae hi'n adnabyddus am ei chyfres Rwdlan boblogaidd. Enillodd Wobr Tir na n-'Og ddwy waith efo Llipryn Llwyd (1985) a Sothach a Sglyfath (1993). Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug ym 1991 am Si Hei Lwli a Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ym 1997 am Wele’n Gwawrio.  

Angharad Tomos oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2009 am ei chyfraniad sylweddol i lenyddiaeth plant.

(Llenyddiaeth Cymru - Rhestr o awduron)

Wicipedia:

Fe'i ganed ym Mangor, Gwynedd ym 1958, a chafodd ei magu gyda'i pum chwaer yn Llanwnda ger Caernarfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt ym 1982.
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.
Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal,ym 1986 ac 1994.
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes, Gwynedd.


3. Angharad Tomos: 'ffodus o fy magu'n Gymraes' (diolch i'r BBC)


Datgelodd Angharad Tomos fore Mawrth wrth gyfarch y wasg fel Llywydd y Dydd, mai 'eu teulu nhw' ydi'r unig rai bellach ar ochr ei thad sydd yn siarad Cymraeg.
"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i gael fy magu yn Gymraes wedi i'r teulu symud i Ddyffryn Nantlle," meddai.
"Ond teulu fy nhad ydy'r unig un bellach sy'n siarad Cymraeg."
"Roedd fy nain o Sir y Fflint a wnaeth yr iaith ddim cael ei phasio ymlaen ymhlith aelodau eraill y teulu."
Wrth gyfeirio at ddigwyddiad i wobrwyo un o ddysgwyr Dyffryn Nantlle ar y maes heddiw, ychwanegodd yr awdures a'r ymgyrchydd iaith ei bod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan na fydd 'na unrhyw 'ddysgwyr' yng Nghymru a galwodd am sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bawb o oedran meithrin ymlaen.
Angharad Tomos: 'Oes angen cymaint o bwyslais ar gystadlu?'

Sunday 24 February 2013

Lisa Lân



Bûm yn dy garu lawer gwaith
Do lawer awr mewn mwynder maith
Bûm yn dy gusanu Lisa gêl
Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl.

Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd
Tydi yw'r lanaf yn y byd
Tydi sy'n peri poen a chri
A thi sy'n dwyn fy mywyd i.

Pan fyddai'n rhodio gyda'r dydd
Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd
Wrth glywed sŵn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.

Pan fyddai'n rhodio gyda'r hwyr
Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
Wrth glywed sŵn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa lân.

Lisa, a ddoi di i'm danfon i
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd.

Hiraeth mawr am Lisa Lân.
Hiraeth mawr am Lisa Lân.

Wednesday 20 February 2013

Tafodiaith y Cardis - Blog Newydd

Mae Christine Cwmere wedi dechrau blog newydd sy'n dogfennu tafodiaith ei mam. Dyma Christine yn ei geiriau ei hunan:

Bwriad hyn o flog yw nodi ar gof a chadw y dafodiaith gyfoethog rwy’ wedi cael y fraint o gael fy magu ynddi. Nid yw mam – sy’n cael ei hadnabod wrth sawl enw (Christina Cwmere, Christina Hughes, Christina Morgans, Christina Blaenfallen) – wedi symud yn bell erioed. Fe’i ganed ar fferm yn ardal Cribyn adeg yr Ail Ryfel Byd, symudodd gyda’r teulu i fferm Cwmere rhwng Felinfach a Temple Bar pan oedd yn 15 oed, ac wedyn wedi priodi yn 1975, symudodd i dop Dyffryn Aeron. Ac yn bendant, mae ganddi dafodiaith arbennig iawn. Mae ei thafodiaith a’i geirfa wedi bod yn benbleth i rai o’m ffrindiau (yn enwedig o’r gogledd!) a gan fod un ffrind wedi galw’i thafodiaith yn “Cwmereg”, dyma ddechrau nodi rhai o’r termau a’r brawddegau lliwgar y mae’n eu defnyddio. Efallai y bydd ambell air yn gyfarwydd i sawl Cardi, eraill yn hollol ddiarth! Ac felly, gobeithio y bydd y blog hwn yn help wrth i fi geisio cadw’r dafodiaith yn fyw ac yn iach i’r oesoedd a ddêl.

Dyma i chi ddwy enghraiftt oddi ar y blog:


10. -en

Nid gair penodol sydd gen i y tro ‘ma, yn hytrach y talfyriad “-en” i eiriau.

Pan yn cyfeirio at ambell enw benywaidd unigol, bydd mam yn hwpo “-en” ar ei ddiwedd – e.e. sosejen, weetabixen, welsh cêcen. Yn ogystal, pan yn cyfeirio at fwy nac un, bydd mam yn dweud pethe fel “cymer ddwy weetabixen”, “wyt ti ise tair sosejen i swper?”, a.y.b.

9. Sgaram

Galwodd Rob a fi ddoe i weld Wncwl Bryn. Mae e a’r teulu yn dal i fyw yn Cwmere, ac fel brawd mawr i mam, mae’n naturiol ei fod e hefyd yn siarad iaith “Cwmereg”!

Roedd e’n adrodd straeon o’i arhosiad mewn ysbyty yn ddiweddar, a soniodd am “sgaram o fenyw” a fu ymhlith y rhai fu’n ei drin. Gorfod i fi chwerthin, achos roeddwn i’n gallu clywed mam – a mam-gu o ran hynny – yn disgrifio rhywun fel sgaram.

Holes i mam beth yw ystyr sgaram, ac yn syth dyma hi’n dweud “sgaram o fenyw”. Mae’n amlwg felly nad yw dyn yn gallu bod yn sgaram!! Ges i ymhelaethiad, bod sgaram o fenyw yn golygu “menyw fowr”.
Ro’n i wedi cymryd y byddai sgaram yn gyfystyr â swigw, ond na; maint corff menyw sy’n ei gwneud yn sgaram, tra bod swigw i’w wneud ag ymddygiad.

Ac efallai ei bod hi’n werth dweud gair am swigw.

e.e. “Hen swigw o fenyw oedd gwraig y plas” … “odd dim ise i honna bipo lawr arnon ni, y swigw â hi”
Sgaram = menyw fawr
Swigw = menyw gas, annymunol, fras.

Wednesday 6 February 2013

Buddugoliaeth bwysig i gydraddoldeb

Roeddwn wedi hanner-disgwyl i'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch priodasau cyfunrywiol fod yn agosach, felly roedd yn braf gweld cydraddoldeb yn curo rhagfarn yn rhwydd, o 400 i 175.

Yn ddigalon, fe bleidleisiodd mwyafrif o'r aelodau Ceidwadol, a phob un o'r saith Cymreig, y ffordd anghywir. Ymunodd Paul Murphy a Dai Harvard o'r Blaid Lafur Cymreig â hwy hefyd. Rhag eu cywilydd. Gallwn ond obeithio eu bod yn sylweddoli bod yr oes yn prysur newid, ac eu bod ar ochr anghywir hanes. Bydd cymdeithas y dyfodol yn ffieiddio at y sawl a bleidleisiodd "na" heddiw, yn union fel yr ydym ninnau'n rhyfeddu o edrych yn ôl ar hilgwn y gorffennol. Dylwn fod wedi dysgu peidio disgwyl gwell gan rai o'n haelodau etholedig erbyn hyn, ond fe ddefnyddiodd un, yn gwbl ddi-eironi, yr hen ystrydeb plentynnaidd a thwp hwnnw am "Adam ac Eve, not Adam and Steve". Fe ddywedodd sawl un arall bod y mater yn un "cymhleth" a bod angen pwyllo cyn gwneud newidiadau mor sylweddol. Y gwirionedd, wrth gwrs, yw bod hyn i gyd yn eithriadol o syml. Dull o ffug-barchuso rhagfarn yw dadleuon felly.

Dim ond megis dechrau yw heddiw, wrth gwrs. Mae llawer mwy o "graffu" i'w wneud, a bydd yn ddifyr gweld sut aiff pethau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ond mae pleidlais heddiw'n hanesyddol, ac mae pethau'n edrych yn addawol iawn.

Fel dyn heterorywiol sy'n priodi ei ddarpar-wraig fis nesaf, rwy'n falch iawn o hynny. Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau bod cyfreithloni priodasau cyfunrywiol yn peryglu priodas ei hun fel cysyniad, fel petai teuluoedd heterorywiol ledled Prydain am chwalu'n deilchion o ganlyniad (na, nid wyf innau'n deall sut chwaith). Noder, gyda llaw, bod llawer iawn o'r aelodau seneddol gwrthwynebus wedi godinebu yn y gorffennol, a bod sawl un ar ei ail neu drydedd wraig. Ond beth bynnag, y gwrthwyneb sy'n wir os rywbeth: rwy'n credu bydd fy mhriodas yn golygu mwy fyth o wybod nad oes carfan gyfan o gymdeithas yn cael eu gwahardd rhag mwynhau'r un breintiau.

(O Anffyddiaeth gan Dylan Llŷr)

Tuesday 5 February 2013

Priodas Hoyw - ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.


  1. ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.’
Mae Stonewall yn annog cefnogwyr i gysylltu ag Aelodau Seneddol heddiw
Wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi'r Bil Priodasau (Cyplau o'r un Rhyw) o’r diwedd, i gyflwyno priodasau cyfartal, mae Stonewall wedi annog cefnogwyr yng Nghymru a Lloegr i ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol yn galw arnynt i gefnogi’r mesur pan fydd yn cael ei drafod ar 5 Chwefror. Canfu arolwg gan Ipsos Mori ym mis Rhagfyr fod 73 y cant o bobl ym Mhrydain yn cefnogi priodasau cyfartal, ond mae Stonewall wedi rhybuddio cefnogwyr yn erbyn cael agwedd hunanfodlon, ac wedi annog pobl strêt i ymuno yn yr ymgyrch dros gydraddoldeb hefyd.

Roedd canlyniadau arolwg YouGov ar gyfer adroddiad Byw Gyda’n Gilydd Stonewall y llynedd hefyd yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl ym Mhrydain yn cefnogi priodasau cyfartal, gan gynnwys tri o bob pump o bobl â ffydd a dros 80 y cant o bobl o dan 50 oed.

Dywedodd Prif Weithredwr Stonewall, Ben Summerskill:  ‘Yn anffodus, mae’r nifer fechan o bobl sy’n erbyn priodasau cyfartal yn defnyddio celwyddau a sïon hyll i ddadlau yn erbyn hynny. Ni ddylai’r rhai sy’n cefnogi’r mesur syml hwn adael i’r lleiafrif croch atal cydraddoldeb. Rhaid i bobl ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol, anfon neges trydar neu e-bost atynt neu eu ffonio i ofyn am eu cefnogaeth cyn dadl Ail Ddarlleniad y Bil ar 5 Chwefror.

‘Rydyn ni angen i bobl strêt sydd â ffrindiau neu berthnasau sy’n lesbiaid neu’n hoywon sefyll dros eu hawliau hefyd. Mae cydraddoldeb o fudd i bawb, a dyna pam ein bod ni’n gofyn i bawb sy’n cefnogi’r bil annog eu Haelodau Seneddol i bleidleisio o’i blaid.  Neges syml sydd gennym. ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.’
diwedd.

(Erthygl o wefan Stonewall Cymru)

     2. Priodas hoyw: cyflwyno llythyr yn gwrthwynebu i’r Prif Weinidog

Bydd cynrychiolwyr ugain o gadeiryddion Cymdeithasau’r Blaid Geidwadol yn mynd â llythyr yn gwrthwynebu priodas rhwng hoywon i 10 Downing Street yn ystod y dydd.

Yn ôl y llythyr mae nhw yn pryderu am sgîl effeithiau’r bleidlais yr wythnos nesaf yn Nhy’r Cyffredin i roi’r hawl i gyplau hoyw briodi.

Dywed y llythyr bod y cadeiryddion “yn poeni os y caiff y mesur ei droi’n ddeddf, bydd hyn yn arwain at niwed sylweddol i’r Blaid Geidwadol yn y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad cyffredinol yn 2015.”

Mae’r llythyr hefyd yn dweud bod nifer sylweddol eisioes wedi ymddiswyddo o’r blaid oherwydd eu gwrthwynebiad i’r mesur gan ychwanegu bod y nifer yma yn debygol o gynyddu.

Yn y cyfamser, mae papur y Sunday Telegraph yn proffwydo y bydd tua 180 o aelodau seneddol Ceidwadol, gan gynnwys pedwar aelod o’r Cabonet. yn pleidleisio yn erbyn y cynllun.

(Diolch i Golwg360)

     3. Pryderon offeiriaid tros briodasau hoyw

Mae tros 1,000 o offeiriaid wedi arwyddo llythyr yn lleisio eu pryderon ynglyn â’r modd y bydd priodasau hoyw yn bygwth rhyddid crefyddol – ac y gallai hyd yn oed arwain at rai Pabyddion yn cael eu heithrio o swyddi.

Yn y llythyr, sydd wedi’i gyhoeddi ym mhapur newydd y Daily Telegraph heddiw, mae’r offeiriaid yn honni fod priodasau rhwng unigolion o’r un rhyw yn bygwth cyfyngu ar ryddid crefyddol yn yr un ffordd ag y gwnaed yn ystod y canrifoedd o erlid Catholigion yn Lloegr.

Mae’r llythyr wedi ei arwyddo gan 1054 o offeiriaid, 13 o esgobion, abadau a chlerigwyr Pabyddol. Mae’n dadlau y gallai’r weithred syml o drafod eu ffydd, gael ei chyfyngu’n aruthrol.

(Diolch i Golwg360)