Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 29 June 2019

Comisiynydd y Gymraeg: Cynyddu'r niferoedd sy'n defnyddio'r iaith yn flaenoriaeth




Er bod ystadegau swyddogol yn honni mai 1.7 miliwn o bobl Iwerddon sy’n deall Gwyddeleg, dim ond rhyw 73,000 sy’n siarad yr iaith bob dydd, ac er mor glodwiw yw bwriad Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, os ydym am osgoi tynged debyg i’r hyn sy wedi digwydd yn Iwerddon, bydd yn rhaid cynyddu’r niferoedd sy’n siarad Cymraeg o ddydd i ddydd. 


Dyna neges ddi-flewyn ar dafod Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg newydd, pan ddaeth i gwrdd â grŵp o ddysgwyr, pobl leol eraill a nifer o Gynghorwyr Cyngor Sir a Chynghorwyr Tref Aberteifi yng Nghastell Aberteifi ar yr 20fed o Fehefin.


Ers dechrau yn y swydd, mae’r Comisiynydd wedi bod yn teithio ar hyd a lled Cymru i gwrdd â gwahanol gyrff a grwpiau, ac fe ddaw y gwaith o gasglu tystiolaeth a gwrando ar farn pobl ar lawr gwlad i ben erbyn diwedd mis Gorffennaf. Roedd wedi gweld enghreifftiau o arfer da mewn ardaloedd y tu allan i’r Fro Gymraeg a wedi cael ei siomi mewn llefydd y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn eu hystyried i fod yn gadarnleoedd y Gymraeg. 


Nid yw’r Comisiynydd newydd yn hoff iawn o “sbin” na diwylliant ticio bocsys rhai o’n cyrff cyhoeddus. Wedi dweud hynny, teimlai fod llawer mwy o ewyllys da tuag at y Gymraeg nag oedd ugain mlynedd yn ôl.


Un o bryderon mwyaf y Comisiynydd newydd yw’r graddau mae Cymry Cymraeg yn trosglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf. Er bod yr ystadegau’n dangos bod nifer siaradwyr y Gymraeg yn cynyddu, prif flaenoriaeth Aled Roberts fydd cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd; dylid anelu at ganran o 20% o boblogaeth Cymru, meddai.


O ganlyniad, bydd mwy o bwyslais ar hybu a hwyluso’r defnydd o Gymraeg yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd. Byddai’n anodd dadlau dros estyn y safonau iaith i weddill y sector breifat a gofyn i gwmnïau fuddsoddi mewn gwasanaethau Cymraeg os nad oedd pobl yn fodlon eu defnyddio. Roedd yn hanfodol, felly, bod siaradwyr Cymraeg yn sicrhau eu bod nhw bob tro yn “gwasgu’r botwm Cymraeg” wrth ddefnyddio twll yn y wal neu diliau hunan-wasanaeth mewn archfarchnadoedd.


Yn yr un modd roedd yn hanfodol sicrhau bod digon o gyfleoedd i bobl ifainc a dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth, boed hynny ar ffurf chwaraeon neu weithgareddau sydd yn dod â siaradwyr Cymraeg at ei gilydd. 


Mae’r Comisiynydd yn awyddus i weld mwy o awdurdodau lleol yn newid iaith gweinyddu mewnol. Dim ond Cyngor Gwynedd sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, meddai, ond o ystyried mai y cynghorau sir yw cyflogwyr mwyaf gorllewin Cymru, fe fyddai gweinyddu mewnol Cymraeg yn creu mwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl ifainc a sicrhau bod llai ohonynt yn gorfod symud i Gaerdydd a Lloegr.


Cytunodd y Comisiynydd hefyd fod angen gwell dulliau o asesu effaith cau ysgolion a datblygiadau tai ar gymunedau Cymraeg. Fe gyfeiriodd yn benodol at y sefyllfa yng Nghrymych lle mae Cyngor Sir Penfro newydd dderbyn cynllun i godi 56 o dai yng nghanol y pentref.

Sunday 16 June 2019

Arolwg - Defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth

Diolch i bawb am gymeryd rhan a llenwi'r holiadur. Roedd rhai o'r atebion yn hynod ddiddorol. Dyma i chi'r canlyniadau.


Atebion :    Sylfaen                    5

                     Canolradd             7

                     Uwch                  16

Cyfanswm :                             28



Pa mor aml dych chi’n mynd i ddigwyddiadau Cymraeg ?

Sylfaen/Canolradd

O leiaf unwaith y mis:                                     3

O leiaf ddwywaith y flwyddyn :                     5

Bron byth                                                        4

Uwch

O leiaf unwaith y mis:                          10

O leiaf ddwywaith y flwyddyn :             4

Bron byth:                                               2


Pa fath o ddigwyddiadau?

CYD/digwyddiadau wedi’u trefnu i ddysgwyr:     10

Eisteddfodau:                                                            5

Theatr                                                                        4

Cyngherddau/gigs                                                   15

Eraill*                                                                        8


*Yn cynnwys digwyddiadau cymdeithasol (tafarn, rygbi, golff), cwisys, digwyddiadau’r Urdd (gyda’r plant), darlithoedd, teithiau cerdded





Aelodaeth mudiadau Cymraeg, cymdeithasau a grwpiau Cymraeg eraill

Sylfaen/Canolradd

0

Uwch

Merched y Wawr                      3

Cymdeithas yr Iaith                  2

Clwb Gwawr                            1

Clwb Cadw Gwenyn                1

Pwyllgor Eisteddfod                 1

Clwb Darllen                            2

Rocesi’r Fro (Cwm Gwaun)     1

Edward Llwyd                          1

Maes a Môr (Ffostrasol)           2



A oes digon o gyfleoedd addas i ddefnyddio’ch Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Sylfaen/Canolradd

Oes                              9

Nac oes                       3

Sylwadau:  “Nac oes, dw i’n byw yn Abergwaun.”  “Oes, ond mae eisiau hyder.”



Uwch

Oes                              7

Nac oes                       8

Dim barn                     1


Sylwadau: 

“Wastad yn teimlo fel dysgwr“

“Dim digon o gyfleoedd i wneud pethe bob dydd, e.e. siopa, teithio, archebu nwyddau a gwasanaethau“

“Mae angen gwella‘r marchnata o ddigwyddiadau Cymraeg yn gyffredinol – i ddysgwyr a Chymry Cymraeg“

“Dw i’n tsiopsan ‘da’r dyn llaeth, yn y gwaith, mewn sioeau amaethyddol ac yn y clwb rhedeg, ond mae’n anodd croesi’r bont“


Pa fath o ddigwyddiadau eraill yr hoffech eu gweld nad ydynt yn cael eu cynnig ar hyn o bryd?

Dawnsio                                              5

Coginio                                               5

Cadw’n heini/ioga/pilates                   5

Crefftau                                               4

Celf                                                     4

Canu                                                    3

Awgrymiadau eraill: barddoni/ysgrifennu creadigol, cyfleoedd mentora, drama, gwaith coed, garddio, hanes lleol, cerdded, sgwrsio (ar lefel Sylfaen)







Sunday 9 June 2019

Clwb Darllen 2019-20

Byddwn yn cynnal clwb darllen ddwywaith y tymor o fis Hydref ymlaen fel rhan o'n dosbarth sgwrsio Uwch 3. Diolch i Gaynor a Nigel am awgrymu'r ddau gyfrol isod:

1. Dan ei Adain gan John Alwyn Griffiths

Gwasg Carreg Gwalch £8.50

Pan gaiff Ditectif Sarjant Jeff Evans gyfarwyddyd i gymryd Lowri Davies, y Ditectif Brif Arolygydd newydd, ifanc, o dan ei adain, mae'n rhagweld cyfnod cythryblus. Ond pan gaiff corff merch ifanc ei ddarganfod ar draeth creigiog ger Glan Morfa, gorfodir y ddau i gydweithio ar achos sy'n eu harwain yn llawer pellach na ffiniau gogledd Cymru.

Bywgraffiad Awdur


Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, ond bellach mae’n byw ym Môn. Bu’n heddwas hyd ddiwedd 2008, a chyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Hon yw ei chweched nofel.

2. Straeon Cyn Cinio

Eisteddfod Genedlaethol Cymru £8.00

Wyth niwrnod o Eisteddfod yn y Bae. Wyth stori fer newydd sbon. Wyth awdur, pob un wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, waeth ble mae'u gwreiddiau. Wyth cyfle i ail-fyw profiadau cyffrous Pabell Lên Canolfan y Mileniwm. Wyth cip ar fywyd pobl Cymru – ddoe, heddiw ac yfory.

Dyma straeon gwreiddiol, gafaelgar a chofiadwy gan Catrin Dafydd, Ceri Elen, Delyth George, Jon Gower, Geraint Lewis, Anni Llyn, William Owen Roberts a Manon Rhys, a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ar gyfer eu darllen fel Straeon Cyn Cinio yn y Babell Lên.



Iechyd a'r iaith

Gall gorfodi staff i siarad Cymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn mynd i greu mwy o broblemau nag sydd yna'n barod, yn ôl BMA Cymru.

Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r corff sy'n cynrychioli optegwyr yng Nghymru o fod yn "wrth-Gymraeg" yn dilyn sylwadau wnaeth y corff am ddefnydd o'r iaith.

Creu banc cymunedol?

Tegid Roberts yn sôn am sefydlu banc newydd i lenwi'r bwlch ar y stryd fawr.


I miwn 'da'r bara, mas 'da'r byns

Cwis dywediadau a geiriau gwawd.

A beth am y rhain?

Dyw e’ ddim wedi bod pen draw’r ffwrn!
Dyw e ddim llawn llathen!