Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 25 March 2017

Glas

Ffilm fer am liw ac yn benodol am Lapis Lazuli. Sara Huws sy'n esbonio pam mae glas yw lliw dillad y Forwyn Fair.

Y Lolfa yn 50

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl yma.

Mae rheolwr gwasg y Lolfa yn rhybuddio bod yna fygythiadau i Gymru a'r hunaniaeth Gymreig yn sgil digwyddiadau gwleidyddol diweddar.

Eleni mae'r cwmni o Dalybont, Ceredigion, yn dathlu penblwydd yn 50 oed.

Yn ôl Garmon Gruffudd fe allai'r dyfodol fod yn ansicr.

"Yn sicr gyda Brexit a'r posibilrwydd bod yr Alban yn mynd i fynd yn annibynnol mae 'na her i ni gyflwyno safbwyntiau Cymreig, hunaniaeth Gymreig a chreadigrwydd Cymreig a bod hynny yn fwy pwysig nag erioed.

"Mae'n anodd gwybod beth ddigwyddith. Ond dw i'n meddwl bod peryglon i ddyfodol Cymru fel cenedl.

"Mae peryg i ni gael ein llyncu gan Loegr efallai yn enwedig o feddwl falle aiff yr Alban yn annibynnol, Gogledd Iwerddon falle'n uno gydag Iwerddon felly fe allai Cymru gael ei gadael mewn sefyllfa gwan."

Mae'n dweud y bydd y Lolfa sydd wastad wedi rhoi pwyslais ar hyrwyddo Cymru a'r hunaniaeth Gymreig yn parhau i wneud hynny "ac i raddau bod yn wasg propaganda dros Gymru".

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu panel annibynnol i adolygu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru dan Gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes.

Roedd disgwyl i'r panel adrodd ar ei gasgliadau y llynedd, ond mae'r adroddiad wedi'i ohirio oherwydd y gwaith oedd ynghlwm ag ystyried y nifer uchel o ymatebion a dderbyniodd y panel fel rhan o'r adolygiad.

Bydd adroddiad y panel yn cael ei gyhoeddi'n fuan ac mae Garmon Gruffudd yn gobeithio y bydd y panel a'r llywodraeth yn sylweddoli pwysigrwydd y diwydiant llyfrau.

Adfywiad

"Byddwn i'n disgwyl i'r llywodraeth roi mwy o gefnogaeth i'r byd llyfrau ac yn gweld fod gan y byd llyfrau gyfraniad, er enghraifft yn y gwaith o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, a hefyd i gyflwyno hanes, diwylliant a hunaniaeth mewn ffordd bositif a dysgu pobl fod modd i Gymru fod yn wlad lwyddiannus."

Er pryderon Mr Gruffudd wrth edrych i'r dyfodol mae hefyd yn dweud eu bod nhw fel cyhoeddwyr llyfrau yn mynd i fod yn brysurach.

"Dros yr hanner can mlynedd dwetha ry'n ni wedi bod yn ehangu yn ara bach - ry'n ni'n dal i ddatblygu ein rhaglen gyhoeddi ac yn anelu at gyhoeddi rhyw gant o lyfrau'r flwyddyn, dyna'r nod.

"Mae pobl wedi bod yn darogan diwedd y llyfr print ond dw i'n meddwl bod adfywiad a dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae e-lyfrau wedi arafu ac mae 'na gynnydd bychan eto yng ngwerthiant llyfrau print."




Friday 3 March 2017

Hanes yr Iaith mewn 50 o eiriau: Araith

Dyma bennod o gyfres wych Ifor ap Glyn am hanes rhai o'n geiriau.

http://www.bbc.co.uk/programmes/p04r0b4w

Dirgelwch llofruddiaeth Dolwen– 35 Diwrnod yn dychwelyd

Ffaelu aros! S4C. Nos Sul am 9.00

Mae cyfrinachau a chelwyddau yn dod i’r wyneb wrth i frodyr a chwiorydd ddod ynghyd i daenu llwch eu mam, Mair ac i drafod dyfodol y cartref teuluol. Croeso i Dolwen – hen dŷ mawreddog sy’n lleoliad i’r gyfres newydd o’r ddrama ddirgel 35 Diwrnod,sy’n dechrau nos Sul, 5 Mawrth.



Dyma gyfres sydd wedi ei hysgrifennu gan yr awdures Siwan Jones, lle rydym yn gwybod pwy sydd wedi’i llofruddio ond pwy o blith y teulu sy’n gyfrifol am hyn? A pham? Dros gyfnod o 35 diwrnod, mae tyndra a thristwch chwerw yn datblygu o fewn waliau’r hen ffermdy, sydd yn y pendraw yn arwain at farwolaeth Ifan, brawd ieuenga’r teulu sy’n cael ei chwarae gan yr actor Gwydion Rhys.

Dyw teulu fferm Dolwen ddim wedi bod o dan yr un to ers dathlu pen-blwydd eu diweddar dad Gwyndaf, bum mlynedd ynghynt. Bydd sawl breuddwyd yn chwalu’n deilchion wrth i’r plant amau bod eu hewythr Huw wedi dwyn perswâd ar eu mam i newid ei hewyllys. Wrth iddyn nhw ei herio a mynnu cael y tir yn ôl, mae trais a chenfigen yn lledu cysgod tywyll dros fferm Dolwen.

“Doeddwn i ddim am wybod pwy oedd yn gyfrifol am lofruddio Ifan tan y funud olaf,” meddai Gwydion Rhys, sy’n dod o Felinfach, Bro Preseli ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi drama fel Tir a Cara Fi. “Weithiau mae ffeindio mas misoedd o flaen llaw yn medru effeithio’r actio. Wrth adael hwn tan y funud olaf, ro’n i wir yn teimlo y gallai unrhyw beth ddigwydd. Fe wnaeth e’n sicr fy nghadw i on edge!”

“Roedd ffilmio’r gyfres yn gymaint o hwyl a chael chwarae rôl person sy’n cael ei lofruddio yn gyffrous iawn. Mae’r stori i gyd am ddeinamig deuluol ac mae digon o ddadlau rhwng y brodyr a’r chwiorydd ynglŷn â phwy ddylsai etifeddu beth,” ychwanegodd Gwydion, sydd nawr yn byw yn ardal Pontarddulais.

“Mae pwysau mawr ar ysgwyddau Ifan bob amser a dyw e ddim yn un i leisio ei farn,” meddai Gwydion.”A gan ei fod e bob amser yn edrych wedi blino ac o dan straen, ro’n i’n medru mynd i’r ystafell golur yn y bore wedi blino a dyna oedd yr edrychiad ro’n i angen i chwarae cymeriad Ifan!Mi roedden ni gyd fel actorion yn medru uniaethu gyda rhai o’r themâu, mae teuluoedd i gyd yr un fath. Er, yn 35 Diwrnod mae ‘na lofruddiaeth felly dyw bob teulu ddim cweit run fath!”

Y cwestiwn mawr ar wefusau pawb fydd pwy sy’n gyfrifol am lofruddio Ifan a pham? Fe fydd digon o waith dyfalu a chraffu yn y gyfres newydd o 35 Diwrnod.


Cywirdeb 'yn atal rhai chwaraewyr' rhag siarad Cymraeg

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori isod.

Wrth i'r Gymraeg gael mwy o sylw nag erioed ym maes chwaraeon a darlledu mae cyn faswr [maswr - fly-half] Cymru, Jonathan Davies yn galw am fwy o anogaeth i'r rheiny sy'n llai hyderus yn eu Cymraeg.

Dywedodd bod rhoi pwysau ar bobl i siarad Cymraeg pur yn gwneud rhai chwaraewyr yn llai parod i arddel yr iaith.

Cafodd ei farn ei hategu [cadarnhau, cefnogi] gan y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, sy'n dweud bod y sefyllfa'n debyg yn ei gamp o.

Daeth sylwadau Davies cyn cynhadledd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon.

'Pwysau'

Yn siarad ar raglen Newyddion 9 nos Iau, dywedodd Davies: "Fi'n trio siarad yn naturiol, 'smo'n Gymraeg i mor dda â lot o bobl ond dwi'n gwneud rhaglenni chwaraeon a newyddion chwaraeon yn Gymraeg.

"Os fi'n gallu neud a helpu'r iaith fi'n hapus i wneud hynny.

"Fi'n credu mae cymaint o bwysau... os yw pobl yn trio siarad Cymraeg mae'r bobl na sy'n meddwl bo nhw'n bwysig yn yr iaith Gymraeg yn tueddu dodi nhw lawr.




"A fi'n gwybod bod sawl chwaraewr ddim mo'yn siarad Cymraeg achos bo nhw'n meddwl bod nhw'n cael cymaint o bwysau arnyn nhw achos dyw pobl ddim yn meddwl bod eu Cymraeg nhw ddim yn ddigon pur.

"A fi'n credu byddech chi'n surprised pwy yw'r chwaraewyr 'na sydd ddim mo'yn siarad Cymraeg achos y pwysau hynny."

'Anghyfforddus'

Dywedodd y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, bod y sefyllfa'n debyg yn y gamp honno.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n hawdd i fi, i bobl sy' wedi'u dwyn i fyny yn siarad yr iaith fel iaith gyntaf, ond dydy hi ddim mor hawdd i bobl sydd yn Gymraeg ail iaith," meddai.

"Yn y byd pêl-droed, dyna'n union dwi wedi'i weld. Ma' Joe [Allen] yn gyfforddus ofnadwy yn gwneud cyfweliadau'n Gymraeg rŵan, ond dwi'n gw'bod dros y blynyddoedd ei fod o ddim yn gyfforddus gwneud cyfweliadau'n Gymraeg achos ei fod o'n meddwl bod ei Gymraeg o ddim digon da. Aaron [Ramsey] 'run fath.


"Mi o'dd Aaron yn gwneud cyfweliadau'n Gymraeg pan oedd o'n chwarae i Gaerdydd. Ond iddo fo, yn anffodus, gael y profiad o bobl yn cywiro geiria', sut i siarad a gwneud iddo fo deimlo'n anghyfforddus, 'da ni rŵan mewn sefyllfa lle 'da ni ddim yn cael clywad o'n siarad yn ein iaith ni.


"Dydy o ddim y mwyafrif, ond yn anffodus oll mae'n gymryd ydy i un person dd'eud rwbath. Os ti ar Twitter ar ôl gêm bêl-droed a ma' 20 o bobl yn d'eud bod chdi'n 'briliant', ac un person yn d'eud fel arall, yn aml iawn un fela sy'n aros yn y cof."

'Tamed bach o slac'

Dywedodd Davies ei bod hi'n bwysig i bobl "feddwl am eraill" wrth fynd ati i newid y sefyllfa.

"Falle bod eu iaith nhw yn bur ac yn iawn ond sdim pawb fel nhw achos sdim pawb yn defnyddio'r iaith bob dydd," meddai.

"Os ydyn nhw mo'yn i'r iaith i gadw fynd a chryfhau'r iaith mae angen rhoi tamed bach o slac i bobl, a gweud os ydyn nhw'n fodlon siarad Cymraeg fel maen nhw'n hapus, wel dyna ni."

________________ 



Plismyn iaith ar waith?

Mae sylwadau'r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies am amharodrwydd [unwillingness] rhai pobl yn y maes chwaraeon i siarad Cymraeg wedi ennyn [kindle] ymateb chwyrn [heated] ymysg y Cymry. Fe ddywedodd 'Jiffy' bod cywirdeb yn atal rhai pobl rhag siarad Cymraeg. 

Ond ydy'r plismyn iaith yn bodoli i'r fath raddau, neu ai esgus ydy hyn i bobl roi gorau i siarad yr iaith?

Ar fore cynhadledd yng Nghaerdydd i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon ddydd Iau, fe siaradodd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda'r Post Cyntaf am y rheswm pam nad ydy Aaron Ramsey - un o sêr y gamp - bellach yn defnyddio'r Gymraeg.

"Dwi'n meddwl mai mater o ddiffyg hyder ydy o efo Aaron," meddai. "Mi ddigwyddodd rhywbeth mewn cynhadledd gyhoeddus rhai blynyddoedd yn ôl ac mi wnaeth hynny effeithio ar ei hyder o.

"Mi yda ni wedi ceisio siarad efo Aaron am y peth sawl tro ond hira'n byd [the longer] mae'r peth yn mynd ymlaen, mwya'n byd [the more]  mae'n effeithio'r hyder. Ond i fod yn deg dydy Aaron ddim yn hoffi gwneud cyfweliadau yn Saesneg beth bynnag!"

Un sydd wedi chwarae gyda Aaron Ramsey ydy'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Owain Tudur Jones.

"Yndi, mae o wedi digwydd," meddai Owain, wrth gyfeirio at bobl yn gwneud i chwaraewyr deimlo'n anghyfforddus wrth ddefnyddio'r Gymraeg. "Dyna pam o'n i'n cytuno efo geiria' Jonathan Davies.

"Efalla' ddylia ni wedi gwneud iddo fo deimlo'n fwy cyfforddus i 'neud cyfweliada' Cymraeg - a dwi ddim yn siarad am y bobl sy'n ei gyfweld o'n unig, ond efalla yn y byd Twitter. Mae'n hawdd i'r trolls dd'eud rwbath ac yn naturiol wedyn fel person, dim chwaraewr pêl-droed, mae Aaron yn eistedd adra ac ella'n meddwl: 
'Ydw i angan hyn yn fy mywyd?' A pam ddylia fo os ydy o'n gwneud iddo fo deimlo'n anghyfforddus.

"Mae Aaron yn byw bywyd mewn 'stafall newid lle mae 'na gymaint o ieithoedd eraill yn cael ei siarad ond yn amlwg mae o wedi cael ei 'neud i deimlo'n anghyfforddus siarad ei iaith ei hun. Dim fod hyn yn esgus hawdd iddo chwaith ond mi allith o fyw heb [y Gymraeg] felly ein colled ni ydy o."

Yn ôl gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Dylan Griffiths, roedd adeg yn ystod Euro 2016 ble mai yn Gymraeg yn unig yr oedd Joe Allen yn fodlon gwneud unrhyw gyfweliad.

"Anogaeth ac nid beirniadaeth sydd ei angen," meddai.

'Trafodaeth ystyrlon'

Mae'r cyn-athro a'r ymgyrchydd iaith Ieuan Wyn o'r farn na ddylid "hyrwyddo [promote]  nac ymfalchïo [take pride in] mewn bratiaith" ac yn credu mai annog Cymraeg safonol sy'n bwysig.

"Mae 'na ffordd i fynd ynglŷn â'r peth," meddai. "Dydy pobl ddim yn sôn am ymosod [attack] ar unigolion. Creu sefyllfa sydd ei angen lle mae 'na agwedd fwy gadarnhaol [positive] ac mae'n rhaid bod yn sensitif iawn efo'r ffordd 'da chi'n mynd ati.

"Nid beirniadu unigolion ydy'r ateb, na tynnu sylw at ddiffyg yn gyhoeddus fel yna. Diffyg sensitifrwydd ydy hynny. Ond pan mae rhywun yn dibynnu ar dystiolaeth anecdotaidd mae'n anodd cael trafodaeth ystyrlon [meaningful] am y peth."

Bu Cymru Fyw hefyd yn siarad gyda'r person sy'n gyfrifol am gyfrifon Twitter a Facebook poblogaidd, B**ycs Cymraeg, sy'n aml yn dod ar draws pobl sy'n cywiro ei Gymraeg ar-lein.

"Pan mae pobl yn cael go ar B**ycs Cymraeg neu bobl eraill, mae'r ymateb yn 99 y cant o blaid pobl yn dweud bod yn well ganddyn nhw weld pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn hytrach na chywirdeb yr iaith.

"Mae'r un person yna'n gallu 'neud lot o niwed. Ma' pobl yn mynd allan o'i ffordd i ddefnyddio'r Gymraeg. Os ydy'r BBC yn gwneud camgymeriad yna iawn, cael go arnyn nhw, maen nhw'n sefydliad ac maen nhw fod i gael safonau, ond munud mae rhywun yn ymyrryd [interfere] ym mywydau pobl go iawn... mae'n gallu rhoi pobl off."

Ond oes yna beryg bod sêr y maes chwaraeon yn chwarae i'r naratif bod y mwyafrif yn bychanu'r [belittle] bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg 'perffaith'?

"Dydy o ddim y mwyafrif, ond yn anffodus oll mae'n gymryd ydy i un person dd'eud rwbath," meddai Owain Tudur Jones. "Os ti ar Twitter ar ôl gêm bêl-droed a ma' 20 o bobl yn d'eud bod chdi'n 'briliant', ac un person yn d'eud fel arall, yn aml iawn un fel'na sy'n aros yn y cof."



Wednesday 1 March 2017

Meddwi

Hanes yr iaith mewn hanner can gair, rhif 37.