Dere, fy mab,
i weld rhesymau dy genhedlu, [cenhedlu - conceive, beget]
a deall paham y digwyddaist.
Dangosaf iti lendid yr anadl sydd ynot, [glendid - beauty, fairness]
dangosaf iti’r byd
sy’n erwau drud rhwng dy draed. [erw - acre]
Dere, fy mab,
dangosaf iti’r defaid sy’n cadw, mewn cusanau, y Gwryd yn gymen, [gwryd - fathom]
[cymen - neat]
y fuwch a’r llo yng Nghefen Llan,
bysedd-y-cŵn a chlychau’r gog,
a llaeth-y-gaseg ar glawdd yn Rhyd-y-fro; [llaeth y gaseg -honeysuckle]
dangosaf iti sut mae llunio’n gain
chwibanogl o frigau’r sycamorwydd mawr [chwibanogl - whistle, flute]
yng nghoed dihafal John Bifan, [dihafal - peerless]
chwilio nythod ar lethrau’r Barli Bach,
a nofio’n noeth yn yr afon;
dangosaf iti’r perthi tew
ar bwys ffarm Ifan a’r ficerdy llwyd,
lle mae’r mwyar yn lleng [lleng - legion]
a chnau y gastanwydden yn llonydd ar y llawr; [llonydd - motionless]
dangosaf iti’r llusi’n drwch [llus - bilberries]
ar dwmpathau mân y mwsog ar y mynydd; [mwsog - moss]
dangosaf iti’r broga
yn lleithder y gwyll, [lleithder - dampness gwyll- darkness]
ac olion gwaith dan y gwair;
dangosaf iti’r tŷ lle ganed Gwenallt.
Dere, fy mab,
yn llaw dy dad,
a dangosaf iti’r glendid
sydd yn llygaid glas dy fam.
Dafydd Rowlands
Roedd Dafydd Rowlands (25 Rhagfyr 1931 - 26 Ebrill 2001) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn ddarlithydd, ac yn llenor. Ganwyd ym Mhontardawe. Gan adael y weinidogaeth aeth i ddysgu yn Ysgol Ramadeg Y Garw ac yn 1968 fe'i penodwyd ar staff Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn yr Adran Gymraeg, ac yn ddiweddarach dechreuodd ysgrifennu sgriptiau i'r teledu. Enillodd y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972. Bu'n archdderwydd (Dafydd Rolant) o 1996 i 1999.