Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 27 July 2014

Cacwn

EinCymraeg
 
Cacwn, picwn, piffgwn, cachgi bwm, bili bwm, cacwn y geifr, rhwygod.... Beth yw eich gair chi am (a) wasp, (b) bumble bee? #cacwn

Anwen Evans: Os ma cachgi bwm yn canu, mi fydd yn braf yfory, ond does dim dal ar gachgi bwm, efallai bydd yn glawio'n drwm. Picwnen yw wasp.

Beryl Davies, Llanddewi Brefi
'Roedd Tad-cu Cwrt-Y-Cadno yn saer coed ar ystâd Dolaucothi, a Syr Hills Lloyd Johnes yn gofyn iddo, "What happened to your hand William?" Gallwch ddychmygu beth oedd cyfieithiad tad-cu am CACHGI BWM (yn ôl ei gydweithwyr) pan atebodd - "A Boom S--t pricked me Sir!"

Alan Thomas: Gwaelod Ceredigion: gwenyn - bees, picwns - wasps, cachgi bwm - bumble bee

Idiomau (diolch i'r Gweiadur)

1. codi nyth cacwn - "rhywbeth sydd, o'i gynhyrfu, yn codi llond lle o drafferthion a phroblemau":

Cododd y cynnig i gau'r capel nyth cacwn ymhlith yr aelodau

2. yn gacwn gwyllt -  yn wyllt cynddeiriog, yn grac iawn




Wednesday 23 July 2014

Hafod a hendre





 lliaws = llu, nifer fawr

Hafod, 'foty, hafoty, meifod - lle i fwy ynddo yn yr haf

Hendre - pentre ar yr iseldiroedd

Diolch i Ffrwti.







Tuesday 22 July 2014

Cicio'n erbyn y tresi

EinCymraeg:


"Cicio'n erbyn y tresi" ymadrodd o fyd amaeth am wrthryfela yn erbyn y drefn. Daw tres o hen air Saes. trace "strap/ cadwyn i glymu anifail"

Friday 18 July 2014

Ceibwr

Ble mae dy hoff le di? Beth sydd mor arbennig amdano fe? Pa atgofion sydd ynghlwm wrth y lle yna?

Dyma Bethan Williams yn sôn am Geibwr ger Trewyddel.

______________

Dwi bron yn gyndyn [cyndyn = styfnig, anfodlon] o rannu hwn - lle hudol, dwi am i bawb ei brofi, ond eto eisiau cadw i fi'n hunan...


Dwi ddim yn gwybod pwy yw Lizzie Porter druan – mae wedi cael profiadau gwael o ymweld â Chymru. Yn amlwg mae'i herthygl – How Wales got Cool [erthygl yn y Daily Telegraph] wedi'i dargedu at ymwelwyr, ac ymwelwyr penodol iawn weden i. Y trendis – pobl sydd yn joio bwyty swanc a llety boutique quaint ac sy'n fodlon talu drwy'r trwyn am frethyn Cymreig sydd yn ddim mwy na blanced i ddweud y gwir!

Ta beth fe ddechreuais i feddwl am fy hoff lefydd, un ohonyn nhw yw Ceibwr ar bwys Trewyddel.
Mae'n wahanol bob tro, dwi wedi bod yno ym mhob tywydd, ym mhob tymor a gweld rhywbeth gwahanol bob un tro - ond eto yr un un yw e. Mae'r un cysur a'r llonyddwch iddo fe o hyd. Hwn yw un o'r unig lefydd dwi'n dal i deimlo y galla i ddianc iddo fe. Er nad ydw i erioed wedi gorfod dianc go iawn mae'n lle i gael switcho bant. Falle taw'r ffaith fy mod i wedi gweld pethau'n newid yn fy atgoffa fod pethau'n mynd yn eu blaen, yn newid yn eu ffordd eu hunain 'sdim ots beth wnawn ni i geisio atal neu annog hynny.

Mae'n llawn picnics, dysgu o'r newydd, gweld rhyfeddodau, gweld pethau bob dydd, y pethau na all unrhyw un gyffwrdd a sylweddoli, a rhyw atgof o bob cyfnod yn sefyll mas.

Y prif atyniad yw Pwll y Wrach – mae llwybr rhyw filltir a hanner yn arwain at ddibyn [dibyn = wyneb serth clogwyn] anferth. Mae fwy neu lai yn dwll rhyw ddeg troedfedd ar hugain o ddwfnder.
Dyw hi ddim yn rhwydd mynd lawr ato fe – mae'n rhaid i chi fynd mewn i ogof yn y graig a disgyn rhyw naw troedfedd – gyda sŵn y dŵr yn rhaeadru  [disgyn fel rhaeadr] lawr y troedfeddi hynny'n fyddarol, a blas yr halen yn tasgu [tasgu = gwasgaru] i bobman. Os yw'r llanw i mewn ewch chi byth drwyddo. Unwaith dwi erioed wedi bod lawr i Bwll y Wrach ei hunan, a falle na chaf i gyfle i fynd eto. Braidd cofio gallu edrych lan o'r gwaelod ydw i, y wefr o gael bod lawr 'na oedd yr hud. A chael rhuthro gartre at Mam i ddweud wrthi.
Ar y llwybr i Bwll y Wrach welais i'r haul yn machlud am y tro cyntaf yn iawn, a theimlo'r oerni sydyn ar ôl i'r haul ddiflannu.

Brechdanau, pecyn o grisps a the fflasg ar 'swper mas' yw Ceibwr weithiau – bydden ni i gyd yn mynd lawr ar ôl i Dat ddod gartre o'r gwaith i gael swper cyn mynd i badlo yn y traeth – sydd ddim lot o draeth, neu eistedd ar y graig a'r tonnau'n golchi droston ni.
Unwaith neu ddwy dwi'n cofio cael stopio yn siop jips Bowen's yn Llandudoch (treat a hanner!) a Mam wedi dod â photel sos coch No Frills yn lle gorfod prynu sachets a bob i fforc yn lle gorfod defnyddio'r rhai bach pren!

Nosweithiau eraill byddai Dat yn mynd â ni am wâc, yn rhoi rhyw hanesion i ni wrth basio hen gartref y teulu – am gysgu mas mewn rhywbeth doedd dim lot mwy na sied, er mwyn rhentu'r tŷ i fisitors dros yr Haf; a shwd dechreuodd e drwsio ceir mewn sied mas gyda'r nos ar ôl beni yn y garej am y dydd.

Ac wrth dyfu'n hŷn byddai Arwyn, fy mrawd, a fi yn beicio draw, dim byd ar ein meddwl heblaw cyrraedd 'na a'r unig frys i fynd gartref oedd y bol yn galw am ginio, neu de.

Dim ond unwaith dwi wedi cael fy siomi. Ro'n i'n gweithio mewn tafarn leol a rhywun yn dweud wrtha i eu bod nhw 'off to keyboar bay' a finnau'n ffaelu deall i ble roedden nhw'n mynd – nes iddyn nhw esbonio ble roedd e. Ie, Ceibwr. Ddim yr un lle yw keyboar bay a do'n i ddim yn gallu meddwl am Geibwr yn yr un ffordd weddill y dydd. (Swnio'n ddramtig dwi'n cyfaddef!)

Ers hynny dwi wedi dangos yr hud i sawl un arall, ond dyw e ddim cweit yn cydio [=cymryd gafael]. Gall unrhyw werthfawrogi golygfeydd a rhyfeddu mor anhygoel yw Pwll y Wrach ond dydyn nhw ddim yn cael yr un wefr, yr un pleser sydd ynghlwm wrth yr atgofion.