Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 28 October 2016

Diwylliant a culture: oes yna wahaniaeth?

Dyma erthygl wych a phrofoclyd gan Carys Mai ar wefan O'r Pedwar Gwynt.

Y Llyfrgell yn y Mwldan

Euros Lyn, Cymru, 2016, 87’

Mae’r ffilm gyffro hon yn dilyn dwy efeilles Ana a Nan. Catrin Stewart sy’n portreadu’r ddwy wrth iddynt geisio dial ar y dyn y  credant wnaeth lofruddio eu mam, Elena, awdur enwog.  Gyda’i hanadl olaf, cyfeiriodd Elena’r bai am y drosedd tuag at ei bywgraffydd. Wedi ei seilio ar nofel lwyddiannus Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, gosodwyd y ffilm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a’i chyfarwyddo gan y clodfawr Euros Lyn. Gyda Ryland Teifi, Dyfan Dwyfor a Sharon Morgan.

SUBTITLES | IS-TEITLAU
FACEBOOK: yllyfrgell
TWITTER: @yllyfrgellfilm

 8:25pm - Dydd Mawrth, 1 Tachwedd

5:50pm - Dydd Iau, 3 Tachwedd
8:10pm - Dydd Sul, 6 Tachwedd
8:35pm - Dydd Sul, 13 Tachwedd
6:20pm - Dydd Mawrth, 15 Tachwedd

Y Llyfrgell



Y ffilm: tu ôl i'r lleni - https://www.facebook.com/yllyfrgell/videos/1760524674168384/

Cyfelwiad gyda Fflur Dafydd:  https://www.facebook.com/yllyfrgell/videos/1760510784169773/

Ac yn olaf, dyma'r treiler: https://www.youtube.com/watch?v=C9VWyk0NQbw



Friday 21 October 2016

Cofio Aberfan - Ifor ap Glyn

Diolch i Ifor ap Glyn, Canolfan y Mileniwm a Golwg360 am y darn yma.

Comisiynwyd Ifor ap Glyn gan Ganolfan Mileniwm Cymru i greu gwaith i’w berfformio gan Sian Phillips yn y noson i gofio trychineb Aberfan ar Hydref 8, 2016. Dyma Ifor yn esbonio:

Pump oed on i pan ddigwyddodd hyn  a ‘nghof penna yw gweld mam yn crio o flaen y teledu a minnau’n gofyn iddi be oedd yn bod. Ond hyd yn oed hanner canrif yn ddiweddarach, mae dal yn anodd trafod Aberfan. Mae cymaint o gwestiynau’n dal i godi:’Sut ddylen ni gofio’r drychineb?’ ac ‘Ydyn ni’n ymyrryd yng ngalar y teuluoedd a’r rhai wnaeth oroesi, wrth wneud hynny?’

[ymyrryd = intervene, interfere]

Mae’r gwaith yn drwm dan ddylanwad atgofion y rhai a oedd yno. Rwy’n ddyledus  dros ben i awdur ‘Aberfan’, Gaynor Madgwich, sydd wedi rhannu ei hatgofion poenus ei hun ac atgofion pobl eraill oedd yno, gyda pharch a sensitifrwydd. Rwy’n gobeithio y bydd y monolog hwn yn cael ei dderbyn yn yr un modd.

Rhaid diolch hefyd i E. Wyn a Christine James am ysbrydoliaeth eu cyfrol nhwthau o gerddi ac i J.C.Rapoport am ei luniau. Diolch  i Wyn Williams am ei gyngor ynglŷn â’r Wenhwyseg a diolch yn olaf i Ganolfan Mileniwm Cymru am eu caniatâd i ailgyhoeddi’r gwaith gwreiddiol.

[Gwenhwyseg - hen dafodiaith Gwent a Sir Forgannwg]

Llythyr Mam-gu

(Gwelir dynes yn ei hwythdegau cynnar yn ceisio cyfansoddi llythyr hefo pad a beiro yn ei llaw)

“My dearest grand-daughter…”

Na… “Annwyl wyres…”

Ti weti gofyn ifi drial ysgrifennu beth wi’n i gofio – ar gyfar ryw broject sda ti ‘sha’r ysgol, felly ma gofyn i Mamgu neud a’n Gwmrêg siwr o fod…ond cariad bêch, smo i’n gwpod beth alla’i weud tho ti…

Silence is a hard habit to break ys gwetan nhw a reit o’r dwarnod cintaf un, rodd ‘yn yn rwpath nag on ni’n wilia ybythdi… non-subject fel man nhw’n gweud nawr.

[ys gwetan nhw - fel y dywedan nhw]
[wilia ybythdi - siarad amdano]

Ma’n beth dicon rhyfadd pan ti’n meddwl amdani ‘ddi. Jiawl, tra bod y byd a’i bartnar yn ein trafod ni, a’u heditorials, a’u news items ac yn y blên, tra bod y beirdd yn sgrifennu’u cerddi amdenon ni, a’r holl eiria ‘na’n golchi droson ni… ôn ni’n gweud dim…

Y peth yw, pwy opath odd i ffindo geiria alla weud beth on ni ‘di weld? Pitwch â sôn.

[pwy opath - pa obaith]

 
On ni’n …numb, on ni jest yn bodoli… fel ‘san ni miwn gwactar – ac rodd y geiria’n llifo miwn yn ddi-ddiwadd o’r tu fês, yn trial llanw’r gwactar ‘na… Rodd a fel… tipslide o gydymdimlad… dodd dim drwg yndyn nhw, wrth gwrs ‘ny, ond on ni jest yn trial catw fynd…


Felly… beth alla’i weud tho ti ‘bêch?

Ys gwetws y dyn, silence is a hard habit to break…  [ys gwetws - fel y dywedodd]

Rodd hi’n niwl mawr y dwarnod ‘ny…ac rodd hi’n ôr… ac rodd dy dad a dy anti fêch weti gwishgo’u dillad ysgol wrth y tên. Rhoddas i bobo swllt arian cino iddyn nhw (-neu ‘five pee’ fel byddach chi’n weud) – a dodd dy anti fêch ddim moyn mynd, ond na fe, I wasn’t having it;

[tên - tân]
 
“Dim ond ‘eddi ‘to”, mynta fi, “- a fydd dim ysgol am wsnoth wetyn”  [mynta fi - meddwn i]

Rôdd dy anti fêch run oetran â titha nawr…

Rôdd y swllt yn ei llaw ’i o ‘yd, pan dynnw’d ‘i mês o’r llacs…  [dynnw'd - dynnwyd]

Rôdd hi’n lico canu… a wara cwato…

Bydda’i’n meddwl yn aml shwt fydde hi weti troi mês…shwt fydde’r holl blant ‘na weti troi mês…

Rodd yn anodd i dy dad di weti ‘ny. Rôdd a’n pallu wara yn y stryd rhag bod rhieni erill yn i weld a ac yn ypseto’u hunen. Pan etho fa i’r ysgol newydd wrth y rheilffordd, rhetws a gytra’r dwarnod cynta pan glywws a fwstwr y trena glo ar y lein – odd a’n meddwl fod y tip yn dod lawr ‘to.

[etho fa - aeth e]  [rhetws a - rhedodd e] [mwstwr - sŵn, cynnwrf]

Ceson ni ‘gyd yn profi mewn ffyrdd gwa’nol. Am fishodd wet’ny, bydda Dadcu yn doti’i fys yn y ngheg i, pan on i’n cysgu. – fel sa fa’n glan’au’r llaca ohono fa. ‘Na beth odd a weti bod yn neud lawr yn yr ysgol gyta’r plant pan on nhw’n dod â nhw mês.

[doti'i fyd - rhoi ei fys] [llaca - mwd, baw]

‘Odd a ddim yn gwpod fod a’n neud a – odd a’n cysgu. Mewn breuddwyd…

Mewn ffordd, on ni gyd fel sen ni’n byw mewn breuddwyd. Bydda Dadcu’n mynd lawr i’r Mac yn ymlach nag y bydde fa gynt.

[y Mac - tafarn yn Aberfan]  [ym ymlach - yn amlach]

‘I’ve only ‘ad four,’ bydde fa’n gweud, ‘…’elps me see clearer…’ Ond moyn gweld y niwl odd a, windo’r cyfan nôl i’r bora niwlog ‘na, a gwneud i’r cyfan …ddad- ddicwydd. Os shwt gair i gêl? Byddi di’n gwpod yn well na Mamgu, wi’n siwr…

[dad-ddicwydd - 'dat-ddigwydd']

Felly… faint dylat ti gêl gwpod? Mae’n ran o dy anas di … ran o anas yn teulu ni. Ond alla’i byth â rannu’r euocrwdd sy gyta fi am bo fi weti fforso ‘r ferch a gollas i i fynd i’r ysgol y bora ‘ny. A se’n dda ‘da fi sen ni byth ‘di rannu wnna ‘da dy Dadcu di ‘ed… a’r ffaith bo fi’n timlo’n euog am bo gyta fi blentyn odd weti byw. Ond fyddat ti ddim gyta fi wet’ny!

[anas - hanes] [euocrwdd - euogrwydd]  ['ed - hefyd]

Smo hyn yn gneud llawar o sens…

Gad i fi ddangos llunia i ti o’r amser weti ‘ny…

Dêth bachan o America gyta’i gamera ar ôl y drychinab a buws gyta ni am gwpwl o fishodd wetyn. Rapoport odd i enw a. Shgwla di ar i lunia fa.

[buws - roedd e'n byw]   [shgwla di - edrycha di]

Co’r babi cynta gas i eni wetyn… a’r briotas gynta… y bobl gynta’n gwenu. (a faint racor o reini sy weti bod ar ôl ‘ny, diolch i’r nefodd?)

Mae’r llunia ‘na’n dangos fel on ni’n cario mlên… am fod raid i ni… ond ma ‘na rai pethach nag yw’r llunia na’n dangos…

Fel … can’wylla yn dy bocedi.   [can'wylla - canhwyllau]

Rodd dy anti fêch ofan y t’wllwch, twel… a byddan i’n cynny cannw’ll iddi yn y fynwant. Odd llawar yn gneud. Rodd y lle fel ail gytra i ni, am amsar mawr weti ‘ny… byddan inna’n mynd â c’nwlla sbêr gyta fi ym mocad y nghot -rhag ofan fod cannw’ll plentyn arall weti llosgi’n ddim.

[cynny - cynnau]

Pethach fel ‘yn bydda’i’n gorffo cario gyta fi tra bydda’i – ond ôs ‘awl ‘da titha arnyn nhw ‘ed? Am fod y peth mor ofnatw, a ddylat titha dimlo (fel sawl un o dy flên di) fod dyletsw’dd arnot ti i weud rwpath, i gydymdimlo, i drial uniaethu?

Achos alli di ddim, cariad bêch

– ond smo’i isie iti anghofio chwaith.

AlIa’i ddim ond roi blota i dy anti fêch…

ond fe dria’i rannu…beth alla’i …’da titha…

https://soundcloud.com/golwg-360/llythyr-mamgu-ifor-ap-glyn

Aberfan - adnoddau o gasgliadau Llyfyrgell Genedlaethol Cymru



http://hwb.wales.gov.uk/resources/resource/8ea08714-3f92-4ce4-b5c9-3d7bd8e17503/cy

Friday 14 October 2016

Ystrydebau - Hambons

Elis James

Hambon Ffactor


Hanes yr Iaith Gymraeg mewn Hanner Cant o Eiriau

Dyma gyfres wych am hanes rhai o'n geiriau mwyaf cyffredin gan Ifor ap Glyn.

1. Pili Pala (8 munud)

2. Cant  (5'30")

3. Talcen (7 munud)

4. Cloch (7' 12")

 

Talfyriadau

Dyma Ifor ap Glyn yn esbonio hanes rhai o'n geiriau cyffredin.

talfyrru: byrhau, crnhoi, cwtogi, gwneud darn (ysgrifenedig fel arfer) yn fyrrach drwy ddefnyddio llai o eiriau.

talfyriad
talfyredig 


gwneud (darn ysgrifenedig fel arfer) yn fyrrach drwy ddefnyddio llai o eiriau; byrhau, cwtogi, cywasgu, crynhoi

Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2016. Cedwir pob hawl.
gwneud (darn ysgrifenedig fel arfer) yn fyrrach drwy ddefnyddio llai o eiriau; byrhau, cwtogi, cywasgu, crynhoi

Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2016. Cedwir pob hawl.
gwneud (darn ysgrifenedig fel arfer) yn fyrrach drwy ddefnyddio llai o eiriau; byrhau, cwtogi, cywasgu, crynhoi

Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2016. Cedwir pob hawl.



Sunday 9 October 2016

Llyfrau plant o bob oed (Rhan 2)

Diolch eto byth i Bethan Gwanas am y darn hyfryd yma (wedi'i thalfyrru) gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2015.



Mae hi wedi bod fel ffair yma, ac yn dal i fod, ond dwi am drio rhoi sylw i hynny alla i o lyfrau Cymraeg GWREIDDIOL i blant cyn y Nadolig.

Un o fy ffefrynnau ydi hwn:



Ia, plant sydd wedi sgwennu’r straeon yma, a phwy sy’n gwybod yn well na phlant be mae plant yn ei hoffi? Enillwyr cystadleuaeth gan Radio Cymru llynedd ydyn nhw, ac mae pob un yn cael sylw fel hyn:

Ac ew, straeon da ydyn nhw, bob un. Nofelwyr y dyfodol, yn bendant! A gesiwch be – am fod cystadleuaeth llynedd wedi bod mor llwyddiannus, maen nhw wedi penderfynu cynnal un arall eleni, efo’r un beirniaid: Anni Llŷn, Bedwyr Rees a fi. A dwi’n meddwl mai Rhagfyr 11 ydi’r dyddiad cau ar gyfer eu gyrru i BBC Bangor. Dwi’n edrych mlaen yn arw at gael ffraeo efo fy nghyd-feirniaid eto!  Gwasg Carreg Gwalch sy’n cyhoeddi – pris £5.99.

Mae Meleri Wyn James newydd fod ar daith o gwmpas ysgolion efo’i llyfrau hynod boblogaidd Na, Nel, ac os dach chi isio llyfryn bach difyr i’r hosan, be am hwn? Na, Nel!: Ho, Ho!

Mae o’n lliwgar ac yn llawn direidi [=sbort a sbri, gan amlach drygioni chwareus] a syniadau difyr am bethau i’w gwneud adeg y Nadolig. Bargen am £2.99.

O, ac mae na ddarn bach difyr gan ferched Meleri yn Golwg yr wythnos yma.

A sôn am Golwg – dyna i chi un rheswm pam mod i wedi bod yn rhy brysur i flogio: dwi’n gweithio iddyn nhw’n rhan amser dros gyfnod mamolaeth. Ac wythnos nesa ynde…mi fydd ‘na dudalennau hyfryd, lliwgar, difyr am lyfrau plant a barn plant am lyfrau! Mi fydd ‘na sylw i hwn:


................

“Mae’r llyfr hwn yn llawn cerddi clyfar a choeglyd ac yn berwi o ryfeddodau o fyd natur, bywyd bob dydd a ffantasi” yn ôl Llinos Griffin ar gwales.com.

Dwi wedi gwirioni efo fo, rhaid cyfadde. Clawr caled hefyd – ieee! Dwi rioed wedi cyhoeddi llyfr efo clawr caled o’r blaen. A dwi’n meddwl bod Janet Samuel yn un o’r arlunwyr gorau yn y byd ar gyfer plant bach. Mae hyd yn oed ei madarch hi’n gorjys!

....................


Ac os dach chi’n nabod bobl ifanc sy’n hoffi llyfrau ffantasi, dyma i chi linc i flog difyr am lyfrau ffantasi, a’r tro yma am un i bobl ifanc gafodd ei gyhoeddi sbel yn ôl:

http://fideowyth.com/2015/11/25/clwb-llyfrau-f8-samhain/

Llyfrau plant Rhan 1

Dyma erthygl ddifyr iawn sy'n llawn syniadau gan Bethan Gwanas.  Mae'n werth darllen y fersiwn wreiddiol yma i weld yr holl engreifftiau o lyfrau da mae Bethan wedi'u dewis.






Mi fues i’n trafod llyfrau plant ar y radio eto heddiw – recordio rhaglen Dan yr Wyneb efo Dylan Iorwerth a Siwan Rosser.

Roald Dahl oedd dan sylw a finnau’n diolch yn fawr am y pres dwi’n ei gael drwy’r Roald Dahl Foundation am greu gweithdai sgwennu ac ati ond yn cwyno (fel arfer – yr un hen stori…) am y diffyg sylw i awduron eraill Cymraeg yng Nghymru. Roedd hi’n sgwrs ddigon difyr. Ond ro’n i wedi bwriadu sôn am yr angen i ofalu bod pob athro Cymraeg sy’n gwneud cwrs ymarfer dysgu o hyn ymlaen yn sylweddoli pa mor bwysig ydi hi iddyn NHW ddarllen llyfrau plant hefyd. AC NID DIM OND ADDASIADAU!

Sut fedran nhw argymell llyfrau i’w disgyblion os nad ydyn nhw’n darllen llyfrau plant eu hunain? Ond ar y llaw arall, dwi’m isio iddo fod yn orfodol – dwi isio iddyn nhw eu darllen am ei fod yn bleser – fel i’r plant. Sefyllfa anodd tydi? Ond naci, go drapia (= drat it Gog.), mae athrawon cynradd yn gorfod cadw ar dop eu gêm efo mathemateg a gwyddoniaeth, felly mi ddylen nhw neud yr un ymchwil ar gyfer darllen! Mae’r un peth yn wir am athrawon Cymraeg uwchradd. Mae pob athro isio bod yr athro gorau y medran nhw fod tydyn? Wel, mae darllen llyfrau plant yn mynd i neud byd o les felly tydi? Ac nid dim ond y llyfrau  sydd ar y cwriwclwm.

Dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn o athrawon a llyfrgellwyr sydd yn darllen y llyfrau ‘ma, diolch yn fawr, ond dwi’n gwybod bod ‘na lawer iawn sydd ddim.

A dach chi’n gwybod be fyddai o help i bawb? Rhestrau o lyfrau mewn categoriau ar gael yn hawdd ar rywle fel gwefan Gwales.com, fel sydd ar wefan lovereading – dyma linc i restr o lyfrau ar gyfer plant 9+

http://www.lovereading4kids.co.uk/genre/9/9-plus-readers.html

Grêt tydi? Plis fedar rhywun gyflogi rhywun i wneud pethau tebyg yn Gymraeg?

Ac mewn llyfrgelloedd, be am focsus/silffoedd lliwgar  yn arddangos teitlau ar thema?


Pethau fel:

  • Llyfrau am bêl-droed/rygbi 6+. 8+, 12+
  •  Nofelau am geffylau 6+, 8+, 12+
  •  Nofelau/straeon gyda chefndir amaethyddol/dinesig ( prinder rhai dinesig gyda llaw)(prinder rhai amaethyddol ar ôl 5 oed…)
  •  Nofelau am hoci, sombis, ysbrydion, y gofod, anifeiliaid, hud a lledrith ayyb ayyb
Mae ysgolion yn aml yn gwneud prosiectau ar rhyw bwnc neu gyfnod mewn hanes – meddyliwch defnyddiol fyddai rhestr/bocs/silff yn llawn llyfrau addas – yn y ddwy iaith os liciwch chi – ond yn sicr yn Gymraeg!
Oes y Tuduriaid, yr ymfudo i Batagonia, y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd – mae 'na stwff addas ar gael! Bron i gyd gan Haf Llewelyn gyda llaw…

Ia, dwi’n gwybod mai addasiad ydi Asterix, ond addasiad o’r Ffrangeg gwreiddiol, felly dwi’n maddau. A dwi’n addoli Asterix.

Be am gasgliad o gasgliadau o straeon byrion?

Be am lincs: “Os wnaethoch chi fwynhau hwnna, be am hwn?”

A sbiwch syniad da ydi hwn:


Roedd hwnna drwy Twitter ‘Patron of reading’ – llwyth o syniadau yno bob amser. A dyna fi’n ôl at bwysigrwydd athrawon…ond gellid gwneud hyn mewn llyfrgelloedd, siopau llyfrau – bob man. Hoff lyfrau rhywun adnabyddus yn blentyn?

Y Prifathro?