Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 30 November 2014

Mewnfudwyr - mynd ar ôl y gelynion anghywir




gan Cai Larsen (Blog Menai)


Reit, gair neu ddau ynglyn a mewnfudo i'r DU ac UKIP - cyn bod hwnnw'n fater gwleidyddol  mor obsesiynol.  Yn y lle cyntaf gallaf gydymdeimlo efo pobl - Saeson yn bennaf - sy'n gweld eu cymdogaethau yn newid yn sylweddol mewn cyfnod byr o amser.  Mae pobl yn hoffi sicrwydd a theimlad o barhad yn eu bywydau - ac mae newidiadau cymdeithasegol mawr a chyflym yn tanseilio hynny.  Mi'r ydan ni sy'n byw yn y Gymru Gymraeg yn deall hynny'n iawn.  Ond dydi'r rhan fwyaf o gymdogaethau yn Lloegr ddim wedi gweld lefelau uchel o fewnfudo, a dydi llawer o'r ardaloedd lle mae UKIP yn gryf ddim wedi profi hynny chwaith.  Mae 95% o drigolion Clacton yn disgrifio eu hunain fel White British.


Ar y llaw arall mae ardaloedd sydd wedi derbyn niferoedd uchel o fewnfudwyr yn aml iawn yn rhai lle nad ydi UKIP yn gwneud yn arbennig o dda.  Mae Llundain yn esiampl nodedig.    Mewn geiriau eraill mae llawer o'r sawl sy'n cwyno am fewnfudo (ac yn fotio ar sail hynny) yn cwyno am rywbeth sydd ddim yn effeithio yn uniongyrchol arnynt.  Y cwestiwn diddorol ydi: Pam?



Cyn ateb y cwestiwn hwnnw efallai y byddai'n syniad edrych ar effaith economaidd mewnfudo.  Does yna ddim llawer o amheuaeth bod mewnfudo i'r DU yn llesol o'r safbwynt hwnnw.  Mae poblogaeth y DU yn gymharol hen, sy'n golygu bod llawer o'r boblogaeth y tu hwnt i'r farchnad waith.  Mae mewnfudwyr yn tueddu i fod yn ifanc, felly maent yn newid y cydbwysedd gweithwyr / pensiynwyr er gwell.  Pe na byddai unrhyw fewnfudo ni fyddai yna ffordd o lenwi llawer o fylchau yn y gweithle. 

Bu cynnydd sylweddol mewn mewnfudo diweddar (roedd yna fewnfudo net o 243,000 y llynedd - cynnydd o 40% ar y flwyddyn flaenorol), ac mae tua hanner hwnnw'n dod o'r Undeb Ewropeaidd.  Mae yna rymoedd economaidd mawr yn gyrru'r symudiadau poblogaeth yma - yn 2013 roedd GDP y DU yn €29,600 y person.  Y ffigwr cyfatebol ar gyfer Bwlgaria oedd €5,500.  Mae gwahaniaeth o'r maint yma'n rhwym o [rhwym o = bownd o]  greu symudiadau poblogaeth mawr lle nad oes cyfreithiau yn atal hynny - a does yna ddim cyfreithiau felly oddi mewn i'r Undeb Ewropiaidd. 


Os ydych yn un o selogion [= cefnogwyr brwd] y Daily Mail, neu'r Express mae'n debyg eich bod yn credu bod y bobl hyn yn dod yma i gael budd daliadau.  Dydi'r data ddim yn cefnogi'r farn honno.  Ers 1999 mae mewnfudwyr wedi talu £25bn yn fwy mewn trethi na maent wedi ei gymryd mewn budd daliadau.  Mae mewnfudwyr yn 45% llai tebygol na brodorion y DU i dderbyn budd daliadau neu gredydau treth.   


Serch hynny mae mewnfudo yn fater llawer pwysicach yn wleidyddol yn y DU heddiw nag yw wedi bod ers talwm iawn - neu yn wir erioed.  A cheir canfyddiad [=perception] cyffredinol bron bod mewnfudo yn niweidiol i economi'r DU.  Mae cefnogaeth UKIP wedi tyfu yn gyflym yn yr amgylchiadau hyn.  Ar wahan i gam arwain arferol y papurau newydd adain Dde mae'n debyg bod dau reswm cysylltiedig am hyn.  Mae mewnfudo wedi cynyddu yn sylweddol tros y blynyddoedd diwethaf ar union yr un pryd a mae'r rhan fwyaf o bobl wedi profi cwymp yn eu safon byw.  Mewn amgylchiadau felly mae'n hawdd argyhoeddi [=perswadio] pobl bod un sefyllfa wedi arwain at y llall - ond dydi hynny ddim yn wir.



Yr hyn sydd wedi arwain at gwymp mewn safon byw carfannau mawr o'r boblogaeth ydi'r mesurau sydd wedi eu cymryd gan lywodraethau i fynd i'r afael a'r argyfwng  a achoswyd gan benderfyniadau a gymerwyd i arbed cyfres o fanciau  ar ddiwedd y ddegawd diwethaf, ynghyd a'r tynhau rhyfeddol yn y marchnadoedd benthyg arian. Mae'r sefyllfa yn cael ei chymhlethu gan y ffaith bod Prydain yn economi cyflogau isel beth bynnag - mae'r ail strwythuro  economaidd a ddigwyddodd yn 80au a 90au y ganrif ddiwethaf wedi sicrhau hynny. 



....................



Ond mae'r anfodlonrwydd sydd wedi tyfu yn sgil y cwymp mewn safonau byw wedi ei sianelu i un deilliant yn unig o lywodraethiant neo ryddfrydig - mewnfudwyr o wledydd tramor - ac nid ar y gyfundrefn ehangach.  Mae hyn wedi ei lywio gan y cyfryngau newyddion wrth gwrs. 



A daw hyn â ni at etholiad y flwyddyn nesaf a'r cyfryngau torfol.  Ar hyn o bryd bwriad y sianelau teledu ydi ceisio cyfyngu'r drafodaeth i un rhwng arweinwyr y pedair brif blaid unoliaethol - pedwar miliwnydd sydd i wahanol raddau yn derbyn y consensws neo ryddfrydig - er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd yn ei sgil.  Petai'r Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r SNP yn  cymryd rhan yn y dadleuon cyhoeddus, yna mi fyddai agweddau ar y consensws sydd wedi'n cael ni yn y twll rydym ynddo ar hyn o bryd yn cael ei herio - ac mae yna lawer o bobl sydd mewn safleuoedd o rym sydd ddim am i hynny ddigwydd tros eu crogi.  Does yna'r un system yn well am wneud y cyfoethog yn fwy cyfoethog.


Tuesday 25 November 2014

Siocled gan Bethan Williams

 Diolch unwaith eto i Ffrwti am roi sbardun i sgwrs!

Falle taw'r tro cyntaf i sylwi hynny (heb sylwi'n iawn ar y pryd chwaith) oedd pan 'nes i darfu am Mam. Bydden i wedi bod byti chwech oed, ac am ryw reswm yn chwilio Mam – fwy na thebyg roedd rhyw gêm ar goll neu angen sortio rhyw gweryl rhwng Arwyn a fi - rhywbeth holl bwysig fel'na.

Roedd gyda ni 'stafell ffrynt – dim ond stafell gyda soffa doedden ni ddim yn defnyddio'n aml iawn. Ta beth, 'na ble oedd Mam a rhyw gylchgrawn a siocled yn ei llaw.  O ngweld i ei geiriau oedd:

“'Sdim cwato dim byd oes e?!”

Cyn cynnig hansh o'i siocled i fi a dweud i beidio dweud wrth Arwyn.

Roedd pleser Mam newydd ddiflannu, ond fy un yn anferth – siocled heb ei ddisgwyl, a chyfrinach nad oedd Arwyn yn gwybod dim amdani!

Ar brynhawniau Sul bydden ni'n galw gyda Mam-gu, ac wrth adael bydden ni'n cael dewis siocled o'r dror. Byddai rhaid aros nes y Sadwrn wedyn, pan fyddai cinio yn frechdan a phecyn o losin neu siocled.

Yn ystod yr wythnos bydden ni'n cael siocled yn ein bocsys bwyd ambell ddiwrnod - ond rhywbeth fel Penguin, Club, Wagon Wheel, Viscount - mwy o fisged na siocled ar y cyfan. Felly roedd siocled dydd Sadwrn bach mwy arbennig.

Fel arfer rhywbeth fel Skittles neu Smarties, neu Milky Way Magic Stars, Fruit Pastilles fydden i'n dewis dros fariau o siocled. Felly ar brynhawn Sadwrn bydden i'n tynnu'r holl losin mas o'r pecyn, yn eu rhoi nhw mewn rhesi yn ol lliw neu'r wyneb bach ar y Magic Stars, ac yn eu bwyta mewn trefn beodol. Yn ol hoff flas neu hoff liw, neu weithaiu yn ôl faint o bob lliw oedd yna. Os mai Revels oedd gyda fi, trial bwyta'r rhai mwya diflas a chadw'r goreuon fydden i. Os Minstrels bydden i'ncnoi'r casyn caled gyntaf a doedd dim dal gyda Malteasers – cnoi y sicled i gyd bant neu grensian un cyfan, neu doddi un yn araf fydden i.

Nawr, siocled tywyll biau hi bob tro. Gorau po dywyllaf - mae unrhyw beth dan 70% yn rhy felys! Bron ei sugn fe fydda i'n gwneud, gadael iddo fe doddi'n araf i gael joio'r blas. Ac mae truffles bach Booja neu Hipo Hapus yn fwy na derbyniol. A'r arfer gyda nhw yw unai cnoi y siocled oddi, wedyn gadael i'r truffle doddi ar fy nhafod.

Fe wnes i ddechrau meddwl am hyn ar ôl gweld erthygl gan rywun arall yn disgrifio'i hareferion hi wrth fwyta siocled. Nes i fi ddechrau meddwl am siocled, ro'n i'n meddwl ei bod hi bach yn od – ond ni i gyd yn od yn ein ffordd....

Friday 7 November 2014

Afghanistan

Diolch i Golwg360 am y ddau ddarn isod.

1. Mam milwr o Gymru'n amau gwerth y golled

Mae mam o Gymru a gollodd ei mab yn ymladd yn Afghanistan wedi mynegi amheuon am werth y brwydro yno.




Fe ddywedodd Sarah Evans y byddai meddwl bod ei mab, James Prosser, wedi marw er lles yn gwneud y golled yn haws … ond doedd hi ddim yn gallu meddwl felly.

“Dw i a’r mamau eraill yn gofyn pam ydyn ni wedi colli’r bechgyn,” meddai ar raglen radio The World at One. “Alla i ddim gweld fod pethau wedi gwella.”

Y cefndir

Roedd James Prosser yn 21 oed pan gafodd ei ladd bron union bum mlynedd yn ôl, ym mis Medi 2009.

Roedd yn gyrru cerbyd ymladd, Warrior, pan gafodd ei daro gan ffrwydryn yng ngogledd talaith Helmand.
Yn ôl ei fam, roedd wedi mynd i Afghanistan gan feddwl y byddai’n gallu trawsnewid y lle er gwell ond doedd hi ddim yn gweld bod hynny wedi digwydd.

Roedd James Prosser yn un o dri milwr o Gwmbran a gafodd eu lladd yn ystod yr ymladd. Roedd wedi ei eni yng Nghaerffili.

2. Afghanistan - gwleidyddion Cymru'n dadlau

Mae gwleidyddion Cymreig yn parhau i anghytuno tros y penderfyniad i anfon milwyr i ymladd yn Afghanistan – a hynny wrth iddyn nhw adael y wlad.




Mae un o brif wrthwynebwyr y rhyfel, AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi sôn eto am “y digwyddiadau dychrynllyd” yn Afghanistan.

Mae wedi cyhuddo gwleidyddion eraill o fod yn “ddoeth wrth edrych yn ôl” wedi iddyn nhw anwybyddu rhybuddion bod y rhyfel yn gamgymeriad.

‘Gwerth chweil’

Ond yn ôl aelod Llafur arall, a gefnogodd y rhyfel ac sy’n aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn yn San Steffan, roedd y cyfan wedi bod yn werth chweil.

“Mae Afghanistan yn well lle ac mae Ewrop yn fwy diogel o ganlyniad i’n gweithredoedd,” meddai  Madeleine Moon, Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr, wrth Radio Wales.

Ar yr un rhaglen, roedd arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷr Cyffredin, Elfyn Llwyd, yn mynnu ei fod yntau wedi bod yn gywir i bleidleisio yn erbyn anfon y milwyr.

“Dw i ddim yn siŵr faint gwell yden ni heddiw,” meddai, gan ddweud bod llawer o’r brawychwyr [= terrorists] oedd yn Afghanistan bellach wedi symud i wledydd eraill yn y Dwyrain Canol.

Fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ei fod wedi cadw at ei addewid i gael y milwyr yn ôl cyn 2015.

Mewn neges drydar, fe ddywedodd, “Byddwn wastad yn cofio dewrder y rhai a wasanaethodd yn Afghanistan ar ein rhan a fyth yn anghofio'r rhai a wnaeth yr aberth eitha’.”

Cabinet yn dadlau

Ond roedd aelodau o’r cabinet Llafur a wnaeth y penderfyniad yn anghytuno hefyd.

Roedd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, John Prescott, yn amau a oedd yr hyn a enillwyd werth yr aberth tra oedd y cyn Ysgrifennydd Tramor, Jack Straw, yn mynnu ei fod yn “rhyfel angenrheidiol”.