Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 26 January 2020

Pleser o'r Mwyaf: Emyr LLew



Croesawyd Emyr Llew o Ffostrasol i siarad am y pethau sy’n arwyddocaol yn ei fywyd a rhoi’r byd yn ei le, yn Y Man a’r Lle, Aberteifi, fore Sadwrn, Ionawr y 25ain. Agorodd ei anerchiad drwy sôn am ei gyfnod fel athro ysgol a pha mor naturiol yw plant bach, ac y dylsem ni fel oedolion fod yn fwy tebyg iddynt wrth dyfu’n hŷn, ac am ein gwreiddiau ni’r Cymry, (down o ardal Siberia yn wreiddiol!) 

Yn ail, croesawodd Emyr y dysgwyr, gan ddiolch iddynt am gamu mewn i’w fyd e, drwy ffenest wahanol. Wrth inni fel Cymry Cymraeg ymladd dros ein hiaith, “iaith sy’n atseinio o gariad,” a’n gwerthoedd, rhaid cadw’r ffenest ar agor. Wedyn soniodd am Batagonia, ac am y berthynas glos a ddatblygodd rhwng y Cymry a ymfudodd yno â’r Indiaid Cochion brodorol. Dangosodd wedyn lyfr ‘Fietnam’ y ffotograffydd o Ddinbych, sef Phillip Jones Griffiths, gan ddweud fod y Fietnam yn debyg iawn i Gymru, am eu bod yn ddwy wlad sy’n cael eu llygru gan gymydog cryfach. Mae’r llyfr yn llawn lluniau o wlad arall, ond drwy lygad Cymro. Cyn cloi, siaradodd am berygl, oferedd a chanlyniadau trist rhyfel, a sgriniau tywyll technoleg (ffonau symudol a theledu). 

Oherwydd y Pared Gwyl Ddewi yn Aberteifi ar y 29ain o Chwefror, ni fydd darlith, ond cynhelir dwy sesiwn fis Mawrth. Ar y 7fed o Fawrth, bydd Alun Lenny yn dod i ddiddanu, a Hedd Ladd-Lewis ar y 28ain o Fawrth. £5 wrth y drws a £1 am de/coffi a chacen cartref. Cewch groeso cynnes. Dewch i fwynhau bore diwylliedig a chefnogi Eisteddfod Genedlaethol 2020. 

Os nad ydych yn gyfarwydd â’r Man a’r Lle, mae’r adeilad ar y chwith wrth i chi droi i fyny at y Ganolfan Hamdden a Choleg Ceredigion yn Aberteifi, (ger Tacsis Robin). Mae digon o le parcio gerllaw. 



No comments:

Post a Comment