Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 13 October 2018

Newyddiaduriaeth Gymraeg i'r genhedlaeth iau

[Ffynhonnell: Datganiad i'r wasg gan S4C]
Mae HANSH, gwasanaeth ar-lein ffurf fer S4C, am roi blas go iawn o newyddiaduriaeth i’w gwylwyr.
Bydd HANSH: Dan Sylw yn rhoi lle i newyddiadurwyr iau fynd i'r afael â'r materion a'r straeon sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru a'r byd.
Tîm materion cyfoes ITV Cymru, y criw tu ôl i gyfresi gafaelgar [gripping], Y Byd ar Bedwar a'i chwaer raglenni Y Byd yn ei Le ac Ein Byd, sydd am ychwanegu elfen newyddiadurol bwysig yma i Hansh.
Trwy’r cynllun ‘Dan Sylw’ rhoddir cyfle, am y tro cyntaf erioed, i newyddiadurwyr ifanc dderbyn hyfforddiant-mewn-swydd a magu’r sgiliau i gynhyrchu cynnwys materion cyfoes ffurf fer yn y Gymraeg.
Mae HANSH yn targedu'r grŵp oed 16-34 gyda fideos hynod ddychmygus, sydd yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu dilyniant ar-lein sylweddol ers iddo gael ei lansio'r llynedd, gydag S4C yn cofnodi 4.9 miliwn o sesiynau gwylio yn ystod y flwyddyn sy'n rhedeg o Fehefin 2017- Mawrth 2018.
Un o’r newyddiadurwyr ifanc yn nhîm materion cyfoes HANSH yw Liam Ketcher, 22 o Faesteg.
Dywedodd Liam, a ymunodd â thîm materion cyfoes ITV Cymru Wales ym mis Gorffennaf, "Dwi’n hynod o falch ac yn gyffrous iawn am y cyfle i weithio ar gynnwys newydd ar gyfer Hansh. Pwrpas ‘Dan Sylw’ yw ysgogi trafodaeth am y pynciau sydd yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru. Ein gobaith yw ymdrin â'r straeon mewn ffordd ddifyr, hygyrch ac apelgar i gynulleidfa HANSH. Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr iawn at ddysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer y swydd hon ac i weithio gyda thîm profiadol ITV Cymru.”
Mae Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees yn credu y bydd y gwasanaeth yn ychwanegiad gwerthfawr at HANSH, sydd hefyd ar gael wedi eu pecynnu mewn rhaglenni yn y slot ar ôl 10 y nos ar wasanaeth teledu S4C.
Ychwanegodd Amanda Rees, "Mae S4C am ddatblygu’r gwasanaethau digidol yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'r datblygiad hwn yn HANSH yn dangos ein bod ni o ddifri’. Rydym bellach yn darparu newyddiaduraeth sy'n cael ei hymchwilio'n drylwyr i drin a thrafod profiadau a phynciau sy'n berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru trwy ffilmiau ffurf fer y maen nhw’n fwy tebygol o edrych arnyn nhw. Bydd yn helpu wrth inni ddatblygu’n gwasanaethau ar gyfer y genhedlaeth iau."

No comments:

Post a Comment