Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 7 October 2018

Cynhaeaf a gaeaf

Un o'r cwestiynau a godwyd yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf oedd "beth yw tarddiad y geiriau hyn?" Dyma ateb Geiriadur Prifysgol Cymru:

Cynhaeaf


[cyn-+gaeaf, cf. Hen Gernyweg kyniaf, glos ar autumpnus
eg. ll. cynaeafau.
Y gwaith o gasglu neu gynnull cnydau; y cnydau a gesglir; ffrwyth llafur neu waith; adeg
casglu’r cnydau, y trydydd tymor o’r flwyddyn, hydref.

Ystyr tebyg sydd a'r gair medi:

Medi (berfenw):

Torri (cnwd neu blanhigion, yn enw. ŷd) ag erfyn megis cryman neu â pheiriant, torri a 
chasglu (cnwd), torri (a chasglu) cnwd (cae, &c.), cynaeafu; torri.

Welsoch chi leuad fedi? (hefyd: lleuad mis Medi)

Byddwn yn casglu cnydau yn yr hydref. Yn ôl GPC, mae'n debyg mai hydd+bref yw tarddiad y 
gair 'hydref', sef yr adeg y brefa’r hydd am ei gymar. 

Cyhydnos yr hydref: un o’r ddwy adeg yn y flwyddyn pan fydd nos a dydd yn ogyhyd 
(gogyhyd = cyhyd, cyfartal ei hyd neu ei barhad). Enw arall ar gyhydnos yr hydref yw Alban 
Elfed, sef Alban (cyhydnos, cyfnod o dri mis) + Elfed (el+med, gair gwneud gan W Owen-
Pughe sy'n golygu 'hydref'. 

Nid oes cysylltiad rhwng 'alban hydref' a'r Alban, sef enw'r wlad, yn ôl GPC, ond mae 'Alban' 
yn stori arall.

Sy'n dod â ni'n ôl at y gair gaeaf

Hen Gymraeg  gaem, Hen Gernyweg goyf, Llydaweg goañv: < Brythoneg *gi̯jámo- (cf. 
Gwyddeleg gem yn gem adaig ‘noson o aeaf’), Galeg Giamillus, Giamon- (ffurfiau dalfyredig ar 
enw mis), Lladin hiems, Groeg χειμών: < IE. ĝhi̯ōm, *ĝhii̯ōm o’r gwr. *ĝhei, ĝhi- ‘gaeaf, eira’] 

GPC: "Pedwerydd tymor y flwyddyn—yr olaf a’r oeraf—yn dilyn yr hydref ac yn blaenori’r 
gwanwyn, gan ymestyn o’r 22ain o Ragfyr hyd yr 20fed o Fawrth yn hemisffer y gogledd 
(awgryma’r ymadrodd Calan gaeaf fod y gaeaf i’r hen Gymry yn dechrau ym mis Tachwedd).

Ac mi fydd byrddydd gaeaf, sef dydd byrra'r flwyddyn, arnom cyn pen dim.








No comments:

Post a Comment