Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 13 October 2018

Gweinidog yn herio trolio ar-lein

Rhagfarn a chasineb yn erbyn lleiafrifoedd: ydych chi'n meddwl bod cymdeithas yn fwy goddefgar nag yr oedd hi 50 mlynedd yn ôl? Oes 'na beryg bod agweddau pobl yn gyffredinol yn mynd yn llai goddefgar o, yng ngeiriau Wyn Tomos, "unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol"?

Ffynhonnell: BBC Cymru Fyw

Cyfweliad ar Taro'r Post ar gael yn fan hyn (28 munud i mewn).

___________________
Mae gofyn herio pobl sy'n anfon negeseuon ciaidd [= creulon, calon-galed] ar-lein, yn ôl gweinidog gyda'r Undodiaid.
Dros y penwythnos, derbyniodd y Parchedig Wyn Thomas o Landysul negeseuon cas yn ymosod ar ei rywioldeb.
Dywedodd iddo benderfynu wynebu'r bwlio am nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i'w "gwato".
Yn ogystal, ychwanegodd prif weithredwr Stonewall Cymru, bod angen "herio" trolio o'r fath a gwneud ymdrech i gefnogi eraill sy'n cael eu targedu.

'Ddim yn rhywbeth i gwato'

Ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, soniodd y Parchedig Thomas iddo dderbyn negeseuon cas yn gyhoeddus ac yn breifat oddi wrth griw penodol o bobl.
"A fi'n cymryd yn ganiataol, a falle bo fi'n anghywir, mai fy nhro i oedd hi, a bo nhw wedi gwneud penderfyniad i bigo arna' i dros y penwythnos."
Dywedodd ei fod wedi synnu'n wreiddiol i dderbyn y negeseuon: "Er bo fi'n weinidog mewn ardal ddigon ceidwadol, mae pawb wedi bod yn hynod gefnogol i fi'n bersonol."
Cafodd ei gapel ei alw'n " sodomite church " ac fe gafodd y Parchedig Thomas ei annog i gymryd ei fywyd ei hun. 
Dywedodd y Parchedig Thomas ei fod wedi herio'r negeseuon am fod teimladau isel o'r fath yn rhywbeth "mae lot o bobol ifanc hoyw wrth dyfu lan yn eu cael" a bod peryg i dderbyn negeseuon o'r fath allu "atgyfnerthu teimladau fel 'na".
"Felly dyma pam o'n i'n teimlo 'mod i am ddweud nad yw bod yn hoyw yn rhywbeth i gwato," meddai.
Ymatebodd y Parchedig Thomas i'r negeseuon yn gyhoeddus, gan nodi na fyddai'n "cywilyddio" nac yn "cuddio".
"Sai moyn rhoi sylw iddyn nhw achos sylw ma' nhw eisiau, ond ar y llaw arall, mae'n hollbwysig bod pobol yng Nghymru a thu hwnt yn ymwybodol mai lleiafrif yw'r bobol sy'n casáu nid dim ond pobol hoyw ond unrhyw un ac unrhyw beth sydd yn wahanol."

Angen herio

Yn ôl Andrew White, prif weithredwr Stonewall Cymru, mae un o bob 10 o bobl LHDT [= Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol Trawsrywiol] yng Nghymru wedi profi negeseuon o'r fath ar-lein yn y mis diwethaf.
Mae un o bob pedwar wedi profi'r fath gamdriniaeth wedi ei anelu at rywun arall ar-lein yn y mis diwethaf, ac ymhlith pobol ifanc, mae'r ffigwr yn codi i ddwy ran o dair.
Dywedodd Mr White bod angen "herio" negeseuon ciaidd o'r fath.
"Os y'ch chi'n dyst i'r fath beth, weithiau dy'ch chi mewn sefyllfa lot cryfach na'r un sydd yn darged i'r casineb," meddai.
"Ewch i sefyll wrth ochr rhywun a neidio mewn, fel petai, i sefyll yn erbyn y fath ymddygiad.
"Cefnogwch bobl sy'n cael eu targedu fel hyn, maen nhw'n fregus ac yn aml dyna'r rheswm pam eu bod yn cael eu targedu.
"Mae'n meddwl y byd ac mae'n cael effaith."

No comments:

Post a Comment