Wedi llwyddiant apiau lleddfu straen megis Headspace a Calm, lansiodd Menter Iaith Abertawe ap lles cwbl Gymraeg newydd ar Ebrill 27, 2018.
Wrth i gymdeithas roi mwy a mwy o sylw i ymwybyddiaeth o les ac iechyd meddwl, mae apiau sy’n cynnig technegau a negeseuon i leddfu’r straen wedi dod yn gynyddol boblogaidd.
Wedi’i gyllido gan Grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, mae’r ap o’r enw ‘Cwtsh’ yn arwain defnyddwyr drwy dair sesiwn myfyrio (bore, yn ystod y dydd a chyda’r hwyr) yn Gymraeg.
Bydd Cwtsh hefyd yn cynnwys cyfeiriadur cenedlaethol ar gyfer sesiynau myfyrdod a dosbarthiadau ioga yn yr iaith Gymraeg o’r enw’r Llyfr Lles.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan. Cewch chi lawrlwytho'r ap yn rhad ac am ddim.
Dyma adolygiad Simon Chandler:
Mae @ApCwtsh yn gampwaith. Fe yw fy hoff ap myfyrio erioed mewn unrhyw iaith er gwaethaf y ffaith taw Saesneg yw fy mamiaith. Mae popeth o’r ansawdd uchaf: lleisiau cysurus, testunau clyfar ac effeithiol dros ben a graffeg ragorol. Yn syml, ni ellid ei wella. Llongyfarchiadau!!!
No comments:
Post a Comment