Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 13 May 2018

Mae Abertawe angen "gwyrth" tra bod Caerdydd yn dathlu

Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori yma.
Bydd Abertawe'n disgyn i'r Bencampwriaeth oni bai bod gwyrth ar y diwrnod olaf yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.
Mae hynny wedi i Huddersfield sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn Chelsea nos Fercher, gan olygu nad yw'r Elyrch yn gallu gorffen yn uwch na nhw yn y tabl bellach.
I osgoi disgyn o'r gynghrair, byddai'n rhaid i Abertawe drechu Stoke, gobeithio bod Southampton yn colli yn erbyn Manchester City, a bod 10 gôl o wahaniaeth rhwng y ddau dîm.
Er enghraifft, byddai'n rhaid i Abertawe drechu Stoke 5-0 a gobeithio bod Southampton yn colli 5-0 yn erbyn Manchester City.
Cafodd y Cymry eu trechu gan Southampton nos Fawrth.
Mae Stoke, sydd ar waelod y tabl, eisoes yn sicr o ddisgyn i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf, ond dyw Abertawe heb ennill yr un o'u wyth gêm ddiwethaf.
__________
Bydd tîm pêl-droed Caerdydd yn cynnal dathliad yng nghanol y ddinas ddydd Sul i ddathlu eu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe fydd y tîm yn teithio ar fws heb do o Stadiwm Dinas Caerdydd at y castell, ble fydd y rheolwr Neil Warnock a rhai o'r chwaraewyr yn annerch cefnogwyr.
Bydd y daith yn dechrau yn eu stadiwm am 15:00 cyn teithio trwy ardal Treganna tuag at ganol y ddinas, gan orffen o flaen y castell.
Roedd pwynt wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Reading ddydd Sul yn ddigon i sicrhau bod yr Adar Gleision yn gorffen y tymor yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth, ac felly'n cael dyrchafiad otomatig.
Mae arbenigwr busnes wedi darogan y gallai dyrchafiad Caerdydd arwain at hwb gwerth o leiaf £75m i'r economi leol.
Bydd y daith yn dechrau ar yr un pryd â gêm dyngedfennol Abertawe yn erbyn Stoke, wrth i elynion Caerdydd geisio aros yn yr Uwch Gynghrair.


No comments:

Post a Comment