Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 6 May 2018

Anrhydeddau Gorsedd Eisteddfod 2018

Ceir stori lawn BBC Cymry Fyw yma.

Fe fydd dros 40 o unigolion yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd yn 2018.
Wrth gyhoeddi'r rhestr fore Iau, dywedodd yr Orsedd ei fod "yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".
Ymhlith y rhai fydd yn cael eu hurddo ym Mae Caerdydd ym mis Awst mae'r canwr Geraint Jarman, Llywydd y Cynulliad Elin Jones a'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Jamie Roberts.

Yn ôl y drefn, mae'r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd - Y Wisg Las am eu gwasanaeth i'r genedl.
Mae'r Orsedd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r Celfyddydau.
Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i'r Wisg Wen.
Ymhlith eraill fydd yn cael eu hurddo eleni mae'r Barnwr Eleri Rees, y sylwebydd gwleidyddol Vaughan Roderick, ac un hanner o un o ddeuawdau comedi enwocaf Cymru, Mici Plwm neu Plwmsan.
Dyma rhai o'r enwau o'r gorllewin a'r canolbarth:
Manon EamesMae Manon Eames, Abertawe, a ddaw'n wreiddiol o Fangor, yn adnabyddus fel dramodydd, sgriptwraig ac actores. Mae ei gwaith sgriptio'n cynnwys cyfieithu Shirley Valentine, ysgrifennu'r ffilm Eldra, a enillodd nifer o wobrau yng Nghymru a thramor, y gyfres deledu epig, Treflan, a nifer o addasiadau ar gyfer y llwyfan. Mae'n parhau i storïo ac ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm a Gwaith Cartref, ac mae newydd gyhoeddi'i nofel gyntaf, Porth y Byddar.
Huw Edwards: Yn wreiddiol o Langennech, mae Huw Edwards, Llundain yn newyddiadurwr a chyflwynydd teledu amlwg. Mae'n gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen pwysig sy'n ymwneud â hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glyndŵr a Chymru'r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y 19eg ganrif ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae'n parhau i gefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar ôl ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi. Mae hefyd yn brif gyflwynydd rhaglen News at Ten i'r BBC ac yn rheolaidd yn llywio'r darlledu o nifer o ddigwyddiadau mawr.
Margarette Hughes: Mae Margarette Hughes, Hendy-gwyn ar Daf wedi gwneud cyfraniad diflino at hybu iaith a diwylliant Cymru yn ei hardal a thu hwnt ers dros 40 mlynedd. Bu'n gweithio'n ddiwyd dros addysg feithrin yn lleol, a phan ddaeth yr Eisteddfod i'r ardal yn 1974 trefnodd bod meithrinfa ar y Maes, gan weithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Ar ôl gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Cymraeg i oedolion, dechreuodd fel tiwtor Cymraeg gyda'r nos, ac mae'n parhau i gynnal tri dosbarth yn wythnosol yn yr ardal hyd heddiw. Bu Merched y Wawr yn rhan annatod o'i bywyd am flynyddoedd, a bu'n Llywydd Cenedlaethol y mudiad rhwng 1988 a 1990.
Rhys Owen Thomas: Er iddo weithio ym mhob rhan o'r byd, mae Dr Rhys Thomas, New Inn, Llandeilo wedi dychwelyd i fro ei febyd, lle mae'n gwneud cyfraniad enfawr yn ei gymuned. Ar ôl graddio mewn Meddygaeth, ymunodd â Chatrawd y Parasiwt a bu'n gweithio yn Sierra Leone, Irac ac Afghanistan cyn dychwelyd i Gymru. Defnyddiodd y sgiliau a ddysgodd ar faes y gad i ddatblygu'r system gofal argyfwng cyn-ysbyty mwyaf datblygedig yn y byd ar y cyd gyda'i gydweithiwr Dr Dindi Gill. Erbyn hyn, mae'n gweithio fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Ifan Gruffydd: Fel un o ddiddanwyr enwocaf Cymru, mae Ifan Gruffydd, Tregaron yn adnabyddus drwy Gymru gyfan am ei waith ar gyfresi fel Ma' Ifan 'Ma!, Noson Lawen a Nyth Cacwn, ynghyd â'i waith ar raglenni radio fel Dros Ben Llestri. Mae hefyd wedi ysgrifennu deg drama fer ynghyd â dwy gyfrol, gyda un arall ar y gweill. Yn ogystal â'i waith cyhoeddus, mae hefyd wedi gwasanaethu bro ei febyd, yn dawel, wirfoddol, heb chwennych unrhyw glod ar hyd y blynyddoedd.
Cynfael Lake: Mae Cynfael Lake, Aberaeron yn un o brif ysgolheigion llenyddiaeth Gymraeg, gan weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Abertawe. Cyhoeddodd lu o astudiaethau pwysig ym maes y Cywyddwyr, ac fe gyfrannodd yn sylweddol i'r golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn arbenigwr ar faes llenyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif, ac ym myd y faled a'r anterliwt. Bu'n gweithredu'n wirfoddol fel Ysgrifennydd Adran Diwylliant y 18fed a'r 19eg Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gan drefnu cynhadledd flynyddol yn y maes.
Ned Thomas: Mae cyfraniad Ned Thomas, Aberystwyth i fywyd cenedlaethol a rhyngwladol Cymru yn unigryw, hirhoedlog a sylweddol. Fe'i cydnabyddir fel un o brif ddeallusion Cymru a'r Gymraeg ac yn un sydd bob amser yn barod i dorchi llewys ac i weithredu'n ymarferol. Yn amlieithog, mae Ned yn rhugl ei Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Rwsieg, ac mae ei waith gyda chyfryngau ieithoedd llai yn Ewrop a thu hwnt yn hynod bwysig. Bu'n gweithredu am flynyddoedd ar fyrddau cenedlaethol Cymreig, bob amser yn barod i wthio'r ffiniau a rhannu'i arbenigedd.
Elin Jones: Mae Elin Jones, Aberaeron yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru er Mai 2016. Mae wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn fwy atebol i bobl Cymru a bod urddas a pharch yn perthyn i weithdrefnau a thrafodaethau'r Cynulliad. Bu'n cynrychioli Ceredigion yn y Cynulliad er 1999, pan agorwyd y sefydliad, ac heb unrhyw amheuaeth, mae'r fraint o gynrychioli'r ardal honno wedi bod yn flaenoriaeth iddi ers dechrau ei gyrfa fel AC. Hyd yn hyn, mae wedi rhoi dros 25 mlynedd o wasanaeth i'w bro, ac mae ei chyfraniad ar draws Ceredigion a Chymru gyfan yn un nodedig.
Ond nid pawb sy'n derbyn yr anrhydedd, yn ôl Garmon Ceiro:





No comments:

Post a Comment