Gethin Wynn Davies
sy’n ceisio cofio’i feirdd a’i englynion …
Rwy’n cofio sgwrs rai blynyddoedd yn ôl efo dad a wnaeth i
mi bendroni ynghylch ein hymwybyddiaeth ni, Gymry ifainc, o’r hen draddodiad
barddol hwnnw sydd mor enwog yng Nghymru yn ôl pob sôn.
Cwestiynau anodd
Pan oedd fy nhad yn ddim mwy
nag 11 mlwydd oed, cawsant gwis dirybudd yn y dosbarth. Dyma rai o’r
cwestiynau a ofynnwyd yn y cwis:
Ysgrifennwch unrhyw
englyn sydd ar eich cof.
Pwy oedd Y Pêr Ganiedydd?
Enwch dair cerdd o
eiddo Crwys.
Wyddwn i ddim yr ateb i’r un o’r cwestiynau – pwy a fedd
englyn ar flaen ei dafod?!
Penderfynais mai cwestiynau annheg oedd y rhain ac nad oedd
disgwyl i neb yn eu harddegau, heb sôn am blentyn 11 oed, fedru eu hateb.
Onid oes yna bethau llawer pwysicach megis pêl-droed,
sgrolio drwy Facebook a gwylio’r teledu yn mynd â bryd cymaint mwy o’n
hieuenctid ni’r dyddiau hyn?
Hwyrach mai dadrithiad hallt yw deall nad yw plant ar y
cyfan bellach yn darllen eu llyfr neu ddysgu eu hadnod cyn cysgu, ond fel un
o’r genhedlaeth honno, gallaf dystio mai dyma’r norm erbyn hyn.
Ymddengys felly nad yw darllen yn gyffredinol ar ei gryfaf
ac nad oes cymaint o ymdrochi yn ein llenyddiaeth ag y bu o’r blaen.
Am dipresing! Oes
gobaith o gwbl?
Digon prudd oedd fy nghywair wrth ystyried fy niymadferthedd
yn ceisio ateb y cwestiynau amhosibl hyn a gafodd dad flynyddoedd yn ôl. Ond
tydi pethau ddim mor ddrwg ag y maent yn ymddangos.
Feiddiwn i honni bod y mwyafrif llethol o ddisgyblion ein
hysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg gydag englyn ar gof a chadw yn rhywle yn
eu hisymwybod. Sawl un ohonoch, er enghraifft, sydd wedi cyd-lefaru’r weddi
hon?
O Dad, yn deulu
dedwydd – y deuwn
A diolch o’r newydd
Cans o’th law y daw
bob dydd
Ein lluniaeth a’n
llawenydd.
Wel dyna englyn ar gof llawer iawn ohonoch chi, a dyna un
o’r tri chwestiwn wedi ei ateb.
Pwy ddiawch ydi’r Pêr
Ganiedydd?!
Gyda thymor yr hydref wedi cyrraedd, a chyda’r gemau rygbi
wedi dychwelyd y bwrlwm unigryw hwnnw i Gaerdydd bob penwythnos, clywir heb os
eiriau byd-enwog Y Pêr Ganiedydd yn cael eu morio canu mewn tafarndai ar hyd y
ddinas.
Pe datgelwn mai William Williams Pantycelyn sy’n berchen ar
y llysenw ac mai ‘Bread of Heaven’ yw’r emyn a genir, rwy’n siŵr y byddai
llawer iawn os nad pob un ohonoch yn gyfarwydd gyda gwaith yr emynydd.
Gallwch fod wedi bod yn gyfarwydd a’r Pêr Ganiedydd hefyd
felly, ac ateb dau o’r tri chwestiwn.
Dwi ‘di clywed am
Crwys …
Yn bersonol fyddwn i byth yn disgwyl i unrhyw blentyn 11
mlwydd oed, nac ychwaith nifer helaeth o ddisgyblion yn eu harddegau, fod â
llawer mwy o wybodaeth am Crwys na’i enw ac efallai’r ffaith ei fod yn
gyn-Archdderwydd.
Hwyrach y byddai ‘Dysgub y Dail’ neu ‘Melin Trefin’ yn rhyw
hanner ganu cloch hefyd.
Ond rydw i o’r farn nad ydyw’n ddiwedd y byd na all cynifer
o ddisgyblion ddyfynnu rhai o’n beirdd mawr os nad oes ganddynt ddiddordeb mewn
ymdrochi yn ein barddoniaeth. Dyma fethu ag ateb y trydydd cwestiwn felly.
Nid achos digalonni mo hyn. Y mae sawl bardd y gall
disgyblion eu dyfynnu’n helaeth o’r hyn a ddysgir iddynt yn yr ysgol – T H
Parry Williams, Gerallt Lloyd Owen, Ceri Wyn Jones a llawer mwy o’n beirdd mwy
cyfoes.
Newid oes
Er cystal yw gallu ateb dau o’r tri chwestiwn, efallai mai
mymryn yn siomedig oedd peidio cael marciau llawn.
Fodd bynnag, pe gofynnid i’r dosbarth blwyddyn chwech hwnnw
yn y chwedegau faint o eiriau caneuon Cymraeg poblogaidd y gallent eu henwi, go
brin y byddai’r ymateb yn well na phe gofynnid i ddosbarth cyffelyb yn 2014.
Gyda newid oes y mae newid pwyslais, a llawn cystal gen i
weld cannoedd o bobl ifainc yn cyd-ganu i ganeuon Cowbois Rhos Botwnnog, Yr
Ayes neu Al Lewis ym Maes B ag a fyddai cael y cysur o wybod y gallent enwi
tair o gerddi un o’n beirdd Cymraeg.
Testun llawenhau felly yw’r cyfeiriad y mae ein
hymwybyddiaeth ddiwylliannol ni wedi mynd tuag ato.
Ac er i hynny fod ar draul enwi rhai o gerddi beirdd yr
ugeinfed ganrif, rwy’n ffyddiog y bydd geiriau cyfoes y Sin Roc Gymraeg ar
flaen tafodau ein hieuenctid am amser maith.
No comments:
Post a Comment