Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 3 January 2018

Cwrs Uwch Newydd - Gwenllian a Dic Penderyn

Merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, a'i wraig Elinor, Arglwyddes Cymru, oedd y Dywysoges Gwenllian neu Gwenllian o Gymru (12 Mehefin, 1282 - 7 Mehefin, 1337), Tywysoges Gwynedd a Chymru. Hi oedd unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn o'i briodas ag Elinor (Elen), merch y barwn Simon de Montfort.

Hanes

Cafodd Gwenllian ei geni yn llys tywysogion Gwynedd yn Aber Garth Celyn, Gwynedd, a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi. Mewn llai na blwyddyn roedd ei thad hefyd yn farw.
Ar ôl i Dywysogaeth Cymru syrthio, wedi lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd Dafydd, bu erlid [=persecution, hounding] gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu Aberffraw. Roedd Eryri a chalon Gwynedd dan warchae ac am chwe mis neu ragor roedd milwyr Seisnig yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnant.
Daliwyd Gwenllian. Yr oedd y Dywysoges ifanc yn amlwg yn berygl i Goron Lloegr ac o ganlyniad fe'i ducpwyd [=was led/brought - ff. amhersonol y ferfenw 'dwyn' ] o Wynedd a'i charcharu am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn Sempringham, Lloegr, a hithau ond yn flwydd a hanner oed. Ac yno y bu tan ei marw yn 1337. Mae'n fwy na thebyg na siaradai Gymraeg ac na chlywodd air o Gymraeg gan y lleianod eraill. Yng nghofnodion Sempringham, nodir ei henw fel 'Wencilian', eu hynganiad o'i henw.
Codwyd carreg goffa iddi yn Sempringham yn 2001 gan Gymdeithas Gwenllian.
Ar y 1af o Fai 2009 cyhoeddwyd byddai enw Garnedd Uchaf, copa 3,000 m yn y Carneddau, yn cael ei newid yn swyddogol i Garnedd Gwenllian i gofio'r Dywysoges Gwenllian. Byddai Gwenllian yn ymuno felly a'i thad, ei mam a'i ewythr a goffeir eisoes yn enwau copaon eraill gerllaw, sef Carnedd Llywelyn, Yr Elen a Carnedd Dafydd. Bydd yr enw yn cael ei argraffu, gyda'r hen enw hefyd, ar fapiau OS newydd o Fedi 2009 ymlaen.


Gwrthryfelwr Cymreig oedd Dic Penderyn (enw bedydd: Richard Lewis) (1808 – 13 Awst 1831),glowr a llafuriwr yn ôl ei alwedigaeth.
Ganwyd yn Aberafan a daeth yn enwog wedi iddo gael ei grogi am gymryd rhan yng Ngwrthryfel Merthyr ym 1831. Fe'i cyhuddwyd o drywanu milwr yn ei goes gyda bidog [=bayonet] , er y teimlai nifer ar y pryd, fel heddiw, ei fod yn ddieuog. Dywedir fod y llywodraeth Brydeinig am ladd o leiaf un o'r gwrthrhyfelwyr fel esiampl.
Claddwyd Dic Penderyn ym mynwent eglwys y Santes Fair, Aberafan.









No comments:

Post a Comment