Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 24 December 2017

Ifan Gwynedd yn ystyried dilyn ôl traed ei dad-cu

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Eleni, fe gollwyd un o artistiaid amlycaf Cymru. Yn 87 oed, roedd Aneurin Jones yn enwog am bortreadau o gymeriadau cefn gwlad a cheffylau Cymreig.
Bu'n astudio Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe o 1950 hyd at 1955.
Gweithiodd fel athro celf a bu'n bennaeth celf yn Ysgol y Preseli, Crymych, hyd nes 1986.
Mae ei fab, Meirion Jones, hefyd yn artist amlwg.

Gwylio ei dad-cu

Nawr mae ŵyr Aneurin, Ifan Gwynedd, sy'n 18 oed, yn astudio celf yng Ngholeg Sir Gâr, ac yn ystyried dilyn gyrfa yn y byd celf.
"Fi wastad wedi mwynhau tynnu lluniau ers oedran cynnar iawn... mae'r diddordeb wedi tyfu.. dwi wedi dechrau paentio a sgetsio mwy o ddifri'," meddai.


Image caption Fe aeth Ifan Gwynedd ati i baentio'r hunan bortread yma yn "reddfol" ar ôl i Aneurin Jones farw
Dywedodd bod ei Dad-cu, Aneurin Jones, wedi bod yn ddylanwad mawr: "Roeddwn i yn mynd allan i stiwdio Tad-cu pan oeddwn i 4 neu 5 oed. Mae e wedi bod yn ddylanwad mawr iawn - jyst bod allan yn y stiwdio a gweld y paentiadau mawr 'ma.
"Roeddwn i yn gwylio fe yn dawel a gweld shwd oedd e'n neud e'."

'Diwedd cyfnod'

Yn ôl Ifan, mae'r testunau oedd yn diddori ei dad-cu yn "perthyn i gyfnod arall".
"Os bydden ni'n gwneud rhywbeth tebyg bydde fe ddim yn gwneud synnwyr - mae e bron iawn wedi cofnodi diwedd cyfnod," meddai.
Mae'n dweud hefyd bod ei ewythr, Meirion Jones, wedi bod yn "ddylanwad mawr".
Image caption Mae Ifan Gwynedd wedi cwblhau'r llun hwn o'i dad-cu yn ddiweddar
Image caption Yn ogystal â phortreadau mae Ifan yn hoffi arlunio tirluniau ardal Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
Fel artist, mae Ifan yn dilyn ei drywydd ei hun. Mae'n hoff iawn o wneud hunan bortreadau a phortreadau o'r teulu.
Yn ddiweddar, mae e wedi cwblhau portread trawiadol o'i dad-cu, ac mae'n hoff iawn o wneud tirluniau o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
"Fi'n cael mwynhad. Dywedwch bod chi'n gwneud sgets ac yn cael popeth yn iawn o ran y cyfansoddiad, y golau a'r cysgod... fel oedd artistiaid fel Augustus John yn gwneud."

'Yn y genes'

Yn ôl Ifan, mae'n ystyried dilyn gyrfa fel arlunydd, ond ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar fwynhau ei waith celf.
"Mae diddordeb 'da fi a dwi'n mwynhau a 'na beth sydd yn bwysig. Rwy'n astudio cwrs sylfaen yn y coleg celf yng Nghaerfyrddin."
O ble mae'r ddawn yn dod felly? Oes yna ddawn gynhenid yn y teulu?
"Mae'n rhaid bod rhywbeth ynddoch chi. Mae popeth yn y genes, yn y doniau sydd gyda chi."



No comments:

Post a Comment