Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 14 July 2015

Fel lladd nadroedd

Dyma ddarn gan Graham Evans. Faint o idiomau y gallwch chi eu canfod yn ei stori?

________________

Cerddodd Dai’n araf tuag at y dafarn, Y Llew Du. Roedd e’n meddwl am eiriau ei wraig Bethan:

“Paid a mynd i’r blydi tafarn heno Dai g’boi, neu ti’n mynd i dynnu nyth cawn am dy ben di. Does dim digon o arian ‘da ni i dalu’r rhent.”

Wel, ta beth, aeth Dai i mewn, mewn modd dan dîn…….trwy’r drws cefn.

Wedyn, ar ol iddo fe yfed gormod o gwrw, aeth e adre, yn feddw caib.

Gwylltiodd Bethan wrth gwrs, ond cysgodd Dai fel twrch yn ei gadair esmwyth o flaen y teledu gan chwyrnu’n uchel.

Drannoeth, heb fwyta brecwast, roedd Dai yn eistedd o hyd yn ei gadair, pan ofynnodd Bethan:
“ Be’ dan ni’n mynd i neud nawr Dai ‘te?”

“ Jiw Jiw. Paid a phoeni fenyw, deith rhywbeth mewn pryd. Daw eto haul a’r bryn!”

Penderfynodd Bethan gael hyd i  waith ychwanegol iddo ar fferm ei brawd Idris, felly dros y penwythnos aeth Dai i’r fferm.

Dywedodd Idris wrtho, “ Drycha draw fan’na Dai, mae pentwr o dom da, dwy dunnell ohoni , bydd rhaid i ti ei symud hi mewn i’r silo mewn dwy awr, cyn i’r lori gyrraedd i’w chludo hi bant.”

Felly, aeth Dai ati fel lladd nadroedd.

Ond, ar ôl awr a hanner, dim ond hanner y pentwr oedd wedi cael ei symud, a daeth Idris yn ôl i annog Dai i weithio’n galetach, gan ddweud:

“ O Dai, be’ ti’n neud ! Chwpli di byth y jobyn . Bydd rhaid i ti weithio yn gyflymach, felly dere ‘mlan a chau pen y mwdwl.”

“ Dw i’n gweithio cyn galeted â phosib Idris,” meddai, “bydd angen tipyn o help arnaf i os dyn ni am gael y maen i’r wal”

Felly daeth Idris â dau ddyn arall i’w helpu, ac wedyn gorffennon nhw’r  jobyn.

Roedd Dai wedi blino’n lan a dweud y gwir, ond ennillodd e, dros y penwythnos, digon o arian i dalu’r rhent 

Ar ôl iddo gyrraedd adre gyda’r arian nos Sul, roedd Bethan yn hapus dros ben.

“ Ware teg i ti Dai “ meddai, “ti wedi cael y ddysgl yn wastad, ac mae digon o arian ‘da ni nawr, ond bydd yn ofalus yn y dyfodol. Os codi di bwys arna i unwaith eto, nid symud dom a wnei di – mi fyddi di ynddi hi!”





No comments:

Post a Comment