Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 14 July 2015

Cau pen y mwdwl

Diolch i bawb ddaeth i Ysgol Haf yn Hwlffordd yr wythnos diwethaf. Un o dasgau'r grŵp Graenus oedd ysgrifennu stori fer gan ddefnyddio rhai o'r idiomau a drafodwyd yn y dosbarth.

Dyma gyfraniad Tony Stewart. Sawl idiom y gallwch gael hyd iddynt yn y darn yma?

________________



Be’ ydy hwnna? Nefi blw!  Bu bron i mi neidio allan o ‘nghroen a dychrynais am fy mywyd. Chlywais i mo’r wraig, cyn ddistawed â’r bedd roedd hi pan ddaeth hi mewn.

Unwaith eto ond yn uwch y tro hwn, mi ddaeth y cwestiwn, “Be’ s’gynnoch chi fan ‘na, gad i mi weld o!”  

“Be’, hwn?”

“ Ie, hwnna, fel dychi’n gwybod yn iawn.”

“O, dim ond I-Pad ydy o, ch’mod.”  Llyncu fy mhoer braidd yr oeddwn erbyn hyn.

“I-pad? I-Pad Be’ ar wyneb y ddaear ydych chi’n mynd i wneud â hwnna? A chyda law, faint gostiodd o?”

“O dim llawer, ch’mod.”

“Dim llawer!” bloeddiodd. “Dyma ni’n methu cael deupen llinyn ynhgŷd a dyna chi’n  gwastraffu arian prin ar declynau o’r math. Ai yn eich iawn bwyll yr ydych?”

Ddechreuais lyncu mul erbyn hyn. 

“O, a ble ddaethoch chi ar ei ddraws o, dwedwch?” meddai.

“Oh lwc mul oedd hi”, meddwn, “dyn yn y Llew oedd yn eu gwerthu nhw amser ginio hanner pris. Bargen. “

“Fargen wir? Cwmpodd oddi ar gefn lori mwy na thebyg,” meddai yn ddirmygus.

“Rŵan”, meddai, “dwedwch wrthyf os ydych chi mor garedig, be’ sy ar y gweill ‘da chi ynglŷn â’r teclyn hwnna?”

Cyrhaeddod ei llais eu nodau uchaf erbyn hyn.

“Wel, ch’mod, trydar, gwneud tudalen weplyfr, pethau cymdeithasol gyda’m ffrindiau, ch’mod,” meddwn yn amddiffynnol. 

“Oh wir!” bloeddiodd, wedi colli ei lympyn yn gyfan gwbl erbyn hyn. “Wel,” meddai, yr wyf yn gallu rhagweld bod chi’n mynd i dynnu nyth cacwn ar eich pen chi, a hynny cyn fer o dro.”

Caeodd y drws yn glep ar ei hôl hi, wedyn daeth distarwydd byddarol am sbel. 

Ar y foment hon yr oeddwn yn falch o gael ei chefn. Wedyn cyn hir daeth teimlad o anesmwythder arnaf. Clywais sŵn annaearol o’r gegin. Gwyddwn yn iawn mai sŵn fy ngwraig yn chwerthin am fy mhen i ydoedd. Sylwais o’r tinc yn ei chwerthin ei bod hi ar gefn ei cheffyl hefyd.

Wel, yr oeddwn yn gwisgo fy nhîn ar fy nhalcen fy hun erbyn hyn, ch’mod. A oedd hi’n meddwl nad oeddwn yn llawn llathen? Yr un peth â hi yr oedd bob amser, anodd iawn dal pen rheswm â hi, a hithau’n trio tynnu blewyn o fy nhrwyn drwy’r amser a chynhyrfu’r dyfroedd rhyngddom; y pethau arferol yn tŷ ni, wsti?

Fe fyddai mêl ar ei bysedd yn ’ngweld i mewn trafferth gyda pethau technolegol. Yn fy marn i, yr wyf yn eitha sicr ei bod hi’n meddwl ‘mod i’n llo cors. A dyna asgwrn y gynnen arall rhyngddom y gallwn sôn amdano, ond nid yma ar hyn o bryd.

Penderfynais nag oeddwn am fynd o gwmpas gyda fy mhen yn fy mhlu. Breudwydd gwrach ar ei rhan hithau y byddai hyn y tro hwn. Sef, oeddwn yn mynd i fethu ymdopi gyda theclyn mor syml â’r I-Pad? Wel Duw a’n gwaredu rhag y fath nonsens!

Dwedais wrth fy hun beth allai fynd yn chwith? Dim ond gwthio’r botwm a dyna fe, mynd amdani fel dwedodd y boi yn y dafarn. Symyl!

Rŵan ‘te, ble roedd y llawlyfr? 
Ah dyna fo, rŵan ‘te - gwthio botwm gwyn.

O dipyn o beth daeth neges Saesneg i’r golwg.

“This I-Pad has been designed, constructed and languaged exclusively for the Chinese Market. It is not modifiable in any way for use in the UK.”

Wel, deallais yn iawn ymhen y rhawg y byddai’n fain arna i. Ym mêr fy esgyrn gwyddwn yn iawn y byddai’r byd yn syrthio am fy mhen fel arfer ac unwaith eto.

Gwn i sicrwydd na ddaw’r haul a’r fryn i mi byth eto.


No comments:

Post a Comment