Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 11 April 2015

Blwyddyn Betsan

Erthygl wreiddiol yma.

Mae 'na flwyddyn wedi mynd heibio bellach ers y newidiadau i amserlen BBC Radio Cymru. Wedi'ch plesio? Wedi'ch siomi? 

Golygydd yr orsaf, Betsan Powys, sy'n bwrw golwg yn ôl ar y deuddeg mis diwetha' a rhai o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth cenedlaethol:

Denu ymateb

Wel, falle ga i faddeuant am ganolbwyntio gyntaf ar ochr hapusa'r dafol [tafol = scale]- yr ochr honno lle dwi'n rhoi'r pleser o weld rhaglenni a'u cyflwynwyr yn datblygu, syniadau creadigol yn egino, a dod yn radio sy'n denu ymateb.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn o anelu'n uchel, o fynd allan cyn amled â phosib i ganol y rheiny sy'n gwrando, o gerddoriaeth fyw fendigedig o bob math ac o drio llwyth o bethau newydd - a gwrando ar yr ymateb.

Blwyddyn o lythyrau meddylgar a diddorol, o drydar gwerthfawrogol weithiau, blin ddychrynllyd bryd arall. Mae cnwd [cnwd = crop] da yn mynd ar y wal i'w darllen a'u trafod bob hyn a hyn.

'Ddim digon da'

Ar ochr arall y dafol? Y gair 'na sy'n dechrau gydag 'ff' ac sy'n arwydd clir bod 'na ffordd bell iawn i fynd cyn gallu codi gwên ar bawb sy'n gwrando ar Radio Cymru - y gair 'ffigyrau.' Dydy'r ffigyrau gwrando ddim eto'n ddigon da. Waeth heb dadlau am y ffordd maen nhw'n cael eu cywain [=gather].

Dyma'r ffigyrau sy'n cael eu cyhoeddi a'u trafod bob tri mis, a gwnaf, mi wna i ac fe wnaiff y criw i gyd ddal ati i weithio'n galed i'w codi nhw o'r 106,000 lle roedden nhw ar y cyfrif diwethaf.



Fe allwn ni naill ai obeithio bod yr hen wraig yng nghartŵn Huw Aaron y mis yma'n llenwi wyth o ddyddiaduron RAJAR, yn ogystal â gwrando ar wyth set radio - neu, fe alla i wynebu'r her, a chynnig mwy o ffigyrau i chi sydd hefyd yn rhan o stori'r orsaf genedlaethol dros y flwyddyn ddiwetha'.

12 Bardd preswyl. Wel, 13 erbyn hyn wrth i ni fynd ar ein pennau [head into] i'r ail flwyddyn. Yn addas iawn LlÅ·r Gwyn Lewis a Dafydd Pritchard oedd beirdd rhif 1 ac 13, gan mai dros baned gyda nhw y ganed y syniad.

11 Y trothwy [threshold] nesaf i bodlediad mwyaf poblogaidd Radio Cymru o bell ffordd yw 11,000. Y podlediad hwnnw? Beti a'i Phobol. Yn y mis diwethaf i'w gyfrif, cafodd y podlediad ei lawrlwytho 10,336 o weithiau.

10 Y 10ed mis, Hydref, oedd y prysuraf o ran lawrlwytho a gwrando eto. Fe aethoch chi ati i wrando ar ein rhaglenni a'n clipiau ni 47,780 o weithiau mewn un mis.

9 Canllaw golygyddol rhif 9 y BBC yw na ddylid camarwain y gynulleidfa fyth. Er mawr chwilio, sgen i ddim ffigwr i gyd-fynd â'r rhif '9' felly yn lle twyllo, ymlaen â ni.

8 O'r gynulleidfa sy'n dewis gwrando ar-lein, 84% sy'n g'neud hynny yn y Deyrnas Gyfunol. Mae'r 16% arall yn gwrando ar raglenni a chlipiau Radio Cymru o bellafion byd. Dim ond y rheiny sy'n gwrando ar y radio yn fyw sy'n treiglo i ffigyrau RAJAR.

7 o ddisgyblion yn Ysgol y Moelwyn ym mis Ionawr ddaeth i'r gweithdy roc... 150 yn y gig yn y p'nawn - a chyfanswm aruthrol o 2,747 o ddisgyblion wedi bod mewn cysylltiad â chriw Taith Ysgolion Radio Cymru yn ystod y flwyddyn.

6 Nifer y siopau llyfrau mae rhaglenni Bore Cothi a Tudur Owen wedi ymweld â nhw flwyddyn diwetha'.

5 521 o ganeuon Cymraeg yn cael pleidlais yn Siart Fawr yr Haf gyda Richard Rees a Lisa Gwilym - pob dim o'r 'Border Bach' gan Jac a Wil, i 'Merched Mwmbai' gan Bromas. Dyma raglen fwyaf poblogiadd y flwyddyn o ran ail-wrando. Gyda llaw 55% o'r rheiny sy'n gwrando ar-lein sy'n gwrando ar gyfrifiadur, tra bo…

4 45% erbyn hyn yn gwrando drwy ffôn symudol neu dabled... Lisa Gwilyn yn cael ei henwi'n gyflwynydd y flwyddyn gwobrau Selar am y 4ydd tro o'r bron… a'r cyntaf o 42 o Straeon Tic Toc i blant bach ar nos Sul yn cael ei ddarlledu.

3 38 cân sydd yng nghategori 'diweddar' cerddoriaeth ddyddiol Radio Cymru - caneuon sydd wedi cael eu rhyddhau yn y 3 mis diwetha' ac sy'n cael eu clywed yn ystod y dydd.

2 foment dorcalonnus y flwyddyn: agor yr e-bost yn adrodd ffigyrau gwrando o 105,000, a cholofnydd yn dechrau brawddeg gyda'r geiriau 'Druan â Betsan Powys'.

Dwi ddim yn cwyno o gwbwl, jest cyfaddef bod tosturi [=pity] fel'na yn swmp [yma 'lump'] yn stumog dyn. Ambell ffaith brafiach felly.

Diolch i dwf mawr yn y flwyddyn ddiwetha', bellach mae Radio Cymru yn cynnig 22 o bodlediadau, a'r defnydd yn gyson gynyddu. Un arall: mae Radio Cymru wedi comisiynu 'sgwennu creadigol i'r orsaf gan 25 o awduron yn ystod y flwyddyn ddiwetha'...

1… a 10 arall wedi addasu nofelau i'w darllen fel Llyfr Bob Wythnos. 1 Meuryn yn ennill cadair steddfod Llanelli… ac mae 'na 1,833 o ganeuon yn y cawg [= bowlen, dysgl] mawr cyfrifiadurol sy'n cael eu chwarae ar raglenni'r dydd ar Radio Cymru.


Ychwanegwch gannoedd eto i restrau C2 a'r penwythnos. Clip unigol mwyaf poblogaidd y flwyddyn? Enillwyr Brwydr y Bandiau C2, Y Trwbz, yn canu 'I Estyn am y Gwn'. Fe wrandawoch chi arno 1,080 o weithiau.

Ac un ffigwr arall i gloi: o Fawrth 2014 i Fawrth 2015, mae 488,280 cais wedi bod i wrando ar raglenni a chlipiau Radio Cymru ar y we - ddim ymhell o hanner miliwn.

I olygydd Radio Cymru, mae ffigwr felly'n awgrymu bod rhaid parhau i warchod y gynulleidfa gwbwl deyrngar [=ffyddlon] honno sy'n dewis troi aton ni drwy'r radio ar fwrdd y gegin, a'r car.

Ond y byddwn i'n wirion i beidio edrych i fyw llygaid y ffigyrau, a sylweddoli eich bod chi'r gynulleidfa hefyd yn newid ac yn fodlon chwilio am Radio Cymru, a gwrando arni, drwy lwyfannau newydd, sydd eto, yn newid bob blwyddyn.

Her arall? Ie - ond cyfle hefyd.


No comments:

Post a Comment