Ym merw*
ymgyrchu yr Etholiad Cyffredinol dydi etholiad arall sy'n cael ei gynnal yn mis
Mai ddim wedi cael llawer o sylw - tan rwan.
*[berw - bwrlwm
a chyffro sy’n debyg i ddŵr yn berwi]
Lle bach
tawel ydi Pontgam, rywle yng Ngogledd Cymru, rhwng y graig a'i chysgod. Rhwng y
ddafad a'i bref. Anwybyddwch y priffyrdd. Ewch ar hyd unrhyw un o ffyrdd
culion, troellog y fro hon, a ble bynnag yr ewch chi, mi fydd Pontgam jesd
rownd y tro nesaf.
A pha ochr
bynnag o'r map edrychwch chi arno, mae Pontgam ar yr ochr arall. Un
ffordd sydd yna i gyrraedd y pentref - tros y bont gam. Un ffordd i adael hefyd - tros y bont
gam unwaith eto, ond yn wynebu y ffordd arall.
Mae'r clwy
etholiadol presennol wedi cyrraedd Pontgam. Nid y paldaruo [=siarad lol] dwl
a'r addewidion gwag sydd yn nodwedd mor amlwg o'r etholiad fawr.
Na na, mae'r
etholiad fach lleol sydd ar fin digwydd ym Mhontgam lawer pwysicach na hynny.
Daw yn sgil ffrae ofnadwy yn y Cyngor Bach.
Ffrae all
rwygo cymdeithas y cwm yn waeth hyd yn oed na wnaeth ymgais anffodus Idris Dol
yr Hydd a Wil Mwd i ffracio gyda 'Semtex' llynedd. Ymgais sydd wedi gadael pump
o fustuch Dol yr Hydd ar Ynys Manaw yn gwrthod dod adre.
Bydd hanes y
ffrae a'r ymgyrch etholiadol i'w glywed mewn cyfres o bump rhaglen ar Radio
Cymru o ddydd Gwener, 10 Ebrill tan 8 Mai am hanner awr wedi hanner dydd.
Ac os
byddwch chi'n methu credu'ch clustiau ar ôl clywed y darllediadau yna, bydd pob
rhaglen yn cael ei hail-ddarlledu ar y Sadyrnau dilynol, tua hanner dydd.
Dyma i chi
gyflwyniadau byrion i rai o brif bersonoliaethau'r fro:
TOMOS OWAIN JONES, neu 'Ymbo' i bawb yn y fro. Os
gofynnwch chi iddo fo pam y llysenw, ei ateb gonest fydd, "Ymbo."
Postman a chownslar ydi Ymbo. Postman trwy alwedigaeth, a chownslar trwy
orfodaeth.
Mae o a
Christabel Paloma Paletti ('Crisi') ei gariad yn byw gyda'i fam yn Rhif Un, Tai
Ucha. Ymbo sydd yn ein tywys o amgylch Pontgam. Ma'i fam o'n cadw Bed an'
Brecwasd, 'tae chi'n chwilio am le i aros.
JOHN HUWS 'John Sgarrog Fawr'. Cadeirydd y
Cyngor Bach. Swydd mae o wedi etifeddu ar ôl ei dad - oedd wedi ei hetifeddu ar
ôl ei dad yntau.
Yn wir, mae
yna John Huws wedi cadeirio y cyngor byth ers i Hen Hen Hen John Huws brynu gwn
dau faril i saethu brain ac ennill lecshiwns.
Ryw
how-ffarmio Sgarrog Fawr mae John Huws neu, yn hytrach, cadw golwg barcud ar
Mrs Huws druan, tra mae hi yn godro, carthu, cneifio, sgythru a phopeth arall.
Popeth ond dreifio'r tractor. Job i ddyn ydi honno, yn ôl John Huws.
HUW BACH CEIR Perchennog y garej lleol. Cyfaill i
Ymbo, a chyd-gynghorydd.
Fuodd yna
fawr o Gymraeg rhwng Huw Bach Ceir a'i wraig o'r "Ai dŵ" hyd y dydd
heddiw. Ac mae hynny wedi arwain at ddeng mlynedd ar hugain o fudandod
bendigedig, yn ôl Huw Bach.
Mae
egwyddorion gwleidyddol cadarn Huw Bach Ceir yn seiliedig ar ei gred nad oes
"fiw i ti bechu yn erbyn dy gwsmeriaid 'sti, 'rhen fêt", ac ar y
ddamcaniaeth fod pob hen *shiandri rhydlyd "yn brojecd i rhywun, 'rhen
fêt".
*[shiandri
neu siandri: hen gar sydd yn crafu fynd]
JOSEPH JOSEPH Perchennog 'Joseph Joseph &
Joseph, Ymgymerwyr While you Wait' ydi 'Jo Deth'.
Mae ganddo
fo ryw hen gast [cast: arferiad drwg] go annifyr o droi i fyny ar stepan drws
yr ymadawedig, yn byseddu y tâp mesur sydd ganddo rownd ei wddw yn annwyl a
phwrpasol, a hynny cyn bod yr ymadawedig wedi gneud unrhyw gynlluniau i... wel,
i ymadael.
Ond ymadael
ma' nhw yn fuan iawn wedyn, pob tro. Gall hyn fod yn dipyn o broblem i Jo Deth
pan ddaw hi'n amser canfasio.
BITRIS MAIR Yn wreiddiol o Dudweiliog, mae
Bitris yn byw yn Pen Drain Ucha gyda'i chyfneither, Lisi Puw. Mae ganddyn nhw
ddwy afr, a chlagwydd [yma: ceffyl] o'r enw Jeniffyr. Mae'r ddwy yn gneud
canhwyllau a gweu sanna pen-glin o hen deiars.
Ac wedi
cychwyn ar lein newydd yn ddiweddar hefyd - yn gweu sanna o hen balets (ond, da
chi, watsiwch gael sblintars hefo'r rheiny).
Er nad ydi
hi'n fawr o beth i gyd - a deud y gwir, mae hi mor fyr mae hi'n gorfod sefyll
ar flaena'i thraed i bigo'i thrwyn - mae Bitris Mair wedi bod yn bencampwraig
reslo teirw yn Sioe Nefyn dair blynedd yn olynol - a hi ydi'r ffefryn i fynd
â'r wobr eto eleni, os ffeindith rhywun darw digon dwl i fentro i'r Gorlan
Golbio [colbio: curo, ‘thrash’] hefo hi.
Ffrae fawr
rhwng Bitris a John Huws sydd yn arwain at yr etholiad leol ym Mhontgam.
Mae yna un creadur arall y dylir ei grybwyll.
IFOR SIOP IFOR Mae Ifor Siop Ifor wedi bod yn cadw
Siop Ifor am gymaint o flynyddoedd, does neb yn cofio'i enw llawn o. Cradur.
Dyn bach tawel, di-ymhongar ydi Ifor ar y wyneb. Ac un sydd mor awyddus i blesio'i
gwsmeriaid a Huw Bach Ceir.
Dyn llwyd - yr un lliw a'i 'roset'. Ond ma'i galon
wleidyddol o rywle i'r dde o un Heinrich Himmler gynt. Mae 'na ryw gred yn y
fro fod Ifor Siop Ifor wedi bod yn filwr yn ei ieuenctid, yn yr SAS efallai,
neu yn yr... wel, pwy a ŵyr 'de. Fo ydi ysgrifennydd y cyngor, a reit-hand-man John Huws.
No comments:
Post a Comment